Parcio ceir
Yn unol â Strategaeth Cynaliadwyedd y Brifysgol, nid oes caniatâd i fyfyrwyr barcio ceir a beiciau modur ar y campws rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio deiliaid hawlenni. Ewch i'r dudalen we ynghylch Teithio mewn Car i gael rhagor o wybodaeth.
Preswylwyr Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan
Mae parcio am ddim ar gael ar y safle i breswylwyr ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan, 24 awr y dydd drwy gydol eich tenantiaeth.
- Cyflwynwch gais am Hawlen Barcio.
- Nid yw cael hawlen barcio yn gwarantu lle parcio a dim ond ymgeiswyr sy'n derbyn yr amodau fydd yn cael un.
- Rydych chi’n derbyn y risg wrth barcio ac nid yw Prifysgol Abertawe yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gerbydau sydd wedi'u parcio sy'n cael eu colli neu eu difrodi.
Toyn Bws
- Mae myfyrwyr sy'n byw ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan, â thenantiaethau dros 20 wythnos, yn derbyn tocyn bws am ddim am y flwyddyn academaidd.
- Os yw eich contract am 40 neu 51 wythnos, bydd eich tocyn bws yn dechrau ar y dydd Llun cyntaf ar ôl y prif benwythnos cyrraedd ym mis Medi.
- Os yw eich contract am 47 wythnos, bydd eich tocyn bws yn dechrau ar ôl i chi gyrraedd. Os yw eich contract am 51 wythnos, mae eich tocyn bws yn ddilys tan 31 Awst 2023.
Byddwch chi’n derbyn e-bost yn fuan ar ôl i chi gyrraedd gyda chôd taleb a chyfarwyddiadau llawn i gael eich tocyn. Lawrlwythwch ap First Bus drwy’r App Store neu Google Play.
Gwasanaeth bws
Mae gwasanaeth bysus rheolaidd rhwng y ddau gampws, Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan, Tŷ Beck a chanol y ddinas.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys amserlenni ac opsiynau tocynnau, ewch i'r tudalennau gwe ynghylch Teithio
Beiciau
Rhaid i breswylwyr sy'n dod â beiciau eu cadw yn y cysgodfeydd beiciau awyr agored a ddarperir. Ceir mynediad at y cysgodfeydd beiciau drwy ddefnyddio côd a gaiff ei ddarparu gan Dderbynfa eich Safle (Preswylwyr Campws Parc Singleton a Phentref Myfyrwyr Hendrefoelan).
Peidiwch â dod â beiciau i mewn i'r adeiladau ar unrhyw adeg, a dylid eu cloi'n ddiogel â chlo D o ansawdd da yn y cysgodfeydd beiciau. Mae pob perchennog beic yn derbyn y risg wrth ei adael. Rhaid symud pob beic o'r cysgodfeydd beiciau ar ddiwedd cyfnod y denantiaeth. Gwiriwch eich yswiriant i weld a yw eich beic wedi'i gynnwys: www.endsleigh.co.uk/personal/studentinsurance.
Os nad oes gennych eich beic eich hun, gallwch chi logi un o'n Beiciau Santander. Mae'n ffordd hwyl, fforddiadwy a chynaliadwy o deithio o gwmpas Abertawe.
Mae'r Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 yn cysylltu'r ddau Gampws ac yn benodol, ceir mynedfa feicio bwrpasol i'r ddau gampws. Mae'n cymryd 25-30 munud yn unig i feicio rhwng y ddau gampws a thua 15 munud yn unig o ganol y ddinas.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Ein Teithio