Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil mewn Athroniaeth (Allanol)
1. Diffiniadau o astudio yn llawn amser ac astudio'n rhan-amser
Mae pob myfyriwr ymchwil yn astudio dros y flwyddyn galendr lawn.
1.1
Bydd myfyrwyr ymchwil llawn amser yn treulio isafswm o 35 awr yr wythnos ar ymchwil ac astudio yn ystod y cyfnod astudio dan oruchwyliaeth ar gyfer y radd. Mae gan fyfyrwyr ymchwil llawn amser yr hawl i gymryd hyd at bedair wythnos o wyliau’r flwyddyn, yn ogystal â Gwyliau Cyhoeddus a’r cyfnod cau dros y Nadolig.
1.2
Disgwylir i fyfyrwyr ymchwil rhan-amser dreulio tua 15 awr yr wythnos ar ymchwil ac astudio yn ystod y cyfnod astudio dan oruchwyliaeth ar gyfer y radd.
1.3
Dylai pob myfyriwr ymchwil sicrhau bod cyswllt cyson gyda'i oruchwyliwr/oruchwylwyr a bod o leiaf bedwar cyfarfod goruchwylio y flwyddyn, ond oherwydd natur y Rhaglen Gradd Doethur mewn Athroniaeth (Allanol), argymhellir bod nifer sylweddol yn fwy o gyfarfodydd goruchwylio (yn fisol yn ddelfrydol) er mwyn cynnig cefnogaeth a sicrhau cyfranogiad. Ni ofynnir fel arfer i fyfyrwyr ymchwil fynychu'r cyfarfodydd mewn person heblaw bod cais penodol i wneud hyn.
2. Cyfnodau Astudio ar gyfer Pob Gradd
Rhaglen | Dull Astudio | Dyddiad Gorffen Disgwyliedig (Cyfnod Ymgeisyddiaeth Byrraf) | Dyddiad gorffen (Cyfnod hwyaf yr ymgeisyddiaeth) |
---|---|---|---|
PhD (Allanol) | Llawn-Amser | 3 | 4 |
Rhan-Amser | 6 | 7 |
Tabl 1.1:Dyddiad Gorffen Disgwyliedig (Cyfnod Ymgeisyddiaeth Byrraf)/Dyddiad gorffen (Cyfnod hwyaf yr ymgeisyddiaeth) mewn blynyddoedd
2.1
Y cyfnod cyflwyno hwyaf ar gyfer pob gradd ymchwil, beth bynnag fo’r dull astudio, fydd fel arfer un flwyddyn yn fwy na’r cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf.
2.2
Mae gan y rhaglen gradd ymchwil gyfnod arferol o astudiaeth wedi'i goruchwylio, sef yr ymgeisyddiaeth fyrraf, a disgwylir i'r myfyriwr ymchwil gyflwyno ar ddiwedd y cyfnod hwn (Dyddiad Gorffen Disgwyliedig). Ceir hefyd ddyddiad gorffen ar ddiwedd yr ymgeisyddiaeth hwyaf, ac ar ddiwedd yr amser hwn ystyrir bod y myfyriwr wedi rhedeg allan o amser ac ni fydd hawl ganddo i gyflwyno traethawd ymchwil.
3. Cyfnod Ymgeisyddiaeth
Yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf, bydd y myfyriwr ymchwil yn ymgymryd â gwaith ymchwil dan oruchwyliaeth lawn. Bydd y myfyriwr ymchwil yn derbyn cymorth, cyngor a chyfarwyddyd rheolaidd gan ei oruchwylwyr er mwyn sicrhau y gellir cwblhau’r ymchwil, gan gynnwys paratoi’r traethawd ymchwil, erbyn diwedd y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf (Dyddiad Gorffen Disgwyliedig). Bydd y goruchwylwyr yn cynorthwyo’r myfyriwr ymchwil i lunio cynllun gwaith manwl ac amserlen ar gyfer yr ymchwil a byddant yn monitro cynnydd y myfyriwr mewn perthynas â’r cynllun hwn. Yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf, bydd y myfyriwr ymchwil yn atebol am ffioedd ar y lefel briodol yn seiliedig ar breswyliad, dull yr ymgeisyddiaeth a’r maes pwnc.
