Sgip i brif cynnwys
Prifysgol Abertawe
  • Offer Hygyrchedd
  • English
Mewngofnodi
Prifysgol Abertawe Mewngofnodi
  • Offer Hygyrchedd
  • English
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Canllawiau Ymchwil
  5. Canllawiau Ymchwil Allanol
  6. Canllaw i Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil – PhD Allanol
  • Eich Prifysgol
    • Cyfadrannau ac Ysgolion
      • Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
      • Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
      • Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
      • Hwb Ysgol Seicoleg
      • Medical School Hub
      • Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
      • Yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
      • Yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
      • Yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
      • Y Coleg, Prifysgol Abertawe
    • Eich Prifysgol - Astudio yn Abertawe
      • Ffurflenni Academaidd
      • Monitro Presenoldeb
      • Arholiadau
      • Canvas
      • Amgylchiadau Esgusodol
      • Gwasanaeth Cyrchu Cyfrifiadur o Bell
      • Dyddiadau Tymhorau a Semestrau
      • Mannau Astudio yn y Llyfrgell
      • Lleoedd Astudio Anffurfiol
    • Gwasanaethau Defnyddiol
      • Llety
      • Lleoedd Bwyta
      • Iechyd a Diogelwch
      • Cymorth TG
      • Gwasanaethau Llyfrgell MyUni
      • Cynlluniwr Teithiau Bws
      • Teithio Myfyrwyr
      • Undeb y Myfyrwyr
  • Cymorth a Lles
  • MyUniHub
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Digwyddiadau
  • Croeso 2025
  • Cofrestru a Sefydlu
  • Cymorth Costau Byw
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Canllawiau Ymchwil
  5. Canllawiau Ymchwil Allanol
  6. Canllaw i Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil – PhD Allanol

Canllaw i Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil – PhD Allanol

Tudalennau cysylltiedig
  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni

Canllaw i Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil – PhD Allanol

Prif gyfrifoldeb y Brifysgol yw uniondeb y gwaith astudio ac ansawdd profiad dysgu’r myfyriwr ymchwil. Felly, bydd yn ofynnol i Gyfadrannau/Ysgolion a myfyrwyr ymchwil roi blaenoriaeth bennaf i gwblhau astudiaethau ymchwil yn llwyddiannus ac yn brydlon o fewn telerau cynnig ffurfiol y Brifysgol.

1. Cyflogaeth Allanol

Nid oes modd i’r Brifysgol reoli cyflogaeth myfyrwyr y tu allan i’r Brifysgol, ond anogir myfyrwyr ymchwil i ystyried yn ofalus yr effaith y gall cyflogaeth o’r fath ei chael ar eu gallu i gwblhau eu hastudiaethau’n brydlon. Dylai myfyrwyr ymchwil ymgynghori â’u goruchwylwyr, a dylid eu hatgoffa o unrhyw amodau a bennwyd gan eu noddwr, lle bo hynny’n briodol. Mewn rhai achosion, gall amodau o’r fath fynnu bod y goruchwylydd yn hysbysu’r noddwr os teimlir y gallai cyflogaeth myfyriwr amharu ar ei gynnydd.

2. Lleoliadau Gwaith sy’n gysylltiedig ag Astudiaethau

Nid yw’r canllawiau canlynol yn effeithio nac yn cyfyngu ar y gwaith neu’r lleoliadau gwaith y gellir eu trefnu fel elfen ffurfiol o raglen ymchwil benodol ar radd ymchwil.

2.1 

Gofynion Cyffredinol

Ym mhob achos lle bydd myfyrwyr ymchwil yn gwneud cais am swydd yn y Brifysgol yn ystod eu cyfnod astudio amser llawn, cyfrifoldeb y Gyfadran/Ysgol, trwy ganiatâd ysgrifenedig goruchwylwyr y gwaith ymchwil, yw sicrhau bod unrhyw swydd gyflogedig a gynigir gan y Brifysgol:

  • Yn cydymffurfio â’r telerau a bennwyd gan y noddwr perthnasol, a’i bod wedi’i chymeradwyo gan y noddwr lle bo hynny’n berthnasol;
  • Yn amodol ar hyfforddiant lle bo hynny’n angenrheidiol neu’n ofynnol (h.y. yn achos pob math o waith addysgu ac arddangos);
  • Yn darparu cyflog sy’n unol â’r cyfraddau y cytunwyd arnynt ar gyfer y gwaith gan Brifysgol Abertawe;
  • Yn annhebygol o rwystro’r myfyriwr rhag cwblhau ei astudiaethau’n llwyddiannus ac yn brydlon, ym marn y goruchwyliwr.

