Canllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil Allanol
1. Aelodau’r Bwrdd Arholi
1.1
Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer myfyrwyr ymchwil yn cynnwys yr unigolion canlynol:
Cadeirydd annibynnol, sef y Deon Gweithredol neu aelod o staff gyda phrofiad priodol a enwebwyd gan y Deon Gweithredol. Mae disgwyl i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr:
- Arholwr allanol;
- Arholwr Mewnol neu, yn achos cyflogeion Prifysgol Abertawe, ail Arholwr Allanol (gweler yr adran 'Archwilio Staff a Myfyrwyr Ymchwil a Gyflogir ym Mhrifysgol Abertawe' isod).
Fel arfer dylai'r Arholwr Mewnol ac Allanol fod â'r profiad rhyngddynt ar lefel y traethawd ymchwil i'w arholi ar lefel gradd ymchwil ôl-raddedig. Er enghraifft, pan nad oes gan Arholwr Allanol arfaethedig fawr ddim profiad neu ddim profiad o gwbl o fod yn Arholwr Allanol, mae’n rhaid bod gan yr Arholwr Mewnol arfaethedig brofiad helaeth o fod yn arholwr. Pan fo'r Arholwr Mewnol arfaethedig yn gymharol ddibrofiad, rhaid i’r Arholwr Allanol arfaethedig feddu ar brofiad helaeth o weithredu fel arholwr.
1.2 Cadeirydd y Bwrdd Arholi
Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig am gynnal yr arholiad. Mae disgwyl i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr.
1.2.1
Fel arfer byddai Cadeirydd arfaethedig:
- Yn aelod o staff Prifysgol Abertawe, sydd â statws digon uchel a digon o brofiad i allu hawlio awdurdod;
- Wedi gweithredu fel arholwr ar, neu'n uwch na, lefel y traethawd ymchwil i'w arholi;
- Yn meddu ar gymhwyster academaidd ar lefel y traethawd ymchwil neu’n uwch na lefel y traethawd ymchwil i’w arholi neu feddu ar brofiad proffesiynol cyfatebol;
- Yn meddu ar ddealltwriaeth glir o reoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol;
- Wedi derbyn hyfforddiant perthnasol o ran goruchwylio a pholisïau a gweithdrefnau goruchwylio penodol y sefydliad.
Ni chaiff unrhyw aelod o staff a fu’n ymwneud â goruchwylio’r myfyriwr ymchwil fod yn Gadeirydd y Bwrdd Arholi.
1.3 Arholwr Allanol
Enwebir arholwyr allanol gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai, mewn ymgynghoriad â goruchwylwyr y myfyriwr. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion ofalu rhag sefydlu trefniadau cilyddol a allai achosi diffyg gwrthrychedd posibl.
1.3.1
Yn dilyn cyflwyno rheoliadau a gofynion newydd y DU ar gyfer Fisâu a Mewnfudo, mae’n rhaid i’r Brifysgol fedru dangos bod pob arholwr allanol yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig. Ar y cam enwebu, dylai Cyfadrannau/Ysgolion nodi ar ba sail y gwnaed dyfarniad bod yr Arholwr Allanol arfaethedig yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig, e.e. mae'r Arholwr Allanol arfaethedig yn ddinesydd Prydeinig neu'n cael ei gyflogi gan sefydliad arall yn y DU (gallai hyn eithrio'r rhai sydd wedi cael fisa ar gyfer gweithio'n gyfan gwbl mewn un sefydliad).
1.3.2
Dylai arholwr allanol arfaethedig:
- Fod yn weithgar wrth gynnal ymchwil a bod â digon o brofiad i orchymyn awdurdod;
- Bod yn ymwybodol o natur a diben y radd y mae’r ymgeisydd yn cael ei arholi ar ei chyfer;
- Bod â gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn y pwnc ymchwil;
- Fel arfer, fod wedi arholi gradd uwch ar o leiaf un achlysur blaenorol yn ei sefydliad fel arholwr allanol ar yr un lefel (gweler y troednodyn i Enwebu Bwrdd Arholi isod);
- Fel arfer, fod wedi goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i lefel y traethawd ymchwil neu'r tu hwnt i hynny;
- Fel arfer, meddu ar y radd y mae’n ei harholi neu gyfwerth. Os nad yw'r arholwr yn meddu ar radd ymchwil mae'n rhaid i'r bwrdd arholi dderbyn tystiolaeth ategol ddigonol o addasrwydd yr unigolyn ar gyfer y swydd.
- Peidio â chael ei benodi pan fo’r amgylchiadau canlynol yn gymwys, oni bai fod modd dangos tystiolaeth o amgylchiadau eithriadol:
- Bod yn gyn-oruchwyliwr neu fentor y myfyriwr ymchwil
- Bod yn aelod blaenorol o staff y Brifysgol, sydd wedi gadael y Brifysgol yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth;
- Bod yn noddwr, yn berthynas neu'n gyfaill i'r myfyriwr ymchwil;
- Bod yn bartner neu'n berthynas i'r goruchwyliwr;
- Wedi cyd-ysgrifennu neu gydweithredu'n sylweddol â gwaith y myfyriwr ymchwil neu y mae ei waith ei hun yn ganolbwynt y prosiect ymchwil;
- Bod yn aelod o staff o adran neu sefydliad ymchwil lle mae'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe mewn trefniant darpariaeth ddoethurol cydweithredol y mae'r ymchwil o dan sylw yn astudio o dan hynny;
- Bod wrthi'n cydweithio'n barhaol ac yn uniongyrchol â goruchwylwyr y myfyriwr ymchwil (h.y. y tîm goruchwylio), yn ystod cyfnod yr ymgeisyddiaeth (e.e. mwy na thri phapur wedi'u hysgrifennu ar y cyd lle mae'r goruchwylwyr a'r arholwr yn gyfranwyr sylweddol).
1.3.3
Gall arholwr o’r tu allan i’r Brifysgol fod yn briodol lle mae angen arbenigedd proffesiynol, cyn belled â bod gan y person a benodir brofiad addas o arholiadau gradd ymchwil. Fel arfer, gall arholwyr o'r fath ddod o sefydliadau sy'n ymwneud ag ymchwil, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol: byrddau iechyd lleol, amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol, llysoedd barn a sefydliadau busnes rhyngwladol.
1.3.4
Os cynigir Arholwr Allanol o Brifysgol nad yw yn y DU ac nid yw'n gallu dangos cynefineg â system graddau ymchwil y DU, dylai'r Cadeirydd fod yn brofiadol a gallu briffio'r Arholwr Allanol ar ddisgwyliadau cyflwyno gradd ymchwil.
