Polisi Addasiad Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Asesu
1. Rhagarweiniad
1.1
Mae Prifysgol Abertawe'n ymroddedig i ddarparu amgylchedd cynhwysol sy'n galluogi'r holl fyfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn. Mae gan y Brifysgol ystod eang o ddarpariaeth i gefnogi myfyrwyr anabl gan gynnwys cymorth arbenigol, cymorth drwy adrannau academaidd ac ysgolion, a pholisïau a gweithdrefnau priodol.
1.2
Caiff y polisi ei gefnogi gan y gweithdrefnau yn y ddogfen hon a nifer o Godau Ymarfer a gweithdrefnau gweithredol cysylltiedig sydd naill ai wedi'u hatodi i'r polisi hwn neu y cyfeirir atynt ynddo, gan gynnwys:
• Rheoliadau Academaidd Asesu a Chynnydd Myfyrwyr
• Côd Ymarfer ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu
• Polisi Asesu ac Adborth (darperir dolen)
• Arweiniad Cydlynwyr Modiwl, hunan-gofrestru: https://canvas.swansea.ac.uk/enroll/8LTWRD
1.3
Mae'r Brifysgol wedi nodi'n glir ei hymrwymiad i sicrhau bod dysgu ac addysgu'n hollol gynhwysol a hygyrch i'r holl fyfyrwyr yn ei Strategaeth Dysgu ac Addysgu (2019 - 2024). Mae'r polisi hwn yn rhan uniongyrchol o gylch gorchwyl a rhesymeg amcan 1 y strategaeth:
“Amcan 1: Bydd myfyrwyr yn elwa o ddysgu hyblyg a chynhwysol, wedi'i bersonoli â chymorth cymunedau dysgu.”
2. Diben
2.1
Mae'r polisi hwn yn nodi sut mae'r Brifysgol yn bodloni ei rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae'n nodi ymagwedd y Brifysgol at gefnogi myfyrwyr anabl ac yn ffurfioli meysydd cyfrifoldeb. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar staff i gymryd camau rhesymol, sy'n cael eu hadnabod fel Addasiad(au) Rhesymol, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr anabl yn gallu cyfranogi'n llawn yn eu haddysg. Addasiadau Rhesymol yw camau gweithredu a gymerir i ddileu rhwystrau a wynebir gan fyfyrwyr ag anabledd fel y gallant gyfranogi mewn addysg ar yr un sail â myfyrwyr nad oes anabledd ganddynt.
2.2
Diben y polisi hwn yw sicrhau nad yw myfyrwyr anabl yn cael eu gosod dan anfantais sylweddol yn ystod addysgu ac asesu o'u cymharu â myfyrwyr nad ydynt yn anabl. Rhaid i'r Brifysgol gymryd camau rhesymol i osgoi anfantais megis dileu rhwystrau i ddysgu ac asesu gwrthrychol. Diffinnir anfantais sylweddol gan y Ddeddf Cydraddoldeb fel un sy'n fwy na "minor” neu “trivial".
Y polisi:
- Mae'n nodi'r gofyniad cyfreithiol am addasiadau rhesymol mewn arferion dysgu ac asesu ym Mhrifysgol Abertawe.
- Mae'n nodi'r prosesau a'r gweithdrefnau ffurfiol sy'n rhan o wneud addasiadau rhesymol ym Mhrifysgol Abertawe.
- Mae'n esbonio rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n gwneud addasiadau rhesymol ym Mhrifysgol Abertawe.
3. Cwmpas
3.1
Mae'r polisi hwn yn mynd i'r afael â phob agwedd ar gymorth i ymgeiswyr a myfyrwyr anabl ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n berthnasol i'r holl fyfyrwyr (pob lefel astudio, gan gynnwys Ymchwil Ôl-raddedig) ym mhob math o astudio ym Mhrifysgol Abertawe ym mhob lleoliad astudio sy'n arwain at gredydau neu ddyfarniadau'r Brifysgol, gan gynnwys myfyrwyr sy'n astudio dan drefniadau partneriaeth.
