Bydd y rheoliadau canlynol yn gymwys ar gyfer ymgeiswyr sy'n dechrau eu hastudiaethau o 2022-23 ymlaen.
Rheoliadau Asesu'r Gradd Meistr a Addysgir LLM 240
1. Egwyddorion Cyffredinol
1.1 Cyflwyno marciau
Dylid cyflwyno holl farciau asesu modiwlau a gymerwyd hyd yn hyn i Fyrddau Arholi'r Gyfadran/Ysgol.
1.2 Cyflwyno marciau ar gyfer dyfarniad
Caiff y set gyfan o ganlyniadau ar gyfer pob ymgeisydd a ystyriwyd ym Mwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ei chyflwyno i'r arholwyr. Bydd proffil canlyniadau'r ymgeiswyr perthnasol yn cynnwys:
- Canlyniadau'r modiwlau a addysgir.
- Canlyniadau'r darn(au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
1.3 Penderfyniadau ynghylch dilyniant
Caniateir i fyfyrwyr symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau. Gall ymgeiswyr sydd wedi methu modiwlau a addysgir y tro cyntaf dderbyn DAU gyfle arall i wneud iawn am fethiannau gan sefyll yr arholiadau ychwanegol ar y cyfle nesaf (fel y nodir yn llawlyfr y rhaglen).
1.4 Marcio Dienw
Gweler Polisi'r Brifysgol ar Farcio Anhysbys.
1.5 Datgelu Enwau
Gweler Polisi'r Brifysgol ar Farcio Anhysbys.
1.6 Datgelu Canlyniadau
Dylid gwahaniaethu rhwng marciau dros dro a marciau a gadarnhawyd.
Gweler Polisi’r Brifysgol ar Gyhoeddi Marciau.
1.7 Apeliadau yn erbyn penderfyniadau
Gall ymgeiswyr sy'n methu cymhwyso i symud ymlaen wneud cais i adolygu penderfyniad y Bwrdd yn unol â Gweithdrefn Apelio a/neu Weithdrefn Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol, a gyhoeddir yn y Rheoliadau Academaidd hyn.
2. Rheolau Asesu Cyffredinol: LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol
G1
Y marc pasio ar gyfer modiwlau fydd 50%. Ni roddir credyd dim ond i ymgeiswyr sy'n pasio modiwl.
G2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 240 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad gradd. Cyfrifir dosbarthiad cyffredinol y radd ar sail cyfanswm pwysiad credydau pob modiwl a astudiwyd.
G3
Caiff penderfyniadau ynghylch dyfarniadau i ymgeiswyr eu gwneud ar ddiwedd y rhaglen a'u cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol.
G4
Mae pob un o fodiwlau'r rhaglen yn fodiwl 'craidd' ac mae'n rhaid i ymgeiswyr basio'r modiwl gyda marc o 50% neu'n uwch i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.
G5
Mae'n bosibl y caniateir dwy ymgais bellach yn y rhaglen i wneud iawn am eu methiant (h.y. cyfanswm o dair ymgais ym mhob modiwl a addysgir) i ymgeiswyr nad ydynt wedi pasio modiwl a addysgir, ar yr amod bod modd cyflawni hyn ymhen terfyn amser y Rhaglen. Ni chaniateir unrhyw ymgais pellach i fyfyrwyr (ar ôl cyfanswm o dair ymgais ar bob modiwl a addysgir) heb fod amgylchiadau esgusodol wedi'u cytuno.
G6
Os yw ymgeiswyr yn bodloni'r arholwyr mewn ymgais i wneud iawn am fethiant, ni fyddant yn gymwys am farc uwch na'r trothwy wedi'i gapio o 50% ym mhob modiwl, waeth beth yw lefel eu perfformiad. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio/marc gorau wrth bennu'r marc cyfartalog ar gyfer y dyfarniad.
G7
Ni fydd ymgeiswyr sydd yng nghanol eu rhaglen, sy'n methu gwneud iawn am fodiwl a fethwyd ar y cyfle nesaf sydd ar gael, a/neu sy'n methu cyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau, yn gymwys am ddyfarniad meistr, ond caniateir iddynt barhau er mwyn cael eu hystyried am ddyfarniad ymadael.
