Egwyddorion Cyffredinol

1.        

Bydd sefydliadau’n defnyddio llawlyfrau a llenyddiaeth y modiwl i roi gwybod i fyfyrwyr pa fodiwlau a asesir drwy'r dull a'r modd ailasesu er mwyn gwneud yn iawn am fethiannau.

2.        

Caiff yr holl arholiadau ysgrifenedig eu marcio'n ddienw, cyn belled ag y bod arfer cenedlaethol yn caniatáu hynny. Ym Mhrifysgol Abertawe, mae hyn yn golygu y caiff myfyrwyr mewn arholiadau o'r fath eu hadnabod yn ôl eu rhif myfyriwr yn unig nes bod y broses farcio gyntaf, yr ail broses farcio ac unrhyw broses gymedroli wedi'u cwblhau. Yn Université Grenoble Alpes (UGA), bydd hyn yn digwydd ar ôl i'r rheithgor gwrdd.

3.        

Bydd sefydliadau, cyn belled ag y bo modd ac yn unol ag arfer cenedlaethol, yn marcio ffurfiau asesu eraill yn ddienw. Fodd bynnag, caiff ei gydnabod bod adborth gan elfennau asesu penodol, yn ffurfio rhan hanfodol o'r profiad dysgu ac am resymau ymarferol, efallai na fydd modd dilyn y polisi hwn o ran bod yn ddienw bob amser. Ni fydd dulliau asesu sy'n ymwneud ag arsylwi, rhyngweithio, ac elfennau llafar yn cael eu trin yn ddienw.

4.        

Bydd pob sefydliad yn gyfrifol am safonau academaidd unrhyw ddyfarniad a wneir yn ei enw ac o'r herwydd, caiff y penderfyniadau sy'n ymwneud â dyfarnu marciau, graddau a dyfarniadau eu gwneud gan y Bwrdd Arholi priodol yn y sefydliad hwnnw. 

5.        

Caiff cynnydd myfyriwr ei asesu ar ddiwedd pob blwyddyn gan Brifysgol Abertawe ac ar ddiwedd pob semester yn Université Grenoble Alpes. Bydd y sefydliad cynhaliol yn gyfrifol am gytuno ar ganlyniadau modiwlau a'u cadarnhau, gan roi asesiadau atodol i fyfyrwyr sydd wedi methu modiwlau, a chadarnhau canlyniadau unrhyw asesiadau atodol o'r fath. Ni ellir addasu canlyniadau modiwlau a gadarnhawyd drwy weithdrefnau asesu'r sefydliad cynhaliol ar ôl hynny. 

6.        

Caiff asesiadau atodol eu pennu gan y sefydliad cynhaliol cyn gynted â phosibl.

7.        

Bydd y partneriaid yn sefydlu Bwrdd Astudiaethau/Arholi ar y cyd a fydd yn adolygu canlyniadau myfyrwyr yn ystod pob blwyddyn, gan gynnwys canlyniadau asesiadau atodol. Bydd y Bwrdd Arholi ar y cyd yn gwneud argymhellion ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd wedi llwyddo ac sy'n gallu symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf, y rhai hynny sydd wedi methu a'r rhai sy'n gymwys am y dyfarniad. Dylai'r Bwrdd hwn roi cyngor a gwneud argymhellion i Fyrddau Arholi Sefydliadau, oni bai y dirprwywyd awdurdod i weithredu ar ran y Sefydliadau Partner.

8.        

Caiff marciau modiwlau eu pennu'n unol â'r meini prawf y mae'r partneriaid wedi cytuno arnynt. Caiff marciau eu recordio'n unol â thabl trosi graddau a fydd yn cael ei gytuno arno a'i gymeradwyo gan Brifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes bob blwyddyn. Bydd y tabl ar gael i'r myfyrwyr drwy lawlyfr y modiwl neu'r rhaglen.

9.        

