Mae Tîm Cyflogadwyedd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg wrth law i'ch cefnogi drwy gydol eich amser yn y Brifysgol. Gweler mwy o wybodaeth isod am y ffyrdd y gallwn eich helpu chi gyda'ch Cyflogadwyedd. Os oes gennych gwestiynau nad ydynt wedi eu hateb isod, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio employability-scienceengineering@abertawe.ac.uk.
Y cymorth rydym yn ei gynnig
Cyflogadwyedd ar y Campws
Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiynau galw heibio wythnosol yn ystod y tymor ar Gampws y Bae a Champws Singleton. Mae'r sesiynau galw heibio hyn fwyaf addas ar gyfer cwestiynau cyffredinol a chyngor ar chwilio am swyddi, gwneud cysylltiadau yn y diwydiant yn ogystal ag adolygiadau cyffredinol o CVs neu gymorth gyda chyfweliadau / cheisiadau am swyddi. Os hoffech i ni adolygu agwedd benodol ar eich CV, rydym yn eich cynghori i drefnu sesiwn un i un drwy ein system archebu ar gyfer amser sy'n gyfleus i chi fel y gallwn drafod y CV yn fanylach.
Sicrhewch eich bod yn galw heibio i'n gweld ni pan fydd angen cymorth arnoch!
Er mwyn trefnu sesiwn un i un ar-lein neu wyneb yn wyneb gydag aelod o'r tîm, ewch i'n tudalen archebu.
Cyngor ar CV a Chymorth i Gyflwyno Cais
Mae ein tîm profiadol yn cynnig sesiynau un i un er mwyn rhoi cyngor ar ysgrifennu CV a chymorth i gyflwyno ceisiadau. Mae'r sesiynau hyn ar agor i fyfyrwyr ym mhob blwyddyn, dylech fod yn diweddaru eich CV yn rheolaidd, gan ychwanegu profiadau a gwybodaeth wrth i chi astudio. Gallwch drefnu eich adolygiad CV drwy ein tudalen archebu ar-lein, a gellir cwblhau adolygiadau ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Ffug Gyfweliadau
Os oes gennych gyfweliad a hoffech gael cymorth ymarferol wrth baratoi ar gyfer y cyfweliad, gallwch ddefnyddio Shortlist.Me, platfform ffug gyfweliadau ar-lein, neu drefnu sesiwn gyda'n tîm.
Hyrwyddwyr Cyflogadwyedd
Mae Hyrwyddwyr Cyflogadwyedd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn darparu cyngor ac arweiniad technegol ar gyfer ymholiadau cyflogadwyedd. Mae gan bob disgyblaeth Hyrwyddwr Cyflogadwyedd penodol sydd ar gael i gynnig cymorth a chyngor yn ei faes penodol. Cliciwch yma i wybod pwy yw eich Hyrwyddwr Cyflogadwyedd chi a sut gall eich helpu.
Blwyddyn mewn Diwydiant
Fel tîm, rydym yn cynnig cymorth a chyngor i'n holl fyfyrwyr Blwyddyn mewn Diwydiant. Mae hyn yn cynnwys cymorth wrth chwilio am leoliadau gwaith a chyflwyno ceisiadau amdanynt, cymorth gweinyddol gyda dogfennau lleoliad gwaith a hefyd monitro a chymorth yn ystod y Flwyddyn mewn Diwydiant. Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Blwyddyn mewn Diwydiant, darllenwch y Llawlyfr Blwyddyn mewn Diwydiant.
Mentora Cyfoedion
Mae mentora cyfoedion yn berthynas ddysgu gydweithredol rhwng myfyrwyr, lle gall myfyrwyr â chefndiroedd neu brofiadau tebyg gefnogi datblygiad personol ac academaidd ei gilydd. Mae cyfoedion yn rhannu gwybodaeth, dealltwriaeth a chyngor, gan greu amgylchedd o ddysgu a chefnogaeth ar y cyd. Caiff myfyrwyr eu mentora gan fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu Blwyddyn mewn Diwydiant, a fydd yn medru rhoi gwybodaeth am y broses cyflwyno cais, a phrofiad diwydiant go iawn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl.
E-bostiwch ni i gael eich ychwanegu at y Cynllun Mentora Cyfoedion.