G8
Ystyrir bod ymgeiswyr sy'n methu pasio modiwl ar y trydydd ymgais 'allan o gyfleoedd', ni fyddant yn gymwys am ddyfarniad Meistr LLM a bydd gofyn iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Ni fydd y fath ymgeiswyr yn cael cyfle arall i gwblhau eu rhaglen astudio ac ni chânt eu hystyried am unrhyw ddyfarniad ond cymhwyster ymadael. Ni chaiff ymgeiswyr y gofynnir iddynt adael y Brifysgol gyfle arall i wneud iawn am fodiwlau a fethwyd ac ni chaniateir iddynt drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd rhaid iddynt derfynu eu hastudiaethau. Fel arfer, ni chaiff ymgeiswyr o'r fath eu hail-dderbyn i'r un rhaglen astudio neu i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth gan y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
G9
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall ymgeiswyr sy'n methu gwneud iawn am eu modiwl(au) ar y cyfle nesaf sydd ar gael oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod asesu ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Gyfadran/Ysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
G10
Ni chaniateir i ymgeisydd sydd i'w ailarholi mewn prosiectau gosod neu fath arall o asesiad gwaith cwrs ailgyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'i waith gwreiddiol. Yn hytrach, bydd yn rhaid iddo gyflwyno gwaith newydd i'w asesu, ar bynciau gwahanol i'r rhai lle nad oedd yr arholwyr yn fodlon ar ei waith gwreiddiol.
G11
Ni fydd hawl gan ymgeiswyr ddewis ailwneud modiwl a basiwyd.
G12
Tybir bod ymgeisydd sy'n absennol yn ystod rhan neu'r cyfan o asesiad ysgrifenedig (neu sy'n methu cyflwyno prosiectau neu waith cwrs erbyn dyddiad(au) a bennwyd) wedi methu'r modiwlau dan sylw. Yn achos ymgeiswyr rhan un nad ydynt yn gallu cyflwyno gwaith oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol i'r Gyfadran/Ysgol gartref erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd y Gyfadran/Ysgol yn ystyried y cais i'w gymeradwyo gan gyfeirio at Bolisi Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol. Bydd rhaid i ymgeiswyr y caniateir iddynt ohirio sefyll yr arholiadau yn y cyfnod arholi nesaf sydd wedi'i amserlennu ar gyfer y modiwl(au) dan sylw.”
G13
Bydd ymgeiswyr, sy'n cyflawni marc cyfartalog cyffredinol o 60% o leiaf, a llai na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan, yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr LLM â Theilyngdod.
G14
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr LLM â Rhagoriaeth.
G15
Os yw ymgeiswyr yn methu cwblhau'r rhaglen a/neu'n tynnu'n ôl o'r Brifysgol, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd ganddynt, efallai y bydd ganddynt hawl i gymhwyster ymadael.
G16
Bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys i dderbyn y dyfarniad priodol "â theilyngdod" os ydynt wedi pasio'r nifer gofynnol o gredydau a addysgir ac wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol nad yw'n llai na 60% ac nad yw'n uwch na 69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
G17
Bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys am y dyfarniad priodol "â Rhagoriaeth" os ydynt wedi astudio'r nifer gofynnol o gredydau a addysgir, gan ennill marc cyffredinol o 70% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
G18
Ni fydd ymgeiswyr sy'n methu cyflwyno eu gwaith dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu elfen gyfatebol gymeradwy erbyn y dyddiad cau yn gymwys am ddyfarniad Meistr LLM, ond cânt gyfle i gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael o hyd. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.
G19
Os yw ymgeiswyr yn cyflwyno eu darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau ond yn methu ennill marc pasio, gellir rhoi cyfle arall iddynt ailgyflwyno yn unol â'r terfyn amser priodol. Caiff marciau am ailgyflwyno eu capio ar 50%.
Dull Astudio |
|
LLAWN AMSER
|
fel arfer* 5 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol) |
* Gall y Gyfadran /Ysgol osod cyfnodau cyflwyno byrrach. Dylai llawlyfr y Gyfadran/Ysgol nodi hyn yn glir i fyfyrwyr.
G20
Os nad yw ymgeiswyr yn gallu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, gallant ofyn am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yn unol â rheoliadau'r Brifysgol.
G21
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi ffi am ailarholi'r gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno.
