Mae'r Brifysgol yn cydnabod y buddsoddiad enfawr a wneir gan fyfyrwyr, o ran amser ac arian, wrth ddewis dilyn rhaglen Addysg Uwch ac, yn Sefydliad cyfrifol, yn credu bod ganddi ddyletswydd i ymateb yn brydlon i unrhyw ddiffyg ymgysylltu fel bod modd cefnogi myfyrwyr a rhoi pob cyfle iddynt. Mae Datganiad y Brifysgol ar Ymgysylltu yn cefnogi'r egwyddorion a amlinellir yn y Siarter Myfyrwr, a'i fwriad yw cynorthwyo'r Brifysgol i alluogi myfyrwyr i gyrraedd eu potensial dysgu.

1.1

Mae'n ddisgwyliedig gan y Brifysgol y dylai'r holl fyfyrwyr cofrestredig ymgysylltu ag unrhyw sesiwn ddysgu wyneb yn wyneb neu rithwir a drefnir sy'n gysylltiedig â phob modiwl neu raglen ymchwil y maent wedi dewis eu dilyn yn Semestrau 1, 2 a 3 (lle bo'n berthnasol) ac yn  cynnwys yr holl wythnosau a amserlennir mewn termau a semestrau (gan gynnwys wythnosau Asesu, Adborth a Chyflogadwyedd).

1.2

Mae sesiwn ddysgu a amserlennir yn cynnwys, ond heb ei chyfyngu i, ddarlithoedd, seminarau, grwpiau astudio, dosbarthiadau  ymarferol, dosbarthiadau enghreifftiol, tiwtorialau, arholiadau, cyfarfodydd goruchwyliol, lleoliadau diwydiannol, teithiau maes neu weithgareddau eraill y mae disgwyl i fyfyrwyr eu mynychu.

1.3

Mae'r Brifysgol yn mynnu bod myfyrwyr yn bodloni unrhyw ofynion ychwanegol a nodir ym Mholisïau Ymgysylltu’r  Gyfadran/Ysgol.

1.4

Mae'r Brifysgol yn mynnu bod myfyrwyr yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion eraill o ran monitro ymgysylltu  a allai fod ar waith er mwyn helpu'r Brifysgol i gydymffurfio â gofynion asiantaethau allanol (er enghraifft y llywodraeth ac asiantaethau ariannu).

2.    Absenoldeb Myfyrwyr

2.1

Mae'n ofynnol bod myfyrwyr yn hysbysu eu Cyfadran/Hysgol am unrhyw absenoldeb o'r Brifysgol yn unol ag egwyddorion y Siarter Myfyrwr.

2.2

Caiff myfyriwr sy'n absennol o arholiad gyflwyno cais i'w Gyfadran/Ysgol i ohirio'r arholiad dan sylw yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol (dolen i'r Polisi).

3.     Ymgysylltu Anfoddhaol 

3.1

Mae 'ymgysylltu Anfoddhaol' yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu’n gyfan gwbl i’r canlynol:

  • Methiant mynych neu ailadroddus i ymgysylltu â sesiynau dysgu a amserlennir wyneb yn wyneb neu'n rhithwir ac adnoddau dysgu ar-lein heb roi rheswm boddhaol; a/neu

  • Fethu mynychu cyfweliad a amserlennir gydag aelod o staff y gwasanaethau academaidd/proffesiynol, yn arbennig pan fydd y fath gyfweliad yn ymdrin â diffyg ymgysylltu neu gynnydd academaidd.

Ystyrir myfyriwr y tybir bod ei bresenoldeb ymgysylltu’yn anfoddhaol yn unol â'r Polisïau Monitro Ymgysylltu:

Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir

Polisi Monitro Ymgysylltiad ar gyfer Myfyrwyr Haen 4/ Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt)

Polisi Monitro Ymgysylltiad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil