CÔD YMARFER CYFLE CYFARTAL PRIFYSGOL ABERTAWE

1.

Mae Prifysgol Abertawe'n gyflogwr cyfle cyfartal. Mae'r datganiad canlynol wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor y Brifysgol:

2.

“Mae Prifysgol Abertawe, gan gydymffurfio â bwriad gwreiddiol ei siarter, yn cadarnhau ei hymrwymiad i bolisi cyfle cyfartal cynhwysfawr mewn cyflogaeth lle caiff unigolion eu dethol, eu hyfforddi, eu harfarnu eu dyrchafu, gan gynnwys eu dethol ar gyfer yr RAE, lle y bo'n berthnasol, a'u trin fel arall ar sail eu rhinweddau a'u galluoedd perthnasol, ac y cânt gyfle cyfartal yn y Brifysgol. Yn ôl y gyfraith, ni chaiff unrhyw ymgeisydd am swydd neu gyflogai ei drin yn llai ffafriol ar sail hil, lliw croen, cenedligrwydd, tarddiadau ethnig neu genedlaethol, rhyw (gan gynnwys pobl drawsrywiol), statws priodasol, aelodaeth o undebau llafur, anabledd, oedran, crefydd a chred, neu gyfeiriadedd rhywiol. Ystyrir y polisi ar recriwtio cyn-droseddwyr hefyd. Lle nad yw'r gyfraith ar hyn o bryd yn gorchymyn, gwneir pob ymdrech i osgoi gwahaniaethu ar sail cred wleidyddol, cefndir economaidd-gymdeithasol, statws rhiant. Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i raglen weithredu i sicrhau y rhoddir y polisi hwn ar waith yn llawn.”

3.

Diben y côd hwn yw amlinellu arferion a all roi datganiad polisi'r Brifysgol ar waith yn llawn.

4.

Mae'r polisi o ddiogelu pobl yn erbyn triniaeth annheg neu anfantais anghyfiawnadwy'n cynnwys meysydd sy'n destun Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a diwygiadau, Deddf Comisiwn Hawliau Anabledd 1999, Deddf Cyflog Cyfartal 1970 a Diwygiadau 1983, Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw [Ailbennu Rhywedd] 1999, a Deddf Cysylltiadau Hil 1976, Deddf Cysylltiadau Hil (Diwygio) 2000, Cyfarwyddeb Triniaeth Gyfartal 1976, Deddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006, Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003, Deddf Partneriaeth Sifil 2004, Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003 ac mae'r Brifysgol hefyd yn croesawu ac yn gwerthfawrogi'r cyngor a gynigir gan y Codau Ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Cyfle Cyfartal a'r Adran dros Addysg a Chyflogaeth, o ran materion hil, rhywedd ac anabledd.

Mae rhai o'r deddfau uchod yn ymdrin â gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae gwahaniaethu uniongyrchol bob amser yn anghyfreithlon, e.e. pan gaiff unigolyn ei wrthod am swydd neu ddyrchafiad oherwydd ei darddiad ethnig neu ei ryw neu oherwydd ei fod yn briod. Gwahaniaethu anuniongyrchol yw gosod mewn unrhyw amgylchiadau sy'n destun y ddeddfwriaeth ofyniad neu amod sydd – er iddo gael ei osod yn gyfartal ar bobl o bob grŵp hil neu'n gyfartal ar bobl o'r ddau ryw neu'n gyfartal ar bobl briod neu ddibriod – yn golygu y gall cyfran sylweddol lai o grŵp hil penodol neu o un rhyw gydymffurfio ag ef ac na ellir ei gyfiawnhau heblaw am ar sail hil neu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn anghyfreithlon pan fydd yn anghyfiawnadwy.

Mae Prifysgol Abertawe'n cydnabod ei chyfrifoldeb yn unol â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a Deddf Comisiwn Hawliau Anabledd 1999 i wneud addasiadau rhesymol ym mhob maes perthnasol – dethol, dyrchafu, trosglwyddo, hyfforddiant ac amodau cyflogaeth (ac eithrio'r cynlluniau pensiwn galwedigaethol) fel na fydd pobl anabl dan anfantais sylweddol o'u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl.

Mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod ei dyletswydd, yn unol â Deddf Cysylltiadau Hil 1976 a Deddf Cysylltiadau Hil (Diwygio) 2000 ac fel y'i mynegir yn ei Datganiad Polisi ar Gydraddoldeb Hiliol, i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a gwneud y canlynol:

  • Dileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithlon;
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal; a
  • Hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o grwpiau hil gwahanol.
    Mae'r ddyletswydd hon yn orfodol ac mae'n rhaid iddi gael ei hadlewyrchu yn systemau monitro, adolygu a gwerthuso'r Brifysgol.
    Er mwyn sicrhau y rhoddir ei pholisïau cyfle cyfartal ar waith yn llawn, mae'r Brifysgol wedi cyflwyno Cynllun Gweithredu Cyfle Cyfartal sy'n ymdrin â'r meysydd canlynol:
  • Ystadegau a monitro;
  • Targedau, camau gweithredu cadarnhaol;
  • Gweithdrefnau recriwtio;
  • Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith;
  • Urddas yn y Gweithle;
  • Cyflog a strwythurau cyflog cyfartal a
  • Chyfathrebu a chyfranogiad.

