Hyb Ymchwil Ôl-raddedig
Mae'r Hyb Ymchwil Ôl-raddedig yn lle penodol i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Mae'r Hyb yn cynnwys cyfres o leoedd hyblyg y gellir eu harchebu ac sy'n addas ar gyfer cyfarfodydd, astudio unigol, astudio mewn grŵp, digwyddiadau i grwpiau o fyfyrwyr, arholiadau llafar, a llawer mwy. Edrychwch ar yr wybodaeth isod i weld beth sydd gan yr Hyb Ymchwil Ôl-raddedig i'w gynnig a chysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Cadw lle
Gallwch gadw lle yn yr Hyb Ymchwil Ôl-raddedig ar-lein. Mae'r Hyb Ymchwil Ôl-raddedig wedi cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar draws y Brifysgol, a dim ond myfyrwyr ymchwil (Doethuriaeth neu Radd Meistr drwy Ymchwil) a’r rhai hynny sy’n cynnal digwyddiadau'n ymwneud ag ymchwil ôl-raddedig sy’n gallu defnyddio’r ystafell hon. Os ydych yn ansicr a yw’ch digwyddiad yn bodloni'r meini prawf hyn, cysylltwch â ni.