Rheoliadau Asesu Gradd Meistr Mewn Osteopatheg
Rheoliadau Asesu yn Arwain at Ddyfarnu Gradd Meistr Mewn Osteopatheg (Gradd Cychwynnol Uwch).
Rheoliadau Cyffredinol
G1
Y marc Llwyddo ar gyfer modiwlau ar Lefelau 4 i 6 bydd 40%. Y marc llwyddo ar gyfer modiwlau Lefel 7 bydd 50%. Caiff credydau dim ond eu dyfarnu i ymgeiswyr sy'n pasio pob cydran o fodiwl ac sy'n cwrdd â'r gofynion isod. Mewn rhai achosion, gall y Gyfadran/Ysgol gosod marc llwyddo uwch ar gyfer modiwlau neu gydrannau modiwlau. Caiff y wybodaeth hon i gyd ei hargraffu yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
G2
Er mwyn symud ymlaen o un lefel i'r llall, rhaid i ymgeisydd gasglu 120 o gredydau drwy basio modiwlau â marc o 40% (50% ar gyfer modiwlau Lefel 7) neu'n well ym mhob modiwl.
G3
Gall pob modiwl yn y rhaglen fod â sawl cydran asesu. Mae'r Gyfadran/Ysgol yn ystyried pob cydran o fodiwl(au) yn 'graidd" (h.y. rhaid ei basio cyn y gall ymgeisydd symud ymlaen o un Lefel i'r llall). Os yw myfyriwr yn methu unrhyw gydran asesu, ystyrir bod y modiwl wedi'i fethu er gwaethaf y marc cyfartalog cyffredinol ac ni ddyfernir unrhyw gredydau.
G4
Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion ymgysylltu ac asesu'r holl fodiwlau ac ennill cyfanswm o 120 o bwyntiau credyd fan leiaf.
G5
I gydymffurfio â Rheoliadau Cyrff Proffesiynol a chanllawiau cenedlaethol, ni chaniateir cydadfer mewn modiwlau.
G6
Bydd rhaid i fyfyriwr llawn-amser gwblhau lefel astudio o fewn uchafswm o ddwy sesiwn academaidd, yn amodol i gyfyngiadau amser y radd.
G7
Bydd rhaid i fyfyrwyr sy'n methu â phasio un gydran neu ragor o fodiwl wneud yn iawn am y methiant/methiannau. Bydd myfyrwyr sy'n llwyddo i wneud yn iawn am gydran(nau) o fodiwl a fethwyd ar lefelau 5 a 6 yn derbyn marc wedi'i gapio o 40% am y gydran (50% ar Lefel 7 neu farc pasio uwch am y gydran, os yw'n berthnasol).
Ni chaiff marciau ymgeiswyr eu capio ar Lefel 4.
G8
Ni fydd hawl gan ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso i symud ymlaen o un Lefel Astudio i’r nesaf ddewis ailadrodd unrhyw fodiwl a basiwyd eisoes er mwyn gwella eu perfformiad.
G9
Bydd Rhaid i ymgeiswyr llawn-amser gwblhau lefel astudio o fewn uchafswm o ddwy sesiwn academaidd. Yn ôl doethineb y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, caiff ymgeiswyr nad oes ganddynt ddigon o gredyd i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf hawl i hyd at uchafswm o dri ymgais pellach i wneud yn iawn am fethiannau yn y modiwlau er mwyn gallu cwblhau'r lefel astudio. Rhaid i'r ceisiadau hyn ddigwydd o fewn dwy sesiwn academaidd. (Yn achos modiwl Lefel 7, dim ond un ymgais i wneud yn iawn am fethiant a ganiateir.) Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl bod ganddynt hawl i dderbyn y nifer uchaf o gyfleoedd i wneud yn iawn am fethiant.
G10
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn eu Blwyddyn Olaf y mae angen iddynt ailadrodd y Lefel Astudio, yn fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd eisoes yn awtomatig. Ni ellir defnyddio marciau a enillwyd yn y flwyddyn lle y mae'r credyd wedi'i fforffedu i bennu dosbarthiad gradd yr ymgeisydd nac wrth ddyfarnu credyd. Ni chaiff marciau ymgeisydd sy'n ailadrodd blwyddyn eu capio. Fodd bynnag, ystyrir un ymgais ar asesiad wrth ailadrodd lefel astudio yn un o'r tri chyfle a roddir i wneud yn iawn am fethiant.