1.3.5
Ni ellir gwahodd cyn aelod o staff Abertawe i weithredu fel Arholwr Allanol nes bod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers iddo adael y Brifysgol.
1.3.6
Ni ellir gwahodd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe i weithredu fel Arholwr Allanol nes bod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers iddo raddio o’r Brifysgol.
1.3.7
Er mwyn osgoi rhagfarn neu wrthdaro buddiannau tybiedig ni ddylid penodi Arholwr Allanol os:
- Bu cyfathrebu/cydweithio academaidd parhaol gyda'r myfyriwr ymchwil (gan gynnwys bod yn oruchwyliwr presennol neu'n gyn-oruchwyliwr iddo) neu oruchwylwyr y myfyriwr ymchwil yn y pum mlynedd blaenorol a fyddai'n galw i gwestiwn ei allu i ddod i farn wrthrychol, ddiduedd ac annibynnol;
- Mae wedi archwilio graddau ymchwil yn aml yn yr un Adran/Gyfadran/Ysgol;
- Mae goruchwyliwr y myfyriwr ymchwil wedi gwasanaethu fel Arholwr Allanol yn Adran/yng Nghyfadran/yn Ysgol yr Arholwr Allanol arfaethedig yn ddiweddar;
- Mae'n diwtor bugeiliol, yn noddwr, yn gydweithiwr proffesiynol agos, yn berthynas neu'n gyfaill naill ai yn y sefydliad hwn neu sefydliad blaenorol y myfyriwr ymchwil;
- Cafodd ei arholi ei hunan gan y goruchwyliwr neu bartner neu berthynas y goruchwyliwr;
- Mae ei waith ei hunan yn ganolbwynt i'r prosiect ymchwil;
- Mae'n dod o sefydliad sy'n ymwneud â threfniant darpariaeth cydweithredol y mae'r myfyriwr ymchwil yn astudio yn unol ag ef.
1.3.8
Nifer y traethodau ymchwil y gall un arholwr allanol eu harholi:
Ni fydd nifer y traethodau ymchwil y gall un Arholwr Allanol penodol eu harholi mewn cyfnod o ddeuddeg mis fel arfer fod yn fwy na thri ar lefel doethur a deg ar lefel meistr ymchwil. Mewn amgylchiadau eithriadol mae angen cymeradwyaeth Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Brifysgol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig (neu ei gynrychiolydd).
1.4.1
Fel arfer dylai Arholwyr Mewnol enwebedig:
- Feddu ar wybodaeth ddigonol o bwnc yr ymchwil;
- Meddu ar brofiad perthnasol;
- Meddu ar gymhwyster academaidd ar yr un lefel â’r un y bydd yn ei arholi neu feddu ar brofiad proffesiynol cyfwerth;
- Bod yn aelod o staff Prifysgol Abertawe;
- Heb fod yn ymgeisydd cyfredol am radd ymchwil naill ai ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn unrhyw sefydliad arall;
- Fel arfer ni fydd wedi bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ar yr un pryd â’r myfyriwr sy’n cael ei arholi;
- Fel arfer, bydd yn rhan o’r Gyfadran/Ysgol lle mae’r myfyriwr wedi’i gofrestru
- Wedi derbyn hyfforddiant perthnasol o ran goruchwylio a pholisïau a gweithdrefnau goruchwylio penodol y sefydliad.
Ni chaiff unrhyw aelod o staff a fu’n ymwneud â goruchwylio’r myfyriwr ymchwil fod yn Arholwr Mewnol.
1.4.2
Bydd yn ofynnol i aelod o staff nad yw wedi gweithredu fel arholwr mewnol o’r blaen arsylwi o leiaf un arholiad llafar cyn cael ei benodi'n arholwr mewnol. Gall unigolyn annibynnol arsylwi ar unrhyw arholiad llafar yn y Brifysgol heb sicrhau caniatâd penodol ymlaen llaw am bresenoldeb yr arsylwr gan bob un sy’n rhan o’r arholiad llafar.
1.4.3
O dan amgylchiadau eithriadol, os na lwyddir i benodi Arholwr Mewnol priodol o’r Gyfadran/Ysgol berthnasol, gall y Deon Gweithredol enwebu Arholwr Mewnol o un o Gyfadrannau/Ysgolion eraill y Brifysgol.
1.4.4
Os na fydd yn bosibl penodi Arholwr Mewnol priodol o un o Gyfadrannau/Ysgolion eraill y Brifysgol, gall y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig neu ei gynrychiolydd, ar argymhelliad arbennig y Deon Gweithredol dan sylw, benodi ail Arholwr Allanol yn lle Arholwr Mewnol. Wrth benodi arholwr o'r fath, gall y Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig neu ei gynrychiolydd ystyried yr enwebiad gan y Deon Gweithredol, ond nid oes angen iddo gael ei rwymo gan hynny.
1.4.5
Ni fydd y Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig neu ei gynrychiolydd yn ystyried penodi ail Arholwr Allanol oni bai fod y Deon Gweithredol neu ei enwebai wedi rhoi sicrwydd ysgrifenedig y cymerwyd yr holl gamau priodol i benodi Arholwr Mewnol o'r tu mewn i'r Brifysgol.
2. Arholi Staff a Myfyrwyr Ymchwil PhD (Allanol) wedi'u Cyflogi gan Brifysgol Abertawe
Pan fo myfyriwr ymchwil ôl-raddedig wedi'i gyflogi gan y Brifysgol ar unrhyw adeg cyn yr arholiad, gellir tybio bod gwrthdaro buddiannau os bydd yr Arholwr Mewnol yn gydweithiwr y myfyriwr ymchwil. Mewn achosion o'r fath, bydd angen ail Arholwr Allanol yn lle Arholwr Mewnol.
2.1
Mae'r eithriadau i'r rheoliad hwn fel a ganlyn:
A. Myfyrwyr ymchwil sy'n gweithio hyd at y cyfanswm arferol o 6 awr yn ystod yr wythnos weithio ar ffurf cyflogaeth achlysurol sy’n ymwneud â'r pwnc yn y Brifysgol (gweler "Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil Allanol").
B. Myfyrwyr ymchwil sydd wedi gweithio i'r Brifysgol am gyfanswm o lai na 3 mis cyn cyflwyno.
C. Myfyrwyr ymchwil a gyflogir mewn ardal o'r Brifysgol nad yw'n gysylltiedig â'r Gyfadran/Ysgol y dewisir yr Arholwr Mewnol ohoni (mae enghreifftiau'n cynnwys cyflogaeth yng Ngweinyddiaeth y Brifysgol neu mewn Cyfadran/Ysgol wahanol). Mewn achos o'r fath, rhaid cael datganiad ysgrifenedig yn nodi paham nad oes gwrthdaro buddiannau gyda'r ffurflen Enwebu Arholwyr.
