23 Things International
Gallwch gofrestru nawr am 23 Things International 2023. Mae Prifysgol Abertawe yn bartner yn y rhaglen hon ar y cyd â phrifysgolion a grwpiau ymchwil o bob cwr o'r byd. Mae'r rhaglen fyd-eang unigryw hon wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer ymchwilwyr a hoffai ddysgu offer newydd i wella eu hymchwil, creu cymunedau ymchwil a chymryd rhan ynddynt ac adeiladu eu proffil. Mae'n agored i ymchwilwyr ôl-raddedig ac academyddion o bob disgyblaeth
Beth yw hyn?
Rhaglen hunangyfeiriedig ar-lein yw 23T. Bob wythnos, rydym yn cyhoeddi dau blog - Things - sy'n ymdrin â phwnc neu feddalwedd sy'n gallu gwella eich ffordd o weithio. Mae'n ffordd hawdd o ddysgu'r hanfodion, gydag amser i arbrofi rhywfaint ac adnoddau i ddatblygu ymhellach pan fyddwch chi'n barod. Mae'r themâu'n amrywio o bodledu i ddeall mynediad agored, cyllid torfol i strategaeth gyhoeddi, mapio gyrfa i ffeithluniau.
Wrth i chi ymuno â'r rhaglen, byddwn yn eich rhoi mewn 'pod' gydag 10-15 ymchwilydd arall o ledled y byd. Mae'r Partneriaid eleni yn cynnwys prifysgolion Surrey, Caergrawnt, Abertawe a Royal Holloway (y DU), Coleg y Brifysgol Dulyn (Iwerddon), Prifysgol Technoleg Otago ac Auckland (Seland Newydd) a Phrifysgol Avondale (Awstralia). Rydym hefyd yn croesawu'r bartneriaeth hyfforddiant doethurol, Techne, a Chronfa Rhagoriaeth Ymchwil Affrica. Mae'r Pod yn creu rhwydwaith ar unwaith o ymchwilwyr â diddordebau ymchwil sy'n gorgyffwrdd ac mae'n arwain at gydweithrediadau a chyfeillgarwch gwych. Mae'r rhaglen yn cynnwys tasgau mewn grwpiau bach, gan eich helpu i archwilio pynciau ymhellach gyda'ch gilydd.
Ar ben hyn i gyd, mae'r wefan yn cynnwys fforwm trafod, ac rydym yn cynnig nifer o ddigwyddiadau byw hefyd - digwyddiadau cymdeithasol dros baned sy'n croesi parthau amser ac encil ysgrifennu 48 awr.