Mae defnyddio sgrin at ddibenion gwaith ac adloniant yn dod yn fwyfwy cyffredin ac wrth ddefnyddio cyfrifiaduron am gyfnodau hirach mae effaith gynyddol o ganlyniad i straen ar y llygaid. Bydd effaith straen ar y llygaid yn amrywio o unigolyn i unigolyn gan dibynnu ar yr unigolyn yn nhermau’r symptomau rydyn ni’n eu profi a pha mor ddwys ydynt. Os ydych chi braidd yn teimlo’r effeithiau neu os ydynt yn achosi problemau mawr i chi, mae camau y gall pob un ohonom ni eu cymryd i ofalu am ein llygaid.
Y cyngor mwyaf cyson y byddwch chi’n ei weld o ran defnyddio sgriniau am gyfnodau hir yw y dylech chi gymryd saib yn rheolaidd. Efallai eich bod chi wedi clywed am y rheol 20-20-20 sy’n nodi bob 20 munud dylech chi dreulio 20 eiliad yn edrych ar wrthrych sy’n 20 troedfedd i ffwrdd. Ar ddiwedd yr 20 eiliad, gallwch chi barhau â’r hyn roeddech chi’n ei wneud. Mae ap gwych y gallwch chi ei lawrlwytho am ddim i’ch cyfrifiadur o’r enw Pomy a fydd yn eich atgoffa chi i edrych i ffwrdd bob 20 munud. Rwy’n hoffi defnyddio’r neges atgoffa i gael diferyn o ddŵr, fel fy mod yn defnyddio’r un fecanwaith i ofalu am fy llygaid a sicrhau fy mod wedi fy hydradu.
Fodd bynnag, nid yw edrych i ffwrdd o’r sgrîn bob 20 munud yn ddigon i rai pobl. Er bod ffocysu am gyfnodau hir yn un o brif achosion straen ar y llygaid, un arall yw disgleirdeb. Mae hyn yn ymwneud â disgleirdeb y sgrîn o’i gymharu â disgleirdeb eich amgylchedd. Mae’r rhan fwyaf o’r rhaglenni rydych chi’n eu defnyddio yn defnyddio cefndiroedd gwyn llachar sy’n efelychu golwg papur ond sydd hefyd yn gorlwytho eich llygaid â gormod o olau.
I fynd i’r afael â disgleirdeb gallwn ni wneud dau beth:
1. Defnyddio ‘Dark Mode’ lle bynnag y bo’n bosib
Mae Modd Tywyll yn osodiad sydd ar gael yn y rhan fwyaf o apiau sy’n newid y ffordd rydyn ni’n darllen testun ar sgrin – yn hytrach na defnyddio cefndir llachar a thestun tywyll, mae’n rhoi cefndir tywyll a thestun llachar. Mae hyn yn cael gwared ar lawer o ddisgleirdeb gan droi’r rhan fwyaf o liw’r sgrin yn lliwiau tywyll nad ydynt yn disgleirio.
2. Defnyddio nodwedd arlliwio’r sgrîn (Screen Shader)
Ni fydd Modd Tywyll yn effeithio ar rai apiau (fel Microsoft Word) a’r rhan fwyaf o wefannau. Weithiau, mae hyn am resymau gweithredol – rydyn ni’n dymuno i’n dogfen Word ymddangos ar y sgrin yn yr un ffordd ag y bydd yn ymddangos ar bapur ar ôl ei hargraffu – ond, yn aml, mae datblygwyr yn dewis cefndiroedd disglair am resymau arddulliadol yn unig sydd o fudd i’w brand nhw ac nid i’ch llygaid chi. Mae’n digwydd nawr; mae cefndir y wefan hon yn wyn!
Mae cysgodydd sgrin yn gwneud yr hyn na all Modd Tywyll ei wneud; mae’n gweithredu fel troshaen rithwir sy’n ‘lliwio’ tudalen we. Mae hyn yn lleihau disgleirdeb gyffredinol y sgrin ac yn lleihau’r effaith ddisgleirio y byddech chi’n ei phrofi fel arall.
Mae gan bob cyfrifiadur personol Windows gysgodydd sgrîn 'Golau Nos'. Gallwch chwilio am hyn yng ngosodiadau eich cyfrifiadur a'i addasu yn unol â'ch anghenion. Mae'r cysgodydd mewnol hwn yn hawdd ac yn gyflym ei ddefnyddio, ond nid yw'n rhoi dewis lliw troshaen i chi. Mae'r fideo isod yn dangos sut gallwch osod cysgodydd sgrîn yn gyflym ac yn rhwydd ar eich porwr rhyngrwyd sy'n cynnig rhagor o opsiynau ac yn effeithio ar eich gweithgarwch pori'r rhyngrwyd. Rhowch gynnig arnynt a gweld pa un sy'n gweithio orau i chi.
Gofalwch am eich llygaid bawb!