Rheoliadau Asesu Eithriadol i'w defnyddio lle nad yw'r marciau ar gael yn ystod y Boicot Marcio ac Asesu
Rheoliadau Asesu Eithriadol
Gweler hefyd Camau Gweithredu Diwydiannol - Prifysgol Abertawe
Rhagarweiniad
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i sicrhau ansawdd darpariaeth a safonau ei dyfarniadau mewn argyfyngau. Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fodloni safonau academaidd a gofynion cyrff proffesiynol. O ganlyniad, gall fod angen amrywio protocolau academaidd arferol, er enghraifft:
- Gellir rhoi blaenoriaeth i brosesu gwybodaeth mewn perthynas â myfyrwyr dyfarniad.
- Gellir aildrefnu byrddau arholi dilyniant Cyfadrannau ac Ysgolion. Rhaid glynu wrth amserlenni asesu diwygiedig i alluogi byrddau arholi i weithredu, e.e. dyddiadau cau marcio, cyflwyno marciau etc.
- Mae'n bosib y bydd angen amrywio gweithdrefnau cymedroli mewnol.
Cymedroli marciau'n fewnol
Caiff samplau o waith eu cymedroli ar gyfer pob dull asesu ar bob lefel (gan gynnwys traethodau estynedig rhaglenni ôl-raddedig a addysgir), cyn cyfarfod y Bwrdd Arholi, ac eithrio'r dulliau asesu awtomataidd (h.y. darllenir yr atebion gan beiriant neu'n optegol), neu mewn asesiadau meintiol lle darperir atebion model i'r marciwr. Nid yw'r rhain yn cael eu cymedroli fel arfer ond mae'n bosib bydd angen eu gwirio am gywirdeb neu raddnod.
Rhaid dangos tystiolaeth o gymedroli a'i gofnodi'n gyson. Lle defnyddir marcio dwbl-ddall llawn, ac mewn unrhyw achosion lle caiff marciau eu darparu gan un marciwr yn unig, defnyddir y marciau hynny fel y marciau a gadarnhawyd yn amodol ar gytundeb yr Arholwr Allanol. Os na fydd cymedroli mewnol yn bosib, y Gyfadran fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i aelod staff arall i ymgymryd â'r cymedroli neu am ofyn i'r Arholwr Allanol gyflawni'r rôl hon.
Arholwyr Allanol
Disgwylir y bydd y broses Arholi Allanol yn mynd rhagddi yn gyson â'r gofynion a'r disgwyliadau presennol, gan gynnwys y ddarpariaeth i ganiatáu i Fyrddau Arholi barhau i weithredu ni waeth am bresenoldeb un neu fwy o Arholwyr Allanol yn bresennol. Gall Cyfadrannau benderfynu penodi Arholwyr Allanol amgen os bydd angen.
Byrddau Arholi Arholiadau
Bydd Byrddau Arholi Arholiadau yn gweithredu yn unol â rheoliadau Asesu'r Brifysgol.
Cadeirydd y Bwrdd Arholi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cworwm gan y Byrddau Arholi. Os bydd y Cadeirydd yn ansicr a oes cworwm gan Fyrddau Arholi pwnc/disgyblaeth, dylai hyn gael ei gyfeirio at sylw Pennaeth yr Ysgol. Os na fydd modd i Fwrdd Arholi pwnc/disgyblaeth gwrdd, cyflwynir penderfyniadau i'r Gyfadran/Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i gael eu hystyried yn llawn.
Os na fydd Cadeirydd dynodedig y Bwrdd Arholi yn gallu cadeirio'r cyfarfod, caiff y Gyfadran ddynodi Cadeirydd amgen.
Rheoliadau Asesu Eithriadol
Bydd y rheoliadau eithriadol canlynol yn berthnasol i raglenni Prifysgol Abertawe ac i raglenni Blwyddyn 1 Integredig neu raglenni cyn Feistr yn Y Coleg lle nad yw'r marciau ar gael oherwydd y Boicot Marcio ac Asesu.
Bydd yr egwyddorion canlynol yn berthnasol
- Caiff safonau dyfarniadau'r Brifysgol eu cynnal.
- Dylid glynu wrth brotocolau asesu arferol (h.y. rheoliadau asesu, cyflwyno, cosbau am gyflwyno'n hwyr, polisïau ynghylch peidio â chyflwyno, amgylchiadau esgusodol, camymddygiad academaidd etc.)
- Bydd yr holl waith a gyflwynir yn cael ei farcio a bydd myfyrwyr yn derbyn marc/gradd gwirioneddol am eu gwaith. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall fod oedi wrth gadarnhau'r marciau/graddau hyn oherwydd y Boicot Marcio ac Asesu.
- Lle nad yw marciau/graddau ar gael oherwydd y Boicot Marcio ac Asesu ac ystyrir bod addasiadau'n hanfodol, rhaid bod yn gyson ac yn deg wrth roi'r arweiniad hwn ar waith ar gyfer carfannau myfyrwyr; fodd bynnag, ni ellir defnyddio'r arweiniad hwn os yw'n gwrthdaro â gofynion Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB).
- Dylid bodloni deiliannau dysgu'r rhaglen.
- I sicrhau safonau, tegwch a chysondeb, bydd Byrddau Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn gweithredu fel Byrddau cyfunol Cyfadran/y Brifysgol.
- Bydd unrhyw achosion eithriadol nad ydynt o fewn cwmpas y rheoliadau hyn yn cael eu cyfeirio at sylw'r Tîm Asesu a Dyfarniadau yn y Gwasanaethau Academaidd Myfyrwyr a gwneir penderfyniad gan ymgynghori â Phennaeth Gwasanaethau Academaidd Myfyrwyr, Cadeirydd Bwrdd Achosion Myfyrwyr y Brifysgol a/neu Gadeirydd y Pwyllgor Rheoliadau, Safonau ac Ansawdd, gan gyfeirio at y rheoliadau asesu arferol ar gyfer y rhaglen.
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gywiro unrhyw wallau a wneir mewn perthynas â marciau/graddau/penderfyniadau a wneir yn ystod y Boicot Marcio ac Asesu.
Myfyrwyr Israddedig yn Lefel 6/7 : Dyfarniadau Blwyddyn Olaf 2023
Myfyrwyr Israddedig yn Lefel 6/7[1]: Dyfarniadau Blwyddyn Olaf 2023
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion PSRB[2].
- Disgwylir i bob myfyriwr astudio am 120 credyd yn y flwyddyn olaf, yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Lle nad yw holl farciau modiwl ar gyfer 120 credyd ar gael gan fyfyriwr ond mae ganddo farciau/raddau ar gael/wedi'u cadarnhau mewn 100 credyd neu fwy o fodiwlau yn ei lefel astudio derfynol, dylai'r Bwrdd ystyried a oes modd cadarnhau marc dros dro ar gyfer y modiwl i ganiatáu cymeradwyo dyfarniad a dosbarthiad dros dro. Bydd y Bwrdd yn ystyried y canlynol:
- A oes marciau/graddau rhannol ar gael (fel arfer am o leiaf 40% o gyfanswm marc y modiwl) lle gellir eithrio'r cydrannau nad ydynt ar gael, a defnyddio'r marc(iau) rhannol fel marc dros dro y modiwl (ar yr amod bod deilliannau dysgu'r rhaglen wedi'u cyflawni).
- Proffil y myfyriwr ac a yw'r cyfartaledd cyfanredol yn gyson â'r marciau/graddau a enillwyd eisoes a gellir ei ddefnyddio fel marc dros dro y modiwl (ar yr amod bod deilliannau dysgu'r rhaglen wedi'u cyflawni).
- Nifer y modiwlau a fethwyd mewn gwirionedd (gan gyfeirio at y rheoliadau goddefiad).
- A gytunwyd ar ohirio a gymeradwywyd
- A yw deilliadau dysgu'r rhaglen wedi'u cyflawni.
Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys, caiff y canlyniad ei ystyried gan y Bwrdd priodol nesaf. Lle byddai'r marc gwirioneddol yn arwain at ddosbarthiad uwch, caiff y dyfarniad ei uwchraddio, a chofnodir y marc gwirioneddol ar drawsgrifiad y myfyriwr. Lle mae'r marc gwirioneddol yn is na'r marc dros dro, bydd yr egwyddor marc gorau'n berthnasol, bydd y marc dros dro'n sefyll, ac ni fydd y marc yn cael ei israddio i ddosbarthiad is[3].
3. Lle nad yw myfyriwr yn bodloni 1 a 2 uchod ond mae ganddo farciau/raddau ar gael/wedi'u cadarnhau mewn 60 credyd neu fwy o fodiwlau yn ei lefel astudio derfynol, gwneir penderfyniad dros dro ar sail y marciau/graddau a enillwyd eisoes. Gall y Bwrdd gyfeirio at y cyfartaledd cyfanredol presennol, marciau/graddau methu a gadarnhawyd, marciau/graddau rhannol ac unrhyw asesiadau ffurfiannol wrth wneud ei benderfyniad.
4. Lle bo gan fyfyriwr lai na 60 credyd o farciau/graddau modiwl llawn yn ei lefel astudio derfynol ond lle mae marciau/graddau rhannol ar gael mewn modiwlau (am o leiaf 40% o gyfanswm marc y modiwl) a allai gyfrannu at y 60 credyd gofynnol, bydd y Bwrdd Arholi'n ystyried yn llawn a ddylid eithrio'r cydrannau nad ydynt ar gael a defnyddio'r marc rhannol fel canllaw wrth wneud penderfyniad dros dro. Gall y Bwrdd gyfeirio at y cyfartaledd cyfanredol presennol, marciau/graddau methu a gadarnhawyd, deilliannau dysgu'r modiwl ac unrhyw asesiadau ffurfiannol wrth wneud ei benderfyniad.
5. Lle bo gan fyfyriwr lai na 60 credyd o farciau/raddau modiwl llawn yn ei lefel astudio a lle nad oes unrhyw fodiwlau â marciau/graddau rhannol, dylai'r Bwrdd ystyried a ddylid gwneud penderfyniad dros dro neu aros i'r marciau /graddau gwirioneddol gael eu dychwelyd. Gall y Bwrdd gyfeirio at y cyfartaledd cyfanredol presennol, unrhyw farciau/raddau methu a gadarnhawyd, lefelau astudio blaenorol a/neu asesiadau ffurfiannol wrth wneud ei benderfyniad.
6. Lle nad oes marciau/graddau modiwl llawn ar gael gan fyfyriwr ar gyfer 120 credyd ond mae'n bodloni 3, 4, neu 5 uchod, dylai'r Bwrdd ystyried a oes modd cadarnhau penderfyniad ynghylch y dyfarniad a ragwelir. Bydd y Bwrdd yn ystyried y canlynol:
- A oes marciau/graddau rhannol ar gael
- Proffil y myfyriwr ac a yw'r cyfartaledd cyfanredol yn gyson â'r marciau/graddau a enillwyd eisoes a gellir ei ddefnyddio fel marc/gradd dros dro'r modiwl.
- Nifer y modiwlau a fethwyd mewn gwirionedd (gan gyfeirio at y rheoliadau goddefiad).
- A gytunwyd ar ohirio a gymeradwywyd.
- A yw deilliannau dysgu'r rhaglen wedi'u bodloni.
7. Os caiff dosbarthiad dros dro, neu benderfyniad ar sail dyfarniad a ragwelir ei ddyfarnu i fyfyrwyr, rhaid iddynt gyflawni cyfartaledd lefel cyffredinol o 35% neu’n uwch. Ni ddylai fod ganddynt farciau/raddau methu a gadarnhawyd mewn mwy na 40 credyd yn unol â'r rheoliadau asesu safonol perthnasol. Lle nad yw'r amodau hyn wedi'u bodloni, caiff unrhyw benderfyniad dros dro ei ohirio nes y bydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys.
8. Bydd y Brifysgol yn goddef methiant mor isel â 0% mewn modiwlau nad ydynt yn rhai craidd, mewn hyd at 40 credyd, lle mae rheolau'r rhaglen yn caniatáu hyn[1].
9. Os oes achos o gamymddygiad academaidd ar y gweill yn erbyn myfyriwr, caiff unrhyw benderfyniad dros dro ei ohirio nes bod yr achos wedi'i gwblhau a nes bod unrhyw ganlyniadau/gosbau cysylltiedig yn hysbys.
10. Gall myfyrwyr wneud cais i ohirio ar sail amgylchiadau esgusodol yn unol â'r Polisi Amgylchiadau Esgusodol. Lle bo cais myfyriwr i ohirio wedi'i gymeradwyo, caniateir i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiad atodol yn y modiwl(au) a ohiriwyd yn unig.
11. Lle bo myfyriwr wedi pasio mwy nag 80 credyd ond wedi methu modiwl(au) craidd ar yr ymgais gyntaf ac mae'r rheoliadau asesu'n caniatáu hynny, caniateir i fyfyriwr ymgymryd ag asesiad atodol yn y modiwl(au) craidd yn unig (marciau wedi'u capio).
12. Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys caiff y canlyniad ei ystyried yn y Bwrdd priodol nesaf a chadarnheir canlyniad a dosbarthiad (lle bo'n briodol) yn unol â'r rheoliadau asesu arferol ar gyfer y rhaglen. Lle cadarnheir mai methiant nad yw'n cael ei oddef o dan y rheoliadau yw'r marc(iau) gwirioneddol, caiff y myfyriwr ei ystyried am ddyfarniad ymadael.
13. Yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol, os nad yw myfyriwr wedi talu'r holl ffioedd sy'n ddyledus i'r Brifysgol, bydd unrhyw benderfyniad ynghylch dyfarniad (dros dro neu wirioneddol) yn cael ei ohirio nes bod y ddyled ariannol wedi'i thalu.
[1]Yn achos rhaglenni Peirianneg sy'n dilyn y rheoliadau hyn (Blwyddyn Sylfaen), mae goddefiad yn berthnasol i fethiannau mor isel â 30% mewn modiwlau nad ydynt yn rhai craidd mewn hyd at 20 credyd.
[1]Graddau Cychwynnol Uwch Lefel 7 yn unig
[2]Mae rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg wedi'u cynnwys yn Atodiad Un. Ceir rhestr o'r holl raglenni eraill sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB, ac felly nid yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt, yn Atodiad Dau.
[3]Lle mae'r marc gwirioneddol yn uwch na'r marc dros dro ond nid yw'r dosbarthiad yn newid, cofnodir y marc uwch ar drawsgrifiad y myfyriwr.
Myfyrwyr sy'n symud ymlaen yn lefelau 3, 4, 5 neu 6 - Myfyrwyr amser llawn (bydd yr ymagwedd hefyd yn berthnasol ar sail pro rata i fyfyrwyr rhan-amser).
Myfyrwyr sy'n symud ymlaen yn lefelau 3, 4, 5 neu 6[5] - Myfyrwyr amser llawn (bydd yr ymagwedd hefyd yn berthnasol ar sail pro rata i fyfyrwyr rhan-amser).
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni lle mae PSRB yn caniatáu hynny[6].
- Disgwylir i bob myfyriwr astudio am 120 credyd, yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Rhaid i'r holl fyfyrwyr sy'n symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf fel arfer gyflawni cyfartaledd lefel cyffredinol o 35% neu’n fwy, yn unol â'r rheoliadau asesu safonol perthnasol.
- Bydd y Brifysgol yn goddef methiant mor isel â 30% mewn modiwlau nad ydynt yn rhai craidd, mewn hyd at 40 credyd, lle mae rheolau'r rhaglen yn caniatáu hyn[7].
