Rheoliadau Asesu ar gyfer y PhD Integredig (1 + 3)
Egwyddorion Asesu Cyffredinol Yr Elfen Meistr
Mae rheoliadau’r Ddoethuriaeth mewn Athroniaeth (Integredig) yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymgymryd â gradd Meistr a’i chwblhau a symud ymlaen i PhD, gan dderbyn dau ddyfarniad: MSc a PhD.
Rheolau Asesu Cyffredinol ar gyfer Dyfarnau Graddau Meistr a Addysgir (Hyblyg) o fewn Y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol
Elfen Doethuriaeth: Cyflwyno’r Traethawd Ymchwil
Mae'r adran hon yn darparu dolenni i wybodaeth gyffredinol am raglenni ôl-raddedig Meistr a Addysgir. Er gwybodaeth a hwylustod, darparwyd hyperddolenni i wybodaeth berthnasol.
Cyflwyno Marciau ar gyfer Dyfarniad
Apeliadau yn erbyn penderfyniadau
Gall myfyrwyr sy'n methu cymhwyso i symud ymlaen wneud cais am adolygiad o benderfyniad y Bwrdd, yn unol â Gweithdrefn Apeliadau a/neu Weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol, a gyhoeddir yn y Canllaw Academaidd hwn.
Rheolau Asesu Cyffredinol: Graddau Meistr a Addysgir Hyblyg G1-G10
Mae'r rheolau a'r rheoliadau canlynol yn berthnasol i gydran Meistr y rhaglen:
G1
Y marc pasio ar gyfer modiwlau fydd 50%. Dyfernir credydau i ymgeiswyr sy'n pasio modiwl (mae rheoliadau digollediad yn berthnasol).
G2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 180 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad gradd. Cyfrifir dosbarthiad cyffredinol y radd ar sail cyfanswm pwysiad credydau pob modiwl a astudiwyd.
G3
Fel arfer, gwneir penderfyniadau ynghylch dilyniant ymgeiswyr amser llawn ar ddiwedd pob semester astudio, sy'n cynnwys cyfnod cyfle atodol. Gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarniadau ar ddiwedd y trydydd semester a chânt eu cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol. Caiff dilyniant myfyrwyr rhan-amser ei gadarnhau ar ddiwedd y flwyddyn.
G4
Gall Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau 'craidd' ar gyfer rhaglenni unigol fel y bo'n briodol. Mae'n rhaid pasio'r modiwlau hyn â marc o 50% neu’n uwch cyn y caiff ymgeisydd symud ymlaen. Mae’n rhaid i’r modiwlau ‘craidd’ ar gyfer pob rhaglen gael eu hamlygu yn llawlyfrau Cyfadrannau/Ysgolion, mewn llenyddiaeth arall Cyfadrannau/Ysgolion ac ar feddalwedd asesu'r Brifysgol. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion nodi na ellir dyfarnu methiannau a ddigolledir ar gyfer modiwlau 'craidd.' Rhaid i'r Cyfadrannau/Ysgolion fonitro perfformiad ymgeiswyr yn y modiwlau 'craidd.' Dylid ystyried modiwl sy'n cynnwys darn(au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, oherwydd ei natur, yn fodiwl 'craidd,' a phennir marc pasio o 50% ar gyfer yr holl fodiwlau hyn.
G5
Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i ymgeiswyr amser llawn sy'n methu modiwl roi un cynnig arall arno i wneud iawn am eu methiant ym mhob modiwl o'r fath, ar yr amod y gellir cyflawni hyn o fewn y terfyn amser ar gyfer y radd.
G6
Bydd ymgeisydd amser llawn sydd wedi cael caniatâd i gwblhau modiwl(au) amgen yn lle'r un a fethwyd yn gymwys ar gyfer y marc wedi'i gapio yn unig a chaniateir un ymgais yn unig i lwyddo yn y modiwl (codir ffi).
G7
Os yw ymgeiswyr yn bodloni'r arholwyr mewn ymgais i wneud iawn am fethiant, ni fyddant yn gymwys am farc uwch na'r trothwy wedi'i gapio o 50% ym mhob modiwl, waeth beth yw lefel eu perfformiad. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio/marc gorau wrth bennu'r marc cyfartalog ar gyfer y dyfarniad.