2.2

Dylid anfon cyngor ysgrifenedig o’r fath i’r Adran Adnoddau Dynol, a dylai’r wybodaeth gael ei chydnabod a’i chymeradwyo cyn i’r myfyriwr ddechrau yn y swydd.

2.3

Dylid dilyn y canllawiau canlynol ar gyfer pob myfyriwr gradd ymchwil amser llawn, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu noddi'n breifat neu sydd ag ysgoloriaethau ymchwil y Brifysgol.

3. Gwaith Cyflogedig sy’n ymwneud â Phwnc

Ceir cytundeb cyffredinol ymhlith noddwyr yn y Deyrnas Unedig ynghylch gwaith cyflogedig sy’n ymwneud â phwnc (gwaith addysgu ac arddangos yn bennaf). Mae hyn yn caniatáu i fyfyriwr wneud gwaith cyflogedig am hyd at uchafswm arferol o chwe awr ym mhob wythnos waith (9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener), os yw’r goruchwyliwr wedi rhoi caniatâd datganedig. Yr uchafswm blynyddol fydd 180 o oriau.

4. Gwaith Cyflogedig Arall

Caniateir i fyfyriwr wneud ychydig o waith cyflogedig nad yw’n ymwneud â’r pwnc, y tu allan i oriau gwaith arferol fel rheol, ond rhaid bod y goruchwyliwr wedi rhoi caniatâd datganedig a rhaid bod y caniatâd hwnnw wedi’i roi gan gydnabod yn llawn y telerau a bennwyd gan y corff sy’n noddi’r myfyriwr, os yw hynny’n briodol. Mewn rhai achosion, lle bo'n berthnasol, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan y corff hwnnw. Yn achos myfyrwyr a ariennir yn breifat a myfyrwyr ag ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig y Brifysgol, ni chaniateir gweithio mwy na chwe awr yr wythnos fel arfer. 

4.1

Fodd bynnag, gall y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau gymeradwyo cais i gynyddu'r uchafswm hwnnw o chwe awr ar argymhelliad y goruchwylwyr, ar yr amod bod y gwaith dan sylw’n cael ei wneud y tu allan i oriau gwaith arferol ac nad yw’r ymrwymiad cyfan yn fwy na deuddeg awr, yn ystod oriau gwaith arferol neu’r tu allan iddynt, mewn unrhyw wythnos unigol.

5. Cydweithio â Diwydiant a Phrofiad Gwaith

Dylid annog myfyrwyr i fanteisio ar leoliadau gwaith tymor byr mewn cwmnïau, boed hynny’n waith cyflogedig neu’n waith di-dâl, ac i feithrin cysylltiadau cydweithredol eraill a fydd yn datblygu eu hymwybyddiaeth ddiwydiannol neu fasnachol, ar yr amod bod hynny’n cydymffurfio â’r telerau a bennwyd gan y corff sy’n eu noddi, os yw hynny’n berthnasol. Dylai myfyrwyr ymchwil sydd am fanteisio ar y math hwn o hyfforddiant, neu waith cyflogedig arall sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’u hastudiaethau ymchwil, gael caniatâd gan eu goruchwylwyr i wneud hynny. Rhaid i’r goruchwylwyr roi caniatâd ffurfiol sy’n nodi na fydd y gwaith y bwriedir ei wneud yn amharu ar raglen ymchwil y myfyriwr a bod y gwaith yn cydymffurfio â’r telerau a bennwyd gan y noddwr perthnasol, os yw hynny’n berthnasol.