3.2
Mae'r gweithdrefnau a nodir yn y ddogfen hon yn berthnasol i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.
3.3
Mae'r polisi hefyd yn cynnwys y myfyrwyr hynny sy'n datblygu'n anabl neu'n dod yn ymwybodol o'u hanabledd yn ystod eu cwrs astudio; serch hynny, nid yw addasiadau rhesymol fel arfer yn cael eu defnyddio'n ôl-weithredol.
4. Diffiniad o dermau
4.1
Addasiadau Rhesymol - rhaid i ddarparwyr gwasanaethau a phobl sy'n ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus ragweld anghenion pobl anabl a gwneud addasiadau rhesymol priodol. (Deddf Cydraddoldeb 2010 - Nodiadau Esboniadol, legislation.gov.uk) gan gynnwys darpariaethau i leihau effaith rhwystrau a wynebir yn gyffredin gan fyfyrwyr anabl. Mae hyn yn cynnwys polisïau ac arferion sefydledig megis rhoi amser ychwanegol mewn arholiadau ac addasiadau ffisegol megis darparu llety hygyrch a mannau parcio i fathodynnau glas.
4.2
Myfyriwr Anabl - yr holl fyfyrwyr ag anabledd fel a ddiffinnir gan y Ddeddf Cydraddoldeb (gweler Atodiad A). Gall hyn gynnwys, myfyrwyr â chyflyrau iechyd meddwl, anawsterau dysgu penodol, cyflyrau iechyd hirdymor, nam symudedd, nam gweledol, nam ar y clyw a myfyrwyr ar y sbectrwm awtistig, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.
4.3
Deddf Cydraddoldeb - O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae dyletswydd ar sefydliadau i ragweld a gwneud addasiadau rhesymol i bobl anabl i sicrhau nad ydynt dan anfantais sylweddol o'u cymharu â phobl heb anabledd. Mae dyletswydd ar sefydliadau hefyd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng pobl anabl a'r rhai nad ydynt yn anabl, a gelwir hyn yn ddyletswydd cyffredinol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar bob darparwr addysg uwch i beidio â gwahaniaethu yn erbyn myfyrwyr anabl. At ddiben y polisi hwn, byddwn yn defnyddio'r diffiniad o anabledd a geir yn y Ddeddf Cydraddoldeb, sef:
“A person has a disability if they have a physical or mental impairment, and the impairment has a substantial and long-term adverse effect on his or her ability to carry out normal day-to-day activities’ (Adran 6 y Ddeddf).”
Mae'r Ddeddf yn gosod cyfrifoldeb ar Brifysgolion i wneud 'addasiadau rhesymol' ar gyfer myfyrwyr anabl mewn perthynas â darpariaeth, maen prawf neu arfer, megis dulliau addysgu ac asesu.
4.4
Ymagweddau cynhwysol - ymagweddau sy'n ystyried anghenion myfyrwyr anabl fel rhan o'r corff myfyrwyr ehangach. Mae ymagweddau cynhwysol sy'n diwallu anghenion myfyrwyr anabl hefyd yn debygol o ddiwallu anghenion grwpiau eraill o fyfyrwyr. Er enghraifft, gall recordio darlithoedd fod o fantais i fyfyrwyr rhyngwladol hefyd.
5. Rolau a Chyfrifoldebau
Mae'r adran hon yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau meysydd allweddol y Brifysgol. Nid yw'n bwriadu rhoi manylion gweithredol am y cyfrifoldebau hyn.
5.1
Prifysgol:
a) Cynnal Gwasanaeth Lles a Swyddfa Anableddau canolog yn y Gwasanaethau Myfyrwyr i gysylltu â Chyfadrannau ar ran myfyrwyr.
b) Sicrhau bod rhwymedigaeth gyfreithiol y Brifysgol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol yn cael ei bodloni.
c) Cynnal cyfrinachedd a sicrhau bod gwybodaeth sensitif yn cael ei rhannu mewn modd priodol, a'i chyfyngu i'r bobl hynny y mae angen arnynt ei chyrchu.
d) Rhoi cymuned ymarfer i staff sy'n cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, gwahaniaethau dysgu, salwch cudd, a chyflyrau meddygol hirdymor.
e) Sicrhau bod system monitro a chofnodi briodol ar gael i'r Cyfadrannau/Ysgolion, y Swyddfa Anableddau a'r Gwasanaeth Lles.
