Rheoliadau penodol ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR). Dylid darllen y rhain ynghyd â’r Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer yr holl raglenni ôl-raddedig a addysgir.
Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)
1. Cyflwyniad
1.1
Gwobrwyir Tystysgrifau Addysg i Raddedigion i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
• dealltwriaeth systematig o addysgeg a gwybodaeth am y pwnc fel y bydd arnynt eu hangen i fod yn athro effeithiol;
• dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau sy’n berthnasol i’w hymarfer eu hunain yn y dosbarth neu ysgoloriaeth uwch;
• bodloni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru er mwyn cael eu hargymell gan Brifysgol Abertawe am Statws Athro Cymwysedig (SAC);
• gwreiddioldeb wrth ddefnyddio gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o’r ffordd y defnyddir technegau ymchwilio ac archwilio sefydledig er mwyn creu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.
1.2
Bydd deiliaid Tystysgrif Addysg i Raddedigion yn gallu, fel ymarferydd addysgu proffesiynol:
• sicrhau bod eu haddysgu yn darparu cyfleoedd i bob disgybl ddysgu;
• trin materion cymhleth er mwyn cefnogi lles plant yn systematig ac yn greadigol, dod i gasgliadau cadarn, a chyfathrebu eu casgliadau’n glir â chynulleidfaoedd arbenigol a di-arbenigol;
• dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth fynd i’r afael â phroblemau, a’u datrys, mewn sefyllfa ysgol, a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu lefel gyfatebol;
• parhau i gynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am eu pwnc a’u Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh), ac i ddatblygu sgiliau newydd ar lefel uwch.
1.3
Bydd gan ddeiliaid Tystysgrif Addysg i Raddedigion y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy y bydd arnynt eu hangen ar gyfer swydd sy’n gofyn am:
• arfer menter a chyfrifoldeb personol;
• gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy;
• gallu dysgu annibynnol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
2. Derbyn
2.1
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf cymhwyso ar gyfer bod yn Athro Cymwysedig, fel y mae Cyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru yn gofyn amdanynt, a hefyd bydd yn rhaid iddynt fodloni amodau eraill y bydd y Brifysgol yn eu hamlinellu.
2.2
Bydd gofyn bod ymgeiswyr ar gyfer y TAR mewn addysg uwchradd wedi cyflawni’r canlynol cyn cael eu derbyn i’r rhaglen:
• Gradd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf mewn pwnc perthnasol, neu mewn pwnc sy’n gysylltiedig, y bydd fel arfer o leiaf 50% o’i chynnwys yn berthnasol i’r pwnc fel arfer. Er enghraifft, bydd gan fyfyriwr sy’n dilyn gradd mewn Peirianneg Sifil wybodaeth ddigonol ym maes mathemateg er mwyn cael ei dderbyn i’r rhaglen TAR mewn mathemateg. Gwneir penderfyniadau o’r fath fesul achos yn dilyn adolygiad o ddogfennaeth y rhaglen sy’n gysylltiedig â’r dyfarnu. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried cymwysterau Safon Uwch blaenorol hefyd;
• Gradd C TGAU mewn Mathemateg;
• Gradd C TGAU mewn Saesneg neu Lenyddiaeth iaith Saesneg;
2.3
Disgwylir y bydd ymgeiswyr am y TAR mewn addysg gynradd wedi cyflawni’r canlynol cyn eu derbyn ar y rhaglen:
- Gradd anrhydedd dosbarth 2:2
- Gradd C TGAU mewn Mathemateg;
- Gradd C TGAU mewn Saesneg neu Lenyddiaeth iaith Saesneg
- Gradd C TGAU mewn Gwyddoniaeth
2.4
Mae'r canlynol yn berthnasol hefyd i ymgeiswyr am y TAR mewn rhaglenni addysg gynradd ac uwchradd:
- Bydd gofyn i athrawon dan hyfforddiant sy’n ymgeisio am y rhaglen gyfrwng Cymraeg feddu ar radd C TGAU yn y Gymraeg (fel iaith gyntaf);
- Bodloni gofynion Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) o ran eu hiechyd a’u gallu corfforol i addysgu;
- Ymgymryd â Datgeliad Troseddol Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rhaid bod ymgeiswyr heb eu gwahardd rhag addysgu neu weithio gyda phlant, na bod ar gofrestr y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd oherwydd eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu bobl ifanc;
- Cadarnhau nad oes ganddynt hanes, troseddol neu arall, sy’n eu hatal rhag bod yn fyfyrwyr nac yn athrawon dan hyfforddiant.