2.2
Mewn rhai achosion, gall fod angen ailgyfansoddi Bwrdd Arholi os bydd y myfyriwr ymchwil yn derbyn swydd yn y Brifysgol rhwng y dyddiad cyflwyno a dyddiad yr arholiad.
3. Enwebu Bwrdd Arholi
Dylai'r Deon Gweithredol neu ei enwebai gwblhau ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi, gan nodi a yw'r myfyriwr ymchwil yn aelod o staff ai peidio, a chan enwi'r holl unigolion sydd wedi ymwneud â goruchwylio'r myfyriwr.
3.1
Dylai'r Deon Gweithredol neu ei enwebai ddarparu manylion cyswllt llawn ar gyfer yr Arholwr Allanol arfaethedig. Rhaid darparu manylion llawn am brofiad goruchwylio ac arholi ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall ar gyfer pob arholwr arfaethedig (oni bai i'r Arholwr Allanol arfaethedig gael ei benodi ac wedi gweithredu fel arholwr gradd ymchwil allanol ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y tair blynedd diwethaf). Dylai’r wybodaeth a ddarperir gynnwys:
- Hanes o oruchwylio’n llwyddiannus ar y lefel briodol;
- Profiad blaenorol o arholi graddau ymchwil [1];
- Cymwysterau academaidd a/neu broffesiynol;
- Swyddi academaidd presennol a blaenorol;
- Crynodeb o gyhoeddiadau a ffrwyth gwaith ymchwil diweddar.
3.2
Bydd y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig neu ei gynrychiolydd yn craffu ar bob enwebiad. Gellir gofyn am ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch cymwysterau a/neu arbenigedd yr arholwyr a gynigir a hefyd y Cadeirydd a gynigir ar gyfer y Bwrdd Arholi os bydd unrhyw bryderon. Mae gan y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig neu ei gynrychiolydd yr awdurdod i gymeradwyo neu wrthod yn weithredol benodiad unrhyw arholwr arfaethedig neu Gadeirydd arfaethedig y Bwrdd Arholi.
3.3
Disgwylir y bydd y Gyfadran/Ysgol yn sicrhau cytundeb anffurfiol i weithredu fel Arholwr Allanol gan yr Arholwr Allanol arfaethedig cyn i'r Deon Gweithredol anfon y ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi at y Gwasanaethau Academaidd. Dylai’r arholwr allanol a gynigir ddeall bod derbyn enwebiad fel arholwr allanol yn golygu ei fod yn ymrwymo i fod ar gael trwy gydol cyfnod y broses arholi, gan gynnwys proses o ailgyflwyno lle y bo’n briodol.
3.4
Rhaid i'r ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi gael ei llofnodi gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai. Pan fo'r Deon Gweithredol (neu ei enwebai) yn ymwneud â goruchwylio'r myfyriwr ymchwil, dylid cael llofnod y Dirprwy Ddeon Gweithredol (neu ei enwebai).
3.5
Os yw’r traethawd ymchwil i’w gyflwyno a’i arholi mewn iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg (dylid sicrhau caniatâd i wneud hynny adeg cadarnhau’r ymgeisyddiaeth, gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil), rhaid i'r Deon Gweithredol sicrhau y bydd holl aelodau’r Bwrdd Arholi’n gallu cymryd rhan lawn a gweithredol yn yr arholiad. Mae’n rhaid i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno pob cais sydd i’w arholi’n Gymraeg i’r Gwasanaethau Academaidd er mwyn trefnu cyfieithiad.
Os nad yw’r Arholwr Allanol arfaethedig wedi gweithredu fel Arholwr Allanol o’r blaen, rhaid bod tystiolaeth o brofiad o weithredu fel Arholwr Mewnol ar radd uwch a rhaid i’r Arholwr Mewnol arfaethedig feddu ar brofiad o weithredu fel Arholwr Mewnol ac fel Arholwr Allanol.
4. Canllawiau Cyffredinol ar Gyfansoddiad y Bwrdd Arholi
Os nad oes gan un o’r arholwyr lawer o brofiad blaenorol o arholi graddau ymchwil, mae’n hollbwysig fod gan yr arholwr arall brofiad helaeth. Er enghraifft, pan nad oes gan Arholwr Allanol arfaethedig fawr ddim profiad neu ddim profiad o gwbl o fod yn Arholwr Allanol, mae’n rhaid bod gan yr Arholwr Mewnol arfaethedig brofiad helaeth o fod yn arholwr. Pan fo'r Arholwr Mewnol arfaethedig yn gymharol ddibrofiad, rhaid i’r Arholwr Allanol arfaethedig feddu ar brofiad helaeth o weithredu fel arholwr.
4.1
Ym mhob achos, rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi fod â digon o brofiad a bod ar lefel ddigon uchel, a rhaid iddo fod yn gyfarwydd iawn â Rheoliadau Graddau Ymchwil Prifysgol Abertawe a dull Prifysgol Abertawe o ymdrin â graddau ymchwil.
5. Cadarnhau Penodi Bwrdd Arholi
5.1 Arholwr Allanol
Mae’r Gwasanaethau Academaidd yn anfon llythyr at yr Arholwr Allanol yn cadarnhau'r penodiad sy'n cael ei gopïo i'r Deon Gweithredol dan sylw neu ei enwebai. Mae’r Gwasanaethau Academaidd hefyd yn anfon ffurflen hawlio treuliau er mwyn i'r Arholwr hawlio ei ffioedd a'i dreuliau pan fydd yn cwblhau'r broses arholi.
5.1.1
Yn ogystal â ffi'r Arholwr Allanol bydd y Brifysgol yn talu treuliau dilys yr Arholwr Allanol (teithio a chynhaliaeth) hyd at uchafswm o £300 (gwariant â thaleb yn unig). Gofynnir i Gyfadrannau/Ysgolion dalu costau sydd uwchlaw’r trothwy hwn. Fel arfer, bydd y Brifysgol ond yn talu treuliau sy’n gysylltiedig â gwaith o fewn y Deyrnas Unedig. Ni fydd y Brifysgol yn talu treuliau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r arholwr allanol (er enghraifft pryd o fwyd ar gyfer unigolyn arall).
5.2 Arholwr Mewnol a Chadeirydd y Bwrdd Arholi
Bydd y Gwasanaethau Academaidd yn rhoi gwybod i'r Deon Gweithredol neu ei enwebai a yw'r Bwrdd Arholi wedi'i gymeradwyo.
