Cefnogi a gwella'r ymdrech i greu diwylliant o bartneriaeth â myfyrwyr drwy gydol taith y myfyriwr, o gofrestru i raddio
Cyflwyniad
Mae Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr yn elfen annatod ac wrth wraidd holl weithgarwch Prifysgol Abertawe. Yn Adroddiad Adolygiad Sefydliadol 2014 yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, nodwyd y canlynol fel arfer da: "cynnwys myfyrwyr israddedig fel partneriaid wrth ddatblygu mentrau gwella". Ategodd hyn, yn ei dro, y ganmoliaeth a roddwyd i’r Brifysgol yn Adroddiad Adolygiad Sefydliadol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd am y gwelliant mewn cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr.
Nodwyd y diwylliant o weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr fel blaenoriaeth allweddol yn Strategaeth Dysgu ac Addysgu'r Brifysgol 2015-2020 drwy "weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i ddarparu cyfleoedd i lunio eu profiad addysgol, i ddatblygu eu dysgu ac i gefnogi cyfranogiad a chyflawniad myfyrwyr". Mae Strategaeth Dysgu ac Addysgu ddiwygiedig y Brifysgol yn canolbwyntio ar fyfyrwyr ac mae partneriaeth ac ymgysylltu â myfyrwyr yn hanfodol i gyflawni'r chwe amcan a geir yn y strategaeth.
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymedig i ddiwylliant "Cymru Ddoeth", sef partneriaeth ystyrlon rhwng addysgwyr, undebau myfyrwyr a myfyrwyr ledled Cymru, gan rannu arfer gorau a sicrhau bod llais y myfyrwyr wrth wraidd ein holl weithgareddau. Mae'r Strategaeth yn ymrwymo'n llwyr i egwyddorion Cymru Ddoeth, sef 'Gwerthfawrogi Adborth', 'Harneisio Arbenigedd' a 'Gweithio Mewn Partneriaeth'.
Mae'r Strategaeth Ymgysylltu â Myfyrwyr yn gyson â'r egwyddorion, y cyngor a'r arweiniad a geir yng Nghôd Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch 2018 - Ymgysylltu â Myfyrwyr, ac mae'n rhoi ystyriaeth lawn i'r rhain.
Mae'r Strategaeth yn adlewyrchu rôl myfyrwyr fel partneriaid a bwriedir iddi wella ymhellach y broses o ddatblygu ymgysylltu cryf â myfyrwyr ar bob lefel ac ym mhob agwedd ar weithgarwch y Brifysgol.
Cydnabyddir bod ymgysylltu â myfyrwyr yn datblygu ac yn newid yn gyflym. O ganlyniad, lluniwyd y strategaeth hon i fod yn ddogfen alluogi, un ddynamig sy'n croesawu newid, yn y Brifysgol, ei chymuned o fyfyrwyr a'r sector yn gyffredinol.
Mae'r Tîm Gwasanaethau Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Academaidd yn gyfrifol, drwy Bwyllgor Partneriaethau ac Ymgysylltu â Myfyrwyr y Brifysgol, am ddarparu adroddiadau i'r Cyngor a chyrff eraill am gynnydd wrth weithredu'r Strategaeth ar gyfer Ymgysylltu â Myfyrwyr.
Ymgysylltu â Myfyrwyr
Yn gyson â Chôd Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, mae Ymgysylltu â Myfyrwyr yn cynnwys cyfranogiad myfyrwyr wrth wella a dylanwadu ar eu profiad addysgol drwy brosesau sicrhau ansawdd a gwella, fel partneriaid cyfartal, a myfyrwyr yn cyfranogi’n llawn yn eu dysgu eu hunain fel partneriaid gweithredol yn y broses ddysgu. Mae'r Brifysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i gryfhau llais y myfyriwr drwy fecanweithiau sy'n ceisio gwella profiad ehangach y myfyrwyr drwy werthfawrogi profiad anacademaidd y myfyrwyr a darparu gwasanaethau a chyfleusterau.
Egwyddor Un: Cynrychiolaeth Myfyrwyr a Llais y Myfyrwyr
Bydd y Brifysgol yn gweithredu i hyrwyddo, cefnogi a defnyddio cynrychiolaeth myfyrwyr effeithiol ar bob lefel yn ei phrosesau penderfynu.