- Lle nad yw marciau/graddau modiwl neu asesiad ar gael oherwydd y Boicot Marcio ac Asesu, caniateir i fyfyrwyr symud ymlaen i'r flwyddyn academaidd nesaf â hyd at 40 credyd heb eu cadarnhau (modiwlau mae'r Boicot Marcio ac Asesu'n effeithio arnynt yn unig). Bydd yr amodau canlynol yn berthnasol. Mae'r myfyriwr wedi pasio pob modiwl arall (gan ennill 40% neu fwy). neu Gall y myfyriwr fod yn gymwys am oddefiad pan fydd y marciau/graddau nad ydynt ar gael eto wedi'u cadarnhau (gweler 3 uchod).
- Os yw myfyriwr wedi pasio pob modiwl ar gyfer y lefel astudio (goddefiad yn berthnasol) ond nid yw rhai o'r marciau/graddau ar gael oherwydd y Boicot Marcio ac Asesu ar gyfer rhai cydrannau, caniateir i'r myfyriwr symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys caiff marciau/graddau'r modiwl eu diweddaru.
- Os nad yw myfyriwr yn bodloni'r meini prawf a bennir yn 4 a 5 uchod, ac os nad yw wedi methu mwy na 60 credyd, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Lle bo myfyriwr wedi methu modiwl(au) craidd (pan fo holl farciau/raddau'r modiwl wedi'u cadarnhau), bydd yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol yn y modiwl(au) craidd a fethwyd a/neu unrhyw fodiwlau nad ydynt yn rhai craidd a fethwyd lle nad oes goddefiad, yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Os oes achos o gamymddygiad academaidd ar y gweill yn erbyn myfyriwr erbyn Bwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) yr effeithiwyd arnynt ac mewn unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Lle bo gohirio wedi'i ganiatáu, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Lle bo gan fyfyriwr fwy na 60 credyd o farciau/raddau methu gwirioneddol, caiff ei ystyried yn unol â'r rheoliadau asesu arferol ar gyfer y rhaglen.
- Os bydd myfyriwr, wedyn yn pasio pob ymgais atodol, fel arfer caniateir iddo symud ymlaen i'r flwyddyn academaidd nesaf â hyd at 40 credyd heb eu cadarnhau (modiwlau mae'r Boicot Marcio ac Asesu wedi effeithio arnynt yn unig).
- Lle bo myfyriwr yn methu asesiad atodol, ond nid yw wedi methu modiwl craidd neu fwy na 40 credyd, ac felly mae'n bosib y bydd yn gymwys am oddefiad pan fydd y marciau/graddau nad ydynt ar gael wedi'u cadarnhau, fel arfer caniateir i'r myfyriwr symud ymlaen i'r flwyddyn academaidd nesaf â hyd at 40 credyd heb eu cadarnhau (modiwlau mae'r Boicot Marcio ac Asesu wedi effeithio arnynt yn unig).
- Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu ymgais atodol gan ennill marc na ellir ei oddef (llai na 30%) ail-wneud y lefel astudio.
- Yn achos myfyrwyr sy'n ail-wneud y lefel neu'n ail-wneud modiwlau a fethwyd ac yn methu ymgais atodol, gan ennill marc na ellir ei oddef (llai na 30%), caiff eu penderfyniad ei ohirio nes bod y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys.
- Yn unol â'r rheoliadau asesu safonol, caiff marciau asesiad atodol ar lefel 5 (neu Lefel 6 yn achos Graddau Cychwynnol Uwch) eu capio ar 40% oni chytunwyd ar ymgais gyntaf wedi'i gohirio gan y Gyfadran yn unol â'r Polisi Amgylchiadau Esgusodol.
- Lle rhoddir caniatâd dros dro i fyfyriwr symud ymlaen â chredydau heb eu cadarnhau ond daw i'r amlwg bod y marc gwirioneddol am y gwaith a gyflwynwyd yn fethiant na ellir ei oddef, caniateir i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiad ychwanegol o'r modiwl(au) a fethwyd gan barhau ar y lefel astudio bresennol (yn brin o gredydau). Fel arfer, trefnir yr asesiad yn gynnar yn y sesiwn academaidd a rhaid ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
- Pan fydd myfyriwr yn symud ymlaen i flwyddyn mewn diwydiant/dramor ond daw i'r amlwg bod y marc gwirioneddol am y gwaith a gyflwynwyd yn fethiant na ellir ei oddef, caniateir i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiad ychwanegol ar gyfer y modiwl(au) a fethwyd gan barhau ar y flwyddyn mewn diwydiant/dramor. Fel arfer trefnir yr asesiad yn gynnar yn y flwyddyn academaidd a rhaid ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
- Os yw myfyriwr yn ymgymryd ag ailasesiad ychwanegol ar gyfer modiwl(au) y mae’n aros am gadarnhad ei fod wedi’i basio, ac wedyn yn methu modiwl(au) lle nad yw methiant yn cael ei oddef o dan y rheoliadau, gellir caniatáu
a) ymgais atodol olaf i'r myfyriwr.
b) Cynghori’r myfyriwr i newid i raglen arall (lle bo'n berthnasol).
[5]Mae rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg wedi'u cynnwys yn Atodiad Un.
[6]Graddau Cychwynnol Uwch Lefel 6 yn unig
[7] Yn achos rhaglenni Peirianneg sy'n dilyn y rheoliadau hyn (Blwyddyn Sylfaen), mae goddefiad yn berthnasol i fethiannau mor isel â 30% mewn modiwlau nad ydynt yn rhai craidd, mewn hyd at 20 credyd.
Myfyrwyr Cyfnewid, Ymweld a Chofnod o Gyflawniad
- Lle nad yw marciau/graddau ar gael mewn unrhyw fodiwl/fodiwlau, ni fydd modd pennu canlyniad dros dro ar gyfer y modiwl.
- Gall Cyfadrannau ddarparu unrhyw farciau/raddau gwirioneddol a marciau/graddau rhannol i'r myfyriwr.
- Pan fydd y marciau gwirioneddol yn hysbys, ystyrir y canlyniad terfynol gan y Bwrdd priodol nesaf.
Rhaglenni Tystysgrif Addysg Uwch
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion PSRB[8].
- Disgwylir i bob myfyriwr astudio am 120 credyd olaf, yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Rhaid pasio pob modiwl gan ennill 40% neu'n uwch; fodd bynnag, bydd y Brifysgol yn goddef methiant mor isel â 30% mewn modiwlau nad ydynt yn rhai craidd, hyd at 40 credyd, lle mae rheolau'r rhaglen yn caniatáu hyn.
- Os nad yw holl farciau/raddau modiwl ar gael gan fyfyriwr ar gyfer 120 credyd ond mae ganddo farciau/raddau sydd ar gael/wedi'u cadarnhau mewn o leiaf 60 credyd o farciau/raddau pasio a gadarnhawyd, dylai'r Bwrdd ystyried a oes modd cadarnhau penderfyniad ar y dyfarniad a ragwelir. Bydd y Bwrdd yn ystyried y canlynol:
- A oes marciau/graddau rhannol ar gael.
- Proffil y myfyriwr ac a yw'r cyfartaledd cyfanredol yn gyson â'r marciau/graddau a enillwyd eisoes ac a ellir ei ddefnyddio fel marc modiwl dros dro.
- Nifer y modiwlau a fethwyd mewn gwirionedd (gan gyfeirio at y rheoliadau goddefiad).
- A gytunwyd ar ohiriadau wedi'u cymeradwyo.
