Gellir rhannu gweminarau’n ddau fath: y rhai lle gallwch siarad (ac efallai rhannu fideo drwy eich gwe-gam) a’r rhai lle nad oes modd i chi siarad.
Gweminarau lle gallwch siarad
Mewn gweminarau ar gyfer grwpiau llai, efallai y byddwch yn cael troi eich microffon a’ch gwe-gam ymlaen ac felly cymryd rhan drwy siarad. Mae rhai platfformau’n cynnwys botwm dwylo i fyny y gallwch glicio arno i ddangos eich bod am gyfrannu a gall y sawl sy’n cyflwyno’r sesiwn roi caniatâd i chi siarad. Mae angen hyn yn aml mewn grwpiau maint canolig i atal pobl rhag torri ar draws ei gilydd.
Hyd yn oed yn y gweminarau hyn gallwch gymryd rhan hefyd drwy deipio mewn ffenestri sgwrsio. Dyma’r lle i ofyn cwestiynau, rhannu syniadau byr ac yn aml ddolenni i dudalennau gwe a dogfennau. Dydyn nhw ddim yn agor yn awtomatig mewn rhai platfformau – felly chwiliwch am y gair ‘chat’ neu eicon ar ffurf swigen siarad neu rywbeth tebyg.
Gweminarau lle na allwch siarad
Mewn gweminarau mwy, mae’n gallu bod yn lletchwith os yw pawb yn gallu siarad, felly mae’n bosib na fydd yr opsiwn hwn ar gael. Os yw hyn yn wir, ffenestr sgwrsio fydd eich prif ffordd o gyfrannu. Fel y nodwyd uchod, dyw rhai platfformau ddim yn dangos eu ffenestri sgwrsio’n awtomatig, felly cadwch lygad am y gair ‘chat’ neu eicon ar ffurf swigen siarad neu rywbeth tebyg.
Gall y cyflwynydd ofyn i chi am atebion i gwestiynau penodol y bydd angen i chi eu teipio yn y ffenestr sgwrsio, neu gallech ddewis ei defnyddio i ofyn cwestiynau i’r cyflwynydd.
Gall gweminarau mwy lle na allwch siarad gynnig nodwedd arall, sef pleidlais. Os yw’r cyflwynwyd eisiau cael barn y grŵp am rywbeth gallai ofyn i chi gymryd rhan mewn pleidlais. Mae’r rhain yn ddienw fel arfer.