Mae egwyddor un yn canolbwyntio'n llwyr ar lais a chynrychiolaeth y myfyrwyr, a gyflawnir gan y System Cynrychiolwyr Myfyrwyr a mecanweithiau eraill yn y Brifysgol, megis Unitu, Paneli Barn y Myfyrwyr etc. Undeb y Myfyrwyr sy'n berchen ar y system ond caiff ei hwyluso a'i chynnal mewn partneriaeth â'r Gwasanaethau Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Academaidd.
Ymgorffori Ymgysylltu yn ein Holl Weithgarwch
- Cryfhau gwaith partneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, gan weithio ar fentrau a rennir sy'n gallu effeithio ar brofiad y myfyrwyr.
- Cynyddu nifer y cynrychiolwyr myfyrwyr a etholir yn ddemocrataidd ac ehangu cyfleoedd am gynrychiolaeth.
- Cynyddu'r cyfleoedd hyfforddiant ym maes ymgysylltu â myfyrwyr ar gyfer staff a myfyrwyr.
- Parhau i weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i ddatblygu a gwella system effeithiol o gynrychiolwyr Coleg a Phwnc a darparu adnoddau digonol i ddatblygu’r gwaith.
- Gwella'r hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr myfyrwyr, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion penodol, e.e. Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig.
- Datblygu cynllun cyfathrebu mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i wella sut mae'r Brifysgol yn cyfathrebu â chynrychiolwyr myfyrwyr a'u hymgysylltu â chymuned ehangach y myfyrwyr.
- Cefnogi Undeb y Myfyrwyr i gynnal y Parth Addysg - y fforwm sy'n rhoi cyfle i Undeb y Myfyrwyr a Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr ymgysylltu â'u cymuned o gynrychiolwyr myfyrwyr.
- Bydd y Tîm Gwasanaethau Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr yn cefnogi'r digwyddiadau hyfforddi cynrychiolwyr myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
- Mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, hyrwyddo digwyddiadau llais y myfyrwyr, gan gynnwys Wythnos Siarad, Cymorth Astudio, Cynhadledd Cynrychiolwyr Myfyrwyr, arolygon a digwyddiadau eraill.
- Cefnogi Cynrychiolwyr Myfyrwyr i ennill Dyfarniad Cynrychiolydd Myfyrwyr HEAR drwy ddarparu cyfleoedd datblygu ac ymgysylltu priodol iddynt.
- Bydd y Pwyllgor Partneriaeth ag Ymgysylltu â Myfyrwyr yn adolygu'r siarter myfyrwyr yn flynyddol.
Egwyddor Dau: Ymgysylltu â Myfyrwyr a Pherchnogaeth Staff
Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i sicrhau bod ethos Ymgysylltu â Myfyrwyr yn rhan annatod o ymarfer pob dydd.
Gyda chymorth y Tîm Partneriaethau ac Ymgysylltu â Myfyrwyr ac o dan arweiniad Undeb y Myfyrwyr, bydd Colegau a Gwasanaethau Proffesiynol yn sicrhau bod ymgysylltu â myfyrwyr a llais y myfyrwyr yn ganolog i weithgareddau academaidd a phrofiad myfyrwyr a bod ethos o greu ar y cyd a phartneriaeth yn tanategu gweithgarwch cyflawni.
Ymgorffori Ymgysylltu yn ein Holl Weithgarwch
- Cyflwyno rhaglen hyfforddiant ar gyfer staff i gynorthwyo wrth hyrwyddo ethos o Ymgysylltu â Myfyrwyr ar bob lefel, cyfarfod ac amgylchedd, boed yn addysgol neu brofiad y myfyrwyr.
- Penodi Arweinwyr Ymgysylltu â Myfyrwyr ym mhob Coleg, rhai academaidd a gweinyddol, i weithredu fel hyrwyddwyr lleol i hyrwyddo a chefnogi'r ethos hwn.
- Cefnogi wrth gynnal yr ymgyrch 'Gyda'n Gilydd Gwnaethom Newid' drwy gymuned gyfan y Brifysgol.