4. Cadarnhau Ymgeisyddiaeth
Mae'n rhaid i'r Gyfadran/Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth myfyriwr ymchwil i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau o fewn tri mis i'r dyddiad cofrestru cyntaf. Drwy wneud hynny, mae’r Gyfadran/Ysgol yn cadarnhau bod y myfyriwr ymchwil wedi bodloni’r gofynion gweinyddol a nodwyd, ei fod yn barod yn academaidd i ymgymryd â’r prosiect ymchwil a gytunwyd, y tybir ei fod o safon academaidd ddigonol i wneud hynny, a bod ganddo'r gallu i'w wneud (gweler y Canllawiau i Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil Allanol am ragor o fanylion).
4.1
Cyflwynir adroddiad am bob ymgeisyddiaeth nas cadarnhawyd dri mis ar ôl cofrestru i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau. Os nad yw’r Gyfadran/Ysgol yn gallu cadarnhau ymgeisiaeth myfyriwr ymchwil ar ôl tri mis, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn gofyn i'r myfyriwr ymchwil naill ai i ohirio neu dynnu yn ôl o’r rhaglen (gweler y Canllawiau ar Ohiriadau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol a’r Canllawiau i Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol). Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol iawn, caiff myfyriwr ymchwil gyflwyno cais, i'w ystyried gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau, i ymestyn ei gyfnod Cadarnhau Ymgeisyddiaeth am dri mis.
4.2
Ar ôl cadarnhau'r ymgeisyddiaeth, ni chaniateir i fyfyriwr ymchwil newid testun ei ymchwil yn sylweddol, gan y byddai newid o’r fath yn annilysu cadarnhau'r ymgeisyddiaeth. Os yw myfyriwr ymchwil yn dymuno newid ei destun ymchwil yn sylweddol, dylid gofyn i'r myfyriwr dynnu yn ôl o’r radd bresennol ac ailymgeisio ar gyfer y testun ymchwil newydd.
4.3
Pe bai cynnig ymchwil y myfyriwr ymchwil yn newid o gwbl, rhaid i'r Brifysgol hysbysu Swyddfa Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI) o fewn 28 niwrnod o'r newidiadau i gynigion ymchwil myfyriwr ôl-raddedig, i fyfyrwyr sydd angen tystysgrif Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS). Mae gwybodaeth am ba Gyrsiau y mae angen tystysgrif ATAS ar eu cyfer ar gael yma: https://www.gov.uk/guidance/find-out-if-you-require-an-atas-certificate#find-out-how-to-apply
Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr o'r tu allan i'r DU yn unig. Cyfrifoldeb goruchwylwyr Prifysgol Abertawe yw hysbysu'r Tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol (Gwasanaethau Academaidd) o newidiadau i gynnig ymchwil gwreiddiol myfyrwyr neu'r defnydd o ddull ymchwil newydd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Weithdrefnau a Pholisi ATAS and Change of Research Topic Policy and Procedure.
5. Monitro Cynnydd
Caiff cynnydd pob myfyriwr ymchwil ei fonitro'n gyson trwy gydol ei gyfnod astudio. Ddwywaith y flwyddyn, mae’n rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion gyflwyno adroddiad cynnydd ffurfiol i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar gyfer pob myfyriwr ymchwil, ynghyd ag argymhelliad ynglŷn â chynnydd y myfyriwr er mwyn i'r myfyriwr ymchwil barhau ar ei raglen (gweler y Canllawiau i Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil Allanol am ragor o fanylion).