6. Trefniadau Arholi
6.1
Cyfrifoldebau Cyfadrannau/Ysgolion a Dosbarthu Dogfennau Arholiadau
Unwaith y bydd y ddau arholwr wedi eu penodi, cyfrifoldeb y Gyfadran/yr Ysgol yw darparu’r canlynol i bob arholwr:
- Copïau o’r rheoliadau perthnasol;
- Un copi o draethawd ymchwil y myfyriwr ymchwil;
- Un copi o’r Ffurflen Hysbysiad Ymgeisyddiaeth wedi’i llenwi;
- Un copi o’r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil Allanol;
- Un copi o’r Canllawiau ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol;
- Y Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau angenrheidiol ar gyfer cynnal yr arholiad.
Hefyd, mae’r Gyfadran/yr Ysgol yn gyfrifol am ddarparu manylion cyswllt pob aelod o’r Bwrdd Arholi.
7. Camymddygiad Academaidd
Bydd arholwr sydd o'r farn bod ymgeisydd wedi camymddwyn yn academaidd, boed yn ystod y broses arholi neu wedi hynny, yn rhoi gwybod ar unwaith am yr amgylchiadau, ar ffurf ysgrifenedig, i Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw.
8. Trefniadau Arholi
Penodir Cynullydd ac Ysgrifennydd a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r traethawd ymchwil yn cael eu dilyn. Bydd y Deon Gweithredol dan sylw neu ei enwebai yn gweithredu fel Cynullydd neu Ysgrifennydd neu bydd yn dirprwyo'r swyddogaethau hyn i uwch-aelod o'r staff e.e. aelod o staff sy'n gyfrifol am reoli myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig neu Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil/Ôl-raddedig priodol y Gyfadran.
8.1
Dylid trefnu dyddiad sy’n dderbyniol i bawb ar gyfer yr arholiad llafar. Dylai pob parti dderbyn o leiaf bythefnos o rybudd o ddyddiad yr arholiad llafar. Os bydd amgylchiadau eithriadol yn peri bod unrhyw barti’n methu bod ar gael, dylid gohirio’r arholiad llafar.
Fel arfer, cynhelir yr arholiad llafar ar gyfer myfyrwyr ymchwil Doethur mewn Athroniaeth (Allanol) drwy ddulliau electronig, a bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn cael gwybod (gweler Cynnal Arholiadau Llafar drwy Ddulliau Electronig isod). Os bydd myfyriwr yn methu dod i’r arholiad llafar heb roi rhybudd ymlaen llaw, bernir y bydd y myfyriwr heb fodloni gofynion y dyfarniad neu'r radd is a dylai’r Bwrdd Arholi anfon argymhelliad o Heb ei Gymeradwyo (gweler Canlyniadau Arholiadau ar gyfer pob gradd isod).
9. Amserlen Arholi
Gofynnir i'r ddau arholwr adrodd ar y gwaith mewn da bryd. Y disgwyliad arferol yw y bydd aelodau'r bwrdd arholi yn cwblhau ac yn cyflwyno'r adroddiad a'r ffurflen ganlyniadau ar ddiwrnod y bwrdd arholi neu ddim hwy nag wythnos o ddyddiad y bwrdd arholi; byddai hyn hefyd yn berthnasol i draethawd ymchwil wedi'i ailgyflwyno. Ni chaiff ffioedd a threuliau eu prosesu nes bod adroddiad wedi'i gwblhau a ffurflen ganlyniad wedi ei derbyn.
9.1
Rhaid i bob arholiad llafar gael ei gynnal o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Mae'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn monitro dyddiadau cyflwyno, a thybir bod myfyrwyr ymchwil nad ydynt wedi cael eu harholi ymhen chwe mis ar ôl y dyddiad cyflwyno heb gydymffurfio, ac ni chânt eu cymeradwyo ar gyfer y dyfarniad neu ar gyfer gradd is.
10. Dyletswyddau'r Arholwyr
Mae gofyn i arholwyr gynnal arholiad llafar i bob myfyriwr ymchwil sydd wedi cyflwyno traethawd ymchwil ar gyfer gradd ymchwil. Fel rheol, rhaid arholi traethawd ymchwil sydd wedi’i ailgyflwyno drwy ail arholiad llafar. Mewn achosion eithriadol, gellir hepgor y gofyniad am ail arholiad llafar yn ôl disgresiwn yr arholwyr os byddant yn cytuno ar bàs ganddynt wrth ailgyflwyno. Yn yr achos hwn, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i’r myfyriwr ymchwil bod y gofyniad am ail arholiad llafar wedi’i hepgor. Disgwylir y byddai arholiadau llafar traddodiadol ar gyfer graddau ymchwil fel arfer yn cael eu cynnal ar sail wyneb yn wyneb, gyda phawb dan sylw yn bresennol, yn yr un ystafell ar gampws Prifysgol Abertawe, ar yr un amser. Fodd bynnag, oherwydd natur y radd ymchwil Doethur mewn Athroniaeth (Allanol), bydd yr arholiad llafar fel arfer yn cael ei gynnal drwy ddulliau electronig. Dylid sicrhau bod cynnal yr arholiad llafar yn adlewyrchu, pan fo'n bosib, y prosesau a'r gweithdrefnau arholi sy'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel arfer.
11. Rôl Benodol Arholwr Mewnol
Rhaid i’r Arholwr Mewnol benderfynu a yw gwaith ymchwil a gwybodaeth y myfyriwr ymchwil yn bodloni’r safon fyddai fel arfer yn ddisgwyliedig gan fyfyriwr ymchwil yn y Gyfadran/yr Ysgol sy’n cyflwyno am y radd honno.
12. Rôl Benodol yr Arholwr Allanol
Rhaid i’r Arholwr Allanol benderfynu a yw gwaith ymchwil a gwybodaeth y myfyriwr ymchwil yn cyrraedd safon sy’n cymharu ag ymchwil a gwybodaeth myfyrwyr ymchwil sy’n cael eu harholi mewn sefydliadau eraill am yr un radd.
13. Rôl Benodol Cadeirydd y Bwrdd Arholi
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod y broses yn drwyadl, yn deg, yn ddibynadwy ac yn gyson â rheoliadau a gweithdrefnau'r Brifysgol. Mewn achos adolygu penderfyniad arholiad neu achos apêl, mae gofyn i’r Cadeirydd ddarparu adroddiad ysgrifenedig ar y modd i’r arholiad gael ei gynnal yn ôl yr angen.