6. Uwch-gynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Addysgu - Gan gynnwys Myfyrwyr Ymchwil sydd wedi cofrestru ar raglen PhD (Allanol)

6.1

Canllawiau'r Senedd ar gyfer Penodi Uwch-gynorthwywyr Addysgu/Cynorthwywyr Addysgu - gan gynnwys myfyrwyr ymchwil sydd wedi cofrestru ar raglen PhD (Allanol)

Cydnabyddir bod profiad addysgu ac asesu'n cyfrannu'n sylweddol at gyflogadwyedd myfyrwyr ôl-raddedig, felly anogir defnyddio Uwch-gynorthwywyr Addysgu/Cynorthwywyr Addysgu, yn unol â'r Canllawiau canlynol:

6.1.1

Dim ond Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sydd wedi cofrestru, gan  gynnwys myfyrwyr ymchwil sydd wedi cofrestru ar raglen PhD (Allanol), ddylai gael eu cyflogi fel Uwch-gynorthwywyr Addysgu/Cynorthwywyr Addysgu.

6.1.2

Mae'n rhaid i fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil sydd wedi cofrestru ar raglen PhD (Allanol), ymgymryd â'r hyfforddiant angenrheidiol a gynigir trwy Adnoddau Dynol/SALT/y Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig a'r Adran/Gyfadran/Ysgol cyn cael ymgymryd â dyletswyddau arddangos, addysgu, tiwtorial, neu asesu. Mae’n rhaid cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus ac adrodd hynny i Adnoddau Dynol, cyn y gellir awdurdodi taliad ar gyfer gwasanaethau arddangos neu diwtorial.

6.1.3

Pan fydd adrannau'n penodi Uwch-gynorthwywyr Addysgu/Cynorthwywyr Addysgu, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod gan y sawl a benodir yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiad perthnasol i ymgymryd â'r dyletswyddau addysgu a neilltuir iddynt.

6.1.4

Ni chaiff myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig amser llawn, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil a gofrestrwyd ar raglen PhD (Allanol), ymgymryd â gwaith arddangos, tiwtorial neu asesu, gan gynnwys amser paratoi, am fwy na chwe awr mewn unrhyw wythnos.

6.1.5

Fel arfer, bydd Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu/Cynorthwy-ydd Addysgu yn cael ei ddefnyddio i addysgu israddedigion yn unig.

6.1.6

Gall Uwch-gynorthwywyr Addysgu/Cynorthwywyr Addysgu gyfrannu'n rhydd at arddangos, tiwtorialau a  gwaith cymorth addysgu arall, ond ni fyddai disgwyl iddynt gyfrannu at fwy na 25% o'r darlithio ar unrhyw fodiwl.

6.1.7

Rhoddir Mentor o blith y Staff Academaidd i'r holl Uwch-gynorthwywyr Addysgu/Cynorthwywyr Addysgu, a gallai'r mentor hwnnw fod yn Gydlynydd Modiwl y modiwl(au) y mae'r Cynorthwyydd yn addysgu arno/arnynt. Bydd cyfrifoldebau'r Mentor fel a ganlyn:

  • Briffio'r Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu/Cynorthwy-ydd Addysgu ar yr holl weithgareddau addysgu;
  • Darparu deunyddiau, neu fonitro ansawdd unrhyw ddeunydd a ddarperir gan yr Uwch-gynorthwyydd Addysgu/Cynorthwy-ydd Addysgu;
  • Monitro ansawdd y ddarpariaeth addysgu;
  • Darparu meini prawf marcio lle defnyddir yr Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu/Cynorthwy-ydd Addysgu at ddibenion asesu a defnyddio prosesau sicrhau ansawdd i fonitro eu hymwneud ag asesu, e.e. cymedroli marciau;
  • Adolygu adborth myfyrwyr a geir am yr Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu/Cynorthwy-ydd Addysgu fel rhan o'r broses datblygu proffesiynol.

6.1.8

Mae unrhyw eithriadau i'r uchod yn amodol ar gymeradwyaeth Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau.

  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342