- Cynnal fforymau Ymgysylltu â Myfyrwyr rheolaidd i rannu arfer da a mentrau gwella.
- Cefnogi'r gwobrau a arweinir gan fyfyrwyr, gan gynnwys y Gwobrau Rhagoriaeth mewn Cymorth Myfyrwyr a'r Gwobrau Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu.
- Bydd y Colegau a'r Gwasanaethau Proffesiynol yn cynnal cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr myfyrwyr i adolygu ymatebion i adborth a chreu cynlluniau gweithredu ar y cyd.
- Cynnal Fforymau Staff a Myfyrwyr rheolaidd ar lefel Colegau.
- Cynnwys myfyrwyr fel partneriaid wrth gynllunio a chyflwyno eu darpariaeth academaidd.
- Cefnogi'r rhaglen adborth ar fodiwlau yn llawn, gan sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cyfranogi yn y broses, yng nghanol ac ar ddiwedd modiwlau.
Egwyddor Tri: Cynnwys Myfyrwyr mewn Prosesau Sicrhau a Gwella Ansawdd Academaidd
Mae'r egwyddor hon yn canolbwyntio ar gynnwys myfyrwyr fel cyfranogwyr gweithredol a gwybodus mewn prosesau sicrhau a gwella ansawdd academaidd a'u galluogi i wneud cyfraniad allweddol at lunio eu profiad academaidd. Bydd hefyd yn cefnogi cynnwys myfyrwyr at ddiben llywio cyfeiriad darpariaeth yn y dyfodol, drwy ddatblygu, cymeradwyo, cynnal ac adolygu rhaglenni, gan ddefnyddio carfan o fyfyrwyr sy'n aelodau hyfforddedig a phwysig o'r grwpiau sy'n hwyluso’r gwaith o gyflawni'r amcanion hyn.
Ymgorffori Ymgysylltu yn ein Holl Weithgarwch
- Recriwtio a hyfforddi carfan o fyfyrwyr i weithredu fel 'Cymuned o Adolygwyr'.
- Darparu rhaglen hyfforddiant i sicrhau bod y myfyrwyr hyn yn hyderus a bod ganddynt y sgiliau i gyfranogi'n llawn yn y prosesau hyn.
- Sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau i lywio'r prosesau o gynllunio'r cwricwlwm, cymeradwyo rhaglenni a gweithgareddau adolygu fel cyd-grewyr.
- Ymgysylltu'n llawn ag Undeb y Myfyrwyr a'r gymuned ehangach o fyfyrwyr, mewn partneriaeth, er mwyn sicrhau bod cyfathrebu am raglenni, rheoliadau, cymorth a chyfleoedd yn amserol, yn dryloyw ac yn destun ymgynghori llawn. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ar strategaethau sy'n effeithio ar y Brifysgol gyfan a newidiadau i ddarpariaeth academaidd a phrofiad y myfyrwyr.
- Ceisio cynyddu gweithgarwch ymgysylltu drwy adborth ar fodiwlau, arolygon myfyrwyr a chyfleoedd eraill am adborth ac ymgysylltu, gan sicrhau eu bod yn cynnig cyfleoedd cynhwysol i'r holl fyfyrwyr gyfranogi.
- Sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn adborth amserol a phriodol i'w hatebion i arolygon adborth ar fodiwlau a'r holl arolygon a systemau adborth megis Unitu.
- Cynnal yr ymgyrch 'Gyda'n Gilydd Gwnaethom Newid' i ddangos sut mae'r Brifysgol yn ymateb i adborth myfyrwyr ar bob lefel.
Egwyddor Pedwar: Ymgysylltu â Myfyrwyr, a Phrofiad Ehangach y Myfyrwyr
Mae'r egwyddor hon yn canolbwyntio ar wreiddio ethos o ymgysylltu â myfyrwyr drwy'r Brifysgol gyfan. Dylai'r holl Wasanaethau Proffesiynol a'u holl weithgareddau gael eu llywio gan lais y myfyrwyr. Bydd y thema hon yn cefnogi cymuned ehangach y Brifysgol i wireddu hyn a bydd yn cynorthwyo wrth gyflwyno a gweithredu mecanweithiau i gefnogi a gwella'r gweithgarwch hwn drwy'r Brifysgol gyfan.
Bydd y gwaith o gyflawni'r egwyddor hon yn cael ei gefnogi gan y Tîm Partneriaethau ac Ymgysylltu â Myfyrwyr a'i arwain gan Undeb y Myfyrwyr.
Ymgorffori Ymgysylltu yn ein Holl Weithgareddau
- Cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr Uwch-dîm Rheoli a swyddogion amser llawn Undeb y Myfyrwyr i drafod materion yn uniongyrchol a dod o hyd i atebion amserol ynghylch materion a arweinir gan fyfyrwyr.
- Sicrhau bod strwythurau pwyllgorau'n darparu platfformau priodol ar gyfer Llais y Myfyrwyr, h.y. y Pwyllgor Partneriaethau ac Ymgysylltu â Myfyrwyr a'r Grwpiau Profiad Campws.
- Sicrhau bod cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi ar gael drwy daith gyfan y myfyriwr, o gofrestru i raddio.
- Sicrhau bod adborth myfyrwyr yn briodol ac yn amserol gan osgoi cynnal gormod o arolygon a sicrhau bod adborth yn effeithlon.
- Gweithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr a thîm y swyddogion amser llawn i'w cefnogi wrth roi eu maniffestos ar waith a darparu hyfforddiant iddynt.
- Sicrhau bod ymgysylltu â myfyrwyr yn cael ei flaenoriaethu wrth gynllunio, gweithredu ac adolygu gwasanaethau, strategaethau a pholisïau.
- Darparu gwybodaeth sydd ar gael cyn cyfnod cynnal yr arolygon er mwyn annog myfyrwyr i gwblhau'r arolygon a gwella dealltwriaeth.
- Datblygu mecanweithiau i adolygu ymatebion a thueddiadau mewn arolygon dros y blynyddoedd i arddangos cynnydd a gostyngiad a sicrhau bod y rhain ar gael i'w gweld gan y gymuned o fyfyrwyr.
- Sicrhau y gweithredir ar adborth myfyrwyr sy'n cael ei gasglu drwy Unitu a chyfryngau llai ffurfiol.
- Datblygu strategaeth cyfathrebu â myfyrwyr i ategu’r strategaeth hon.
Egwyddor Pump: Creu Diwylliant Cynhwysol o Ymgysylltu â Myfyrwyr
Mae'r egwyddor hon yn amlygu pwysigrwydd hanfodol sicrhau bod ein system cynrychioli myfyrwyr a'n mecanweithiau llais myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i'n poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr roi adborth ar eu profiad o'r Brifysgol. Dylent allu gwneud hyn waeth beth yw eu cefndir, eu dull astudio, eu galluoedd neu eu hamgylchiadau personol. Byddwn yn sicrhau ein bod yn dileu rhwystrau ac yn annog grwpiau sydd wedi bod yn 'anodd eu cyrraedd' yn draddodiadol i gyfranogi; gan lunio a gwella ein hymagweddau at hwyluso a chefnogi eu cyfranogiad. Byddwn yn gweithio i gefnogi ein holl fyfyrwyr i gyfranogi, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, rhan-amser, aeddfed, rhai ar raglenni Meistr, myfyrwyr ymchwil, myfyrwyr sy'n teithio, myfyrwyr â chyfrifoldebau gofalu, myfyrwyr ar gyrsiau sylfaen, myfyrwyr yn Y Coleg ac AABO, y rhai ar raglenni llai traddodiadol a myfyrwyr ag anableddau. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddatblygu mentrau sy'n diwallu eu hanghenion. Byddwn yn ystyried hygyrchedd a dulliau cyflwyno, gan sicrhau bod cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr roi adborth ac yn sicrhau bod hyfforddiant priodol a hygyrch ar gael i bawb.
Ymgorffori Ymgysylltu yn ein holl Weithgarwch
- Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod Cynrychiolaeth Myfyrwyr yn adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth o fyfyrwyr.
- Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod myfyrwyr â nodweddion gwarchodedig yn cael eu hannog a'u cefnogi a'u bod yn derbyn cynifer o gyfleoedd i gyfranogi â myfyrwyr eraill.
- Datblygu ffyrdd newydd o ymgysylltu â myfyrwyr nad ydynt ar y campws, h.y. myfyrwyr sy'n teithio, rhai sydd ar leoliadau gwaith neu'n gwneud ymchwil oddi ar y campws.
- Ceisio datblygu cyfleoedd i ymgysylltu â myfyrwyr mewn sefydliadau partner.
- Cefnogi a chynghori staff ar ddarparu cyfleoedd adborth a hyfforddiant sy'n gynhwysol ac yn briodol.
Egwyddor Chwech: Myfyrwyr fel Partneriaid
Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar hwyluso'r delfryd o Fyfyrwyr fel Partneriaid, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu hystyried yn bartneriaid cyfartal a'u bod yn cael eu hyfforddi a'u gwerthfawrogi'n briodol. Byddwn yn meithrin amgylchedd o greu a datrys problemau ar y cyd ac, yn wir, ddathlu mewn partneriaeth.
Ymgorffori Ymgysylltu yn ein holl Weithgarwch
- Bydd myfyrwyr yn cyd-gadeirio cyfarfodydd fforymau staff a myfyrwyr ac yn derbyn camau gweithredu i'w cyflawni ar ôl cyfarfodydd.
- Darperir cyfleoedd i fyfyrwyr ddod yn gyd-grewyr eu haddysg eu hunain a'u grymuso i arwain newid.
- Bydd y Brifysgol yn rhoi ystyriaeth briodol i amseru gwahoddiadau i roi adborth er mwyn sicrhau bod myfyrwyr ar gael i gyfranogi yn y broses gyfan. Yn ogystal, bydd yn ystyried defnyddio dulliau ymgysylltu mwy amrywiol i sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at wybodaeth a hyfforddiant.
- Annog creu mecanweithiau i fyfyrwyr a staff ddatblygu atebion mewn partneriaeth.
- Cefnogi prosiectau cydweithredu rhwng myfyrwyr a staff drwy ddarparu cyfleoedd megis SLATES (Cynllun Gwella Dysgu ac Addysgu Abertawe).
- Sicrhau bod Colegau ac Undeb y Myfyrwyr yn hyrwyddo'r rhaglen Cynrychiolwyr Myfyrwyr a'u bod yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am y cynrychiolwyr.
- Sicrhau bod myfyrwyr wedi'u cynrychioli mewn cyfarfodydd pan fo hynny'n briodol.
- Dathlu llwyddiannau ein cymuned o gynrychiolwyr myfyrwyr drwy wobrau a chydnabyddiaeth.
Mesur Llwyddiant a Chanlyniadau
Er y bydd y strategaeth hon yn isadran o brif gynllun strategol y Brifysgol, y Pwyllgor Partneriaethau ac Ymgysylltu â Myfyrwyr fydd yn gyfrifol am ei datblygu, ei gweithredu a'i gwerthuso a bydd y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau rheolaidd am gynnydd.
Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol y strategaeth hon yn cynnwys:
- Rhagori ar ein meincnod cenedlaethol ar gyfer boddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.
- Cynnydd blynyddol yn y sgorau a'r lefelau cyfranogiad yn arolygon PGTSES, PGRSES a SES.
- Cynnydd yn nifer y cynrychiolwyr myfyrwyr, y rhai a benodir yn ffurfiol a'r rhai a etholir yn ddemocrataidd gan Undeb y Myfyrwyr ac fel cynrychiolwyr ar Baneli Barn y Myfyrwyr ac yn y Gymuned o Fyfyrwyr Adolygu.
- Cynyddu lefelau ymwneud ag Unitu a chyfryngau anffurfiol eraill i fyfyrwyr roi adborth, megis grwpiau ffocws a digwyddiadau 'ymborth i'r meddwl'.
- Cynyddu cyfranogiad mewn Arolygon Adborth ar Fodiwlau.
- Cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n derbyn hyfforddiant fel cynrychiolwyr myfyrwyr, myfyrwyr llysgennad, defnyddwyr Unitu a'r gymuned myfyrwyr adolygu.
- Gwelliant ym mhresenoldeb cynrychiolwyr myfyrwyr mewn pwyllgorau Colegau, Adrannau a'r Brifysgol.