Ymateb i Coronafeirws: cyngor a gwybodaeth ddiweddaraf

Eich Cytundeb Tenantiaeth a Rheoliadau eich Tenantiaeth

Mae eich Cytundeb Tenantiaeth Fyrddaliol Sicr (AST) yn cynnwys yr holl wybodaeth gontractiol am eich llety. Anfonir y ddogfen hon at fyfyrwyr ar ôl iddynt dderbyn cynnig o lety. E-bostiwch accommodation@abertawe.ac.uk i ofyn am gopi. 

Gwybodaeth am Ddiogelu Data

Mae Gwasanaethau Preswyl ac UPP yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 sy'n rheoli'r defnydd o'r holl ddata personol a gedwir a'r rheolaethau sy'n ofynnol ar gyfer ei gywirdeb, cael mynediad ato, a'i ddiogelwch. Mae gan fyfyrwyr yr hawl i breifatrwydd data personol. Mae mynediad at holl ddata myfyrwyr a gedwir gan Brifysgol Abertawe, boed ar bapur, ffeiliau cyfrifiadurol neu gyfryngau storio eraill, yn cael ei reoli'n llym.

Ymateb safonol preswylfeydd i ymholiadau am unigolion yw na ellir datgelu gwybodaeth heb awdurdod y myfyriwr.

Côd Safonau ANUK/Unipol

Mae pob Preswylfa Myfyrwyr yn gweithredu yn unol â Chôd Safonau ANUK/Unipol ar gyfer safonau i Ddatblygwyr Preswylfeydd Mwy, sy'n pennu safonau cyfleusterau a'u rheolaeth.

Byddwn yn darparu llety sy'n cael ei gynnal i'r safon sy'n cydymffurfio â chyfreithiau iechyd a diogelwch perthnasol a Chôd ANUK