GWYBODAETH AM SYMUD I MEWN I LETY TRUE

true student accommodation

CYN I CHI GYRRAEDD

 

  1. Derbyniwch eich Cytundeb Tenantiaeth a chwblhau eich proses Sefydlu ar-lein yma.
  2. Am y cyfnod rhwng dydd Mercher 20 a dydd Sul 24 Medi, dylech chi drefnu amser i chi gyrraedd a chasglu eich allwedd.                                                                     Os bydd eich tenantiaeth yn dechrau y tu allan i'r amserau hyn, gallwch gyrraedd y tu allan i'r slot amser rydych wedi'i ddewis ar ddyddiad dechrau eich tenantiaeth neu ar ôl y dyddiad hwn. 
  3. Cwrdd â'ch cyd-letywyr. Byddwch yn cael e-bost oddi wrth dîm llety True yn gofyn i chi gwblhau ffurflen sefydlu fer. Unwaith y caiff hon ei chwblhau, byddwch yn gallu mewngofnodi i'r ap true student +.
  4. Anfonir llawlyfr True i chi drwy e-bost. Mae hyn yn cynnwys llawer o wybodaeth i'ch cadw chi'n ddiogel ac i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich amser gyda ni. Darllenwch hwn yn drylwyr a rhoi gwybod i ni os oes cwestiynau gennych pan fyddwch yn cofrestru.

 

 

unibuddy logo

CYMUNED UNIBUDDY

Cysylltwch â phobl eraill yng Nghymuned Unibuddy

true student+ app logo

TRUE STUDENT+

Gallwch gwrdd a sgwrsio â'ch cymdogion, trefnu gwaith cynnal a chadw yn gyflym, cofrestru am ddigwyddiadau trueLife (a llawer mwy).

CYRRAEDD YMA

50 Heol Morfa, Abertawe SA1 2FD

PAN FYDDWCH YN CYRRAEDD

Gallwch fynd i mewn i'r llety drwy ddrws prif fynedfa'r Hyb Croeso a chasglu eich allwedd o 10am.

Mae'r tîm ar gael 24 awr y dydd felly peidiwch â phoeni os byddwch yn cyrraedd yn hwyr.

 

  • Os byddwch yn cyrraedd mewn car, bydd aelodau o'n tîm yn caniatáu i chi gael mynediad i’n maes parcio ac yn cydlynu ar y diwrnod i'ch galluogi i ollwng eitemau wrth ymyl y ffordd. Yna bydd angen i chi symud eich car i adael i'r cerbyd nesaf barcio a dadlwytho. 

    Y maes parcio agosaf yw maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr, sydd ger yr Orsaf Drenau yn Ivey Place SA1 1NU

  • Os byddwch yn cerdded i lety True, dyma'r adeilad cyntaf ar eich llaw chwith pan fyddwch yn dod drwy'r giatiau.
  • Mae ein tîm yn gweithio'n galed i sicrhau profiad hwylus a didrafferth i chi wrth symud i mewn i'ch llety. Er mwyn ein helpu i wneud hyn mor gyflym â phosib, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud y canlynol; cwblhau eich ffurflen sefydlu (yn uniongyrchol gyda true student), lawrlwytho a mewngofnodi i'r ap true student +, cyrraedd gyda'ch Hawlen Gyrraedd (gellir dod o hyd i hon yn eich cyfrif llety ar-lein) a rhyw fath o Gerdyn Adnabod.
  • Er mwyn i chi gasglu eich allwedd, byddwn yn gofyn i chi ddangos rhyw fath o gerdyn adnabod i ni allu gwirio eich hunaniaeth! Gall hyn fod yn unrhyw fath o ddull adnabod, megis pasbort neu drwydded yrru.
  • Bydd y tîm wrth law i'ch tywys o gwmpas y llety a mynd â chi i'ch ystafell; hefyd, bydd byrbrydau a lluniaeth ar gael yn ogystal â chyfle i gwrdd â gwesteion True eraill.

Os na fydd aelod o'r tîm o gwmpas pan fydd ei angen arnoch, ffoniwch ni ar +44 (0) 179 227 7442​ (dewis 2).