13.1
Yn ystod y broses arholi, bydd yr arholwyr yn:
- Ystyried y traethawd ymchwil a’r crynodeb a gyflwynir gan y myfyriwr ymchwil. Bydd unrhyw ran o’r traethawd ymchwil sydd eisoes wedi’i derbyn, neu sy’n cael ei chyflwyno ar yr un pryd, am unrhyw radd neu gymhwyster arall yn y Brifysgol, neu mewn man arall, yn cael ei heithrio o’r arholiad;
- Adrodd ar gwmpas, nodweddion ac ansawdd y gwaith a gyflwynwyd;
- Eu bodloni eu hunain fod y myfyriwr ymchwil yn meddu ar wybodaeth gyffredinol dda yn y maes dysg penodol y mae’r traethawd ymchwil yn ymwneud ag ef.
14. Cyflwyno'r Traethawd Ymchwil
Dylai aelodau’r Bwrdd Arholi gadw mewn cof gynnwys y Canllawiau ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol wrth asesu traethawd ymchwil. Bydd y Gyfadran/yr Ysgol yn darparu mynediad at y Canllaw yn ystod yr arholiad llafar yn ôl yr angen.
15. Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau
Bwriedir i ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau’r Arholwyr fod yn gyfrwng ar gyfer adroddiadau’r arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd Arholi, ac maent yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd Arholi i wneud argymhelliad ffurfiol i Brifysgol Abertawe ar ganlyniad y broses arholi. Hysbysir arholwyr fod gan fyfyrwyr hawl i gyflwyno cais i weld unrhyw sylwadau a wnaethpwyd amdanynt yn yr adroddiadau hyn, dan delerau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
16. Cynnal yr Arholiad
Dylai’r arholwr allanol gwblhau Adran 1.1 y Ffurflen Adroddiad (Adroddiad yr Arholwr Allanol ar y traethawd ymchwil) gan fynd â’r ffurflen gyfan i’r arholiad llafar. Gall rhai Cyfadrannau/Ysgolion ganiatáu i gopi electronig gael ei anfon ymlaen llaw cyn yr arholiad. Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi drefnu bod adroddiad yr arholwr mewnol yn cael ei deipio yn Adran 2, neu ei atodi mewn ffordd arall i’r adran honno (Adroddiad yr Arholwr Mewnol).
16.1
Dylai ffurf a chynnwys adroddiadau’r arholwyr fod yn ddigon manwl i ganiatáu i’r Bwrdd Arholi asesu rhychwant ac arwyddocâd y traethawd ymchwil ac i werthfawrogi ei gryfderau a’i wendidau. Dylai adroddiadau, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, gael eu hysgrifennu mewn geiriau y gellir eu deall gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr ym maes penodol y traethawd ymchwil. Yn ddelfrydol, dylai’r adroddiad gynnwys, yn agos at y dechrau, ddatganiad o’r hyn y mae’r traethawd ymchwil yn ceisio’i wneud, a chrynodeb o’r hyn y mae’n ei drafod mewn gwirionedd. Dylai sylwadau gwerthuso fod mor llawn â phosibl a dylent gynnwys awgrym o gryfderau yn ogystal â gwendidau, cyfyngiadau a bylchau.
16.2
Cadeirydd y Bwrdd Arholi sy'n gyfrifol am sicrhau y dylai'r arholwyr gwrdd cyn yr arholiad llafar er mwyn cymharu nodiadau ar eu hadroddiadau ar y traethawd ymchwil a chytuno ar y strategaeth ar gyfer yr arholiad llafar. Rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r fath. Fel arfer, cynhelir y cyfarfodydd hyn drwy ddulliau electronig mewn perthynas â myfyrwyr ymchwil Doethur mewn Athroniaeth (Allanol). Os bydd pawb yn gofyn i gynnal yr arholiad wyneb yn wyneb ac yn cytuno ar hynny, ac mae'n ddiogel i wneud hynny, disgwylir i'r Gyfadran/yr Ysgol sicrhau ystafell a digon o letygarwch ar gyfer y cyfarfod arholwyr hwn cyn yr arholiad.
Hyd yn oed pan fydd adroddiadau traethawd ymchwil y ddau arholwr yn nodi bod y traethawd ymchwil wedi cyrraedd y safon ofynnol, rhaid peidio â dweud wrth y myfyriwr ymchwil ar ddechrau’r arholiad llafar y bydd y radd yn cael ei dyfarnu. Rhaid i’r arholwyr fodloni eu hunain drwy’r arholiad llafar mai’r myfyriwr ymchwil yw awdur y traethawd ymchwil a’i fod yn deall ei gynnwys yn llwyr.
17. Cynnal yr Arholiad Llafar
Rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi sicrhau bod yr arholiad llafar yn cael ei gynnal mewn dull agored a theg yn unol â rheoliadau’r Brifysgol. Dylai’r Cadeirydd wneud yn siŵr bod y myfyriwr ymchwil yn cael ei drin yn gwrtais ac yn deg, gan roi ystyriaeth a sylw priodol i leihau unrhyw anghysur, er mwyn galluogi’r myfyriwr i roi o'i orau. Dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y myfyriwr ymchwil yn cael cyfle teg i amddiffyn ei waith a bod yr arholwyr yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau eithriadol sy’n berthnasol i achos y myfyriwr ymchwil.
17.1
Dylai’r Cadeirydd gwrdd â’r myfyriwr ymchwil yn breifat cyn yr arholiad llafar i holi’r myfyriwr a oes unrhyw amgylchiadau iechyd neu amgylchiadau personol eraill, na roddwyd gwybod amdanynt eisoes drwy'r goruchwylydd, a allai effeithio ar berfformiad y myfyriwr yn yr arholiad llafar.
17.2
Cyfrifoldeb y myfyriwr ymchwil yw gwneud y Bwrdd Arholi’n ymwybodol o unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar ei berfformiad. Ni fydd apeliadau academaidd sy’n seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi tynnu sylw’r Bwrdd Arholi atynt cyn yr arholiad llafar yn cael eu hystyried.
17.3
Dylai’r Cadeirydd esbonio diben yr arholiad llafar i’r arholwyr ac i’r myfyriwr ymchwil. Diben yr arholiad llafar yw:
- Galluogi’r arholwyr i fodloni eu hunain mai gwaith y myfyriwr ei hun yw’r traethawd ymchwil;
- Rhoi’r cyfle i’r myfyriwr ymchwil amddiffyn y traethawd ymchwil ac egluro unrhyw aneglurder ynddo;
- Galluogi’r arholwyr i asesu gwybodaeth gyd-destunol y myfyriwr ymchwil yn ei faes dysg penodol.
17.4
Nid asesu’r traethawd ymchwil yn unig a wna’r arholwyr yn yr arholiad llafar, ond hefyd asesu gallu’r myfyriwr ymchwil i’w amddiffyn, ac i gysylltu cynnwys y traethawd ymchwil â’r wybodaeth sy’n bodoli eisoes yn y maes penodol hwnnw.
