Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig
Mae'n bleser gennym lansio Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig blwyddyn academaidd 2024-25, sy'n cydnabod rhagoriaeth ein hymchwilwyr ôl-raddedig.
Gellir cyflwyno enwebiadau nawr am y dyfarniadau a'r gwobrau canlynol:
Dyfarniad Ymchwil James Callaghan
yn cydnabod cyflawniad a chynnydd neilltuol myfyrwyr ôl-raddedig presennol. Dyfernir grant gwerth £2,000 i enillydd Dyfarniad Ymchwil James Callaghan i gefnogi ei ymchwil a'i ddatblygiad a bydd yr ymgeisydd yn yr ail le yn derbyn dyfarniad gwerth £1,000.
Nid yw myfyrwyr sy'n dal ysgoloriaeth ar hyn o bryd yn gymwys i'w hystyried am y dyfarniad hwn.
Gwobr Traethawd Ymchwil James Callaghan
yn cydnabod traethodau ymchwil neilltuol a gyflwynwyd. Mae dwy wobr ar gael, un sy’n werth £1,000 am Draethawd Ymchwil Doethurol ac un sy’n werth £500 am Draethawd Ymchwil Gradd Meistr.
Rhaid i fyfyrwyr gael eu henwebu gan eu goruchwylwyr am Ddyfarniad/Wobr James Callaghan drwy gyflwyno ffurflen enwebu'r wobr benodol.
Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig Diwylliant a Chymuned
yn cydnabod y bobl sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon a chadarnhaol i ymchwil ôl-raddedig yn Abertawe drwy wella'r diwylliant ymchwil, y gymuned ymchwil a phrofiad cyffredinol ymchwilwyr ôl-raddedig yn y brifysgol. Mae dau gategori o wobr: un ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, ac un ar gyfer staff gwasanaethau proffesiynol (nad ydynt yn staff academaidd/ymchwil).
Wobr am Gyfraniad Neilltuol at Ymgysylltu â'r Cyhoedd
yn cydnabod ymchwilwyr ôl-raddedig sydd wedi rhagori mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd o unrhyw fath yn ystod eu hastudiaethau ôl-raddedig.
Gall myfyrwyr neu staff ymchwil ôl-raddedig enwebu eu hunain neu eraill am y Gwobrau Diwylliant a Cymuned ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd drwy'r tudalennau gwe Ymchwil Ôl-raddedig ar myuni.
Gall myfyrwyr neu staff ymchwil ôl-raddedig enwebu eu hunain neu eraill am y Gwobrau Diwylliant a Cymuned ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd trwy'r ffurflenni isod.