Cardiau Mynediad Myfyrwyr
Y peth cyntaf i roi cynnig arno os ydych chi'n cael problem mynediad â'ch cerdyn yw diweddaru'r cerdyn yn un o'r pwyntiau diweddaru cardiau ar y campws. Mae'r rhain i'w gweld yn aml wrth y prif fynedfeydd i'r rhan fwyaf o adeiladau a bydd angen i chi ddal y cerdyn ar y darllenydd nes ei fod yn fflachio'n wyrdd neu'n goch. Os nad yw hyn yn datrys eich problem, mae croeso i chi fynd i un o dderbynfeydd Ystadau lle gall tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Ystadau ymchwilio i'r broblem.
Ar Gampws Singleton, mae'r dderbynfa ar lawr gwaelod Tŷ Fulton ac ar Gampws y Bae mae'r dderbynfa ar y llawr cyntaf yn adeilad Nanhyfer.
Gallwch hefyd anfon eich ymholiad drwy e-bost i cardaccess@abertawe.ac.uk ynghyd â'ch rhif staff a'r lleoliad lle rydych chi'n cael problem, a gall y tîm ymchwilio ymhellach i'r broblem.
Mynediad at Gyfleusterau Cerddoriaeth
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am fynediad at gyfleusterau cerddoriaeth yma.
Pwyntiau Diweddaru Cerdyn
Campws Parc Singleton
- Abaty - Prif Fynedfa
- Abaty - Y Cwrt
- Abaty - Mynedfa Orllewinol
- Gwyddor Data - Prif Fynedfa
- Techniwm Digidol - Prif Fynedfa
- Faraday (Bloc Darlithio) - Prif Fynedfa
- Cyllid - Prif Fynedfa
- Tŷ Fulton - Prif Gyntedd y De
- Glyndŵr - Mynedfa Ganol y De
- Adeilad Grove - Prif Fynedfa
- Haldane - Prif Fynedfa
- ILS1 - Prif Fynedfa
- ILS2 - Prif Fynedfa
- James Callaghan – Mynedfa'r Llawr Gwaelod
- Llyfrgell - Prif Fynedfa
- Margam Prif Fynedfa
- Richard Price - Prif Fynedfa
- Richard Price - Mynedfa Gefn
- Tŷ'r Undeb - Mynedfa Orllewinol
- Vivian - Mynedfa Ddwyreiniol
- Vivian - Mynedfa Orllewinol
- Wallace - Prif Fynedfa
Campws y Bae
- Llyfrgell y Bae – Prif Fynedfa
- Ffowndri Gyfrifiadol - Mynedfa Flaen
- Ffowndri Gyfrifiadol - Mynedfa Gefn
- Adeilad Canolog Peirianneg, Stryd y De (y tu allan i B003)
- Adeilad Dwyreiniol Peirianneg - Mynedfa'r De-ddwyrain
- Adeilad Dwyreiniol Peirianneg - Mynedfa'r De-orllewin
- Adeilad Gogleddol Peirianneg - Mynedfa'r Gogledd
- Adeilad Gogleddol Peirianneg - Mynedfa'r De
- ESRI - Prif Fynedfa
- ISM (Adeilad Clyfar) - Prif Fynedfa
- ISM (Adeilad Clyfar) - Mynedfa Gefn
- Ysgol Reolaeth – Prif Fynedfa