17.5
Dylai’r Cadeirydd sicrhau bod yr arholwyr a’r myfyriwr ymchwil yn ymwybodol o reoliadau a chanllawiau’r Brifysgol sy’n ymdrin ag arholi traethawd ymchwil. Dylai’r Cadeirydd esbonio strwythur yr arholiad llafar ac egluro rolau’r arholwyr ac unrhyw unigolion eraill sy’n bresennol. Os oes unrhyw unigolion eraill yn bresennol, dylai’r Cadeirydd gadarnhau nad oes gan y myfyriwr ymchwil, na’r arholwyr os yw'n briodol, unrhyw wrthwynebiad i bresenoldeb yr unigolion hynny. Mewn achos o’r fath dylai’r myfyriwr ymchwil lofnodi datganiad ar y ffurflen Adroddiad yn nodi ei fod wedi rhoi caniatâd i’r unigolion hynny fod yn bresennol.
17.6
Yn yr arholiad llafar, dylai’r myfyriwr ymchwil gael ei annog i ddangos ei wybodaeth a’i alluoedd yn y modd gorau posibl, a dylid cydnabod ac archwilio cryfderau yn ogystal â gwendidau’r traethawd ymchwil. Yn gynnar yn yr arholiad, dylid rhoi cyfle i’r myfyriwr ymchwil esbonio yn union beth y mae’r traethawd ymchwil yn ceisio’i gyflawni a beth y mae'n ei gredu yw ei arwyddocâd fel cyfraniad tuag at wybodaeth. Os bydd yn ymddangos bod anghysondeb mawr rhwng amcanion y myfyriwr ymchwil a chynnwys y traethawd ymchwil ei hun, dylid ymchwilio i’r rhesymau dros hyn.
17.7
Dylid gofyn i’r myfyriwr ymchwil esbonio ei ddewis o deitl os yw’n ymddangos nad yw’n cyfateb yn berffaith â chynnwys y traethawd ymchwil. Dylai’r myfyriwr ymchwil gael cyfle hefyd i esbonio unrhyw fethiant amlwg i ddefnyddio deunyddiau pwysig, boed yn sylfaenol neu’n eilaidd, neu unrhyw esgeuluso o ran dulliau neu fethodolegau perthnasol.
17.8
Pan fo traethawd ymchwil yn dangos diffygion sylweddol a allai arwain at adroddiad nad yw’n gwbl ffafriol, mae’n bwysig dwyn sampl cynrychioliadol o’r rhain at sylw’r myfyriwr ymchwil gan ganiatáu amser iddo esbonio ac amddiffyn y rhain yn yr arholiad llafar.
17.9
Pan fo arholwyr yn teimlo eu bod wedi disbyddu eu trywyddau holi, dylai’r Cadeirydd sicrhau nad oes gan y myfyriwr ymchwil unrhyw beth pellach i’w ychwanegu neu i’w holi. Yna dylid gofyn i’r myfyriwr ymchwil (a’r goruchwyliwr os yw’n bresennol) adael yr ystafell er mwyn caniatáu i’r arholwyr drafod yr arholiad llafar.
18. Y Broses ar ôl yr Arholiad Llafar
Dylai’r Arholwr Allanol gwblhau Adran 1.2 (Adroddiad yr Arholwr Allanol ar yr Arholiad Llafar), ac, os yw'n briodol, 1.3 (Materion Pryder a Diddordeb Cyffredinol)[2].
18.1
Dylai’r arholwyr drafod perfformiad y myfyriwr ymchwil yn yr arholiad llafar ac ystyried pa un o’r argymhellion sydd ar gael yw’r mwyaf priodol (gweler Canlyniadau arholiadau ar gyfer pob gradd isod). Dylai’r Cadeirydd sicrhau bod yr argymhelliad a ddewisir yn cydymffurfio â rheoliadau’r Brifysgol.
18.2
Dylai’r Arholwr Allanol wedyn, ynghyd â’r Arholwr Mewnol, gwblhau Adran 3 (Adroddiad ar y Cyd gan Arholwyr Allanol a Mewnol). Dylai'r adroddiad grynhoi unrhyw wahaniaeth barn ar y traethawd ymchwil y bydd yr arholwyr wedi'i fynegi yn eu hadroddiadau unigol. Gellir mynegi barn gytunedig gryno hefyd ar brif gryfderau a gwendidau'r myfyriwr ymchwil, yr ymagwedd tuag at y pwnc a'r perfformiad yn yr arholiad llafar.
18.3
Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi gwblhau Adran 4 (Adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi), gan gynnig sylwadau ar gynnal yr arholiad llafar a nodi unrhyw faterion trefniadol. Os bydd yr arholwyr wedi argymell y dylai’r traethawd ymchwil gael ei ailgyflwyno i’w arholi heb ail arholiad llafar, dylid cyflwyno cyfiawnhad clir dros hyn yn adroddiad y Cadeirydd a dylai’r ddau arholwr lofnodi hwn.
18.4
Wedyn, dylai’r arholwyr drefnu gyda Chadeirydd y Bwrdd Arholi i gwblhau a llofnodi’r ffurflen derfynol (y Ffurflen Ganlyniadau). Dylid nodi’r opsiwn priodol o blith yr argymhellion drwy dicio’r blwch perthnasol. Os oes angen gwneud cywiriadau, bydd rhaid i’r Arholwr Allanol fel arfer archwilio’r cywiriadau’n fanwl ar ran y Bwrdd Arholi oni nodir fel arall. Dylai’r arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd Arholi lofnodi’r Ffurflen Ganlyniadau a dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y dyddiad ar y ffurflen.
18.5
Dylid gwahodd y myfyriwr ymchwil i ddod yn ôl i mewn i’r ystafell a dylai’r Cadeirydd roi gwybod iddo am argymhelliad y Bwrdd Arholi. Dylai’r Cadeirydd esbonio goblygiadau’r argymhelliad a nodi’n glir unrhyw ddyddiadau ar gyfer cyflwyno cywiriadau neu ailgyflwyno’r thesis yn ogystal â nodi pa arholwr fydd yn gyfrifol am gymeradwyo’r cywiriadau (os yn berthnasol).
Mae’r adran hon yn caniatáu i Arholwyr Allanol gyflwyno adroddiad am unrhyw bryderon neu arferion da yn ystod y Broses Arholi. Trosglwyddir yr wybodaeth hon yn uniongyrchol at Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau er mwyn cymryd unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol a/neu adrodd i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn ysgrifennu at yr Arholwr dan sylw ar ganlyniad ystyried y pryder neu'r arferion da.
