Ymadawiad

Chi sydd biau’r ystafell am y cyfnod cyfan sydd yn eich Cytundeb Tenantiaeth, sy’n golygu na fydd angen i chi symud eich eiddo allan dros wyliau’r Nadolig neu’r Pasg. Cewch chi adael eich llety cyn dyddiad diwedd eich contract, ond nid yw'n effeithio ar eich ymrwymiad cytundebol neu ariannol i’ch llety.

Sylwer bod yn rhaid i chi fynd â’ch holl eiddo o’ch ystafell wely a’ch cegin pan fyddwch chi’n gadael. Codir tâl o £10.00 am bob bag bin y bydd rhaid i ni fynd ag ef o’r llety.

Trefniadau ar gyfer y gwyliau

Wrth i safleoedd dawelu yn ystod gwyliau'r Nadolig/Pasg gofynnwn i chi barhau i fod yn ymwybodol o’ch diogelwch chi a diogelwch pobl eraill. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cau drysau a ffenestri a’ch bod yn cysylltu â’r gwasanaethau cymorth os oes angen. Mae cymorth parhaus ar gael dros y cyfnod hwn drwy'r Gwasanaeth Lles 

Rhoddion elusennol

Os oes gennych chi eitemau diangen sydd mewn cyflwr rhy dda i'w gwaredu, ond nid ydych chi am fynd â nhw adref gyda chi, rhowch nhw i Sefydliad Prydeinig y Galon neu'r YMCA. Gofynnwch i dîm Derbynfa eich Safle ddangos i chi ble mae'r biniau rhoddion.

Estyniadau i Gontractau

Efallai bydd modd i ni gynnig llety ar gyfer misoedd yr haf neu gyfnodau tymor byr ar ôl i’ch cytundeb tenantiaeth ddod i ben. Dylech chi anfon e-bost i accommodation@abertawe.ac.uk i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a sut i gyflwyno cais.