G11
Gall ymgeiswyr, heblaw'r rhai hynny yn y flwyddyn olaf, y mae angen iddynt ailadrodd y Lefel Astudio, wneud cais i ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig fel ymgeiswyr mewnol. Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl bod ganddynt hawl i ailadrodd modiwlau a fethwyd. Dylid gwneud cais i'r Gyfadran/Ysgol cartref erbyn 15 Medi y Flwyddyn Academaidd honno (ni chaiff unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y cyfnod hwn eu hystyried). Rhaid anfon ceisiadau ymlaen at Gwasanaethau Addysg am gymeradwyaeth derfynol. Efallai na fydd yn bosib i fyfyrwyr rhyngwladol sydd â gofynion fisa penodol ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig.
Nid oes modd i ymgeiswyr y caniateir iddynt ailadrodd modiwlau a fethwyd ailadrodd unrhyw fodiwl a basiwyd. Caiff marciau ymgeiswyr sy'n ailadrodd modiwlau a fethwyd eu capio yn unol â G7.
G12
Bydd myfyrwyr dim ond yn cael gwneud yn iawn am fodiwlau y maent wedi'u methu dros drydydd sesiwn dan amgylchiadau eithriadol. Mewn achosion o'r fath, disgwylir i'r Gyfadran/Ysgol gyflwyno cais i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, yn amlinellu'r amgylchiadau i gefnogi'r achos fel arfer, bydd ceisiadau dim ond yn cael eu hystyried os yw'r myfyriwr o fewn y nifer uchaf o geisiadau a ganiateir (rheol G9).
G13
Bydd ymgeiswyr sy'n ailadrodd lefel astudio neu sy'n ailsefyll modiwlau’n cael eu harchwilio'n agos.
G14
Yn unol â Polisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, sylweddolir na fydd pob ymgeisydd yn gallu mynychu arholiadau yn ystod y Cyfnod Asesu Canol Sesiwn neu Ddiwedd Sesiwn, e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Yn achos ymgeiswyr na all fynychu arholiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum diwrnod ar ôl yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohirio gael eu hystyried a'u cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol perthnasol a'u cyflwyno I Gwasanaethau Addysg i'w cymeradwyo. Cynghorir myfyrwyr a staff i ddarllen Polisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol.
Bydd rhaid i Ymgeiswyr nad ydynt yn eu Blwyddyn Olaf y ganiateir iddynt ohirio sefyll yr arholiadau yn y pwynt nesaf sydd wedi'i amserlennu ar gyfer y modiwlau dan sylw.
Ni fydd ymgeiswyr y caniateir iddynt ohirio ac sy'n methu â chwblhau'r lefel astudio yn dilyn yr ymgais a ohirir yn cael cyfle pellach i wneud yn iawn am y methiant tan y sesiwn nesaf.
G15
Dylai ymgeiswyr yn eu blwyddyn olaf nad ydynt yn gallu sefyll arholiad yn Semester Un, ac y caniateir gohiriad iddynt gan Gwasanaethau Addysg, sefyll yr arholiad yng nghyfnod arholiadau Semester Dau yn hytrach na chyfnod arholiadau Atodol.
G16
Ni fyddai disgwyl i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ganiatáu i ymgeisydd fynd ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf oni bai ei fod/bod wedi bodloni'r meini prawf isafswm.
G17
Bydd ymgeiswyr sy'n methu â chwblhau lefel astudio o fewn y cyfnod uchafswm o ddwy flynedd yn derbyn penderfyniad yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol.
