GWYBODAETH AM SYMUD I MEWN I LETY SEREN

Photograph of Reception area inside Seren's entrance

CYN I CHI GYRRAEDD

 

  1. Derbyniwch eich Cytundeb Tenantiaeth a chwblhau eich proses Sefydlu ar-lein yma.
  2. Ar gyfer ein prif gyfnod Cyrraedd, rhwng dydd Mercher 20 a dydd Sadwrn 23 Medi, dylech chi drefnu amser i gyrraedd y campws.                                                        Os bydd eich tenantiaeth yn dechrau y tu allan i’r amserau hyn, gallwch gyrraedd y tu allan i’r slot amser rydych wedi’i ddewis ar ddyddiad dechrau eich tenantiaeth neu ar ôl y dyddiad hwn.
  3. Gallwch gwrdd â’ch cyd-letywyr a thrafod eitemau rydych chi am eu rhannu. Byddai hyn yn osgoi cael 5 tostiwr ond dim sosbenni yn eich cegin!
unibuddy logo

CYMUNED UNIBUDDY

Cysylltwch â phobl eraill yng Nghymuned Unibuddy

facebook logo

GRŴP FACEBOOK

Ymunwch â’ch grŵp Facebook a chwrdd â’ch cyd-letywyr

CYRRAEDD YMA

66 Heol Alexandra, Abertawe SA1 5BD

PAN FYDDWCH YN CYRRAEDD

Ewch i Dderbynfa’r Llety i gasglu eich allwedd.

O ddydd Llun i ddydd Gwener – rhwng 8am ac 8pm

Mae maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr gyferbyn, ger yr Orsaf Drenau yn Ivey Place SA1 1NU

Er mwyn i chi gasglu eich allwedd, gofynnir i chi gyflwyno eich Hawlen Gyrraedd. Gellir cyrraedd hon drwy eich cyfrif llety ar-lein. Yn hytrach na'i hargraffu, gallwch ei dangos i staff ar eich ffôn!

Bydd staff ar gael i'ch cyfeirio chi at eich cartref newydd.

Os byddwch yn cyrraedd y tu allan i'r oriau arferol, cysylltwch â llety Seren yn uniongyrchol i gael mynediad i’ch llety.

Ffôn: +44 (0) 1792 432 070; E-bost: Seren@crm-students.com