19. Rhoi Gwybod i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau
Ar ôl cwblhau’r arholiad llafar a llofnodi pob adran o’r Ffurflenni Adroddiad a Chanlyniadau, dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau gwreiddiol yn cael eu hanfon at y Gwasanaethau Academaidd ar unwaith. Rhaid cyflwyno argymhelliad y Bwrdd Arholi i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i'w gadarnhau cyn y gellir paratoi llythyr yn nodi'r canlyniad. Unwaith y ceir cadarnhad bod yr holl amodau wedi eu bodloni, bydd y Gwasanaethau Academaidd yn rhoi gwybod i’r myfyriwr ymchwil am ganlyniad ffurfiol yr arholiad.
20. Anghydfod Rhwng Arholwyr Ynghylch yr Argymhelliad
Pan fydd argymhelliad Arholwr Allanol yn arwain at achos o anghydfod rhwng yr Arholwr Allanol a’r Arholwr Mewnol, mae gan Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau y grym, ar gais Cadeirydd y Bwrdd Arholi, i droi at Arholwr Allanol arall a fyddai’n cael cais i gymrodeddu. Gall Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau gymryd i ystyriaeth unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynir gan aelodau’r Bwrdd Arholi. Wrth ddewis ail arholwr allanol gall Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau gymryd i ystyriaeth enwebiad (os oes un) y Bwrdd Arholi am ail arholwr allanol hefyd, ond nid oes rhaid iddo gael ei rwymo gan yr enwebiad. Byddai penderfyniad ynghylch a ddylid ail-gynnull y Bwrdd Arholi neu beidio’n dod o fewn cylch gorchwyl yr ail arholwr allanol;
Mewn achos o anghydfod rhwng yr arholwyr allanol a mewnol, ni ddylid llofnodi’r ffurflen Adroddiad a Chanlyniad nes i’r anghydfod gael ei ddatrys.
21. Cyfathrebu â'r Myfyriwr Ymchwil ar ôl yr Arholiad Llafar
Rhaid rhoi gwybod i’r myfyriwr ymchwil am y canlyniad gan esbonio goblygiadau’r argymhelliad ar ddiwedd yr arholiad llafar.
22. Canlyniadau Arholiadau ar Gyfer Gradd Doethur Mewn Athroniaeth (Allanol)
22.1 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD) - (Allanol)
1. Pasio
(Un mis i gyflwyno copïau caled wedi'u rhwymo)
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur.
2. Pasio yn amodol ar fân gywiriadau’n cael eu cyflwyno o fewn 3 mis
(fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion e.e. ychwanegu/dileu paragraffau unigol neu ymgorffori cyfeiriadau at nifer bach o eitemau ychwanegol penodol.
3. Pasio yn amodol ar newidiadau sylweddol yn cael eu cyflwyno ymhen 6 mis
(Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr Arholwr Mewnol a'r Arholwr Allanol neu, yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi, gan yr Arholwr Mewnol yn unig)
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sylweddol y gellir eu nodi a'u mesur yn glir o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu data/ adrannau/ penodau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath ymhen cyfnod o chwe mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno ymhen deuddeg mis ac yna’i ailarholi
(fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o Arholwyr Mewnol ac Allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; gellir hepgor yr ail arholiad llafar yn ôl doethineb yr arholwyr os cytunir ar basio wedi ailgyflwyno);
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes y gallai'r ymgeisydd, ymhen cyfnod o ddeuddeg mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gall fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil (yn ei ffurf bresennol)
(Un mis i gyflwyno copïau caled wedi'u rhwymo)
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd a strwythur.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil yn amodol ar fân gywiriadau yn cael eu cyflwyno ymhen tri mis
(fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau gofynnol yn ymwneud â sylw i fanylion, er enghraifft ychwanegu/dileu paragraffau unigol neu ymgorffori cyfeiriadau at nifer fach o eitemau ychwanegol penodol.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil ymhen deuddeg mis ac yna’i ailarholi.
(fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o Arholwyr Mewnol ac Allanol; gellir hepgor yr ail arholiad llafar yn ôl doethineb yr arholwyr os cytunir ar basio wedi ailgyflwyno);
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil; fel arfer, bydd y newidiadau/ addasiadau/ ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
(fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD nac MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o safon PhD nac MPhil.
23. Gwybodaeth i Gyd-fynd â Chanlyniadau'r Arholiad ar gyfer y Graddau Ymchwil Doethur mewn Athroniaeth (Allanol) uchod
1. Os nad yw’r cywiriadau, yr addasiadau neu'r ailgyflwyniad wedi'u cwblhau er boddhad yr arholwyr neu heb eu cyflwyno i’w craffu yn ystod y cyfnod a roddwyd, ni fydd y myfyriwr ymchwil yn cael ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad neu radd is.
2. Pan ofynnir i'r myfyriwr ymchwil ailgyflwyno, rhaid iddo dalu'r ffi ailgyflwyno berthnasol.
3. Caiff myfyriwr ymchwil un cyfle yn unig i ailgyflwyno'r gwaith.
24. Sefyllfa: Wedi’i Gymeradwyo gyda Chywiriadau/Newidiadau (hefyd yn berthnasol i Heb ei Gymeradwyo, ond Wedi’i Gymeradwyo am Ddyfarniad Is gyda Chywiriadau/Newidiadau)
24.1
Bydd y myfyriwr ymchwil yn derbyn rhestr o gywiriadau/newidiadau oddi wrth yr arholwyr a bydd yn cael ei hysbysu y dylid cwblhau’r cywiriadau/newidiadau yn ystod y cyfnod penodol a nodwyd ar ôl derbyn y rhestr cywiriadau/newidiadau. Gall y rhestr o gywiriadau/newidiadau fod ar ffurf copi anodedig o’r traethawd ymchwil gan un neu’r ddau arholwr a/neu ddogfen fer yn rhoi manylion y cywiriadau wedi’i pharatoi gan un neu’r ddau arholwr. Adeg yr arholiad llafar bydd un neu’r ddau arholwr wedi cael y cyfrifoldeb o graffu ar y cywiriadau/newidiadau.
24.2
Dylai’r myfyriwr ymchwil gyflwyno ei gywiriadau/newidiadau i’r arholwr/arholwyr enwebedig i’w cymeradwyo. Gellir cyflwyno cywiriadau/newidiadau mewn fformat electronig drwy gytundeb ymlaen llawn gan bob parti ynghyd â dogfen yn amlinellu’r cywiriadau/newidiadau a gafodd eu hargymell a’r camau a gafodd eu cymryd gan y myfyriwr ymchwil i weithredu’r cywiriadau/newidiadau hynny. Dylai’r arholwr enwebedig nodi yn ysgrifenedig bod cywiriadau/newidiadau wedi eu derbyn a ph’un ai a yw’r cywiriadau/newidiadau yn dderbyniol.