2.5
Fel rhan o’r broses dderbyn, bydd gofyn i bob ymgeisydd gael cyfweliad wyneb-yn-wyneb a dangos y rhinweddau, yr agweddau a’r gwerthoedd personol a deallusol sy’n ofynnol ar gyfer addysgu.
2.6
Ni chaniateir trosglwyddo credydau nac achredu dysgu blaenorol drwy brofiad (APEL), ac ni fyddant yn cael eu hystyried yn y broses dderbyn.
3. Strwythur y Rhaglen
3.1
Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cymhwyso ar gyfer derbyn Tystysgrif Addysg i Raddedigion ar ôl iddynt gwblhau rhaglen astudio gymeradwy ar sail modiwlau yn llwyddiannus.
3.2
Bydd gofyn i bob athro dan hyfforddiant ennill 60 credyd ar Lefel 6 a 60 credyd ar Lefel 7.
3.3
Mae’n rhaid i athrawon dan hyfforddiant fodloni’r Bwrdd Arholi eu bod wedi datblygu’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a ddisgwylir ar gyfer athrawon sydd newydd gymhwyso ac a nodir gan Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru. Er mwyn dangos eu bod wedi bodloni’r Safonau, mae’n rhaid i’r athrawon dan hyfforddiant gwblhau pob elfen ar y rhaglen yn llwyddiannus. Hynny yw, ennill 60 credyd ar Lefel 6 a 60 credyd ar Lefel 7.
3.4
Cyflwynir y deilliannau dysgu ym Manyleb y Rhaglen ar gyfer y Rhaglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion.
3.5
Bydd y cynllun addysgu yn cynnwys lleiafswm o 60 niwrnod yn y Brifysgol a 120 o ddiwrnodau mewn ysgol, yr olaf yn rhan o leoliadau ymarfer proffesiynol.
4. Asesiad
4.1
Bydd gofyn i athrawon dan hyfforddiant gwblhau’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion yn unol â’r Rheoliadau Asesu ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion. Cyhoeddir y rheoliadau hyn fel rhan o Reoliadau Academaidd y Brifysgol.
4.2
Bydd yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Uwchradd) yn cynnwys asesu parhaus ar gyfer dau fodiwl sy’n dwyn credydau, un ar lefel 6 (60 credyd) ac un ar lefel 7 (60 credyd).
4.3
Bydd yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Gynradd) yn cynnwys asesu parhaus ar gyfer tri modiwl sy'n dyfarnu credydau, un ar lefel 6 (60 credyd) a dau ar lefel 7 (30 credyd yr un).
4.4
Pan fyddant ar leoliadau ymarfer proffesiynol, arsylwir ar athrawon dan hyfforddiant a gofynnir iddynt gyflwyno portffolio o waith er mwyn dangos eu cyflawniadau o ran y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth fel y disgwylir gan athrawon sydd newydd gymhwyso ac fel y nodir gan Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru.
5. Terfynau Amser
5.1
Fel arfer, ni fydd y cyfnod mwyaf dan hyfforddiant ar gyfer athrawon dan hyfforddiant sy’n ceisio am Dystysgrif Addysg i Raddedigion yn llawn amser yn parhau am fwy na 12 mis ar ôl dechrau’r rhaglen, gyda lleiafswm o 60 niwrnod yn y Brifysgol a 120 diwrnod mewn ysgol.
