Cwestiynnau Cyffredin- Cynnydd Mewn Ffioedd Dysgu

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau mewn ffïoedd dysgu a benthyciadau myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. O 1 Awst 2025, yr uchafswm ffïoedd dysgu a godir fydd £9,535 yn hytrach na'r swm blaenorol, sef £9,250. Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu chwyddiant a'i nod yw sicrhau bod prifysgolion yn gallu parhau i gynnig addysg o safon a chymorth cydlynol i fyfyrwyr.  

O fis Medi 2025, bydd ffïoedd dysgu ar gyfer y myfyrwyr a restrir isod yn cael eu haddasu o £9,250 i uchafswm y ffioedd dysgu blynyddol (£9,535 ar hyn o bryd):

  • Darpar fyfyrwyr a myfyrwyr newydd (gan gynnwys rhaglenni TAR a blwyddyn sylfaen (nad ydynt yn cael eu cyflwyno mewn ystafell ddosbarth)).
  • Myfyrwyr israddedig presennol (gan gynnwys myfyrwyr sydd wedi gohirio eu hastudiaethau a myfyrwyr sy'n ail-wneud lefel).
  • Myfyrwyr israddedig presennol sy'n treulio blwyddyn mewn diwydiant.
  • Myfyrwyr israddedig presennol sy'n treulio blwyddyn dramor.

Ni fydd y cynnydd hwn mewn ffïoedd dysgu yn effeithio ar y canlynol:

  • Darpar fyfyrwyr sylfaen a myfyrwyr sylfaen newydd (rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno mewn ystafell ddosbarth). O fis Medi 2025, bydd ffïoedd dysgu myfyrwyr ar raglenni sylfaen (sy’n cael eu cyflwyno mewn ystafell ddosbarth) yn cael eu gostwng o £9,250 i uchafswm y ffïoedd dysgu bob blwyddyn (£5,760 ar hyn o bryd).
  • Myfyrwyr ôl-raddedig.  
  • Myfyrwyr rhyngwladol (hysbysebir ffïoedd dysgu myfyrwyr rhyngwladol ar ein tudalennau gwe cyrsiau ac maent yn wahanol i ffïoedd dysgu myfyrwyr y DU neu 'fyfyrwyr cartref').
  • Myfyrwyr TAR presennol.
  • Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cyrsiau canlynol: Rhaglenni Nyrsio neu Radd-brentisiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu raglenni Gradd Sylfaen sy’n cael eu cyflwyno ym Mhrifysgol Abertawe neu yng Ngholeg Cambria.

Newidiadau Allweddol Eraill

  • Bydd uchafswm y benthyciad i fyfyrwyr yn cynyddu i £9,535. Gall myfyrwyr cymwys gyflwyno cais am y benthyciad ffïoedd llawn wrth gyflwyno cais am eu cyllid ffïoedd dysgu drwy ddewis 'uchafswm y benthyciad ffïoedd dysgu sydd ar gael’ ar eu ffurflen gais am gyllid.   
  • Bydd uchafswm y benthyciad cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr cymwys ym mlwyddyn academaidd 2025/26 yn cynyddu hefyd.  

Rydym wedi llunio rhestr o Gwestiynau Cyffredin i esbonio pryd, sut a pham bydd y newidiadau hyn yn dod i rym. A wnewch chi ehangu'r adrannau isod:

Cwestiynau Cyffredin ynghylch yr Addasiadau i Ffïoedd Dysgu