Caiff canlyniadau modiwlau sydd wedi'u cadarnhau eu datgelu i fyfyrwyr gan y sefydliad cynhaliol. Bydd proffil canlyniadau llawn ar ffurf electronig ar gael i fyfyrwyr bob blwyddyn gan y sefydliad tramor.

10.     

Ym Mhrifysgol Abertawe, i sicrhau cysondeb wrth farcio rhwng Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes, caiff sampl dethol o arholiadau a gwaith cwrs ei farcio ddwywaith/ am yr ail dro. Gellir gwneud y gwaith hwn gan aelod o staff o'r naill sefydliad neu'r llall neu arholwr allanol, cyhyd â bod yr unigolyn hwn yn gymwys i wneud hynny'n unol â rheoliadau'r sefydliadau partner.

11.     

Bydd y Bwrdd Astudiaethau ar y cyd yn cyflogi arholwr allanol (h.y. aelod o staff nad yw'n aelod o Brifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes) i adolygu'r rhaglen a gwneud argymhellion i'r Bwrdd Astudiaethau ar y cyd a'r sefydliadau partner, ar achosion o arfer gorau neu addasiadau angenrheidiol i sicrhau ansawdd cyffredinol y radd. Yn Grenoble, caiff pob trac ei oruchwylio gan y “Comité de pilotage," sy'n casglu Athrawon a phobl sy'n perthyn i'r diwydiant i ymgymryd â'r rôl hon.

Rheoliadau Asesu Cyffredinol

12.        

Y marc llwyddo ar gyfer modiwlau fydd 50% yn Abertawe neu 10 allan o 20 yn Grenoble. Dim ond myfyrwyr sy'n pasio modiwl fydd yn derbyn credydau. Bydd rheolau lleol ynghylch goddefiad yn berthnasol.

13.        

Gall myfyrwyr sy'n casglu cyfanswm o 120 o gredydau System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS), gan gynnwys traethawd ymchwil/traethawd estynedig Meistr, fod yn gymwys i dderbyn dyfarniad y radd.

14.         

Caiff ceisiadau gan fyfyrwyr i'w hystyried ar gyfer amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar asesiad eu hystyried a'u prosesu gan y sefydliad cynhaliol yn unol â pholisi'r sefydliad hwnnw. Bydd y Bwrdd Arholi ar y cyd yn monitro penderfyniadau o'r fath ac yn gwneud argymhellion fel y bo'n briodol i sicrhau cysondeb.

15.         

Caniateir un cyfle arall i fyfyrwyr sydd wedi methu modiwlau i wneud yn iawn am fethu pob modiwl o'r fath, ar yr amod y gellir cyflawni hyn yn y terfyn amser ar gyfer y radd (h.y. cyfanswm ymgeisyddiaeth fwyaf o 48 mis o'r dyddiad cofrestru cychwynnol).

16.

       Os rhoddir caniatâd i'r myfyrwyr wneud yn iawn am fethiant, mae gan y sefydliad cynhaliol yr hawl i alluogi myfyriwr i wneud y canlynol:

  • Ym Mhrifysgol Abertawe, cael ei ailarholi yn y modiwl cyfan drwy un asesiad neu gael ei ailarholi yn y rhannau hynny o'r modiwl y mae wedi methu, lle mae mwy nag un darn o waith yn cyfrannu at farc terfynol y modiwl;
  • Yn Université Grenoble Alpes, caiff myfyrwyr eu hailarholi'n unol â rheoliadau astudiaethau'r trac.

17.

Caiff myfyrwyr sy'n methu llwyddo mewn modiwl(au) a fethwyd ar yr ail ymgais eu tynnu'n ôl o'r rhaglen. Ni fydd myfyrwyr o'r fath yn cael cyfle arall i gwblhau eu rhaglen astudio a chânt eu hystyried yn gymwys am gymhwyster ymadael yn unig lle bo'n berthnasol (gweler rheoliad 21 isod).

