Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol ar Drosglwyddo a Thynnu yn Ôl
1. Trosglwyddo Dull Astudio
Caniateir trosglwyddo dull astudio (amser llawn i ran-amser neu ran-amser i amser llawn) dim ond pan fydd myfyriwr ymchwil o fewn cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf y rhaglen. Fel arfer, ni cheir gweithredu'r broses o drosglwyddo dull astudio heblaw am ar ddechrau blwyddyn astudio myfyriwr ymchwil (ar ben-blwydd cofrestru’r myfyriwr). Fel arfer, ni chaniateir newid o ran-amser i amser llawn heblaw am ar ddiwedd blynyddoedd eilrif o astudio’n rhan-amser (ar ôl dwy neu bedair blynedd). Gallai’r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd/y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ystyried amgylchiadau eithriadol fel achos arbennig, fesul achos.
1.1
Os yw myfyriwr ymchwil yn dymuno trosglwyddo dull astudio fwy nag unwaith yn ystod un ymgeisyddiaeth, bydd yn ofynnol iddo ddarparu esboniad manwl o’r angen am drosglwyddo eto.
1.2
Gweithdrefn
Dylai’r myfyriwr ymchwil drafod y bwriad i drosglwyddo dull gyda’i oruchwyliwr/oruchwylwyr er mwyn sicrhau na fydd trosglwyddiad o’r fath yn niweidiol i'w ymgeisyddiaeth. Dylai'r myfyriwr ymchwil ofyn am gymeradwyaeth ei noddwr (os yw'n berthnasol) cyn gofyn am drosglwyddo.
Os yw pob parti’n cytuno i'r trosglwyddo mewn egwyddor, dylai'r myfyriwr ymchwil ofyn i'w Gyfadran/Ysgol weithredu'r cais drwy'r Fewnrwyd (Newid Amgylchiadau), i'w ystyried gan y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd/Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau.
Bydd angen i’r myfyriwr ymchwil a’r goruchwylwyr ddarparu datganiad ysgrifenedig byr yn amlinellu’r rhesymau dros y cais i drosglwyddo. Bydd angen i'r myfyriwr ymchwil ddarparu caniatâd ysgrifenedig ei noddwr (os yw'n berthnasol) hefyd.
Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd cofnod y myfyriwr ymchwil yn cael ei ddiweddaru fel y bo’n briodol.
2. Trosglwyddo i Raglen Arall
Byddai cais i drosglwyddo rhaglen astudio fel arfer yn dod gan Gyfadran/Ysgol y myfyriwr ymchwil drwy'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau fel argymhelliad dilyniant. Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau gall myfyriwr ymchwil wneud cais i drosglwyddo rhaglen y tu allan i’r system ddilyniant.
2.1
Ni chaniateir trosglwyddo rhaglen astudio ac eithrio pan fydd myfyriwr ymchwil o fewn cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf y rhaglen bresennol neu’r rhaglen newydd arfaethedig. Mewn achosion eithriadol iawn, gellir caniatáu trosglwyddo rhaglen pan fydd y myfyriwr ymchwil y tu allan i’r cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ar gyfer y ddwy raglen os bydd y myfyriwr ymchwil am drosglwyddo i ddyfarniad is (e.e., PhD i MPhil).
2.2
Gweithdrefn
Os yw’r cais i drosglwyddo rhaglen o ganlyniad i argymhelliad dilyniant i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau, bydd fel arfer yn cael ei weithredu ar gyfer dechrau blwyddyn astudio nesaf y myfyriwr ymchwil.
2.3
Os yw’r cais i drosglwyddo rhaglen y tu allan i’r system ddilyniant, dylai’r myfyriwr ymchwil drafod y trosglwyddo arfaethedig gyda’i oruchwylwyr er mwyn sicrhau na fydd trosglwyddo o’r fath yn niweidiol i ymgeisyddiaeth y myfyriwr ymchwil.
Dylai’r myfyriwr ymchwil ofyn am gymeradwyaeth ei noddwr (os yw'n berthnasol) cyn gofyn am drosglwyddo.
Os yw pob parti’n cytuno i'r trosglwyddo mewn egwyddor, dylai'r myfyriwr ymchwil ofyn i'w Gyfadran/Ysgol weithredu'r cais drwy'r Fewnrwyd (Newid Amgylchiadau), i'w ystyried gan y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd/Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau.
Bydd angen i’r myfyriwr ymchwil a’r goruchwylwyr ddarparu datganiad ysgrifenedig byr yn amlinellu’r rhesymau dros drosglwyddo. Bydd angen i'r myfyriwr ymchwil ddarparu caniatâd ysgrifenedig ei noddwr (os yw'n berthnasol) hefyd.
Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd cofnod y myfyriwr ymchwil yn cael ei ddiweddaru fel y bo’n briodol.
2.4
Os yw trosglwyddo rhaglen yn golygu newid Cyfadran/Ysgol, rhaid cael cymeradwyaeth Deon Gweithredol neu enwebai’r Gyfadran/Ysgol sy’n rhyddhau a Deon Gweithredol neu enwebai'r Gyfadran/Ysgol sy’n derbyn.
