Woman using feedback console in MyUniHub reception

Eich Porth Adborth Myfyrwyr ar Brofiad yn y Brifysgol

Rydym wedi ymrwymo i wella eich profiad fel myfyriwr ac rydym wir yn gwerthfawrogi eich adborth. Mae'r porth adborth MyUniExperience hwn yn fan lle gallwch ddweud wrthym am eich profiad cyffredinol ym Mhrifysgol Abertawe. P'un a yw eich adborth yn gadarnhaol, yn negyddol, neu unrhyw le yn y canol, byddem wrth ein bodd yn clywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud.

Gallwch ddefnyddio'r dolenni isod i rannu eich adborth ar agweddau penodol ar fywyd y Brifysgol. Os nad yw eich adborth yn ymwneud ag unrhyw un o'r pynciau, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen yn lle hynny.

Ceisiwch fod mor adeiladol â phosibl – os ydych chi'n meddwl nad yw rhywbeth yn gweithio'n dda, beth ydych chi'n meddwl y gallwn ni ei wneud i'w drwsio? Defnyddir y wybodaeth hon i wella'r gwasanaethau a gynigiwn i fyfyrwyr presennol ac i fyfyrwyr y dyfodol.

Neu a hoffech ddweud wrthym am rywbeth arall?

Gallwch roi adborth i ni ar unrhyw agwedd ar eich profiad fel myfyriwr gan ddefnyddio'r ffurflen isod (gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi at ba gampws y mae eich adborth yn cyfeirio!)

Rhaid llenwi meysydd â *, ond gellir gadael y gweddill yn wag. Os oes angen ateb arnoch, fodd bynnag, rhowch gyfeiriad e-bost i ni gysylltu â chi.



 Parc Singleton
 Y Bae
 Dewi Sant