5.2
Gellir estyn y cyfnod mwyaf dan hyfforddiant os bydd amgylchiadau esgusodol fel y nodir yn rheoliad 7 isod ond ni chaniateir estyniad o fwy na 12 mis o ddyddiad cyfarfod terfynol Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol.
6. Estyniadau i’r cyfnod dan hyfforddiant
6.1
Gellir estyn terfynau amser y rhaglen astudio ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion, fel y nodir yn Adran 6 y rheoliadau penodol, ond mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â’r meini prawf canlynol:
• Fel arfer, caniateir estyniadau ond ar sail dosturiol, neu oherwydd salwch, anawsterau difrifol gartref neu ymrwymiadau proffesiynol eithriadol y gellir dangos eu bod wedi cael effaith niweidiol ar yr ymgeisydd. Bydd yn rhaid i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno cais llawn a rhesymegol, wedi’i gefnogi gan gynllun gwaith, tystiolaeth feddygol addas neu dystiolaeth annibynnol arall, i’r Gwasanaethau Academaidd er mwyn ei ystyried. Prosesir achosion fel hyn yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd.
• O ran achosion a geir oherwydd salwch, bydd yn rhaid cyflwyno tystiolaeth feddygol foddhaol; gan gynnwys tystysgrif feddygol (wrth asesu’r achos, cyfeirir at hyd a natur y salwch fel y nodir ar y dystysgrif.) Bydd y Brifysgol yn parchu cyfrinachedd o ran y dystiolaeth a gyflwynir;
• Pan na fydd amgylchiadau unigol yn galluogi’r athro dan hyfforddiant i gwblhau’r 120 o ddiwrnodau sydd eu hangen mewn lleoliad ymarfer proffesiynol, bydd gofyn iddo ohirio ei astudiaethau ac ail-ddechrau ar adeg wedi’i chymeradwyo sy’n ei alluogi i gwblhau’r rhaglen yn ystod y flwyddyn ganlynol.
6.2
Bydd yn rhaid cyflwyno ceisiadau am estyniadau trwy Gyfarwyddwr y Rhaglen i’r Gwasanaethau Academaidd, ac ystyrir yr achos yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd.
6.3
Fel rhan o’r cais am estyniad, bydd yn rhaid cyflwyno datganiad clir yn dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso’r sefyllfa y mae’r ymgeisydd yn ei hwynebu yn sgîl y salwch, a'i fod yn ystyried bod yr estyniad y gofynnir amdano yn addas. Bydd datganiad o’r math, lle bynnag bo’n bosib, yn dilyn cysylltiad uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r Gyfadran/Ysgol.
7. Cymhwysedd ar gyfer Ennill Tystysgrif
7.1
Er mwyn bod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer ennill TAR gan Brifysgol Abertawe, bydd athrawon dan hyfforddiant wedi:
• Dilyn pob agwedd ar y rhaglen a amlinellir yn rheoliad 3, a llwyddo ynddynt;
• Bodloni amod(au) pellach y bydd y Gyfadran/Ysgol neu’r Brifysgol yn gofyn amdano/amdanynt;
• Dangos eu cyflawniadau o ran y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a ddisgwylir gan athrawon newydd gymhwyso ac a nodir gan Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru.
7.2
Bydd ymgeisydd sy’n cwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer ennill Llwyddiant/Teilyngdod/Rhagoriaeth fel a ganlyn:
Tystysgrif Addysg i Raddedigion
• Wedi llwyddo mewn 60 credyd ar Lefel 7 yn Abertawe
• Wedi ennill marc terfynol ar gyfartaledd ar gyfer modiwlau Lefel 7 nad yw’n llai na 50% nac yn fwy na 59.99%
Tystysgrif Addysg i Raddedigion gyda Theilyngdod
• Wedi llwyddo mewn 60 credyd ar Lefel 7 yn Abertawe
• Wedi ennill marc terfynol ar gyfartaledd ar gyfer modiwlau Lefel 7 nad yw’n llai na 60% nac yn fwy na 69.99%
Tystysgrif Addysg i Raddedigion gyda Rhagoriaeth
• Wedi llwyddo mewn 60 credyd ar Lefel 7 yn Abertawe
• Wedi ennill marc terfynol ar gyfartaledd ar gyfer modiwlau Lefel 7 cyfwerth 70% neu’n fwy
8. Cymwysterau Ymadael
8.1
Gallai athrawon dan hyfforddiant sy’n ceisio am Dystysgrif Addysg i Raddedigion fod yn gymwys ar gyfer tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg uwch os dyfernir 60 credyd iddynt gyda chyfartaledd o 50% neu’n fwy ar Lefel 7 ac ni ddyfernir Statws Athro Cymwysedig iddynt gan y Bwrdd Arholi.