Ni roddir unrhyw gynigion pellach i ymgeiswyr y rhoddir iddynt benderfyniad academaidd yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol wneud yn iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeisydd â phenderfyniad "yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol" yn cael ei dderbyn/derbyn eto i'r un rhaglen astudio neu i raglen debyg heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Yn dibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall myfyrwyr o'r fath fod yn gymwys am gymhwyster ymadael. Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a gafwyd ac, os yw'n berthnasol, am ddyfarnu'r cymhwyster ymadael priodol yn unol â'r tabl canlynol:
Cymhwyster Ymadael | Lleiafswm y credydau a enillwyd | Rheoliad Ychwanegol |
---|---|---|
Tystysgrif Addysg Uwch | 120 ar Lefel 4 | I gymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Rhaid bod isafswm o 60 o'r 120 credyd wedi'u dilyn yn Abertawe. |
Diploma Addysg Uwch mewn Iechyd Cymhwysol | 120 credyd ar Lefel 4 a 120 credyd ar Lefel 5 Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credydau, ni fydd y gofynion isafswm ar Lefel 4 yn berthnasol. | I gymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Rhaid bod isafswm o 120 credyd wedi'u dilyn yn Abertawe. |
BSc mewn Iechyd Cymhwysol | 120 credyd ar Lefelau 4,5, a 6. | I gymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Rhaid bod isafswm o 240 credyd wedi'u dilyn yn Abertawe. |
G18
Gall Cyfadrannau/Ysgolion sy'n amodol i achrediad proffesiynol wneud cais am reolau dilyniant mwy llym cyn belled â bod cymhwyso rheolau o'r fath yn ofynnol gan y Corff Achredu Proffesiynol fel amod achrediad ar gyfer y rhaglen. Bydd y rheol fwy llym yn gymwys at ddiben achredu yn unig. Mae'r rheoliadau ychwanegol hyn wedi'u hamlinellu'n glir i fyfyrwyr yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
Rheoliadau Penodol
Rheolau i'w cymhwyso yn Ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol diwedd blwyddyn
S1
Bydd ymgeiswyr sy'n casglu o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y Lefel briodol yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf.
S2
Bydd ymgeiswyr sy'n casglu 60 credyd neu fwy ond llai na 120 credyd, yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl doethineb y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol caniateir fel arfer i ymgeiswyr o'r fath sefyll arholiadau/asesiad atodol ar gyfer yr holl fodiwlau a fethwyd. Rhaid cyflwyno pob aseiniad sy'n gysylltiedig ag arholiadau atodol i'r Gyfadran/Ysgol perthnasol erbyn dechrau'r wythnos arholiadau atodol.
S3
Bydd ymgeiswyr sy'n casglu 20 credyd neu fwy ond llai na 60 credyd, yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl doethineb y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath ailadrodd y Lefel Astudio fel arfer. Bydd ymgeiswyr o'r fath yn fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G10).
(Yn unol â Rheol Dilyniant Cyffredinol G11, bydd hawl gan yr ymgeiswyr hynny y rhoddir y penderfyniad iddynt Ailadrodd Lefel Astudio wneud cais i Gwasanaethau Academaidd i ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig.)
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud yn iawn am fethiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill llai nag 20 credyd yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf ac yn derbyn penderfyniad Tynnu yn ôl o'r Rhaglen. Ni fydd myfyrwyr yn derbyn unrhyw ymgais bellach i wneud yn iawn am fethiannau ar y rhaglen gyfredol, ond caniateir iddynt wneud cais i drosglwyddo yn fewnol i raglen astudio arall. (Cyn belled ag y gellir dilyn y rhaglen newydd o fewn y cyfnod ymgeisyddiaeth sydd ar ôl gan yr ymgeisydd).
S5
Bydd ymgeiswyr sy'n ailadrodd y lefel neu sy'n ailadrodd modiwlau a fethwyd, ac sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf ar ôl ymgasglu 60 credyd neu fwy, yn cael sefyll arholiadau/asesiad atodol fel yr ymgais terfynol i wneud yn iawn am fethiannau ar gyfer pob modiwl a fethwyd.
S6
Bydd ymgeiswyr sy'n ailadrodd y flwyddyn neu sy'n ailadrodd modiwlau a fethwyd ac sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf, ar ôl ennill llai na 60 credyd, yn derbyn penderfyniad yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol.
Yn dibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall myfyrwyr o'r fath fod yn gymwys am gymhwyster ymadael (gweler G17). Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a gafwyd ac, os yw'n berthnasol, am ddyfarnu'r cymhwyster ymadael priodol.