G8
Gall y Bwrdd Arholi ganiatáu methiant a oddefir mewn hyd at 30 credyd i ymgeiswyr sy’n gwneud ail ymgais, ar yr amod bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Nid yw’r modiwlau maent wedi'u methu wedi’u dynodi cyn hynny yn 'fodiwlau craidd' ar gyfer y rhaglenni dan sylw (gweler rheol asesu gyffredinol G4).
- Nid yw’r marciau mewn UNRHYW fodiwl yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a ddigolledir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
- Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
- Mae'r modiwlau yn ail ymgais.
*Mae marc islaw 40% yn golygu na chaniateir digolledu.
Gall ymgeiswyr sy'n gymwys am ddigolledu ar yr ymgais gyntaf, sy'n dymuno hepgor eu hawl i ailsefyll y modiwlau a fethwyd, gyda chaniatâd eu Cyfadran/Ysgol, gyflwyno cais am ddigolledu o fewn 10 niwrnod i gael hysbysiad swyddogol o'u canlyniad. Rhaid i geisiadau gael eu llofnodi gan y Gyfadran/yr Ysgol a'u cyflwyno i'r Gwasanaethau Addysg i'w cymeradwyo.
G9
Os yw ymgeiswyr yn methu gwneud iawn am fodiwl a fethwyd ar yr ail gynnig (digolledu’n berthnasol), bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol ac ni chânt symud ymlaen i'r elfen Doethuriaeth. Ni fydd ymgeiswyr o’r fath yn cael cyfle arall i gwblhau eu rhaglen astudio ac ni chânt eu hystyried am ddyfarniad ond cymhwyster ymadael. Ni chaiff ymgeiswyr y gofynnir iddynt adael y Brifysgol gyfle arall i wneud yn iawn am fodiwlau a fethwyd ac ni chaniateir iddynt drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd rhaid iddynt derfynu eu hastudiaethau. Fel arfer, os yw ymgeisydd yn cael penderfyniad "gofynnir i chi adael y Brifysgol" ni chaiff ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio, nac i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
G10
FFel arfer, dyfernir marc o 0% i ymgeiswyr nad ydynt yn ceisio gwneud iawn am fodiwlau a fethwyd yn ystod y cyfnod ailsefyll mewn modiwlau o'r fath, ac ni roddir cyfle arall iddynt wneud yn iawn am y methiant. Fodd bynnag, bydd yr egwyddor marc gorau'n berthnasol lle bynnag mae marc uwch yn cael ei ennill. Defnyddir yr egwyddor marc gorau o fewn sesiwn academaidd yn unig.
Rheolau Asesu Cyffredinol: Graddau Meistr a Addysgir Hyblyg G11-19
G11
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, caiff ymgeiswyr sy'n methu gwneud iawn am eu modiwl(au) oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'w Cyfadran/Ysgol, eu hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir rhoi un cyfle arall i ymgeiswyr o'r fath ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
G12
Gellir caniatáu i ymgeisydd ar y rhaglen PhD integredig (1+3) gyflwyno gwaith a aseswyd eisoes fel rhan o'r elfen Meistr (naill ai'r gwaith cyfan, neu ran ohono neu fersiwn ddiwygiedig) ar gyfer yr elfen Doethuriaeth, lle ceir cysylltiad amlwg, wedi'i brofi, rhwng yr asesiad.
G13
Ni fydd ymgeiswyr yn cael ail-wneud unrhyw fodiwl a basiwyd, nac ychwaith wneud iawn am fethiant sydd wedi cael ei ddigolledu, er mwyn gwella eu perfformiad.
G14
Tybir bod ymgeisydd sy'n absennol yn ystod rhan o arholiad ysgrifenedig neu'r arholiad cyfan (neu sy'n methu cyflwyno prosiectau neu waith cwrs erbyn dyddiad a bennwyd) wedi methu'r modiwl dan sylw. Yn achos ymgeiswyr na allant sefyll arholiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu llofnodi gan y Gyfadran/Ysgol perthnasol a'u cyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg i'w cymeradwyo. Bydd rhaid i ymgeiswyr y caniateir iddynt ohirio sefyll yr arholiadau yn y cyfnod arholiadau nesaf sydd wedi'i amserlennu ar gyfer y modiwl(au) dan sylw.