9. Argymhellion ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
9.1
Er mwyn bod yn gymwys i gael eu hargymell gan Brifysgol Abertawe ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) i Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru, bydd athrawon dan hyfforddiant wedi:
• Dilyn pob agwedd ar y rhaglen TAR, a llwyddo ynddynt;
• Bodloni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy’n ofynnol er mwyn cael argymhelliad ar gyfer SAC;
• Bodloni’r lefel gyfwerthedd ofynnol mewn Mathemateg a/neu Saesneg/y Gymraeg.
9.2
Gellir cadarnhau’r cofrestru ar gyfer Statws Athro Cymwysedig dim ond gan Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru.
Rheoliadau Asesu ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion
1.1
Y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl ar Lefel 7 fydd 50%.
1.2
Bydd naill ai llwyddiant neu fethiant mewn modiwlau Lefel 6.
1.3
Er mwyn cael eu hystyried i ennill TAR, bydd athrawon dan hyfforddiant wedi dilyn pob modiwl yn y rhaglen, a llwyddo ynddynt.
1.4
Os bydd myfyriwr wedi dilyn pob modiwl yn y rhaglen, ac wedi llwyddo yn y modiwl lleoliad proffesiynol ar Lefel 6 ond heb lwyddo yn y modiwl Lefel 7, gallai Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu y Brifysgol:
• Roi cyfle i’r myfyriwr ail-gyflwyno gwaith ar gyfer y modiwlau Lefel 7 (a fydd yn cael eu capio ar 50%) yn yr un flwyddyn academaidd.
• Rhoi cyfle i’r myfyriwr ail-gyflwyno gwaith ar gyfer y modiwlau Lefel 7 (a fydd yn cael eu capio ar 50%) yn y flwyddyn academaidd ganlynol.
• Rhoi cyfle i’r myfyriwr ail-sefyll y rhaglen gyfan yn y flwyddyn academaidd ganlynol gyda’r marc yn cael ei gapio ar 50% ar gyfer y modiwlau Lefel 7.
• O ran gwaith a fydd yn cael ei ail-gyflwyno yn yr un flwyddyn academaidd, trafodir y canlyniad gan Fwrdd Arholi Arbennig er mwyn cadarnhau’r marciau mewn pryd i Athrawon Newydd Gymhwyso (NSAC) ddechrau mewn ysgol ym mis Medi. Trefnir cynnal y Bwrdd Arholi Arbennig cyn gynted â phosib ar ôl ail-gyflwyno gwaith.
1.5
Os bydd myfyriwr wedi dilyn pob modiwl yn y rhaglen, ac wedi llwyddo yn y modiwl Lefel 7, ond heb lwyddo yn y modiwl lleoliad proffesiynol ar Lefel 6, gallai Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu y Brifysgol:
• Roi cyfle i ail-adrodd y lleoliad ymarferol a fethwyd yn y flwyddyn academaidd ganlynol.
• Cynnig y wobr ymadael sef Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (PG Cert HE).
• Cadarnheir dewis yr athro dan hyfforddiant ar ôl methu yn ei leoliad ymarfer proffesiynol gan y Bwrdd Arholi Arbennig.