A yw deiliannau dysgu'r rhaglen wedi'u bodloni
- Os nad yw myfyriwr yn bodloni 3 uchod ac os nad yw wedi methu mwy na 60 credyd, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Lle bo myfyriwr wedi methu modiwl(au) (a chadarnhawyd marciau/graddau llawn y modiwl), bydd yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol yn y modiwl(au) a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Lle bo achos o gamymddygiad academaidd ar y gweill yn erbyn myfyriwr adeg Bwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol yn y modiwl(au) yr effeithiwyd arno ac mewn unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Lle bo gohirio wedi'i ganiatáu, dyfernir asesiad atodol yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac mewn unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Lle bo gan fyfyriwr fwy na 60 credyd o farciau/raddau methu gwirioneddol, caiff ei ystyried yn unol â'r rheoliadau asesu arferol ar gyfer y rhaglen.
- Yn dilyn yr ymgeisiau atodol, bydd y Bwrdd Arholi'n ystyried a ellir cadarnhau penderfyniad ynghylch y dyfarniad a ragwelir (gweler 3 uchod) neu a ddylid aros i'r marciau/graddau gwirioneddol gael eu dychwelyd. Gall y Bwrdd gyfeirio at y cyfartaledd cyfanredol presennol, unrhyw farciau/raddau methu a gadarnhawyd a/neu unrhyw asesiadau ffurfiannol wrth wneud ei benderfyniad.
- Caiff myfyrwyr sy'n ail-wneud modiwlau/y lefel ac sydd wedi methu modiwlau eu hystyried yn unol â’r rheoliadau asesu arferol.
- Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys, cânt eu hystyried yn y Bwrdd priodol nesaf a chadarnheir canlyniad.
- Lle cadarnheir mai methiannau na ellir eu goddef yw'r marciau gwirioneddol, caiff y myfyriwr gynnig o ailasesiad ar y cyfle nesaf sydd ar gael, ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi defnyddio pob cyfle sydd ar gael iddo i basio modiwlau eraill adeg bwrdd arholi mis Medi (e.e. eisoes wedi methu modiwl lle nad yw methiant yn cael ei oddef ar y drydedd ymgais, sef yr un olaf, adeg y bwrdd arholi, fel y'i pennir gan reoliadau asesu'r rhaglen).
- Yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol, os nad yw myfyriwr wedi talu'r holl ffioedd sy'n ddyledus i'r Brifysgol eto, bydd penderfyniad ar ei ddyfarniad (dros dro neu wirioneddol) yn cael ei ohirio nes bod y ddyled ariannol wedi cael ei thalu.
[8] Mae rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg wedi'u cynnwys yn Atodiad Un. Ceir rhestr o'r holl raglenni eraill sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB, ac felly nid yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt, yn Atodiad 2.
Rhaglenni Diploma Addysg Uwch
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion PSRB[9].
- Disgwylir i bob myfyriwr astudio am 240 credyd, yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Rhaid pasio pob modiwl gan ennill 40% neu'n uwch; fodd bynnag, bydd y Brifysgol yn goddef methiant mor isel â 30% mewn modiwlau nad ydynt yn rhai craidd, mewn hyd at 40 credyd, lle mae rheolau'r rhaglen yn caniatáu hyn.
- Lle nad oes gan fyfyriwr farciau/raddau llawn ar gael ar gyfer 120 credyd mewn modiwl yn ei flwyddyn astudio gyntaf, dylai'r Bwrdd Arholi ddilyn y rheoliadau eithriadol ar gyfer myfyrwyr sy'n symud i'r lefel nesaf.
- Lle nad oes gan fyfyriwr farciau/raddau llawn ar gael ar gyfer 120 credyd mewn modiwl yn ei ail flwyddyn oherwydd y Boicot Marcio ac Asesu, ond mae ganddo farciau/raddau ar gael/wedi'u cadarnhau mewn o leiaf 60 credyd o farciau/raddau pasio a gadarnhawyd, dylai'r Bwrdd ystyried a oes modd cadarnhau penderfyniad ar y dyfarniad a ragwelir. Bydd y Bwrdd yn ystyried y canlynol:
- A oes marciau/graddau rhannol ar gael.
- Proffil y myfyriwr ac a yw'r cyfartaledd cyfanredol yn gyson â'r marciau/graddau a enillwyd eisoes ac a ellir ei ddefnyddio fel marc dros dro ar gyfer y Modiwl.
- Nifer y modiwlau gwirioneddol a fethwyd (gan gyfeirio at y rheoliadau goddefiad).
- A gytunwyd ar ohiriad wedi'i gymeradwyo.
- A yw unrhyw rai o'r modiwlau'n rhai craidd.
- A yw deilliannau dysgu'r rhaglen wedi'u bodloni.
Pan fydd y marciau gwirioneddol yn hysbys, caiff y canlyniad terfynol ei ystyried gan y Bwrdd priodol nesaf.
- Lle nad yw myfyriwr yn bodloni 4 uchod ac mae wedi pasio 60 credyd neu fwy, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Lle bo myfyriwr wedi methu modiwl(au) (pan fydd holl farciau/raddau'r modiwl wedi'u cadarnhau), bydd yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol yn y modiwl(au) a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Os oes achos o gamymddygiad academaidd ar y gweill yn erbyn myfyriwr adeg Bwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) yr effeithiwyd arnynt ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Lle bo gohirio wedi'i ganiatáu, dyfernir asesiad atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Os oes gan fyfyriwr farciau/raddau methu gwirioneddol mewn mwy na 60 credyd, caiff ei ystyried yn unol â'r rheoliadau arferol ar gyfer y rhaglen.
- Yn dilyn yr ymgeisiau atodol, bydd y Bwrdd Arholi'n ystyried a ellir cadarnhau penderfyniad ar ddyfarniad a ragwelir (gweler 3 uchod) neu a ddylid aros i'r marciau/graddau gwirioneddol gael eu dychwelyd. Gall y Bwrdd gyfeirio at y cyfartaledd cyfanredol presennol, unrhyw farciau/raddau methu a gadarnhawyd, lefelau astudio blaenorol a/neu asesiadau ffurfiannol wrth wneud ei benderfyniad.
- Os yw myfyrwyr yn ail-wneud modiwlau/y lefel ar ôl methu modiwlau mewn gwirionedd, cânt eu hystyried yn unol â'r rheoliadau asesu arferol.
- Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys, cânt eu hystyried gan y Bwrdd priodol nesaf a chadarnheir canlyniad.
- Pan fo marciau gwirioneddol wedi'u cadarnhau fel methiannau na ellir eu goddef, caiff y myfyriwr gynnig o ymgymryd ag asesiad â'r marciau wedi'u capio ar y cyfle nesaf sydd ar gael, ar yr amod nad yw wedi defnyddio pob un o'i gyfleoedd i basio modiwlau eraill adeg Bwrdd Arholi mis Medi (e.e. eisoes yn methu modiwl lle na ellir goddef methiant ar y drydedd ymgais a'r un olaf, fel y'i pennir gan reoliadau asesu'r rhaglen).
- Yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol, os nad yw myfyriwr wedi talu'r holl ffioedd sy'n ddyledus i'r Brifysgol, caiff unrhyw benderfyniad ar ddyfarniad (dros dro neu ddyfarniad gwirioneddol) ei ohirio nes bod y ddyled ariannol wedi'i thalu.
[9]Mae rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg wedi'u cynnwys yn Atodiad Un. Ceir rhestr o'r holl raglenni eraill sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB, ac felly nid yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt, yn Atodiad Dau.
Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir - Rhaglenni Safonol Rhan Un
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion PSRB[10].
- Disgwylir i bob myfyriwr astudio am 120 credyd o fodiwlau a addysgir, yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Lle bo asesiadau wedi'u cwblhau a marciau/graddau wedi'u cadarnhau ar gyfer 120 credyd o fodiwlau a addysgir, gwneir penderfyniad yn unol â'r rheoliadau dilyniant arferol ar gyfer y lefel/rhaglen astudio.