Fel arfer bydd y myfyriwr ymchwil yn cael ei gofrestru yn yr un Gyfadran/Ysgol â'i brif oruchwyliwr.
2.5
Cyfyngiadau’r Brifysgol a osodir ar drosglwyddiadau rhaglen astudio yw bod yn rhaid i fyfyriwr ymchwil:
a) fodloni gofynion mynediad y rhaglen astudio arfaethedig;
b) cael ei dderbyn ar y rhaglen arfaethedig gan y Gyfadran/Ysgol dan sylw;
c) cael ei ryddhau o’i ymrwymiad i’r rhaglen astudio bresennol;
d) HEB gael ei dynnu yn ôl o’r Brifysgol yn flaenorol.
2.6
Cyfrifoldeb y myfyriwr ymchwil yw hysbysu unrhyw noddwr ei fod yn trosglwyddo rhaglen a sicrhau cefnogaeth barhaus y noddwr ar gyfer hyd y rhaglen.
2.7
Yn achos myfyrwyr ymchwil rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae caniatâd i drosglwyddo rhaglen yn amodol ar feddu ar fisa myfyriwr (Llwybr Myfyrwyr - Haen 4 gynt) ddilys. Ar yr adeg drosglwyddo, cynhelir asesiad i ganfod a yw'r trosglwyddo'n bodloni deddfwriaeth Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo. Bydd yr asesiad yn rhoi sylw i lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n berthnasol i astudio ar raglenni Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), a yw'r rhaglen newydd yn bodloni “dyheadau gyrfa go iawn” y myfyriwr ymchwil ai peidio ac unrhyw ofynion eraill a bennir gan Swyddfa Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI). Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros presennol sy’n berthnasol i’r Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd rhaid i’r myfyriwr ymchwil adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau’r rhaglen. Ar gyfer rhaglenni lle mae angen Caniatâd y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS), bydd rhaid i fyfyrwyr ymchwil rhyngwladol gael caniatâd a darparu copi o’r dystysgrif ATAS i’r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i drosglwyddo.
3. Trosglwyddo i Sefydliad Arall
Cyn i fyfyriwr ymchwil ystyried trosglwyddo i sefydliad arall mae'n bwysig ei fod yn trafod hyn gyda'i oruchwylwyr a/neu’r Deon Gweithredol neu enwebai, ac yn gwneud apwyntiad gyda Gwasanaethau Academaidd, fel bod dewisiadau amgen posibl yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol. Argymhellir yn gryf bod myfyrwyr ymchwil rhyngwladol yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol cyn gwneud penderfyniad terfynol, oherwydd gall fod goblygiadau o ran statws mewnfudo. Gwaherddir myfyrwyr ymchwil rhag trosglwyddo eu hymgeisyddiaeth i sefydliad arall ar ôl i’r cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ddod i ben.
3.1
Er mwyn trosglwyddo i sefydliad arall, mae’n ofynnol i fyfyriwr ymchwil dynnu yn ôl o’r Brifysgol yn gyntaf (gweler Tynnu yn ôl yn wirfoddol isod). Fodd bynnag, dylid cynghori myfyrwyr ymchwil i beidio â thynnu yn ôl nes bod cynnig pendant wedi’i wneud gan y sefydliad newydd. Dylai myfyrwyr ymchwil gysylltu â’r sefydliad newydd i holi a fydd unrhyw gyfnod astudio yn y Brifysgol yn cael ei gyfrif tuag at gyfnod yr ymgeisyddiaeth yn y sefydliad newydd. Gall y sefydliadau y trosglwyddir iddynt wneud cais am eirda academaidd a chaniatâd ffurfiol gan y Brifysgol er mwyn caniatáu i ymgeisyddiaeth y myfyriwr ymchwil gael ei throsglwyddo. Dylai’r myfyriwr ymchwil sicrhau bod unrhyw faterion o ran Hawliau Eiddo Deallusol yn cael eu hegluro cyn trosglwyddo i sefydliad arall.
4. Trosglwyddo o Sefydliad Arall
Gall myfyrwyr ymchwil drosglwyddo o sefydliadau eraill drwy gyflwyno cais am fynediad yn y ffordd arferol. Byddai modd i fyfyrwyr ymchwil sy’n trosglwyddo o sefydliad arall, ar argymhelliad y Deon Gweithredol perthnasol neu enwebai, sicrhau cydnabyddiaeth ar gyfer y cyfnod astudio yn y sefydliad arall. Beth bynnag yw’r cyfnod astudio blaenorol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr ymchwil sy’n trosglwyddo o sefydliad arall gwblhau o leiaf un flwyddyn (cyfwerth ag amser llawn) o’r cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf. Bydd y Brifysgol yn ceisio cadarnhad ysgrifenedig gan y sefydliad gwreiddiol nad oes unrhyw wrthwynebiad i drosglwyddo’r myfyriwr ymchwil.
