Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi mabwysiadu polisi 'Prifysgol Ddi-fwg' er mwyn sicrhau amgylchedd cydymffurfiol, iach a chynaliadwy i bawb.

Mae'r hawl gan bob un ohonom i fwynhau amgylchedd dysgu a gweithio sy'n gynaliadwy ac yn iach, heb sbwriel a'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â mwg tybaco ac anwedd. Er ein bod yn cydnabod yr hawl i ddewis ysmygu neu fêpio, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod gofodau caeedig (gan gynnwys cerbydau'r Brifysgol) a gofodau allanol a rennir yn gwbl ddi-fwg a di-anwedd.

Rydym yn credu y dylai staff, myfyrwyr, cwsmeriaid, contractwyr ac ymwelwyr barchu hawliau ein cymuned ar y campws i gael amgylchedd di-fwg.

Trefniadau polisi allweddol (Cliciwch ar yr ehangwr isod i ddarllen y prif drefniadau sydd ar waith)

Ein Polisi Prifysgol Ddi-Fwg

Mae ein Polisi Prifysgol Ddi-fwg (2021) wedi cael ei ddatblygu ar ôl ymgynghori'n helaeth â myfyrwyr a staff y Brifysgol, undebau a phartneriaid allanol megis Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Prifysgol Ddi Fwg Polisi a Threfniadau