Cangen Prifysgol Abertawe, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae Cangen y Brifysgol wedi'i lleoli yn Academi Hywel Teifi. Fel aelod o’r Coleg, byddwch chi hefyd yn aelod o Gangen y sefydliad. Mae’r Gangen yn rhan allweddol o drefniadaeth y Coleg, a threfniadaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe, gan dynnu at ei gilydd aelodau o staff er mwyn trafod ac ystyried materion cyfrwng Cymraeg yn sefydliadol ac yn genedlaethol.
Mae Cangen Prifysgol Abertawe yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chi. Mae drws y gangen ar agor os ydych chi am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r gweithgaredd sydd ar gael yn y Brifysgol. Ystafell 162, Adeilad Talbot.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ryn ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.
Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.