- Bydd y Brifysgol yn goddef methiant mor isel â 40% mewn modiwlau nad ydynt yn rhai craidd (ar yr amod bod y marc cyffredinol ar gyfer y modiwlau a addysgir o leiaf 50%) mewn hyd at 30 credyd lle mae rheolau'r rhaglen yn caniatáu hyn. Yn unol â'r rheoliadau asesu cyfredol, bydd myfyrwyr yn derbyn penderfyniad o ' Asesiadau Atodol y Gellir eu Goddef' ym Mwrdd Dilyniant yr haf.
- Lle nad yw marciau/graddau modiwl neu asesiad ar gael oherwydd y Boicot Marcio ac Asesu ond mae myfyriwr wedi pasio (gan ennill o leiaf 50%) ym mhob modiwl arall, fel arfer caniateir iddo symud ymlaen â hyd at 40 credyd heb eu cadarnhau (modiwlau mae'r Boicot Marcio ac Asesu wedi effeithio arnynt yn unig) a pharhau â'i fodiwl(au) dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
- Lle nad yw myfyriwr yn bodloni'r meini prawf a bennir yn 4 uchod, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Lle mae myfyriwr wedi methu hyd at 30 credyd yn yr amrediad a oddefir (40-49) ac wedi pasio pob modiwl arall, bydd gan y myfyriwr ddewis i oddef y marciau neu achub ar y cyfle i ailsefyll.
- Lle mae myfyriwr wedi methu modiwl(au) â marc islaw 40% neu radd methu (ac mae holl farciau/raddau'r modiwl wedi'u cadarnhau), bydd yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol yn y modiwl(au) a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Os oes achos o gamymddygiad academaidd ar y gweill yn erbyn myfyriwr adeg Bwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol yn y modiwl(au) yr effeithir arnynt ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Lle bo gohirio wedi'i ganiatáu, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Lle bo myfyriwr wedi cael caniatâd dros dro i symud ymlaen gan aros i gredydau gael eu cadarnhau, ond mae'r marc gwirioneddol ar gyfer y gwaith a gyflwynwyd, pan fydd yn hysbys, yn fethiant na ellir ei oddef, caiff y myfyriwr gyfle i ymgymryd ag asesiad ychwanegol (ymgais derfynol) yn y modiwl(au) a fethwyd wrth barhau â'i fodiwl(au) dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd. Fel arfer, trefnir yr ailasesiad yn gynnar yn y sesiwn academaidd a rhaid ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
- Lle mae myfyriwr yn methu ymgais atodol wedi hyn, caiff y penderfyniad/canlyniad terfynol ei ohirio nes bod yr holl farciau/raddau'n hysbys. Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys, cânt eu hystyried gan y Bwrdd priodol nesaf a chadarnheir canlyniad.
- Os yw myfyrwyr yn ail-wneud modiwlau ar ôl methu modiwlau mewn gwirionedd, cânt eu hystyried yn unol â'r rheoliadau asesu arferol.
[10]Mae rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg wedi'u cynnwys yn Atodiad Un. Ceir rhestr o'r holl raglenni eraill sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB, ac felly nid yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt, yn Atodiad Dau.
Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir - Rhaglenni hyblyg yn ystod camau Dilyniant
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion PSRB[11].
- Disgwylir i'r holl fyfyrwyr ddilyn 180 o gredydau mewn modiwlau a addysgir yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Os yw asesiadau wedi'u cwblhau ac mae'r marciau/graddau wedi'u cadarnhau ar gyfer 120 o gredydau o fodiwlau a addysgir, gwneir penderfyniad yn unol â'r rheoliadau dilyniant arferol ar gyfer y lefel/rhaglen astudio.
- Bydd y Brifysgol yn caniatáu methiant mor isel â 40% mewn modiwlau nad ydynt yn fodiwlau craidd (ar yr amod bod y marc cyffredinol ar gyfer y modiwlau a addysgir o leiaf 50%) mewn hyd at 30 o gredydau lle mae rheolau rhaglenni'n caniatáu hynny.
- Lle nad oes marciau/graddau modiwl neu asesu ar gael oherwydd y Boicot Marcio ac Asesu, ond mae'r myfyriwr wedi pasio’r holl fodiwlau eraill (gyda marc o 50% neu’n fwy), fel rheol caniateir i'r myfyriwr symud ymlaen i’r lefel nesaf gyda hyd at 40 o gredydau heb eu cadarnhau (sef modiwlau yr effeithir arnynt gan y boicot marcio ac asesu yn unig) a pharhau â'u modiwl(au) dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
- Os nad yw myfyriwr yn bodloni'r meini prawf a nodir yn 4 uchod, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Lle mae myfyriwr wedi methu hyd at 30 o gredydau o fewn yr ystod a oddefir (40-49) ac wedi llwyddo ym mhob modiwl arall, bydd gan y myfyriwr yr opsiwn i oddef y marciau neu dderbyn y cyfle i ailsefyll.
- Lle mae myfyriwr wedi methu modiwl(au) (gyda marciau/graddau modiwl llawn wedi'u cadarnhau) bydd angen i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol yn y modiwl(au) a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd myfyriwr yn destun achos o gamymddygiad academaidd ym Mwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) yr effeithir arnynt ac ar gyfer unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd myfyriwr wedi derbyn caniatâd i ohirio, caiff y myfyriwr ymgeisiau atodol yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Yn dilyn hynny, os bydd myfyriwr yn methu ymgais asesu atodol, caniateir i'r myfyriwr symud ymlaen i dderbyn dyfarniad ymadael, yn unol â'r rheoliadau asesu arferol.
- Os yw myfyriwr yn derbyn caniatâd dros dro i symud ymlaen â chredydau heb eu cadarnhau, ond mae'r marc gwirioneddol ar gyfer y gwaith a gyflwynwyd, pan fydd yn hysbys, yn fethiant na ellir ei oddef, rhoddir ymgais ailasesu ychwanegol i'r myfyriwr (ymgais olaf) yn y modiwl(au) a fethwyd, a hynny fel rheol fel myfyriwr allanol. Fel rheol cynhelir yr ailasesiad yn gynnar yn ystod y sesiwn academaidd nesaf a rhaid iddo gael ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
- Caiff myfyrwyr sy'n ail-wneud modiwlau sydd wedi methu modiwlau mewn gwirionedd eu hystyried yn unol â'r rheoliadau asesu arferol.
[11]Ceir rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg yn Atodiad Un. Ceir rhestr o'r holl raglenni eraill sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB ac nad yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn Atodiad Dau.
Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir – Dyfarniad (safonol a hyblyg)
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion PSRB[12].
- Disgwylir i'r holl fyfyrwyr ddilyn 180 o gredydau mewn modiwlau a addysgir (240 ar gyfer rhaglenni Estynedig) yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Lle mae marciau/graddau ar gyfer y modiwl(au) dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ar gael, caiff penderfyniad ei gadarnhau yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Lle nad oes marciau/graddau ar gael ar gyfer modiwl(au) sy'n ffurfio rhan o elfen dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd y rhaglen, efallai na fydd hi'n bosib pennu penderfyniad dros dro. Gwneir pob ymdrech i farcio'r gwaith a gyflwynwyd. Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys, cânt eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd priodol a chaiff canlyniad ei gadarnhau.
[12]Ceir rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg yn Atodiad Un. Ceir rhestr o'r holl raglenni eraill sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB ac nad yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn Atodiad Dau.
Rhaglenni Tystysgrif Ôl-raddedig
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion PSRB[13].
- Disgwylir i'r holl fyfyrwyr ddilyn 60 o gredydau yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Rhaid pasio'r holl fodiwlau gyda marc o 50% neu’n uwch.
