YMUNWCH Â’R CYNLLUN BYDI A DERBYN CEFNOGAETH GAN FENTOR CYMHEIRIAID!
Oeddet ti’n gwybod bod y Gyfadran yn cynnig cymorth gan gyd-fyfyrwyr ar lefel uwch i fyfyrwyr israddedig newydd Blwyddyn 1 neu Sylfaen yn yr un maes pwnc?
Mae Mentoriaid sy’n Gyd-fyfyrwyr yno i gynnig cyngor ac arweiniad wrth i chi ymgartrefu ym Mhrifysgol Abertawe a mynd i’r afael â’ch astudiaethau. Gallan nhw eich cyfeirio at gymorth ychwanegol os bydd ei angen, a’ch helpu i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.
Dylech chi gofrestru am y cynllun hwn os:
- Hoffech chi gwrdd â phobl newydd
- Hoffech chi gael cyngor gan fyfyrwyr profiadol – roedden nhw’n lasfyfyrwyr unwaith hefyd!
- Hoffech chi gael help i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn
Nod y ‘Cynllun Bydis’ yw eich cefnogi fel myfyrwyr israddedig newydd ym Mhrifysgol Abertawe, felly cofrestrwch cyn 12pm ddydd Llun 9 Hydref drwy gwblhau ein holiadur byr ar-lein os ydych chi’n meddwl bydd y cynllun o fudd i chi.