dau fyfyriwr yn eistedd gan gyfrifiadur

Diben Rheoliadau Academaidd yw sicrhau safonau academaidd i bortffolio rhaglenni a dyfarniadau Prifysgol Abertawe. Mae’r rheoliadau hefyd yn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn deg. Mae’n bwysig i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn y Brifysgol gynefino’u hunain â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd penodol a rhai cyffredinol y Brifysgol, ynghyd â’r rheolau sy’n berthnasol i’w hastudiaethau.

Mae’r cyfeiriadau yn y rheoliadau academaidd ynghylch Cyfadrannau/Ysgolion yn cynnwys  ‘Y Coleg, Abertawe’, pan fydd y cyd-destun yn caniatáu, oni nodir yn wahanol yn benodol. Yn yr un modd, mae cyfeiriadau at Ddeoniad Gweithredol Prifysgol Abertawe hefyd yn berthnasol  i Gyfarwyddwr Y Coleg/Pennaeth Y Coleg, Prifysgol Abertawe pan fydd y cyd-destun yn caniatáu, oni nodir yn wahanol yn benodol. 

Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol yn cyd-fynd â’r Côd Ansawdd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd sef y corff sy’n monitro ac yn cynghori sefydliadau ar safonau ac ansawdd.

Mae Rheoliadau, Polisïau a gwybodaeth academaidd gysylltiedig wrthi'n cael eu hadolygu fel rhan o ailstrwythuro mewnol y Brifysgol sef mynd o saith coleg academaidd i dair cyfadran. O ganlyniad, efallai bydd terminoleg yn amrywio rhwng dogfennau. Byddwch yn amyneddgar wrth i ni wneud y newidiadau hyn. 

Rheoliadau a Pholisïau Ychwanegol sy'n berthnasol i bob myfyriwr

Mae atebion i rai Cwestiynau Cyffredin ar gael hefyd ar wefan Sylfaen Wybodaeth Cwestiynau Cyffredin y Brifysgol.