G15
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 60% o leiaf, a llai na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan, yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.
G16
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys am ddyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.
G17
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau elfen Gradd Meistr y rhaglen i fod yn gymwys i symud ymlaen yn ffurfiol i'r elfen Doethuriaeth. Caniateir i ymgeiswyr gofrestru dros dro ar yr elfen Doethuriaeth nes iddynt gwblhau'r elfen Meistr. Bydd ymgeiswyr sy'n cofrestru dros dro ac wedyn yn methu'r elfen Meistr yn cael eu diarddel o'r rhaglen PhD.
Bydd ymgeiswyr sy'n gwneud iawn am fethiannau drwy astudio modiwlau amgen yn cael eu goruchwylio'n fanwl gan eu Cyfadran/Ysgol.
G18
Fel arfer, bydd y rheolau a amlinellir yn y Rheolau Penodol yn dylanwadu ar y Byrddau Semester wrth iddynt benderfynu ar ddilyniant ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl y bydd ganddynt hawl i ailsefyll arholiadau atodol neu ganiatâd awtomatig i barhau. Gall y Bwrdd ystyried amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn penderfynu ar ddilyniant.
G19
Gall Cyfadrannau/Ysgolion sy'n ddarostyngedig i achrediad proffesiynol ddefnyddio rheolau dilyniant llymach os yw'r Corff Achredu Proffesiynol yn mynnu bod rheolau o'r fath yn cael eu defnyddio fel amod achredu'r rhaglen. Bydd y rheol lymach yn cael ei defnyddio at ddibenion achredu yn unig. Dylid hysbysu myfyrwyr o ofynion ychwanegol yn llawlyfrau'r Cyfadrannau/Ysgolion.
Rheolau Asesu Cyffredinol: Graddau Meistr a Addysgir Hyblyg G20-28
G20
Os yw ymgeiswyr yn methu cwblhau'r rhaglen a/neu'n tynnu'n ôl o'r Brifysgol, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd ganddynt, efallai y bydd ganddynt hawl i gymhwyster ymadael.
G21
Dylai cymwysterau ymadael a roddir i fyfyrwyr â methiannau a ddigolledir gael eu henwi.
G22
Bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys i dderbyn y dyfarniad priodol "â theilyngdod" os ydynt wedi pasio'r nifer gofynnol o gredydau ac wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol nad yw'n llai na 60% ac nad yw'n uwch na 69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
G23
Bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys am y dyfarniad priodol "â Rhagoriaeth" os ydynt wedi astudio'r nifer gofynnol o gredydau a addysgir, gan ennill marc cyffredinol o 70% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
G24
Nid yw'r rheolau dilyniant yn berthnasol i fyfyrwyr ymweld a myfyrwyr cyfnewid. Fodd bynnag, dylid rhoi cyfle i fyfyrwyr o'r fath wneud iawn am fethiannau, fel arfer drwy ailsefyll arholiadau, ond mewn amgylchiadau penodol, drwy ddulliau asesu eraill y mae'r Gyfadran wedi cytuno arnynt.
G25
Os nad yw ymgeiswyr yn cyflwyno eu darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau, bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol ac efallai byddant yn gymwys am ddyfarniad ymadael. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.
G26
Os yw ymgeiswyr yn cyflwyno eu darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau ond yn methu ennill marc pasio, gellir rhoi cyfle arall iddynt ailgyflwyno yn unol â'r terfyn amser priodol. Bydd marciau am ailgyflwyno’n cael eu capio ar 50%.
Dull Astudio | |
---|---|
AMSER LLAWN/ RHAN-AMSER | fel arfer* 3 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol) |
*Gall Cyfadrannau/Ysgolion bennu cyfnodau ailgyflwyno byrrach os yw'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd wedi'i rannu'n fodiwlau gwerth llai na 60 o gredydau. Dylai llawlyfr y Gyfadran/Ysgol nodi hyn yn glir i fyfyrwyr.
