Wrth weithio o bell gall cadw mewn cysylltiad fod yn heriol. Os yw hynny’n gweithio gyda chymheiriaid ar brosiect grŵp neu wneud ffrindiau newydd yn ystod cyfnod o gadw pellter cymdeithasol, mae gan y dudalen hon syniadau er mwyn eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad yn y Brifysgol.
Mae unigedd a theimlo’n ynysig bob amser yn anodd ond yn fwy byth ar hyn o bryd. Cadwch mewn cysylltiad cyson â phobl eraill a chofiwch wirio bod eich ffrindiau’n cadw’n dda hefyd. Os ydych chi’n profi anawsterau neu os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n profi trafferthion, rhowch wybod i rywun. Mae gwasanaethau cymorth y Brifysgol yma ar eich cyfer chi a gallwch chi hefyd dderbyn cymorth trwy dudalen Cyngor a Chefnogaeth Undeb y Myfyrwyr.