- Os nad oes gan y myfyriwr farciau/graddau modiwlau llawn ar gael ar gyfer 60 o gredydau, ond mae ganddo o leiaf 40 o gredydau o farciau/graddau pasio wedi'u cadarnhau, dylai'r Bwrdd ystyried a yw'n bosib cadarnhau penderfyniad dyfarniad a ragwelir. Bydd y Bwrdd yn ystyried y canlynol:
- A oes marciau/graddau rhannol ar gael
- Proffil y myfyriwr ac a yw'r marc cyfartalog yn gyson â'r marciau/graddau a gafwyd eisoes ac a ellid eu defnyddio fel marc dros dro ar gyfer y modiwl.
- Nifer y modiwlau a fethwyd mewn gwirionedd
- A gytunwyd ar unrhyw ohiriadau cymeradwy
- A oes unrhyw fodiwl(au) craidd
- A fodlonwyd canlyniadau dysgu’r rhaglen.
- Os nad yw myfyriwr yn bodloni'r meini prawf a nodir yn 3 uchod, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Pan fydd myfyriwr wedi methu modiwl(au) (ac mae marciau/graddau modiwl llawn wedi'u cadarnhau) bydd angen i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol yn y modiwl(au) a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd myfyriwr yn destun achos o gamymddygiad academaidd ym Mwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) yr effeithiwyd arnynt ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd myfyriwr wedi derbyn caniatâd i ohirio, dyfernir asesiadau atodol iddo yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Yn dilyn hynny, pan fydd myfyriwr yn methu ymgais asesiad atodol, caiff y penderfyniad/canlyniad terfynol ei ohirio tan y bydd yr holl farciau/graddau'n hysbys. Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys, cânt eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd priodol a chadarnheir canlyniad.
- Pan fydd marc gwirioneddol (pan fydd yn hysbys), yn fethiant, caniateir i’r myfyriwr gael ei ailasesu eto (ymgais olaf) yn y modiwl(au) a fethwyd, a hynny fel rheol fel myfyriwr allanol. Fel arfer cynhelir yr ailasesiad yn gynnar yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae’n rhaid iddo gael ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
- Caiff myfyrwyr sy'n ail-wneud modiwlau sydd wedi methu modiwlau mewn gwirionedd eu hystyried yn unol â'r rheoliadau asesu arferol.
- Yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol, bydd penderfyniad dyfarniad myfyriwr nad yw wedi talu'r holl ffioedd a oedd yn ddyledus i'r Brifysgol hyd yn hyn (boed yn ddyfarniad dros dro neu'n ddyfarniad gwirioneddol) yn cael ei ohirio tan y bydd y ddyled wedi'i thalu.
[13]Ceir rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg yn Atodiad Un. Ceir rhestr o'r holl raglenni eraill sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB ac nad yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn Atodiad Dau.
Rhaglenni Diploma Ôl-raddedig
Bydd y rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion PSRB[14].
- Disgwylir i'r holl fyfyrwyr ddilyn 120 o gredydau yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Rhaid llwyddo ym mhob modiwl gyda marc o 50% neu’n fwy; fodd bynnag, bydd y Brifysgol yn goddef methiant mor isel â 40% mewn modiwlau nad ydynt yn rhai craidd mewn hyd at 30 o gredydau pan fydd rheoliadau rhaglenni'n caniatáu hynny.
- Pan nad oes gan fyfyriwr farciau/graddau modiwl llawn ar gael ar gyfer 120 o gredydau ond mae ganddo farciau/graddau ar gael/wedi'u cadarnhau ar gyfer o leiaf 60 o gredydau o farciau/graddau pasio a gadarnhawyd, dylai'r Bwrdd ystyried a oes modd cadarnhau penderfyniad dyfarniad a ragwelir. Bydd y Bwrdd yn ystyried y canlynol:
- A oes marciau/graddau rhannol ar gael.
- Proffil y myfyriwr ac a yw'r marc cyfartalog yn gyson â'r marciau/graddau a gafwyd eisoes ac a ellid eu defnyddio fel marc dros dro ar gyfer y modiwl.
- Nifer y modiwlau a fethwyd mewn gwirionedd (gan gyfeirio at y rheoliadau goddef).
- A gytunwyd ar ohiriadau cymeradwy.
- A yw'r canlyniadau dysgu ar gyfer y rhaglen wedi'u bodloni.
- Pan na fydd myfyriwr yn bodloni'r meini prawf a nodir yn 3 uchod, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Pan fydd myfyriwr wedi methu hyd at 30 o gredydau o fewn yr ystod a oddefir (40-49) ac wedi llwyddo yn yr holl fodiwlau eraill, fel arfer bydd gan y myfyriwr yr opsiwn i oddef y marciau neu dderbyn y cyfle i ailsefyll.
- Pan fydd myfyriwr wedi methu modiwl(au) (ac mae marciau/graddau modiwl llawn wedi’u cadarnhau) bydd angen iddo sefyll asesiadau atodol yn y modiwl(au) a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd myfyriwr yn destun achos o gamymddygiad academaidd ym Mwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) yr effeithiwyd arnynt ac unrhyw fodiwlau eraill yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd gohiriad wedi'i ddyfarnu bydd y myfyriwr yn cael sefyll asesiad atodol yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac unrhyw fodiwl(au) eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol yn hysbys, caiff y canlyniad ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd priodol a chadarnheir canlyniad. Os cadarnheir bod y marc(iau) gwirioneddol yn fethiant/methiannau nad oes modd eu goddef yn unol â'r rheoliadau, caiff y myfyriwr ailasesiad ychwanegol (ymgais olaf) ar gyfer y modiwl(au) a fethwyd a hynny fel arfer fel myfyriwr allanol. Fel rheol cynhelir yr ailasesiad yn gynnar yn ystod y sesiwn academaidd nesaf a rhaid iddo gael ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
- Bydd myfyrwyr sy'n ail-wneud modiwlau sydd wedi methu modiwlau mewn gwirionedd, yn cael eu hystyried yn unol â'r rheoliadau asesu arferol.
- Yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol, os nad yw'r myfyriwr dan sylw wedi talu'r holl ffioedd sy'n ddyledus i'r Brifysgol, caiff unrhyw benderfyniad dyfarniad (boed yn ddyfarniad dros dro neu'n ddyfarniad gwirioneddol) ei ohirio.
[14]Ceir rheoliadau eithriadol ar gyfer rhaglenni Peirianneg yn Atodiad Un. Ceir rhestr o'r holl raglenni eraill sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB ac nad yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn Atodiad Dau.
Rhaglenni a Addysgir ar y cyd
Rhoddir ystyriaeth i raglenni ar y cyd â phartneriaid y tu allan i'r Brifysgol fesul rhaglen yn unol â safonau ansawdd academaidd a rheoleiddiol y Brifysgol.
Camau Gweithredu wedi i’r Bwrdd gyfarfod.
Pan fydd marciau/graddau gwirioneddol ar gael, caiff canlyniadau eu hystyried yng nghyfarfod cynlluniedig nesaf y Bwrdd Arholi.
Ar gyfer myfyrwyr sy'n symud ymlaen, pan fydd y marciau/graddau gwirioneddol ar gael erbyn 1 Medi 2023, caiff canlyniadau eu hystyried yng nghyfarfod y Bwrdd Arholiadau Atodol perthnasol ym mis Medi. Lle nad yw marciau/graddau gwirioneddol ar gael erbyn y dyddiad hwn, caiff canlyniadau eu hystyried gan y Bwrdd Arholi perthnasol ym mis Tachwedd.
Ar gyfer dyfarniadau, caiff marciau/graddau gwirioneddol myfyrwyr eu hystyried ym Mwrdd Arholi mis Tachwedd. Ar ôl cyfarfod y Bwrdd, caiff tystysgrifau eu hanfon at fyfyrwyr drwy’r post.
Atodiad Un
Rheoliadau Asesu Eithriadol - Yr Holl Raglenni Peirianneg.