• Bydd athrawon dan hyfforddiant y dyfernir eu bod yn gwneud cynnydd annigonol wrth fod ar leoliad ymarfer proffesiynol yn gorfod dilyn polisi a gweithdrefnau Cefnogaeth ac Ymyriadau ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.
1.6
Bydd methu cyflwyno gwaith neu wneud iawn am fodiwl Lefel 7 a fethwyd erbyn y dyddiad a nodwyd yn golygu y bydd marc o 0% yn cael ei gofnodi ar gyfer y modiwl. Bydd y marc gorau ar gyfer y modiwl yn cael ei gofnodi fel marc terfynol.
1.7
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi’r Brifysgol ynghylch Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesu, gallai athrawon dan hyfforddiant sy’n methu gwneud iawn am eu modiwl(au) Lefel 7 yn ystod y cyfnod ail-sefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy’n methu’r modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod ail-sefyll (h.y. fel gohiriad), gyflwyno gwybodaeth ynglŷn ag amgylchiadau o’r math i’w Gyfadran/Ysgol er mwyn iddi gael ei hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu y Brifysgol, gellir caniatáu un cyfle arall i athrawon dan hyfforddiant o’r math ail-sefyll. Fel arfer, cynheliryr ail-asesu yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau ond yn ystod y prif gyfnod dan hyfforddiant.
1.8
Bydd methu modiwl Lefel 7 am yr eildro yn golygu y bydd y Gyfadran/Ysgol yn argymell i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu y Brifysgol bod gofyn i’r ymgeisydd adael y Brifysgol.
1.9
Ni all athrawon dan hyfforddiant ail-sefyll modiwl neu uned asesu lefel 7 nad ydynt wedi ennill marc llwyddo ar ei gyfer o’r blaen.
1.10
Bydd athrawon dan hyfforddiant y gofynnir iddynt adael y Brifysgol yn cael cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn trwy weithdrefnau Prifysgol Abertawe ynghylch Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd neu weithdrefnau Apeliadau Academaidd.
1.11
Bydd athrawon dan hyfforddiant sy’n cwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer y wobr lle maent wedi llwyddo ym mhob modiwl ac wedi ennill marc terfynol ar gyfartaledd nad yw’n llai na 50% nac yn fwy na 59.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
1.12
Bydd athrawon dan hyfforddiant sy’n cwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer ennill Teilyngdod lle maent wedi llwyddo ym mhob modiwl ac wedi ennill marc terfynol ar gyfartaledd nad yw’n llai na 60% nac yn fwy na 69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
1.13
Bydd athrawon dan hyfforddiant sy’n cwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer ennill Rhagoriaeth lle maent wedi llwyddo ym mhob modiwl ac wedi ennill marc terfynol ar gyfartaledd o 70% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
1.14
Gwobrwyir Statws Athro Cymwysedig (SAC) gan Gyngor y Gweithlu Addysg (Cymru) yn sgîl argymhelliad gan y Brifysgol. Er mwyn cael eu hargymell ar gyfer SAC, mae’n rhaid i athrawon dan hyfforddiant lwyddo yn y rhaglen TAR ac wrth wneud hynny, fodloni’r safonau a nodir yn y ddogfen 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (Cymru) 2017' a’i chanllawiau atodol hefyd. Yn ogystal, mae’n rhaid iddynt fod wedi bodloni’r lefelau cyfwerthedd ym Mathemateg a/neu Saesneg/y Gymraeg.
1.15
Bydd athrawon dan hyfforddiant ar leoliad ymarfer proffesiynol nad ydynt yn cyflawni cymwyseddau neu sy’n ymarfer ar lefel nad yw’n bodloni disgwyliadau er mwyn cyrraedd Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn gorfod dilyn y polisi Cefnogaeth ac Ymyriadau ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.
1.16
Ystyrir pryderon ynghylch addasrwydd yr athro dan hyfforddiant i addysgu gan ddefnyddio’r Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.
1.17
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn unol â’r gofynion achredu ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru a gofynion Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd sef y corff sy’n monitro ac yn cynghori sefydliadau ynghylch safonau ac ansawdd.