Mae Sgwrs Fyw Gwasanaethau Anabledd ar gau dros dro o 21 Medi tan 31 Hydref. Am gymorth anabledd, e-bostiwch wellbeingdisability@abertawe.ac.uk

– Cofiwch gynnwys eich Rhif Myfyriwr!

Os oes gennych anabledd, anhawster dysgu penodol neu gyflwr iechyd meddygol hirdymor sy'n effeithio ar eich astudiaethau academaidd neu fywyd myfyriwr yn gyffredinol, mae gweithwyr achosion y Gwasanaeth Anabledd yma i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych o ran y cymorth sydd ar gael a sut i'w gyrchu.

Nod y Gwasanaeth Anabledd yw cynnig gwasanaethau gwybodaeth ac arweiniad proffesiynol i fyfyrwyr ar gyfer eu taith unigol yn y Brifysgol o'r adeg cyflwyno cais i'r seremoni raddio. Ein nod yw gwaredu arferion sy'n gwahaniaethu, sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch a darparu gwasanaethau hyblyg i fyfyrwyr y mae angen cymorth arnynt drwy barhau i adolygu a gwella ein gwasanaethau a sicrhau eu bod yn bodloni safonau arfer gorau.

Sylwer, os nad ydym yn gallu datrys eich ymholiad yn effeithiol dros sgwrs, byddwch yn cael cynnig apwyntiad llawn gyda gweithiwr achosion anabledd ar amser sy'n gyfleus i chi. Os hoffech drefnu apwyntiad yn hytrach na defnyddio'r gwasanaeth sgwrsio ar-lein, e-bostiwch ni gyda'ch argaeledd drwy wellbeingdisability@abertawe.ac.uk

Sgwrs Ar-lein ar gael Dydd Mercher, 1pm tan 3pm