G27
Os nad yw ymgeiswyr yn gallu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, gallant wneud cais am estyniad i'r dyddiad cau yn unol â rheoliadau'r Brifysgol, ac o fewn terfynau diffiniedig ymgeisyddiaeth y rhaglen.
G28
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi ffi am ailarholi'r gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno.
RHEOLAU PENODOL
Rheolau Penodol I'w Defnyddio yng Nghyfarfod Bwrdd Semester Un ac ar Gyfer Ymgeiswyr Rhan-Amser Gan Fwrdd Diwedd y Flwyddyn, Yng Nghanol eu Hastudiaethau
S1
Caniateir i ymgeiswyr sy'n pasio'r holl gydrannau modiwl/modiwlau a bennir barhau â'u hastudiaethau.
S2
Gellir rhoi cyfle i ailsefyll arholiad neu gwblhau asesiad atodol i ymgeiswyr sy'n methu modiwl. Rhoddir marc o 0% i ymgeiswyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll.
S3
Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi gwneud iawn am unrhyw gydran y methwyd ynddi/cydrannau y methwyd ynddynt yn cael eu capio ar 50%.
Rheolau Penodol I'w Defnyddio ar Gyfer Ymgeiswyr Rhan-Amser Gan Fwrdd Atodol Diwedd y Flwyddyn, Yng Nghanol eu Hastudiaethau
S1
Caniateir i ymgeiswyr sy'n pasio'r holl gydrannau modiwl/modiwlau a bennir barhau â'u hastudiaethau.
S2
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy'n methu unrhyw fodiwl ar yr ail ymgais dynnu'n ôl o'r Brifysgol (digolledu’n berthnasol). Gall ymgeiswyr o'r fath gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael.
S3
Mae gan bob ymgeisydd a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol yr hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau Gyhoeddediga/neu Weithdrefn Apelio’r Brifysgol.
Rheolau Penodol I'w Defnyddio Gydag Ymgeiswyr Amser Llawn Gan Fwrdd Semester Dau
S1
50% fydd y marc llwyddo.
S2
Gall ymgeiswyr, ar eu hail ymgais, gael eu digolledu mewn hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Nid yw’r modiwlau maent wedi'u methu wedi’u dynodi cyn hynny yn “fodiwlau craidd” ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol asesiad gyffredinol G4).
- Nid yw’r marciau mewn UNRHYW fodiwl yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a ddigolledir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
- Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
- Mae'r modiwlau yn ail ymgais.
* Mae marc islaw 40% yn golygu na chaniateir digolledu.
S3
Gellir caniatáu i ymgeiswyr sy'n methu modiwl ar yr ymgais gyntaf ailsefyll neu gwblhau asesiad atodol. Rhoddir marc o 0% i ymgeiswyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll.
S4
Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll cydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%.
S5
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu modiwl ar yr ail ymgais (digolledu’n berthnasol) dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Gellir ystyried ymgeiswyr o'r fath am ddyfarniad ymadael.
S6
Mae gan bob ymgeisydd sy'n cael ei ddiarddel o'r Brifysgol hawl i apelio yn unol â Gweithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol a/neu ei Gweithdrefn Apeliadau.
S7
Bydd ymgeiswyr sy'n cyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddwyd yn ddarostyngedig i reoliadau asesu S7-S10 o dan yr adran isod "Rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen."
Rheolau Ar Gyfer Dyfarnu Graddau Meistr A Addysgir (Hyblyg)
Rheolau Penodol ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd yr elfen Meistr.
S1
50% fydd y marc pasio.
S2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad gradd. Cyfrifir dosbarthiad cyffredinol y radd ar sail cyfanswm pwysiad credydau pob modiwl a astudiwyd.
S3
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60 a 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.
S5
Gall ymgeiswyr, ar eu hail ymgais, gael eu digolledu mewn hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Nid yw’r modiwlau maent wedi'u methu wedi’u dynodi cyn hynny yn 'fodiwlau craidd' ar gyfer y rhaglen benodol (gweler rheol asesiad cyffredinol G4).