5. Tynnu yn ôl o Raglen
5.1
Tynnu yn ôl yn wirfoddol
Cyn i fyfyriwr ymchwil ystyried tynnu'n ôl o'r Brifysgol mae'n bwysig ei fod yn trafod hyn gyda'i oruchwylwyr a/neu’r Deon Gweithredol neu enwebai, ac yn gwneud apwyntiad gyda’r Gwasanaethau Academaidd, fel bod dewisiadau amgen posibl yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol. Dylai'r myfyriwr ymchwil hefyd ymgynghori â'r Swyddfa Cymorth i Fyfyrwyr ac os yw'n berthnasol, ei noddwr. Argymhellir yn gryf bod myfyrwyr ymchwil rhyngwladol yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol cyn gwneud penderfyniad terfynol, oherwydd gall fod goblygiadau o ran statws mewnfudo.
5.2
Os yw cynnig myfyriwr ymchwil i dynnu'n ôl o ganlyniad i drafferthion ariannol, dylai ymweld ag arian@bywydcampws yn gyntaf. Gall myfyrwyr ymchwil hefyd gysylltu â’r Adran Gyllid er mwyn trafod trefniadau talu ffioedd neu ddyledion i’r Brifysgol.
5.3
Rhaid rhoi hysbysiad ffurfiol o dynnu’n ôl ar ffurflen “Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol, sydd ar gael gan y Gwasanaethau Academaidd. Rhaid hysbysu’r Brifysgol am y rhesymau dros benderfyniad y myfyriwr ymchwil i dynnu'n ôl a rhaid derbyn cadarnhad o’r dyddiad presenoldeb olaf. Os yw’r myfyriwr ymchwil yn tynnu'n ôl am resymau iechyd, dylid atodi tystysgrif feddygol i’r ffurflen.
5.4
Ar ôl derbyn y ffurflen tynnu yn ôl, bydd y Gwasanaethau Academaidd yn sicrhau bod cofnod y myfyriwr ymchwil yn cael ei ddiweddaru (gan gofnodi’r rheswm dros dynnu yn ôl) ac yn hysbysu noddwr y myfyriwr (os yw’n berthnasol) a’r holl bartïon perthnasol eraill, megis Cyfadran/Ysgol y myfyriwr, y Swyddfa Gyllid, y Swyddfa Lety, y Llyfrgell ac, os yw’r myfyriwr ymchwil yn fyfyriwr ymchwil rhyngwladol, yr awdurdodau Mewnfudo.
5.5
Os nad yw myfyriwr ymchwil yn ailgychwyn ei astudiaethau erbyn y dyddiad dychwelyd a nodwyd yn dilyn cyfnod o ohirio ei astudiaethau (gweler y Canllawiau i Ohirio Astudiaethau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol am ragor o wybodaeth), bydd y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd/y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn cymryd yn ganiataol bod y myfyriwr ymchwil wedi tynnu yn ôl o’r Brifysgol. Bydd y weithdrefn ar gyfer tynnu yn ôl yn wirfoddol yn cael ei dilyn gyda’r eithriad y bydd y ffurflen “Tynnu yn ôl o’r Brifysgol” yn cael ei llenwi gan y Gwasanaethau Academaidd yn absenoldeb y myfyriwr ymchwil.
6. Tynnu yn ôl yn Ofynnol
Gall fod yn ofynnol i fyfyriwr ymchwil dynnu yn ôl o’i raglen am y resymau canlynol:
- methu â chofrestru neu ailgofrestru ar ben-blwydd y cofrestriad cyntaf;
- methu â chadarnhau ei ymgeisyddiaeth (gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil Allanol);
- methu â gwneud cynnydd academaidd boddhaol. [Sylwer: Rhaid bod y goruchwylwyr wedi gosod targedau clir a chyraeddadwy ar gyfer y myfyriwr ymchwil a rhaid eu bod yn gallu darparu tystiolaeth ddogfennol o fethiant y myfyriwr ymchwil i gyrraedd y targedau hyn i gyfiawnhau barn bod myfyriwr ymchwil wedi methu â gwneud cynnydd academaidd boddhaol];
- argymhelliad dilyniant (gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil Allanol);
- methu â chadw at Bolisi Cyfranogiad y Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil;
- mater disgyblu.
6.1
Pan fydd yn ofynnol i fyfyriwr ymchwil dynnu'n ôl, bydd y Gwasanaethau Academaidd yn sicrhau bod cofnodion y myfyriwr ymchwil yn cael eu diwygio (i gofnodi y gofynnwyd i'r myfyriwr ymchwil dynnu'n ôl) ac yn hysbysu pob parti perthnasol arall megis Cyfadran/Ysgol y myfyriwr ymchwil, y Swyddfa Gyllid, y Swyddfa Lety, y Llyfrgell ac, os yw'r myfyriwr ymchwil yn fyfyriwr rhyngwladol, yr awdurdodau Mewnfudo. Bydd y Brifysgol hefyd yn hysbysu noddwr y myfyriwr ymchwil (os yw'n berthnasol). Rhoddir gwybod i’r myfyriwr ymchwil os oes ganddo'r hawl i geisio adolygiad neu apêl mewn perthynas â'r penderfyniad tynnu’n ôl o dan y broses berthnasol.