O 1 Mehefin 2024, bydd newid yn y Rheoliadau Asesu ar gyfer pob rhaglen a addysgir.
Mae'r newid yn ymwneud â'r system 'goddefiad' bresennol. Goddefiad yw'r broses o ganiatáu methiant ymylol mewn un neu fwy o fodiwlau (mae cyfyngiadau'n berthnasol), ar sail safon gyffredinol dderbyniol o berfformiad academaidd. Yn ôl y system goddefiad bresennol, ni chaiff credydau eu dyfarnu am y modiwlau hyn.
Bydd y Brifysgol yn symud i system 'digolledu'. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw fodiwlau a fyddai fel arfer yn destun y broses goddefiad bellach yn cael eu digolledu a chaiff credydau eu dyfarnu amdanynt.
Dylech ddarllen ein cwestiynau cyffredin i gael gwybod sut bydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi. Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â Thîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Cyfadran.