Y Coleg - Y System Tiwtora Personol

1.     Y System Tiwtora Personol

1.1

Mae'r Coleg, Prifysgol Abertawe, yn gweithredu system Tiwtor Personol/Mentor Academaidd â dwy haen.

1.2 

Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r Coleg, dynodir Tiwtor Personol sy'n aelod o Dîm Gwasanaethau'r Coleg. Bydd y Tiwtor Personol a ddynodir yn gweithredu fel cyswllt cyntaf ar gyfer gofal bugeiliol mewn perthynas â lles y myfyriwr. Bydd myfyrwyr yn gallu trafod materion sy'n effeithio ar eu cynnydd academaidd cyffredinol (gan gynnwys gwybodaeth am feini prawf dilyniant, er enghraifft), eu datblygiad personol a'u lles â'u Tiwtor Personol.

1.3

Bydd myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r Coleg hefyd yn derbyn mentora academaidd drwy'r modiwl Sgiliau Dysgu Rhyngweithiol a Chyfathrebu (neu fodiwl cyfatebol), y mae pob myfyriwr ar bob lefel astudio yn cael ei gofrestru arno. Bydd darlithwyr ar y modiwl hwn yn darparu adborth a chyngor i fyfyrwyr ar astudio academaidd a byddant yn helpu i ddatblygu sgiliau astudio'r myfyrwyr, gan eu galluogi i fod yn ddysgwyr annibynnol mwy effeithiol.

2.    Rôl y Coleg

2.1 

Darparu gwybodaeth glir i fyfyrwyr a staff ynghylch darpariaeth tiwtoriaid personol/mentora academaidd yn Y Coleg.

2.2 

Sicrhau y dynodir Tiwtor Personol a enwir i'r holl fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r Coleg ar ddechrau eu rhaglenni.

2.3 

Sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod sut i gysylltu â'u Tiwtoriaid Personol a chael mynediad i gynnwys Mentora Academaidd.

2.4 

Sicrhau y darperir system briodol i fonitro trefniadau tiwtora personol/mentora academaidd yn effeithiol yn Y Coleg.

2.5

Sicrhau y darperir gwybodaeth glir i fyfyrwyr am sut i wneud cais i newid Tiwtor Personol. 

3.    Rôl y Tiwtor Personol

3.1 

Dylai Tiwtoriaid Personol gysylltu â'r myfyrwyr maent yn eu tiwtora ddwywaith y semester. Gall myfyrwyr hefyd gysylltu â'u tiwtoriaid personol yn ôl yr angen drwy gydol y semester.

3.2 

Dylai Tiwtoriaid Personol ddarparu gwybodaeth i'w myfyrwyr am ffynonellau cyfarwyddyd a chymorth sydd ar gael yn y Brifysgol.

3.3 

Dylai Tiwtoriaid Personol wybod eu cyfyngiadau eu hunain ac, os oes ansicrwydd, dylent geisio cyfeirio myfyrwyr at ffynonellau cyngor a chymorth arbenigol.

3.4

Dylai Tiwtoriaid Personol sicrhau eu bod yn gweithredu o fewn y fframwaith ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn y Brifysgol.