5.1
Ar ddiwedd y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf (Dyddiad Gorffen Disgwyledig) disgwylir y bydd y myfyriwr ymchwil wedi cwblhau ei ymchwil a'i fod yn barod i gyflwyno'r traethawd ymchwil. Mae’n rhaid i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno asesiad ffurfiol ar gynnydd y myfyriwr ymchwil i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau, gan awgrymu pryd bydd y myfyriwr ymchwil yn barod i gyflwyno traethawd ymchwil (gweler y Canllawiau i Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil Allanol am ragor o fanylion).
5.2
Fel arfer, disgwylir i fyfyriwr ymchwil gyflwyno ei draethawd ymchwil erbyn diwedd cyfnod/dyddiad hwyaf yr ymgeisyddiaeth, ac ar ôl hyn ystyrir bod y myfyriwr wedi rhedeg allan o amser a chaiff ei gofnod ei gau. Mewn achosion eithriadol, gall y myfyriwr ymchwil ymgeisio am estyniad i’r dyddiad cyfnod ymgeisyddiaeth hwyaf (gweler y Canllawiau ar Ohiriadau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol am ragor o wybodaeth).
6. Cyflwyno’n Gynnar
Os yw myfyriwr ymchwil yn dymuno cyflwyno ei draethawd ymchwil mwy na chwe mis cyn y Dyddiad Gorffen Disgwyliedig (Cyfnod Ymgeisyddiaeth Byrraf), dylid ceisio caniatâd Y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau. Dylai’r myfyriwr ymchwil a’r goruchwyliwr/goruchwylwyr ddarparu datganiad ysgrifenedig manwl, wedi’i gydlofnodi gan y Deon Gweithredol neu enwebai, yn amlinellu’r rhesymau dros gyflwyno’n gynnar ac yn cadarnhau bod y myfyriwr yn barod i gyflwyno mewn gwirionedd. Os yw myfyriwr ymchwil yn dymuno cyflwyno ei draethawd ymchwil llai na chwe mis cyn y Dyddiad Gorffen Disgwyliedig (cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf), dylid fel arfer anfon datganiad byr gan y myfyriwr ymchwil a'r goruchwyliwr/goruchwylwyr, wedi ei gymeradwyo fel arfer gan Arweinydd Academaidd Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran, at y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau.
6.1
Lle caniateir i fyfyriwr ymchwil gyflwyno traethawd ymchwil cyn diwedd y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf, dylid nodi y bydd y myfyriwr yn parhau i fod yn atebol am ffioedd ar gyfer cyfnod cyfan yr ymgeisyddiaeth byrraf.
6.2
Os nad yw Cyfadran/Ysgol neu’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn cefnogi cais ymgeisydd am gyflwyno traethawd hir yn gynnar, neu cyn y ffenestr chwe mis a ganiateir o fewn y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf (yn unol â'r rheoliadau a'r canllawiau), gellir cyflwyno cais i'r Is-ganghellor am gyflwyno'n gynnar. Bydd yr Is-ganghellor neu ei enwebai (a fydd yn aelod o'r Uwch Dîm Rheoli ac sydd heb ddiddordeb materol yn yr achos) yn gallu awdurdodi cyflwyniad cynnar cyn belled â bod datganiad wedi'i eirio'n briodol wedi'i lofnodi gan y goruchwyliwr a'r myfyriwr ymchwil, a hefyd wedi'i gydlofnodi gan aelod awdurdodedig yr Uwch Dîm Rheoli.
6.3
Bydd y datganiad hwn yn cynnwys hepgor unrhyw hawl ar ran yr ymgeisydd i ddilyn cwyn neu wneud yn iawn am unrhyw ddiffygion o ran cymorth ymchwil neu oruchwylio, neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â chofnodi a rheoli'r ymgeisyddiaeth sy'n deillio oherwydd cyflwyno'n gynnar.
6.4
Ym mhob achos arall, bydd cyflwyno ac asesu'r traethawd ymchwil yn dilyn camau gweithredu priodol y Brifysgol, gan gynnwys er enghraifft, benodi arholwyr, ffurfio a threfnu’r bwrdd arholi, cynnal arholiad llafar, a chanlyniadau posib yr arholiad.