S7
Ni fydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud yn iawn am fethiannau yn cael eu capio ar Lefel 4. Bydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud yn iawn am fethiannau ar Lefel 5, 6 a/neu 7 yn cael eu capio yn unol â rheoliad G7. Bydd y marc a gapiwyd yn cael ei ddefnyddio at ddiben dosbarthiad ym mhob modiwl o'r fath.
Rheolau i'w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol Atodol
S8
Bydd ymgeiswyr sy'n casglu o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y Lefel briodol yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf.
S9
Bydd ymgeiswyr sy'n methu â chwrdd â gofynion S8 uchod yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl doethineb y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath Ailadrodd y Lefel Astudio fel arfer. Bydd ymgeiswyr o'r fath yn fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G10).
(Yn unol â Rheol Dilyniant Cyffredinol G11, bydd hawl gan yr ymgeiswyr hynny y rhoddir y penderfyniad iddynt Ailadrodd Lefel Astudio wneud cais i Gwasanaethau Academaidd i ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig.)
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud yn iawn am fethiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S10
Bydd ymgeiswyr sy'n ailadrodd y flwyddyn neu sy'n ailadrodd modiwlau a fethwyd ac sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf yn derbyn penderfyniad yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol.
Yn dibynnu ar nifer y credydau a enillir, gall myfyrwyr o'r fath fod yn gymwys am gymhwyster ymadael (gweler G17). Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a gafwyd ac, os yw'n berthnasol, am ddyfarnu'r cymhwyster ymadael priodol.
S11
Ni fydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud yn iawn am fethiannau yn cael eu capio ar Lefel 4. Bydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud yn iawn am fethiannau ar Lefel 5, 6 a/neu 7 yn cael eu capio yn unol â rheoliad G7. Bydd y marc a gapiwyd yn cael ei ddefnyddio at ddiben dosbarthiad ym mhob modiwl o'r fath.
Rheolau ar Gyfer Dyfarnu Credyd yn y Flwyddyn Olaf
Rheolau i'w Cymhwyso yn Ystod y Byrddau Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol
S12
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill o leiaf 120 credyd mewn modiwlau ar y Lefel briodol ar gyfer y lefel astudio derfynol yn cymhwyso'n awtomatig i gael eu derbyn ar gyfer dyfarniad gradd Anrhydedd.
S13
Bydd ymgeiswyr sy'n casglu 60 credyd neu fwy ond llai na 120 credyd, yn methu â chwblhau'r Lefel Astudio. Yn ôl doethineb y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol caniateir un cyfle fel arfer i ymgeiswyr o'r fath wneud yn iawn am fethiant/fethiannau yn ystod y cyfnod Arholiadau Atodol ym mis Awst.
S14
Bydd myfyrwyr sy'n llwyddo i wneud yn iawn am y gydran/cydrannau o fodiwl a fethwyd ar Lefel 7 yn derbyn marc wedi'i gapio o 50% ar gyfer y gydran.
S15
Bydd ymgeiswyr sy'n casglu llai na 60 credyd yn methu â chwblhau'r lefel astudio olaf. Bydd ymgeiswyr o'r fath yn derbyn penderfyniad yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol.
S16
Bydd ymgeiswyr sy'n methu â chymhwyso am ddyfarniad yn dilyn y cyfle atodol, ar ôl methu ag ennill 120 credyd, yn derbyn penderfyniad yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol.
S17
Ni roddir unrhyw gynigion pellach i ymgeiswyr y rhoddir iddynt benderfyniad academaidd o yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol wneud yn iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeisydd â phenderfyniad "yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol" yn cael ei dderbyn/derbyn eto i'r un rhaglen astudio neu i raglen debyg heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Yn dibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall myfyrwyr o'r fath fod yn gymwys am gymhwyster ymadael (gweler G17). Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a gafwyd ac, os yw'n berthnasol, am ddyfarnu'r cymhwyster ymadael priodol.
S18
Dylai marciau a enillir gan ymgeiswyr adlewyrchu'r dosbarthiad gradd a fwriadir.