3. Rheolau Penodol ar Gyfer Byrddau Semester un a Dau y Flwyddyn Gyntaf
S1
50% fydd y marc pasio.
S2
Caniateir i ymgeiswyr sy'n pasio'r holl gydrannau modiwl/modiwlau a bennir barhau â'u hastudiaethau.
S3
Gall ymgeiswyr sydd wedi methu pasio pob modiwl angenrheidiol fynd ymlaen i’r semester nesaf (blwyddyn 2) ond disgwylir iddynt gymryd y cyfle i wneud iawn am fethiant/fethiannau yn ystod y cyfnod asesu swyddogol nesaf – bydd hyn fel arfer yn ystod yr haf cyn y semester nesaf.
S4
Bydd gan ymgeiswyr sy'n methu modiwl(au) a addysgir y tro cyntaf DDAU gyfle pellach i ailsefyll yn ystod y cyfnod asesu ffurfiol nesaf. Bydd ymgeiswyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll yn derbyn marc o 0% ac yn fforffedu'r hawl i unrhyw ymgais pellach.
S5
Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll unrhyw gydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%.
S6
Llywodraethir ymgeiswyr sy'n cyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddwyd gan reoliadau asesu S7-S10 o dan yr adran isod "Rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen."
4. Rheolau Penodol ar Gyfer Ymgeiswyr i Fwrdd Blwyddyn Dau (Mis Mai)
S1
50% fydd y marc pasio.
S2
Caiff ymgeiswyr sy'n pasio pob modiwl a addysgir a'u Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd eu hystyried ar gyfer cymhwysedd dyfarniad yn erbyn eu proffil academaidd llawn yn ôl y 'rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen'.
S3
Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll cydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%.
S4
Bydd ymgeiswyr sydd wedi dewis peidio ag ailsefyll yn derbyn marc o 0% ac yn fforffedu'r hawl i unrhyw ymgais pellach.
S5
Bydd ymgeiswyr sy'n methu modiwl ar yr ymgais cyntaf (blwyddyn dau) yn derbyn DAU gyfle arall i ailsefyll yn ystod y cyfnod asesu ffurfiol.
S6
Caiff ymgeiswyr sy'n pasio pob modiwl a addysgir ym mlwyddyn dau, eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, ac sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiant/fethiannau o flwyddyn un eu hystyried ar gyfer cymhwysedd dyfarniad yn erbyn eu proffil academaidd llawn yn ôl y 'rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen'.
S7
Bydd ymgeiswyr a fethodd gwneud iawn am fethiant/fethiannau o flwyddyn un yn gymwys i dderbyn trydydd ymgais olaf yn ystod y cyfnod asesu ffurfiol nesaf (mis Mai/Mehefin).
5. Rheolau Penodol ar Gyfer Ymgeiswyr i Fwrdd Blwyddyn Dau (Mis Gorffennaf)
S1
50% fydd y marc pasio.
S2
Caiff ymgeiswyr sydd wedi pasio pob modiwl a addysgir a’u Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd eu hystyried ar gyfer cymhwysedd dyfarniad yn erbyn eu proffil academaidd llawn yn ôl y 'rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen'.
S3
Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll cydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%.
S4
Bydd ymgeiswyr sydd wedi dewis peidio ag ailsefyll yn derbyn marc o 0% ac yn fforffedu'r hawl i unrhyw ymgais pellach.
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio eu Dysgu Annibynol dan Gyfarwyddyd ac sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiant/fethiannau ym mhob modiwl a addysgir yn cael eu hystyried ar gyfer cymhwysedd dyfarniad yn erbyn eu proffil academaidd llawn yn ôl y 'rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen'.
Bydd ymgeiswyr na lwyddodd i wneud iawn am fethiant/fethiannau sydd dros ben mewn modiwlau a addysgir o flwyddyn dau yn gymwys am eu trydydd ymgais olaf yn ystod y cyfnod asesu ffurfiol nesaf (mis Awst).
Ni fydd ymgeiswyr na lwyddodd i wneud iawn am fethiant/fethiannau sydd dros ben yn y modiwlau a addysgir o flwyddyn un yn cael gwneud unrhyw ymgais pellach a chânt eu hystyried am ddyfarniad gadael yn erbyn eu proffil academaidd llawn unwaith bydd pob ymgais sydd ar ôl o fodiwlau blwyddyn dau ac/neu eu Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd wedi dod i ben.