18.         

Fel arfer dyfernir marc o 0% i fyfyrwyr nad ydynt yn ceisio pasio’r modiwl(au) a fethwyd mewn modiwlau o'r fath ym Mhrifysgol Abertawe, a byddant yn cadw'r marc yn y sesiwn gyntaf yn Université Grenoble Alpes. Ni roddir cyfle pellach i fyfyrwyr o'r fath wneud yn iawn am y methiant.

19.       

Ni chaniateir i ymgeisydd sydd i'w ailarholi mewn prosiectau gosod neu fath arall o asesiad gwaith cwrs ailgyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'i waith gwreiddiol. Yn hytrach, bydd yn rhaid iddo gyflwyno gwaith newydd i'w asesu, ar bynciau gwahanol i'r rhai lle nad oedd yr arholwyr yn fodlon ar ei waith gwreiddiol.

20.   

Ni roddir caniatâd i fyfyrwyr ail-wneud modiwl sydd eisoes wedi’i basio er mwyn gwella eu perfformiad. 

21.     

Gall myfyriwr sy'n cael ei dderbyn i raglen ond nad yw'n gallu neu'n cael caniatâd i gwblhau ar ôl hynny fod yn gymwys am ddyfarniad ymadael gan Brifysgol Abertawe neu Université  Grenoble Alpes, cyn belled â bod yr ymgeisydd wedi astudio'r modiwl neu gyfran y cytunwyd arni o'r modiwl(au) yn y sefydliad sy'n dyfarnu, a bod y Brifysgol dan sylw wedi dyfarnu'r credydau. Gellir ystyried myfyriwr o'r fath am y dyfarniadau ymadael canlynol gan Brifysgol Abertawe:

Credydau a enillwyd ar Lefel MGall ymgeisydd adael y rhaglen gyda chymhwysedd ar gyfer:
heb fod yn llai na 30 credyd ECTS Tystysgrif Ôl-raddedig
heb fod yn llai na 60 credyd ECTS Diploma Ôl-raddedig

neu'r cymhwyster canlynol gan Université Grenoble Alpes. 

Credydau a enillwyd ar Lefel MGall ymgeisydd adael y rhaglen gyda chymhwysedd ar gyfer:
heb fod yn llai na 60 credyd ECTS Maitrise

Rheolau Dilyniant Penodol – Cynnydd Blwyddyn Un

22.

Mae myfyrwyr sy'n casglu o leiaf 60 o gredydau System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) / 120 o gredydau Prifysgol Abertawe neu 10 yn Grenoble, neu uwch na hynny ar gyfer pob modiwl, yn gymwys yn awtomatig i symud ymlaen i flwyddyn dau. 

23.       

Caiff myfyrwyr sy'n ceisio gwneud yn iawn am fethiant ac sy'n methu ar yr ail ymgais, wybod bod angen iddynt dynnu'n ôl o'r rhaglen, a chânt eu hystyried am ddyfarniad ymadael lle bo'n briodol.

24.

Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Sefydliad Cynhaliol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall ymgeiswyr sy'n methu â gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i Gyfarwyddwr y Rhaglen ym Mhrifysgol Abertawe i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Byrddau Dilyniant y Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.

 25.

Mae gan bob myfyriwr sy'n methu cwblhau Blwyddyn Un neu symud ymlaen i Flwyddyn Dau yr hawl i apelio'n unol â gweithdrefnau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddir gan y sefydliad a/neu Apeliadau Academaidd.

Arholi'r Traethawd Ymchwil/Traethawd Estynedig Meistr

26.

Bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt yn llwyddo cyflwyno eu traethawd ymchwil/traethawd estynedig Meistr erbyn y dyddiad cau dynnu'n ôl o'r rhaglen, a gallant fod yn gymwys am ddyfarniad ymadael (gweler rheoliad 21). Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.

27.          