24.3
Os yw’r cywiriadau/newidiadau’n dderbyniol, dylid rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Academaidd fod y cywiriadau/newidiadau wedi cael eu dilysu. Dylid gofyn i’r myfyriwr ymchwil gyflwyno copïau o’r traethawd ymchwil (gweler Canllawiau ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil am fanylion) cyn gynted â phosibl. Unwaith y bydd copïau o'r traethawd ymchwil wedi cael eu derbyn, bydd y Gwasanaethau Academaidd yn rhoi gwybod i’r myfyriwr ymchwil y bydd yn cael ei dderbyn yn ei absenoldeb.
24.4
Os bernir nad yw’r cywiriadau/newidiadau’n dderbyniol, neu os na chânt eu derbyn o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, yna bernir nad yw’r myfyriwr ymchwil wedi bodloni’r amodau a osodwyd gan y Bwrdd Arholi a bydd canlyniad o Heb ei Gymeradwyo yn cael ei gofnodi.
25. Sefyllfa: Heb ei Gymeradwyo, ond Caniatâd i Ailgyflwyno (hefyd yn berthnasol i Heb ei Gymeradwyo, ond Caniatâd i Ailgyflwyno am Radd Is)
25.1
Bydd yr arholwyr yn rhoi arwydd i'r myfyriwr ymchwil ynghylch rhannau'r traethawd ymchwil y bydd angen eu hail-lunio'n sylweddol a rhoir gwybod i'r myfyriwr y bydd yn cael cyfnod o flwyddyn i ailgyflwyno'r traethawd ymchwil. Fel rheol, rhaid arholi traethawd ymchwil sydd wedi’i ailgyflwyno drwy ail arholiad llafar. Mewn achosion eithriadol iawn, gellid hepgor y gofyniad am ail arholiad llafar yn ôl disgresiwn yr arholwyr os cytunir bod y traethawd a ailgyflwynwyd yn pasio. Yn yr achos hwn, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i’r myfyriwr ymchwil bod y gofyniad am ail arholiad llafar wedi’i hepgor.
25.2
Bydd y Gwasanaethau Academaidd yn rhoi gwybod i’r myfyriwr ymchwil bod ganddo’r cyfle i ailgyflwyno’r thesis rhwng chwe mis ac un flwyddyn i ddyddiad yr hysbysiad. Caiff y myfyriwr ymchwil hawl i gael mynediad at y Llyfrgell ac at gyfleusterau cyfrifiadurol a dylai sefydlu cyswllt rheolaidd â’i oruchwylwyr yn ystod y cyfnod ailgyflwyno.
25.3
Dylai’r myfyriwr ymchwil ddilyn y gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno traethawd ymchwil (gweler y Canllawiau ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil am fanylion) cyn diwedd y cyfnod ailgyflwyno.
25.4
Os bydd y myfyriwr ymchwil yn methu ailgyflwyno’r traethawd ymchwil o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, yna bernir nad yw wedi bodloni’r amodau a osodwyd gan y Bwrdd Arholi a bydd canlyniad o Heb ei Gymeradwyo yn cael ei gofnodi.
26. Sefyllfa: Heb ei Gymeradwyo
Ar ôl i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau gymeradwyo'r argymhelliad, bydd y Gwasanaethau Academaidd yn rhoi gwybod i'r myfyriwr ymchwil nad yw wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad neu radd is.
27. Cynnal Arholiadau Llafar drwy Ddulliau Electronig
27.1
Mae arholiadau llafar yn rhan hanfodol o'r broses arholi ar gyfer pob myfyriwr gradd ymchwil. I’r diben hwn, mae’n ofynnol yn ôl rheoliadau’r Brifysgol fod arholiad o’r fath yn cael ei gynnal, ac mae canllawiau ar gael sydd wedi’u bwriadu i osod y sylfeini ar gyfer yr arholiad llafar ei hun.
27.2
Disgwylir y byddai arholiadau llafar traddodiadol ar gyfer graddau ymchwil fel arfer yn cael eu cynnal ar sail wyneb yn wyneb, gyda phawb dan sylw yn bresennol, yn yr un ystafell ar gampws Prifysgol Abertawe, ar yr un amser. Fodd bynnag, oherwydd natur y radd ymchwil Doethur mewn Athroniaeth (Allanol), fel arfer cynhelir yr arholiad llafar drwy ddulliau electronig. Dylid gofalu i sicrhau bod cynnal yr arholiad llafar yn adlewyrchu, pan fo'n bosib, y prosesau a'r gweithdrefnau arholi sy'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel arfer.
27.3
Os bydd myfyriwr ymchwil yn methu dod i’r arholiad llafar heb roi rhybudd ymlaen llaw, bernir y bydd wedi methu bodloni gofynion y dyfarniad neu'r radd lefel is a dylai’r Bwrdd Arholi anfon argymhelliad o Heb ei Gymeradwyo (gweler Canlyniadau arholiadau ar gyfer pob gradd isod).
27.4
Dylai myfyrwyr ymchwil sy'n sefyll eu harholiad llafar drwy ddulliau electronig ddarparu:
- cadarnhad ysgrifenedig nad oes ganddynt wrthwynebiad i'r arholiad gael ei gynnal, ar adeg y cytunwyd arni, drwy ddulliau electronig (dylai'r arholwyr a'r Cadeirydd fod yn gytûn hefyd);
- datganiad ysgrifenedig eu bod wedi ildio’r hawl am unrhyw apêl yn erbyn canlyniad yr arholiad ar sail y defnydd o gyfrwng electronig neu ganlyniadau sy’n codi yn sgil defnyddio cyfrwng o’r fath;
- cadarnhad bod digon o amser wedi'i neilltuo ar gyfer yr arholiad llafar ei hun, a'u bod wedi trefnu'r pethau technegol angenrheidiol wrth gefn (dylai'r Gyfadran/yr Ysgol hefyd ddarparu cymorth technegol i'r arholwyr a'r Cadeirydd o bell neu wyneb yn wyneb);
Sylwer: Rhaid bod amser ychwanegol (tua 10 munud) ar gael cyn cychwyn yr arholiad ffurfiol er mwyn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i ymgyfarwyddo â chwmpas a chyfyngiadau’r cyfrwng sy’n cael ei ddefnyddio (e.e. Teams, Skype, Zoom etc).
27.5
Awgrymir, ar yr amod bod y myfyriwr ymchwil yn gytûn, y dylai'r goruchwyliwr gael gwahoddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi i fod yn bresennol gyda'r myfyriwr ymchwil yn ystod yr arholiad llafar. Fel arfer, byddai hyn drwy ddulliau electronig i fyfyrwyr ymchwil sydd wedi cofrestru ar radd Doethur mewn Athroniaeth (Allanol).