Hyfforddiant a gweithdai ôl-raddedig
Mae ystod eang o hyfforddiant, gweithdai, adnoddau ar-lein a chyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gael ichi fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig
Mae ystod eang o hyfforddiant, gweithdai, adnoddau ar-lein a chyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gael ichi fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig
Nodwch eich llwybr hyfforddiant eich hun drwy ein gweithdai, adnoddau ar-lein, a sesiynau unigol i ragori yn eich gradd ymchwil a gwella eich sgiliau cyflogadwyedd a'ch gyrfa yn y dyfodol.
Cymerwch ran yn ein Cymunedau Myfyrwyr Ymchwil, drwy gymryd rhan mewn ystod o heriau a chystadlaethau. Dyma eich cyfle i arddangos eich angerdd a phwysigrwydd eich pwnc ymchwil dewisedig i gynulleidfaoedd amlddisgyblaethol gyda chynrychiolwyr proffil uchel.
Peidiwch ag anghofio cysylltu â Chymdeithas Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe, i rannu eich ymchwil â chyfoedion ymchwil ar draws Abertawe.
Ar gyfer ymholiadau datblygu sgiliau ymchwil ôl-raddedig, cysylltwch â'r tîm drwy'r dulliau canlynol:
E-bost: skillstraining@abertawe.ac.uk
Ffôn: 01792 606747