Bydd ymgeiswyr a fethodd eu Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd (ymgais cyntaf) yn gymwys i wneud un ymgais pellach a chaiff hwn ei gapio ar 50%.
S7
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall ymgeiswyr sy'n methu gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Gyfadran/Ysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
6. Rheolau Penodol ar Gyfer Ymgeiswyr i Fwrdd Blwyddyn Dau (Mis Tachwedd)
S1
50% fydd y marc pasio.
S2
Caiff ymgeiswyr sy'n pasio pob modiwl a addysgir a'u Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd, eu hystyried ar gyfer cymhwysedd dyfarniad yn erbyn eu proffil academaidd llawn yn ôl y 'rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen'.
S3
Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll cydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%.
S4
Bydd ymgeiswyr sydd wedi dewis peidio ag ailsefyll yn derbyn marc o 0% ac yn fforffedu'r hawl i unrhyw ymgais pellach.
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio eu Dysgu Annibynol dan Gyfarwyddyd ac sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiant/fethiannau sydd dros ben ym mhob modiwl a addysgir yn cael eu hystyried ar gyfer cymhwysedd dyfarniad yn erbyn eu proffil academaidd llawn yn ôl y 'rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen'.
Caiff ymgeiswyr a oedd yn aflwyddiannus wrth geisio gwneud iawn am fethiant/fethiannau mewn modiwlau a addysgir, neu eu Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd, ac sydd heb ymgais pellach ar ôl eu hystyried ar gyfer cymhwysedd dyfarniad ymadael yn erbyn eu proffil academaidd llawn.
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall ymgeiswyr sy'n methu gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Gyfadran/Ysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
7. Rheolau Penodol ar Gyfer Dyfarnu Credyd ar Ddiwedd y Rhaglen
S1
50% fydd y marc pasio
S2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni 240 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad gradd. Cyfrifir dosbarthiad cyffredinol y radd ar sail cyfanswm pwysiad credydau pob modiwl a astudiwyd.
S3
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60-69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr LLM â Theilyngdod.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr LLM â Rhagoriaeth.
S5
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni gofynion S2 yn methu cymhwyso am y dyfarniad. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, fel arfer bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd sefyll arholiadau neu asesiadau atodol ym mhob modiwl a addysgir lle mae wedi methu ar yr ymgais cyntaf neu'r ail ymgais am farc wedi'i gapio o 50%. Bydd ymgeiswyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll modiwl a fethwyd yn cael marc o 0%.
S6
Ni fydd ymgeiswyr sy'n methu cyflwyno eu gwaith dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu elfen gyfatebol gymeradwy erbyn y dyddiad cau yn gymwys am ddyfarniad Meistr, ond cânt gyfle i gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael o hyd. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.
S7
Os yw ymgeiswyr yn methu'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu elfen gyfatebol gymeradwy a chaniateir iddynt ailgyflwyno, bydd y cyfnodau amser canlynol i ailgyflwyno yn berthnasol. Caiff marciau ailgyflwyno eu capio ar 50%.
Dull Astudio |
Ailgyflwyno |
LLAWN AMSER |
5 mis* fel arfer (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol) |
* Gall y Gyfadran /Ysgol osod cyfnodau cyflwyno byrrach. Dylai llawlyfr y Gyfadran/Ysgol nodi hyn yn glir i ymgeiswyr.
S8
Cydnabyddir y gallai rhai ymgeiswyr fethu'r modiwlau dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a'r modiwlau a addysgir ar yr ymgais cyntaf. Caiff ymgeiswyr o'r fath un cyfle i ailgyflwyno'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (yn unol â'r rheoliadau uchod) a dau gyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir yr oeddent wedi’u methu.
S9
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu unrhyw fodiwl ar yr ail ymgais dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Gall y fath ymgeiswyr gael eu hystyried am gymhwyster ymadael priodol.
Tystysgrif Ôl-raddedig |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
Diploma Ôl-raddedig |
|
Diploma Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Diploma Ôl-raddedig â Rhagoriaeth
|
|
*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddef llymach o ganlyniad i ofynion y Corff Proffesiynol/Corff Noddi.
S10
Mae gan bob ymgeisydd a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol yr hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd a/neu Weithdrefn Apelio’r Brifysgol.