I gysylltu â'ch cynrychiolwyr, postiwch ar Unitu, neu ewch i dderbynfa beirianneg am fanylion cyswllt
Cymdeithasau i fyfyrwyr peirianneg defnyddiau
Y Gymdeithas Peirianneg Defnyddiau
Nod y Gymdeithas Peirianneg Ddeunyddiau yw dod ag addysg a diwydiant ynghyd. Drwy gydol pob tymor rydym yn cynnal ymweliadau â diwydiant, darlithoedd gan Gymdeithas Ddeunyddiau De Cymru, ac wrth gwrs ddigwyddiadau cymdeithasol i roi cyfle i bobl ddod i adnabod myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn.
Rydym hefyd yn helpu i gynnig cyfleoedd y tu allan i’r Brifysgol trwy gynnal teithiau megis taith i’r Labordy Niwclear Ffiseg yng Ngenefa a hefyd leoliadau gwaith dros yr haf a gweithgareddau STEM.
Facebook: https://www.facebook.com/groups/719630278115590/
E-bost: materialsengineering@swansea-societies.co.uk
Tudalen Undeb y myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/materialsengineering/
Twitter: https://twitter.com/matsocswansea
Cymdeithas Menywod Abertawe yn Peirianneg
Mae Cymdeithas Menywod mewn Peirianneg Abertawe yn gymdeithas a arweinir gan fyfyrwyr sy'n rhan o Undeb y Myfyrwyr a Chymdeithas Menywod mewn Peirianneg ryngwladol. Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol ac un o'n prif amcanion yw rhwydweithio a chysylltu peirianwyr wrth gymdeithasu a mwynhau bod yn fyfyriwr yn Abertawe. Mae croeso i bob myfyriwr Peirianneg ymuno â ni, dynion a menywod. Rydym yn gweithio'n agos gyda chynllun Mentora Cymheiriaid y Coleg i gefnogi peirianwyr benywaidd.
Gwnewch y mwyaf o'ch amser yn Abertawe ac ymunwch â ni!
E-bost : swanseawes@swansea-societies.co.uk
Tudalen Undeb y myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/24147/
Facebook: https://www.facebook.com/SwanseaWES/
Twitter: https://twitter.com/SwanseaWES
Cymdeithas Peirianneg Râs Prifysgol Abertawe (‘SURE’)
Mae bod yn rhan o dîm Peirianneg Rasio Prifysgol Abertawe yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr o bob cwrs gymryd rhan yng nghylch bywyd cyfan prosiect peirianneg: o'r cysyniadau dylunio cychwynnol, y gwaith adeiladu a phrofi, i'r brif foment - rasio'r car. Ymunwch â ni i wneud cyfeillgarwch hir oes ac i ennill profiad ymarferol a chreu cysylltiadau amhrisiadwy ar gyfer dyfodol disglair ar ôl gadael y Brifysgol.
Facebook: https://www.facebook.com/SwanseaRacing
Twitter: https://twitter.com/SwanseaRacing
YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=qARM9tn_c7s&ab_channel=%C4%8Deryfilms
Eich Cynrychiolwyr Myfyrwyr
Eich Cynrychiolwyr Pwnc
Kelsey Parker- Peirianneg Deunyddiau Blwyddyn Un
Alison Catherine Sharratt- Peirianneg Deunyddiau Blwyddyn Un
Dan Knight- Peirianneg Deunyddiau Blwyddyn Dau
Nicole Esposito- Peirianneg Deunyddiau Blwyddyn Dau
Jordan Buckley- Peirianneg Deunyddiau Blwyddyn Tri
Eich Cynrychiolwyr o'r Coleg
Alexis Ciunek - Cynyrchiolydd Coleg Israddedig
Katie Clark - Cynyrchiolydd Coleg Israddedig
Bryony Venn - Cynrychiolydd Coleg Ôl-raddedig a Addysgir