Rydym yn ymrwymedig i wneud ein campysau'n hygyrch i bawb ac rydym am i chi allu defnyddio ein cyfleusterau a'n gwasanaethau yn hwylus ac yn hyderus.
Er mwyn creu campws cynhwysol sy'n groesawgar i bawb, gwnaethom gynnal archwiliad hygyrchedd cynhwysfawr yn ddiweddar i'n helpu i nodi meysydd i’w gwella. Yn dilyn yr archwiliad hwn, rydym wedi gwneud nifer o welliannau, gan gynnwys uwchraddio adeiladau, cyfleusterau, meysydd parcio a llwybrau allweddol i gael gwared ar rwystrau diriaethol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn canllawiau clir a chyfredol i hygyrchedd a gaiff eu cynnwys ar y tudalennau gwe hyn i'ch helpu i fynd o fan i fan ar ein campysau'n gyfforddus.
Gan edrych i'r dyfodol, rydym yn ymrwymedig i gyflwyno gwelliannau graddol pellach i sicrhau bod ein hadeiladau a'n campysau yn parhau i fodloni'r safonau hygyrchedd uchaf.
Os oes gennych adborth neu awgrymiadau yn y cyfamser ar sut y gallwn wella hygyrchedd ar draws ein hystad, gallwch anfon e-bost atom yn: campusdevelopment@abertawe.ac.uk.