- Nid yw’r marciau mewn UNRHYW fodiwl yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a ddigolledir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
- Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
- Mae'r modiwlau yn ail ymgais.
*Mae marc islaw 40% yn golygu na chaniateir digolledu.
S6
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni gofynion S2 yn methu cymhwyso am y dyfarniad. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, fel arfer bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd sefyll arholiadau neu asesiadau atodol ym mhob modiwl lle mae wedi methu ar yr ymgais gyntaf am farc wedi'i gapio o 50%. Bydd myfyrwyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll modiwl a fethwyd yn cael marc o 0%.
S7
Os nad yw ymgeiswyr yn cyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, neu elfen gymeradwy gyfatebol erbyn y dyddiad cau, bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol a gallant fod yn gymwys am ddyfarniad ymadael. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.
S8
Os yw ymgeiswyr yn methu'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu elfen gyfatebol gymeradwy a chaniateir iddynt ailgyflwyno, bydd y cyfnodau amser canlynol i ailgyflwyno yn berthnasol. Caiff marciau ailgyflwyno eu capio ar 50%.
Dull Astudio | Ailgyflwyno |
---|---|
AMSER LLAWN | 3 mis* fel arfer (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol) |
RHAN-AMSER | 6 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol) |
*Gall Cyfadrannau/Ysgolion bennu cyfnodau ailgyflwyno byrrach os yw'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd wedi'i rannu'n fodiwlau gwerth llai na 60 o gredydau. Dylai llawlyfr y Gyfadran/Ysgol nodi hyn yn glir i fyfyrwyr.
S9
Cydnabyddir y gall rhai ymgeiswyr fethu'r modiwlau dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a'r modiwlau a addysgir ar yr ymgais gyntaf. Caiff ymgeiswyr o'r fath un cyfle i ailgyflwyno'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (yn unol â'r rheoliadau uchod) ac un cyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir/lleoliad gwaith.
S10
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu modiwl ar yr ail ymgais dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Gellir ystyried ymgeiswyr o'r fath ar gyfer dyfarniad ymadael priodol, yn amodol ar ofynion y Corff Proffesiynol.
Tystysgrif Ôl-raddedig |
|
---|---|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
Diploma Ôl-raddedig |
|
Diploma Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Diploma Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau llymach ar gyfer gwneud yn iawn am fethiant oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol/Noddi.
S11
Mae gan bob ymgeisydd a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd a/neu Weithdrefn Apeliadau'r Brifysgol.
Rheolau Penodol y Dyfarniad - Bwrdd Atodol
S1
50% fydd y marc pasio.
S2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad gradd. Cyfrifir dosbarthiad cyffredinol y radd ar sail cyfanswm pwysiad credydau pob modiwl a astudiwyd.
S3
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60 a 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.
S5
Gall ymgeiswyr, ar eu hail ymgais, gael eu digolledu mewn hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Nid yw’r modiwlau maent wedi'u methu wedi’u dynodi cyn hynny yn 'fodiwlau craidd' ar gyfer y rhaglen benodol (gweler rheol asesiad gyffredinol G4).
- Nid yw’r marciau mewn UNRHYW fodiwl yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a oddefir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
- Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
- Mae'r modiwlau yn ail ymgais.
* Mae marc islaw 40% yn golygu na chaniateir digolledu.
S6
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu modiwl ar yr ail ymgais (digolledu’n berthnasol) dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Gellir ystyried ymgeiswyr o'r fath ar gyfer dyfarniad ymadael priodol, yn amodol ar ofynion y Corff Proffesiynol.
Tystysgrif Ôl-raddedig |
|
---|---|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
Diploma Ôl-raddedig |
|
Diploma Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Diploma Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau llymach ar gyfer gwneud yn iawn am fethiant oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol/Noddi.
S7
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, caiff ymgeiswyr sy'n methu gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cyfle cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'w Gyfadran eu hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniau'r Brifysgol, gellir rhoi un cyfle arall i ymgeiswyr o'r fath ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
S8
Mae gan bob ymgeisydd a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol a/neu'r Weithdrefn Apeliadau.