Bydd y rheoliadau eithriadol canlynol yn berthnasol i'r holl raglenni Peirianneg sy'n ddarostyngedig i ofynion PSRB.
Myfyrwyr Israddedig sy'n dilyn rhaglenni Peirianneg achrededig
Lefel 6 a 7[15]: Dyfarniadau Blwyddyn Olaf 2023
- Disgwylir i'r holl fyfyrwyr ddilyn 120 o gredydau blwyddyn olaf yn unol â'r rheoliadau asesu perthnasol.
- Ym mhob rhaglen Peirianneg achrededig, mae pob modiwl yn 'GRAIDD' yn unol â'r gofynion a nodir gan y cyrff achredu ar gyfer y rhaglenni. Golyga hyn fod yn rhaid i bob myfyriwr sy'n cwblhau Blynyddoedd 1, 2, 3 a 4 ar raglen achrededig lwyddo ym mhob un o'r 120 o gredydau y maent wedi cofrestru arnynt.
- Lle nad oes gan y myfyriwr farciau modiwl llawn ar gael ar gyfer 120 o gredydau ond mae'n amlwg ei fod wedi pasio'r holl fodiwlau ac mae'r marciau cyfansoddol ar gael/wedi'u cadarnhau, dylai'r Bwrdd ystyried a yw'n bosib eithrio'r gydran sydd ar goll ar sail dros dro er mwyn caniatáu i ddyfarniad a dosbarthiad dros dro gael eu cymeradwyo.
- Pan fydd y marc(iau) cyfansoddol gwirioneddol yn hysbys, caiff y dyfarniad terfynol ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd priodol. Mewn achosion pan fyddai'r marc gwirioneddol yn arwain at ddosbarthiad uwch, caiff y dyfarniad ei uwchraddio a chofnodir y marc gwirioneddol ar drawsgrifiad y myfyriwr[16].
- Pan na fydd y myfyriwr yn bodloni 3, bydd y Bwrdd yn aros hyd nes y caiff y marciau gwirioneddol eu dychwelyd er mwyn cadarnhau penderfyniad dyfarniad y myfyriwr. Pan fydd y marciau gwirioneddol yn hysbys, bydd y Bwrdd priodol yn ystyried y canlyniad yn ei gyfarfod nesaf a chaiff canlyniad a dosbarthiad (lle y bo'n briodol) eu cadarnhau.
- Pan fydd myfyriwr blwyddyn olaf yn destun achos o gamymddygiad academaidd yng nghyfarfod Bwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, gellir dyfarnu asesiad atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) yr effeithir arnynt ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol (yn amodol ar y rheoliadau).
- Gall myfyrwyr gyflwyno cais am gyfle i ohirio ar sail amgylchiadau esgusodol yn unol â'r Polisi Amgylchiadau Esgusodol. Pan fydd myfyriwr wedi derbyn caniatâd i ohirio, caniateir iddo ymgymryd ag asesiad atodol yn y modiwl(au) a ohiriwyd yn unig.
Dilyniant 2023 (myfyrwyr sydd ar hyn o bryd ar lefelau 3, 4, 5 neu 62) - Myfyrwyr amser llawn (bydd hyn hefyd yn berthnasol ar sail pro rata i fyfyrwyr rhan-amser).
- Disgwylir i'r holl fyfyrwyr ddilyn 120 o gredydau yn unol â’r rheoliadau asesu perthnasol.
- Ym mhob rhaglen Peirianneg achrededig, mae pob modiwl yn 'GRAIDD' yn unol â'r gofynion a nodir gan y cyrff achredu ar gyfer y rhaglenni. Golyga hyn fod yn rhaid i bob myfyriwr sy'n cwblhau Blynyddoedd 1, 2, 3, 4 neu raglen MSc achrededig lwyddo ym mhob un o'r 120 o gredydau y maent wedi cofrestru arnynt.
- Fel rheol mae'n rhaid i bob myfyriwr sy'n symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf gyflawni marc cyfartalog cyffredinol o 35% o leiaf yn unol â'r rheoliadau asesu safonol perthnasol.
- Pan nad yw'r marciau modiwl neu asesu ar gael o ganlyniad i'r boicot marcio ac asesu, caniateir i fyfyrwyr symud ymlaen â 40 o gredydau heb eu cadarnhau (ar gyfer modiwlau yr effeithir arnynt gan y boicot marcio ac asesu yn unig) yn y flwyddyn academaidd nesaf. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gallai hyn gael goblygiadau ariannol a dylent geisio arweiniad priodol gan y Brifysgol. Bydd yr amodau canlynol yn berthnasol: Mae'r myfyriwr wedi pasio pob modiwl arall (gyda marc o 40% neu’n fwy).
- Mewn achosion lle mae myfyriwr wedi pasio pob modiwl (120 o gredydau) ond nad oes marciau ar gael ar gyfer rhai cydrannau oherwydd y boicot marcio ac asesu, caniateir i'r myfyriwr symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf gan gario drosodd y marciau sydd heb eu cadarnhau ar gyfer y cydrannau nad ydynt ar gael.
- Pan na fydd y myfyriwr yn bodloni'r meini prawf a nodir yn 4 uchod ac nad yw wedi methu mwy na 60 o gredydau, bydd y canlynol yn berthnasol:
i. Pan fydd myfyriwr wedi methu modiwl(au) craidd (ac mae marciau modiwl llawn wedi'u cadarnhau) bydd angen i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol yn y modiwl(au) craidd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
ii. Pan fydd myfyriwr yn destun achos o gamymddygiad academaidd ym Mwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) yr effeithiwyd arnynt ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
iii. Pan fydd gohiriad wedi'i ddyfarnu bydd y myfyriwr yn cael sefyll asesiad atodol yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd myfyriwr wedi methu mwy na 60 o gredydau ond llai nag 20 o gredydau o farciau/graddau a fethwyd mewn gwirionedd, bydd angen i’r myfyriwr ail-wneud y lefel astudio.
- Pan fydd gan y myfyriwr 100 o gredydau neu fwy o farciau/graddau a fethwyd mewn gwirionedd, caiff y penderfyniad ei ohirio.
- Wedi hynny, pan fydd myfyriwr yn llwyddo yn yr holl ymgeisiau atodol, fel rheol bydd yn cael caniatâd i symud ymlaen â hyd at 40 o gredydau heb eu cadarnhau o fodiwlau yr effeithiwyd arnynt gan y boicot marcio ac asesu i'r flwyddyn academaidd nesaf.
- Bydd angen i fyfyrwyr sy'n methu ymgais atodol gyda marc nad oes modd ei oddef (llai na 30%) ail-wneud y lefel astudio.
- Caiff penderfyniad myfyrwyr sy'n ail-wneud y lefel neu'n ail-wneud modiwlau a fethwyd ac sy'n methu ymgais atodol ei ohirio tan y bydd eu marciau gwirioneddol yn hysbys.
- Yn unol â'r rheoliadau asesu safonol, caiff marciau asesiadau atodol ar Lefel 5 (neu Lefel 6 ar gyfer Graddau Cychwynnol Uwch) eu cyfyngu i 40% oni bai bod y Gyfadran wedi cytuno ar ymgais cyntaf gohiriedig yn unol â'r Polisi Amgylchiadau Esgusodol.
