ARCHEBWCH NAWR AR GYFER 2024-2025, O £140 yr wythnos

Arwydd True, gyda myfyrwyr yn eistedd yn y dderbynfa

Mannau Byw Diogel, Cyfleus a Chyfforddus

Mae llety ar gael i fyfyrwyr sydd naill ai wedi astudio yn y Brifysgol o'r blaen neu sydd  eisoes wedi byw yn llety'r Brifysgol am unrhyw gyfnod o amser.

Byddwch yn gallu:

  • Cyflwyno cais ar gyfer 2024/25 fel unigolyn neu gyda ffrindiau.
    Ar gyfer grwpiau, dylai pob aelod o’r grŵp gyflwyno cais yn unigol, gan sicrhau bod enwau a rhifau myfyrwyr y grŵp yn cael eu cynnwys ym maes Ceisiadau Adran 4.
  • Cadwch eich ystafell bresennol (mewn rhai lleoliadau/adeiladau). Yn eich cais, gallwch nodi manylion eich fflat presennol.
  • Gallwch gadarnhau eich cais gyda thaliad bach o £100. Gallwch hefyd ohirio’r taliad ymlaen llaw hyd at fis Ionawr 2024.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu lle byw diogel, cyfleus a chyfforddus ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
    Gallwch wneud cais ar wahân am lety dros yr Haf (ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi). Darllenwch ragor am lety’r Haf yma.

Ble mae myfyrwyr sy'n dychwelyd yn byw?

Rydym yn cynnig fflatiau mewn preswylfeydd a ddynodir ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd yn unig, sy'n golygu na fyddwch yn byw ochr yn ochr â myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf o astudio.

Os ydych yn teimlo bod angen i chi fyw yn llety'r Brifysgol - er enghraifft oherwydd anabledd, cyflwr iechyd neu amgylchiadau eraill sy'n golygu nad yw llety yn y sector preifat yn addas i chi - mae'n hanfodol eich bod yn cynnwys yr wybodaeth hon yn eich cais.

FFIOEDD LLETY

CAMPWS Y BAE

Mae Campws y Bae yn cynnig mynediad uniongyrchol i draeth hardd, a'i lwybr glan y môr. Mae yna wasanaethau bws rheolaidd, uniongyrchol rhwng y ddau gampws.

Cardigan a Talacharn: Ystafelloedd Ensuite maint canolig
Nest: Ystafelloedd Ensuite maint canolig ac ystafelloedd gyda dau wely
Pen-y-Bryn: Ystafelloedd Ensuite Premiwm
Weble: fflatiau gyda 2 ystafell wely

Darllenwch ragor

a furnished bedroom of Bay

TŶ BECK

Mae Tŷ Beck  yng nghanol  Uplands, ger siopau a chyfleusterau amrywiol.

Dewis hunanarlwyo yw’r llety, gydag ystafelloedd ensuite a rhai gydag ystafelloedd ymolchi a rennir. Mae maes parcio am ddim i breswylwyr, ac mae gwasanaethau bws gerllaw yn rhedeg yn rheolaidd i'r ddau gampws a chanol y ddinas.

Mae'r llety yma ar gael i:

  • fyfyrwyr ôl-raddedig
  • Myfyrwyr Hŷn (21+ oed)
  • Parau a theuluoedd

Darllenwch ragor

Ystafell gyda dodrefn

CAMPWS PARC SINGLETON

Mae holl breswylfeydd Parc Singleton o fewn pellter cerdded i'r parc, y traeth, Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Ysbyty Singleton a Bae Abertawe. Mae gan bob fflat gegin a rennir.

Cefn Bryn: Ystafelloedd ymolchi a rennir
Cilfái (ydyn ni’n defnyddio’r enwau Cymraeg?): Ystafelloedd ymolchi a rennir gyda Lwfans Arlwyo
Langland: Ensuite (fflatiau o 8)
Penmaen: Ensuite (fflatiau o 8)

Darllenwch ragor

a furnished bedroom

Seren

Mae llety Seren  gyferbyn â Gorsaf Drenau Abertawe yng nghanol y ddinas, hanner ffordd rhwng Campws Parc Singleton a Champws y Bae. Mae yna wasanaethau bws rheolaidd, uniongyrchol rhwng y llety a'r ddau gampws.

Mae gan yr ystafelloedd, sydd mewn fflatiau o 8-12, ystafelloedd ymolchi ensuite, ac mae preswylwyr yn rhannu cegin.

Mae gan yr ystafelloedd stiwdio, sydd mewn fflatiau o 8, gegin ac ystafell ymolchi ensuite ym mhob ystafell

Darllenwch ragor

a furnished bedroom

TRUE SWANSEA

Gyda golygfa hyfryd dros afon Tawe, mae True Swansea ar Ffordd y Morfa yng nghanol y ddinas. Mae yna wasanaethau bws rheolaidd, uniongyrchol rhwng y llety a'r ddau gampws.

Mae gan yr ystafelloedd, sydd mewn fflatiau o 5-6, ystafelloedd ymolchi ensuite, ac mae preswylwyr yn rhannu cegin.

Mae’r ystafelloedd stiwdio yn cynnwys cegin ac ystafell ymolchi ensuite yn yr ystafell, yn ogystal â chegin a rennir.

Darllenwch ragor

a furnished bedroom

TAI A FFLATIAU A RENNIR

Edrychwch ar Studentpad ar gyfer llety yn y sector preifat.

  • Bydd y rhan fwyaf o lety preifat mewn ardaloedd sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr yn Abertawe.
  • Mae Studentpad yn eich galluogi i chwilio am dai, fflatiau a llety ar gyfer myfyrwyr yn Abertawe sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor ac sy’n cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol angenrheidiol.
  • Mae cyngor ac awgrymiadau cyffredinol ynghylch chwilio am dŷ ar gael i chi.

Darllenwch ragor

a furnished bedroom

DARLLENWCH RAGOR AM LETY YM MHRIFYSGOL ABERTAWE