Llawr Isaf James Callaghan
James Callaghan Basement
Llawr Isaf James Callaghan

Ar lawr isaf Adeilad James Callaghan mae ardal dawel hyfryd lle gallwch ymlacio ac astudio.

Mae gan y cyntedd seddi cyfforddus wrth ddesg neu wrth fyrddau caffi, ac mae'n arwain at Fan Astudio B02 sy'n cynnig seddi wrth ddesg, stolion a seddi hamddenol, gyda monitorau teledu a chyfleusterau gwefru dyfeisiau.

Un o fanteision ychwanegol y lle hwn yw bod y siop goffi Change Please (Callaghan’s)  ychydig lawr y corridor.

Oriau Agor

08:00 - 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Oes angen cadw lle?

Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.

Cyfleusterau sydd ar gael

Mae'r lleoedd hyn yn cynnig monitorau teledu a chyfleusterau gwefru dyfeisiau ac maent mewn lleoliad cyfleus sy’n agos at gaffi Change Please (Callaghan's), sy'n cynnig ystod helaeth o fyrbrydau a danteithion, yn ogystal â diodydd poeth ac oer.

Room Icons