- Pan gaiff myfyriwr ganiatâd ar sail dros dro i symud ymlaen â chredydau heb eu cadarnhau ond wedyn mae'r marc gwirioneddol ar gyfer y gwaith a gyflwynwyd, pan fo'n hysbys, yn fethiant na ellir ei oddef, caiff y myfyriwr ei ailasesu ar gyfer y modiwl(au) a fethwyd, wrth barhau ar y lefel astudio bresennol (credydau heb eu cadarnhau). Fel rheol trefnir yr asesiad yn gynnar yn ystod y sesiwn academaidd nesaf a rhaid ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
- Pan fydd myfyriwr yn symud ymlaen i flwyddyn mewn Diwydiant/dramor ond mae'r marc gwirioneddol ar gyfer y gwaith a gyflwynwyd, pan fo'n hysbys, yn fethiant na ellir ei oddef, caiff y myfyriwr ei ailasesu ar y modiwl(au) a fethwyd wrth barhau â’r flwyddyn mewn diwydiant/dramor. Fel rheol trefnir yr asesiad yn gynnar yn ystod y sesiwn academaidd nesaf a rhaid ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
- Pan fydd myfyriwr yn sefyll asesiad ychwanegol ar gyfer modiwl(au) heb eu cadarnhau, ac wedyn yn methu modiwl(au) nad oes modd ei oddef/eu goddef dan y rheoliadau, gallai'r myfyriwr dderbyn
a) ymgais atodol olaf.
b) Neu gellid ei gynghori i drosglwyddo i raglen arall (lle y bo'n berthnasol).
Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir - Rhaglenni Safonol - Rhan Un
- Ym mhob rhaglen Peirianneg achrededig, mae pob modiwl yn 'GRAIDD' yn unol â'r gofynion a nodir gan y cyrff achredu ar gyfer y rhaglenni. Golyga hyn fod yn rhaid i bob myfyriwr sy'n cwblhau rhaglen MSc achrededig lwyddo ym mhob un o'r 120 o gredydau a addysgir y maent wedi cofrestru arnynt, yn ogystal â'r elfen Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd gwerth 60 o gredydau (cyfanswm o 180 o gredydau)
- Os yw asesiadau wedi'u cwblhau ac mae'r marciau wedi'u cadarnhau ar gyfer 120 o gredydau o fodiwlau a addysgir, gwneir penderfyniad yn unol â'r rheoliadau dilyniant arferol ar gyfer y lefel/rhaglen astudio.
- Lle nad oes marciau modiwlau neu asesu ar gael oherwydd y boicot marcio ac asesu, fel rheol caniateir i fyfyrwyr symud ymlaen â hyd at 40 o gredydau heb eu cadarnhau (modiwlau yr effeithiwyd arnynt gan y boicot marcio ac asesu yn unig) a pharhau â'u modiwl(au) dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn unig. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gallai hyn gyflwyno goblygiadau ariannol a dylent geisio arweiniad priodol gan y Brifysgol. Bydd yr amodau canlynol yn berthnasol: Mae'r myfyriwr wedi pasio pob modiwl arall (gyda marc o 50% neu’n fwy).
- Pan na fydd y myfyriwr yn bodloni'r meini prawf a nodir yn 2 neu 3, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Pan fydd myfyriwr wedi methu modiwl(au) (ac mae’r marciau llawn wedi'u cadarnhau) bydd angen i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd myfyriwr yn destun achos o gamymddygiad academaidd ym Mwrdd Arholi mis Mai/Mehefin, dyfernir asesiadau atodol i'r myfyriwr yn y modiwl(au) yr effeithiwyd arnynt ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Pan fydd gohiriad wedi'i ddyfarnu bydd y myfyriwr yn cael sefyll asesiad atodol yn y modiwl(au) a ohiriwyd ac unrhyw fodiwlau eraill a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol.
- Wedi hynny, pan fydd myfyriwr yn methu ymgais atodol, caiff y penderfyniad canlyniad/terfynol ei ohirio tan y bydd yr holl farciau'n hysbys. Pan fydd y marciau gwirioneddol wedi'u cadarnhau, trefnir cyfarfod o'r Bwrdd Arholi cyn gynted â phosib er mwyn cadarnhau cymhwyster ymadael.
- Pan fydd myfyriwr wedi derbyn caniatâd dros dro i symud ymlaen â chredydau heb eu cadarnhau ond mae'r marc gwirioneddol ar gyfer y gwaith a gyflwynwyd, pan fydd yn hysbys, yn fethiant na ellir ei oddef, caiff y myfyriwr ailasesiad ychwanegol (ymgais olaf) ar gyfer y modiwl(au) a fethwyd wrth barhau â'i fodiwl(au) dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd. Fel rheol cynhelir yr ailasesiad yn gynnar yn ystod y sesiwn academaidd nesaf ac mae’n rhaid iddo gael ei gynnal cyn diwedd y semester cyntaf.
[15]Graddau Cychwynnol Uwch Lefel 7 yn unig
[16]Pan fydd y marc gwirioneddol yn uwch na'r marc dros dro ond nid oes newid o ran y dosbarthiad, caiff y marc uwch ei gofnodi ar drawsgrifiad y myfyriwr.
Atodiad Dau
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
PGDip Ymarfer Cyfreithiol
LLM Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
TAR Cynradd gyda Statws Athro Cymwysedig
TAR Uwchradd gyda Statws Athro Cymwysedig (ac amrywiadau)
Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
PGCert Rhagnodi Anfeddygol i Nyrsys a Bydwragedd
Tystysgrif i Raddedigion mewn Gofal Amdriniaethol
Tystysgrif mewn Astudiaethau Gofal Iechyd
"BSc (Anrh.) / Grad.Dip / MSc/ PGDip Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol
- Ymwelydd Iechyd
- Nyrs Ysgol
(gyda a heb V100 integredig)"
BSc (Anrh.) / Grad.Dip / MSc/ PGDip Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol
BSc (Anrh.) Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg)
BSc (Anrh.) Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu)
BSc (Anrh.) Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol)
BSc (Anrh.) Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd)
BSc (Anrh.) Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Anadlu a Chwsg)
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear)
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi)
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd)
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Niwroffisioleg)
BMid (Anrh.) Bydwreigiaeth Rhaglen Hir
M.Ost Osteopatheg
DipHE mewn Gwyddor Barafeddygol
DipHE mewn Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Meddygol Brys
BSc (Anrh.) Gwyddor Barafeddygol
BSc (Anrh.) Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Meddygol Brys
CertHE Ymarfer Clywedeg Sylfaenol
BSc (Anrh.) Gwaith Cymdeithasol
MSc mewn Gwaith Cymdeithasol
PGCert Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy
BSc (Anrh.) Therapi Galwedigaethol
BSc (Anrh.) Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau
MSc/PG Dip Ymarfer Clinigol Uwch (Gofal sylfaenol)
Yr Ysgol Feddygaeth
(Meddygaeth i Raddedigion), MB BCh Meddygaeth
MPharm (Anrh.) gyda Blwyddyn Sylfaen / MPharm (Anrh.) Fferylliaeth
Ôl-raddedig:
MSc Gwyddor Fiofeddygol (Biocemeg Glinigol)
MSc Gwyddor Fiofeddygol (Microbioleg Glinigol)
MSc Gwyddor Fiofeddygol (Patholeg Celloedd)
MSc Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol)
MSc / PGDip / PGCert Ymarfer Diabetes
MSc / PGDip / PGCert Meddygaeth Genomig
MSc / PGDip / PGCert Gwyddor Data Iechyd
MSc / PGDip / PGCert Gwybodeg Iechyd
"MSc / PGDip / PGCert Arweinyddiaeth ar gyfer y Proffesiynau Iechyd"
MSc / PGDip / PGCert Addysg Feddygol
MSc Ffiseg Ymbelydredd Meddygol
MSc / PGDip / PGCert Nanofeddygaeth
MSc Astudiaethau Meddyg Cysylltiol
Yr Ysgol Seicoleg
BSc (Anrh.) mewn Seicoleg
BSc (Anrh.) mewn Seicoleg [gyda blwyddyn sylfaen]
BSc (Anrh.) Troseddeg a Seicoleg
BSc (Anrh.) Addysg a Seicoleg
BSc (Anrh.) Cymdeithaseg a Seicoleg
BSc (Anrh.) Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor
BSc (Anrh.) Troseddeg a Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor
BSc (Anrh.) Addysg a Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor
BSc (Anrh.) Cymdeithaseg a Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor
MSc mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl