Rydym yn gweithio'n agos gyda'n contractwyr, ein cyflenwyr a'n partneriaid eraill i leihau effaith unrhyw waith hanfodol ar y campws a phroblemau eraill sy'n tarfu ar wasanaethau a chyfleusterau'r campws, gan gynnwys teithio ar y bws* a pharcio ceir. Mae hyn yn cynnwys trefnu gwaith swnllyd y tu allan i oriau gwaith lle bynnag y bo modd.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw broblemau sy'n tarfu ar fywyd ar y campws. Isod ceir gwybodaeth am darfiadau heb eu cynllunio, yn ogystal â gweithgarwch wedi'i gynllunio a gweithgarwch parhaus ar y campws.

Os oes gennych ymholiadau neu bryderon, gallwch gysylltu â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.

*Sylwer bod gwasanaethau bysus yn cael eu darparu gan weithredwyr masnachol megis First Bus, sy'n cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau ar eu gwefannau, eu cyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol ac ar yr ap Firstbus.   

Gwaith Adeiladu ar y Campws

Problemau gyda Lifftiau

Hysbysiadau Tarfu ar y Campws Eraill