fyfyriwr yn y llyfrgell

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y Brifysgol

Pan fyddwch wedi cofrestru yn ymgeisydd sy’n fyfyriwr ymchwil, bydd gennych hawl i dderbyn nifer o wasanaethau gan y Brifysgol. Gallwch ddisgwyl:

  • Perthyn i Gyfadran/Ysgol academaidd sy’n briodol ar gyfer testun eich ymchwil;
  • Derbyn gwybodaeth glir, cryno a chywir am y rheoliadau a’r gweithdrefnau sy’n llywodraethu’r radd ymchwil yr ydych wedi cofrestru ar ei chyfer. Derbyn y rheoliadau sy’n ymwneud â llên-ladrad, eiddo deallusol, iechyd a diogelwch, y broses gwyno ac unrhyw faterion moesegol a allai godi wrth i chi ymgymryd â’ch ymchwil, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;
  • Cael eich cofrestru bob blwyddyn, yn amodol ar eich cynnydd, a disgwyl i’r Brifysgol gadw cofnod cywir o’ch dilyniant;
  • Cael enw defnyddiwr unigryw ar gyfer cyfrifiaduron, a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio gwasanaethau TG y Llyfrgell a’r Ganolfan Wybodaeth ar y safle ac o bell; Cael cyfrif e-bost a fydd yn caniatáu i chi anfon negeseuon e-bost am ddim ynghylch eich ymchwil, a mynd at eich cofnod myfyriwr ar-lein;
  • Cael cyfle i archwilio modiwlau lefel Meistr, sy'n briodol i'ch ymchwil, yn amodol ar yr arbenigedd sydd ar gael a chytundeb eich goruchwyliwr, cyfarwyddwr y rhaglen a'r darparwr modiwl.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan eich Gyfadran/Ysgol

Gallwch ddisgwyl i’r Gyfadran/Ysgol academaidd y byddwch yn perthyn iddo:Drefnu digwyddiad sefydlu a llawlyfr myfyrwyr, sy’n nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau. Dylai’r llawlyfr gynnwys y meini prawf yr asesir eich dilyniant yn eu herbyn, a dylai nodi wrth bwy y dylech gwyno os bydd pethau’n mynd o chwith; Darparu gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau staff academaidd a gweinyddol allweddol sy’n gysylltiedig â chynnydd academaidd a gwaith monitro myfyrwyr ymchwil yn y Gyfadran/Ysgol, lle bo hynny’n berthnasol;

  • Sicrhau eich bod yn astudio mewn maes academaidd y mae gan aelodau o staff academaidd arbenigedd ymchwil ynddo;
  • Pennu tîm goruchwylio a fydd yn cynnwys o leiaf y canlynol:
    • Goruchwyliwr cyntaf/ prif oruchwyliwr sydd ag arbenigedd a gwybodaeth yn eich maes penodol;
    • Ail oruchwyliwr a fydd weithiau’n oruchwyliwr academaidd, ond a fydd bob amser yn medru rhoi cyngor cyffredinol i chi ynghylch y broses ymchwilio a sicrhau goruchwyliaeth ar eich cyfer os bydd eich  goruchwyliwr cyntaf yn absennol;
    • Sicrhau bod gweithdrefnau ar waith ar gyfer goruchwylio a monitro myfyrwyr yn effeithiol, yn unol â rheoliadau a chanllawiau'r Brifysgol;
  • Darparu man gweithio yn y Gyfadran/Ysgol; Darparu mynediad at gyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhwydwaith a darparu enw defnyddiwr lleol, a fydd yn caniatáu i chi gael defnyddio e-bost a meddalwedd Microsoft Office; Rhoi mynediad at gyfleusterau, offer a chymorth arbenigol sy’n briodol i bwnc eich ymchwil (efallai y bydd angen blaendal y gellir ei osod yn erbyn costau torri neu gamddefnyddio cyfarpar). Gallai hyn gynnwys labordai, offer arbenigol a chefnogaeth gan dechnegwyr y labordai; Rhoi mynediad at gyfleusterau cymorth ymchwil cyffredinol (e.e. y defnydd o beiriant ffôn a ffacs, llungopïo a’r Gwasanaeth Benthyca Rhwng Llyfrgelloedd) a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant sy’n benodol i’r pwnc (lle nodir bo hynny’n hanfodol er mwyn cwblhau’r radd ymchwil).
  • Darparu gwybodaeth a hyfforddiant mewn perthynas â’r gofynion Iechyd a Diogelwch sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau;
  • Darparu gwybodaeth am fywyd academaidd y Gyfadran/Ysgol a darparu cyfleoedd i chi gymryd rhan ynddo (e.e. mynychu seminarau ymchwil, cyfarfodydd tîm). Efallai y bydd rhai Cyfadrannau/Ysgolion yn mynnu eich bod yn mynychu digwyddiadau o’r fath.

Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd ysgogol a chefnogol o safon uchel ar eich cyfer pan fyddwch yn ymgymryd â’ch ymchwil. Serch hynny, dylech dderbyn bod astudiaeth ymchwil ôl-raddedig yn gofyn am lefel uchel o ymrwymiad, hunanddisgyblaeth a sgiliau rheoli amser personol gennych chi.  Yn benodol, rydym yn disgwyl i chi:

  • Gofrestru’n flynyddol a gwirio bod eich manylion cofrestru yn gywir gan ddefnyddio’r Fewnrwyd;
  • Talu eich ffioedd yn brydlon pan ofynnir i chi wneud hynny (gallwch weld eich manylion drwy ddefnyddio’r Fewnrwyd);
  • Ymgyfarwyddo â rheoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol a’ch Gyfadran/Ysgol – gan gynnwys y rhai hynny sy’n ymwneud â llên-ladrad, gwarchod data, iechyd a diogelwch, ac ystyriaethau moesegol a allai godi yn ystod eich ymchwil, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; Bod yn ymwybodol o Reoliadau’r Brifysgol ar gyfer y radd yr ydych wedi cofrestru ar ei chyfer;
  • Mynychu digwyddiadau sefydlu’r Brifysgol ac unrhyw ddigwyddiad sefydlu a drefnir gan eich Gyfadran/Ysgol neu bwyllgor ymchwil;
  • Cymryd cyfrifoldeb dros eich datblygiad proffesiynol a phersonol eich hun; adnabod eich anghenion hyfforddi ar y cyd â’ch goruchwylwyr yn gynnar yn ystod eich rhaglen, a mynychu’r holl gyrsiau hyfforddi angenrheidiol, a chadw cofnod o’r hyfforddiant. Dylech ailasesu eich anghenion hyfforddi yn rheolaidd gyda’ch goruchwylwyr yn ystod eich ymgeisyddiaeth;
  • Dilyn gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch y Brifysgol a'r rhai sy'n berthnasol i’ch gweithgareddau o fewn eich Gyfadran/Ysgol;
  • Ymwneud â chymuned academaidd y Brifysgol, y Gyfadran/Ysgol a'r Grŵp Ymchwil, fel y bo’n briodol; ymwneud â’r gymuned academaidd o fewn eich maes arbenigol. Gallai hynny olygu ymuno â chymdeithasau dysgedig perthnasol a mynychu eu cynadleddau;
  • Bod yn barod i dynnu sylw eich goruchwylwyr at broblemau neu anawsterau cyn gynted ag sy’n bosibl, pa mor ddibwys bynnag y byddant yn ymddangos;
  • Sicrhau bod eich goruchwylwyr yn gwybod faint o waith cyflogedig yr ydych yn ei wneud ar unrhyw adeg. Disgwylir i chi fod yn ymwybodol o reoliadau'r Brifysgol ynghylch cyflogaeth myfyrwyr llawn amser, os yw hynny’n berthnasol, a disgwylir i chi gydymffurfio â’r rheoliadau hynny;
  • Bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau o ran ymchwil a’ch cyfrifoldebau gweinyddol mewn perthynas â’ch noddwr, os yw hynny’n berthnasol, a chyflawni’r cyfrifoldebau hynny;
  • Bod yn ymwybodol o’r dyddiad y disgwylir i chi gyflwyno eich traethawd ymchwil. Bod yn ymwybodol hefyd o’r dyddiad y daw cyfnod hwyaf posibl eich ymgeisyddiaeth i ben. Cyflwyno eich traethawd ymchwil cyn hynny.

Ymwadiad:

Gallai methu cyflawni'ch ymrwymiadau yn ystod eich ymgeisyddiaeth arwain at benderfyniad i beidio â chaniatáu i chi symud ymlaen i gyfnod nesaf eich ymchwil a/neu benderfyniad i’ch gorfodi i dynnu’n ôl o’ch astudiaethau.