Yn wreiddiol, rwy'n dod o Rydychen, fodd bynnag, astudiais i am radd israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon a Ymarfer Corff ac astudiais am fy ngradd Meistr mewn Ffisioleg Ddynol a Chymhwysol ym Mhrifysgol Llongborth. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i'n nofio'n gystadleuol dros y Brifysgol ac yn mynychu'r gampfa'n rheolaidd. Ers i mi symud i Brifysgol Abertawe, rwy'n treulio fy amser hamdden yn cadw mor actif â phosib o gwmpas fy astudiaethau PhD drwy fynd i'r gampfa, rhedeg, mynd i wersi pilates ac archwilio tirwedd hardd Cymru. Rwy'n dyheu am barhau â'm maes ymchwil i helpu i gefnogi milwyr mewn gweithrediadau ledled y byd.
![Aimee Felstead](/cy/cgp/ymchwil-ôl-raddedig/ymchwil-ôl-raddedig-cynrychiolwyr/aimee-felstead---cynrychiolydd-pwnc-spex-/AMIEE-FELSTEAD.png)
![Aimee Felstead headshot](/cy/cgp/ymchwil-ôl-raddedig/ymchwil-ôl-raddedig-cynrychiolwyr/aimee-felstead---cynrychiolydd-pwnc-spex-/IMG_6579_AIMEE-FELSTEAD-(4)-(2).jpg)
![Degree](/cy/cgp/ymchwil-ôl-raddedig/ymchwil-ôl-raddedig-cynrychiolwyr/aimee-felstead---cynrychiolydd-pwnc-spex-/Sports-Science-(Welsh).png)
![Hello](/cy/cgp/ymchwil-ôl-raddedig/ymchwil-ôl-raddedig-cynrychiolwyr/aimee-felstead---cynrychiolydd-pwnc-spex-/Aimee-(3).png)
BOD YN GYNRYCHIOLYDD PWNC
Rwyf am helpu i gefnogi myfyrwyr eraill yn yr adran i feithrin a datblygu eu sgiliau i'w defnyddio yn y byd ehangach ar ôl eu hastudiaethau.
![Sports Science Subject Rep](/cy/cgp/ymchwil-ôl-raddedig/ymchwil-ôl-raddedig-cynrychiolwyr/aimee-felstead---cynrychiolydd-pwnc-spex-/SPEX-(1).png)
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
Dod â'r grŵp ynghyd mewn rhagor o weithgareddau cymdeithasol i feithrin amgylchedd mwy cymdeithasol i fyfyrwyr ac academyddion fod yn rhan ohono.
![Interesting fact](/cy/cgp/ymchwil-ôl-raddedig/ymchwil-ôl-raddedig-cynrychiolwyr/aimee-felstead---cynrychiolydd-pwnc-spex-/Aimee-(4).png)
FY ASTUDIAETHAU PRESENNOL...
Fy maes ymchwil yw ffisioleg amgylcheddol, lle rwy'n bwriadu cefnogi milwyr cyn iddynt gael eu hanfon i amgylcheddau poeth ac yn ystod eu hamser yno. Fy hoff ran o'm gradd PhD hyd yn hyn yw archwilio i gyfarpar arbenigol newydd a dysgu am yr holl addasiadau diddorol at wres.
![Contact](/cy/cgp/ymchwil-ôl-raddedig/ymchwil-ôl-raddedig-cynrychiolwyr/aimee-felstead---cynrychiolydd-pwnc-spex-/Aimee-(5).png)