5.2
Cyfadrannau/Ysgolion:
Bydd y Deon Gweithredol a'r Pennaeth Gweithrediadau'n sicrhau'r canlynol:
a) Bod rolau Cydlynydd Academaidd ac Anabledd Gweinyddol ym mhob Cyfadran/Ysgol yn cael eu gwneud gan aelodau staff priodol; Bod adnoddau staff a roddir i gefnogi myfyrwyr ag anableddau'n gyfatebol i nifer y myfyrwyr ag anableddau a chymhlethdod anghenion unigol.
b) Bod pwynt cyswllt cyntaf clir i gael cyngor a chymorth yn y Gyfadran/Ysgol ar gyfer myfyrwyr ag anabledd ar lefel Cyfadran a/neu adran (gweinyddol/academaidd).
c) Yn absenoldeb Cydlynydd Anableddau Academaidd, bydd Cyfarwyddwyr Rhaglen yn ymateb i ymholiadau ar gyfer addasiadau academaidd i fyfyrwyr ag anableddau.
d) Bydd y Cydlynwyr Gweinyddol ac Anabledd Academaidd hefyd yn cymryd rhan ac yn rhan o'r gymuned ymarfer er mwyn rhannu gwybodaeth ac arferion da a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am y mentrau diweddaraf yn genedlaethol ac yn y brifysgol.
e) Disgwylir i'r Cydlynwyr Gweinyddol ac Anabledd Academaidd fynd i sesiynau DPP perthnasol.
5.3
Cyfrifoldebau Manwl:
Cydlynwyr Anabledd Academaidd - aelodau staff academaidd yw'r rhain sy'n gyfrifol am sicrhau bod staff academaidd a gweinyddol perthnasol yn ymwybodol o anghenion cefnogi myfyrwyr ac am gydlynu cymorth yn y Gyfadran. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am gysylltu â'r Swyddfa Anableddau pan fydd angen am briodoldeb addasiadau rhesymol unigol. (Gweler Atodiad F ar gyfer Disgrifiad Swydd y CA.)
Cydlynwyr Anableddau Academaidd - mae'r rhain yn aelodau staff proffesiynol sy'n gyfrifol am roi cymorth gweinyddol i'r Cydlynydd Anableddau Academaidd drwy ddirprwyo tasgau. Erys y cyfrifoldeb cyffredinol am y swyddogaeth gyda'r Cydlynydd Anableddau Academaidd. (Dolen i'r Côd Ymarfer: Arweiniad ar Addasiadau Rhesymol.)
Mae'r holl Staff Addysgu yn gyfrifol am roi addasiadau rhesymol perthnasol a nodir ym mhro fforma'r myfyriwr ar waith. Mae Cydlynwyr Modiwl yn gyfrifol am wirio pa fyfyrwyr ar y modiwl sy'n gofyn am addasiadau rhesymol a sicrhau bod y staff addysgu ar y modiwl yn ymwybodol o ofynion y myfyrwyr hyn. (Mae'r wybodaeth hon ar gael drwy adroddiadau ar System Rheoli Anableddau'r Coleg Ar-lein).
Mae Penaethiaid Unedau Academaidd yn gyfrifol am sicrhau bod Cydlynwyr Anableddau Academaidd ar gael yn yr adran ac ar gyfer iechyd a diogelwch myfyrwyr anabl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Cynllun Personol Dianc mewn Argyfwng yn cael ei roi i bob myfyriwr anabl y mae angen un arno. Mae Penaethiaid Adrannau Academaidd hefyd yn gyfrifol am sicrhau y cytunir ar ymagweddau rhagweledol bob blwyddyn a bod ymagweddau cynhwysol ac addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer asesiadau a drefnwyd yn yr adran, gan gynnwys profion yn y dosbarth.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglen yn gyfrifol am adolygu cwricwlwm eu rhaglenni a nodi ymagweddau cynhwysol priodol. Yn ogystal, maen nhw'n gyfrifol am sicrhau bod deunyddiau dysgu ac addysgu ac ymarferion yn eu hadrannau'n hygyrch ac yn diwallu anghenion penodol myfyrwyr anabl. Yn olaf, maen nhw'n gyfrifol am sicrhau bod eu staff yn ymwybodol o'r polisi hwn.
