Mae Microsoft OneNote yn casglu nodiadau defnyddwyr (mewn llawysgrifen neu wedi’u teipio), lluniadau, toriadau sgrin a sylwebaethau sain. Gellir rhannu nodiadau â defnyddwyr OneNote eraill dros y Rhyngrwyd neu rwydwaith. Mae OneNote ar gael fel rhan o gyfres Microsoft Office. Mae hefyd ar gael fel cymhwysiad annibynnol am ddim ar gyfer Windows, Mac, Windows Phone, iOS, ac Android. Darperir fersiwn ar y we o OneNote fel rhan o OneDrive neu Office Online ac mae'n galluogi defnyddwyr i olygu nodiadau trwy borwr gwe.
Mae OneNote ar gael am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe trwy Office 365.