Caiff myfyrwyr hawl i ailgyflwyno eu traethodau ymchwil meistr yn unol â rheoliadau'r sefydliad tramor:

  • Ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n bosibl y caniateir i fyfyrwyr sy'n cyflwyno eu traethawd ymchwil/traethawd estynedig Meistr erbyn y dyddiad cau ac sy'n methu llwyddo ynddynt ailgyflwyno o fewn tri mis o gyhoeddi canlyniadau o Brifysgol Abertawe yn swyddogol.
  • Yn Université Grenoble Alpes, bydd myfyrwyr yn cael dau gyfle i gyflwyno eu traethodau ymchwil yn unol â'r rheoliadau astudio.

Yn y ddau sefydliad, caiff y dyddiadau cyflwyno ac ailgyflwyno eu cyfleu'n glir i'r myfyriwr. 

28.        

Gall myfyrwyr nad ydynt yn gallu bodloni'r dyddiad cau i gyflwyno, wneud cais am estyniad i'w dyddiad cau cyflwyno yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad tramor.

29.        

Mae Prifysgol Abertawe’n cadw'r hawl i godi ffi am ailarholi'r gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno.

Apeliadau Academaidd

30.        

Caiff apeliadau academaidd eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan y sefydliadau partner. Byddant yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • Dylai'r sefydliad tramor a gytunodd ar y penderfyniad y mae'r myfyriwr yn apelio yn ei erbyn ystyried apêl;
  • Mae gan y myfyriwr yr hawl i gael mynediad at yr ombwdsmon cenedlaethol os yw hynny'n berthnasol:
  • Bydd gan y myfyriwr fynediad at gymorth.

 Cyhoeddir manylion yn llawlyfr y rhaglen.

Nodyn esboniadol i'r rheoliadau hyn

Caiff y rheoliadau hyn eu drafftio i adlewyrchu arlliwiau o ran iaith, mynegiant a sillafu mewn sefydliadau partner ac arferion lleol yn y sefydliadau hynny, er enghraifft:

Cymal 2 

Yn Université Grenoble Alpes, caiff myfyrwyr eu hadnabod gan rif yn unig nes y cynhelir y bwrdd arholi mewnol (rheithgor).

Cymal 5

Mae Université Grenoble Alpes yn cynnal byrddau arholi ar ddiwedd pob semester.

Cymal 11 

Nid yw Université Grenoble Alpes yn debyg i sefydliadau eraill yn Ffrainc yn gweithredu system Arholwyr Allanol. Yn hytrach, mae ganddynt bwyllgor o uwch-ymgynghorwyr academaidd a diwydiannol sy'n goruchwylio ansawdd y rhaglenni.

Cymal 12 

Mae ystyr modiwlau craidd a chymhwyso rheolau goddefiad yn wahanol rhwng sefydliadau. Rhaid i fyrddau arholi Prifysgol Abertawe weithredu a chymhwyso rheoliadau arferol Prifysgol Abertawe sy'n briodol i fodiwlau craidd a goddefiad h.y. bydd rheolau lleol ynghylch goddefiad yn gymwys ni waeth pa rheolau sy'n gymwys mewn sefydliad partner.

Cymal 16

Mae rheolau lleol yn berthnasol.

Cymal 18 

Yn Université Grenoble Alpes mae myfyrwyr yn cadw eu marc cyntaf os oedd eu marc ailgyflwyno'n is.

Cymal 27 

Nid yw Université Grenoble Alpes yn debyg i sefydliadau eraill yn Ffrainc, dywedir wrth ymgeiswyr ar ddechrau'r rhaglen y dyddiadau cyflwyno ac ailgyflwyno. Os ydynt yn colli'r dyddiad ailgyflwyno, gallant gyflwyno ar gyfer y dyddiad ailgyflwyno, ond byddant yn ymwybodol mai dyma'r ail ymgais a'r ymgais olaf i gyflwyno.