Mae'r Cyfarwyddwr Ystadau yn gyfrifol am sicrhau bod campws y Brifysgol, gan gynnwys holl adeiladau'r Brifysgol, yn ffisegol hygyrch a bod offer hygyrchedd a chelfi ergonomig yn cael eu rheoli'n effeithiol. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau'r campws, megis parcio ac arlwyo, yn hygyrch.
Mae'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth yn gyfrifol am strategaeth y Brifysgol o ran myfyrwyr anabl, gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Cydraddoldeb a rheoleiddio'r adnoddau cysylltiedig i ariannu cymorth ar gyfer myfyrwyr anabl.
5.4
Cyfrifoldebau'r Myfyriwr:
a) Datgelu anabledd a/neu gyflwr meddygol cyn gynted â phosib.
b) Cofrestru gyda'r gwasanaeth priodol a sicrhau bod cymorth priodol ar waith cyn gynted â phosib yn y flwyddyn academaidd.
c) Rhoi manylion cyswllt cyfoes i'r Swyddfa Anableddau/Gwasanaeth Lles, cadw apwyntiadau, cyrraedd ar amser, a rhoi gwybod i'r gwasanaethau cyn gynted â phosib os nad ydych yn gallu mynd.
d) Rhoi tystiolaeth feddygol gyfoes a/neu asesiad seicolegydd addysg a/neu asesiad angen pan fydd angen.
e) Rhoi gwybod i'r Swyddfa Anableddau/Gwasanaeth Lles am newidiadau i amgylchiadau a allai effeithio ar lefel y cymorth sydd ei angen.
f) Cael mynediad at y cymorth a argymhellir ac ymgysylltu ag ef.
g) Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich astudiaethau ar ôl i gefnogaeth addas gael ei rhoi yn ei lle.
h) Rhoi adborth ar brofiadau i wella gwasanaeth ac ymarferion. (Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Siarter Myfyrwyr - Prifysgol Abertawe.)
i) Cwrdd â'r Swyddfa Arholiadau o ran arholiadau wyneb yn wyneb.
j) Trin staff y gwasanaeth â pharch yn unol â rheoliadau a chodau ymddygiad y Brifysgol.
6. Nodi a Gweithredu Addasiadau Rhesymol
Mae'r Swyddfa Anableddau a'r Gwasanaeth Lles yn darparu set o Addasiadau Rhesymol a argymhellir i ddysgu, addysgu ac asesu ar gyfer myfyrwyr unigol, yn seiliedig ar asesiad annibynnol a thystiolaeth feddygol neu dystiolaeth berthnasol arall. Cofnodir yr anghenion hyn yn y rhestr mynediad wedi'i reoli o fyfyrwyr presennol ag anableddau sy'n cael ei rheoli a'i chynnal gan Gydlynwyr Anabledd Gweinyddol a Chydlynwyr Anabledd Academaidd pob Cyfadran. Cynhelir rhestr o'r Cydlynwyr Anabledd presennol gan y Swyddfa Anableddau.
Penderfynir ar bob Addasiad Rhesymol fesul achos, yn seiliedig ar dystiolaeth a chan gyfeirio at arferion y DU.
7. Safonau Cymhwysedd ac Addasiadau Rhesymol
Mae safonau cymhwysedd yn safonau academaidd, meddygol neu rai eraill y mae eu hangen ar gyfer y rhaglen ac maent yn cael eu pennu gan gyrff achredu allanol sy'n cymeradwyo addasiadau rhesymol i safonau cymhwysedd.