Anogir holl aelodau'r Brifysgol i helpu i gael gwared ar unrhyw arferion gwahaniaethol a all fodoli yn y Brifysgol drwy dynnu sylw'r Dirprwy Is-ganghellor (Gweinyddu) neu'r Dirprwy Is-ganghellor (Adnoddau Dynol) atynt, er mwyn hyrwyddo arferion a fydd yn arwain at gynyddu cyfle cyfartal.

Recriwtio

1.

Mae'r Brifysgol yn datgan ar ffurflenni cais a deunydd recriwtio priodol, e.e. rhagor o fanylion am ddyletswyddau a anfonir at ddarpar ymgeiswyr, ei bod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

2.

Y polisi cyffredinol yw y caiff yr holl swyddi eu hysbysebu'n allanol ond o bryd i'w gilydd bydd angen eu cyfyngu i gyflogeion y Brifysgol ei hun, er enghraifft, wrth adleoli staff. Mewn achosion o'r fath, caiff yr hysbyseb ei lledaenu'n eang drwy'r Brifysgol gyfan. Fel arall, rhoddir ystyriaeth ofalus i'r dull mwyaf priodol o hysbysebu swyddi a chymerir camau i sicrhau y caiff hysbysiadau eu hysbysebu mewn amrywiaeth o gyfryngau sy'n debygol o gyrraedd darpar ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Yn ogystal, cyhoeddir Bwletin bob wythnos gan yr adran ym Mhrifysgol Abertawe sy'n nodi pob swydd wag yn y Brifysgol. Caiff copïau o'r Bwletin eu lledaenu i amrywiaeth o grwpiau cymunedol.

3.

Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi a diweddaru ei chanllawiau ei hun sy'n ymgorffori arfer derbyniol o dan y gyfraith ynghylch gweithdrefnau dethol i'r holl bobl briodol.

4.

Mae'r Brifysgol yn rhoi sylw gofalus i aelodaeth paneli cyfweld er mwyn ystyried egwyddorion cyfle cyfartal. Pryd bynnag y bydd unigolion â chymwysterau addas ar gael, dylai cyrff o'r fath gynnwys o leiaf un aelod o'r ddau ryw. Mae'r Brifysgol wedi datblygu gweithdrefnau ynghylch cyfansoddiad paneli cyfweld a threfniadau cyfweld.

5.

Mae'r Brifysgol yn ymdrechu i sicrhau fel y bo'n rhesymol ymarferol fod pawb sy'n dod i gysylltiad ag ymgeiswyr am swyddi wedi'u hyfforddi yn y darpariaethau sy'n berthnasol i'w cyfrifoldebau am yr holl ddeddfwriaeth a chodau priodol.

6.

Mae'r Brifysgol yn defnyddio ffurflenni cofnodi cyfweliadau a gaiff eu llenwi ar ddiwedd pob proses benodi, gan nodi'r rhesymau dros wrthod pob ymgeisydd aflwyddiannus. Caiff y rhain eu cadw am o leiaf chwe mis rhag ofn y ceir cwyn am wahaniaethu.

Amodau a Thelerau Gwasanaeth

1.

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gynnal amgylchedd sy'n annog pob aelod staff i gyfrannu'n llawn ac ar sail gyfartal at ei waith a bywyd y Brifysgol. Dylai'r amgylchedd gwaith gefnogi urddas a hunan-barch unigolion lle nad aflonyddir ar neb. Mae'r Brifysgol yn cydnabod nad yw gweithredoedd neu eiriau sy'n dangos rhagfarn yn erbyn aelodau o grwpiau difreintiedig neu leiafrifoedd ac sy'n debygol o beri tramgwydd iddynt yn gydnaws ag amgylchedd gwaith da. Bydd y math hwn o ymddygiad yn destun camau disgyblu. Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi Polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio, sy'n cynnig cyngor i staff, gan gynnwys enwau rhwydwaith o gwnselwyr sydd wedi cael hyfforddiant i ymdrin â phroblemau aflonyddu a bwlio.

2.

Bydd y Brifysgol yn parhau i wneud pob ymdrech i sicrhau fel y bo'n rhesymol ymarferol fod pob rhan o'r Brifysgol yn hygyrch ac yn ddiogel i'r holl staff, ni waeth am anabledd corfforol.

3.

Yn amodol ar ofynion gweithredol, bydd y Brifysgol yn dangos cydymdeimlad wrth ystyried aelodau staff y mae eu hamgylchiadau personol yn newid, a bydd yn ymdrechu i ddiwallu'r anghenion hyn drwy gytuno ar ailhyfforddi, adleoli a/neu drefniadau amgen pan fo'n ymarferol.

4.

Rhoddir ystyriaeth benodol i drefniadau a chynlluniau gweithio hyblyg i'r rhai hynny sydd â chyfrifoldebau domestig mewn ymdrech i gadw eu sgiliau a'u harbenigedd gwerthfawr a'u helpu i gynllunio eu gyrfaoedd.

5.

Bydd y Brifysgol yn adolygu'r ddarpariaeth o gyfleusterau gofal plant yn rheolaidd.

Dyrchafiad a Datblygu Gyrfa

1.

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gynnig cyfleoedd i'r holl aelodau staff gael hyfforddiant a dyrchafiad yn unol â thelerau eu cyflogaeth ac yn seiliedig ar eu cymwysterau a'u galluoedd perthnasol. Mae'n cefnogi'r egwyddor y dylai cyfleoedd datblygu gyrfa a dyrchafiad fod ar gael i bob aelod staff, ni waeth am hil, lliw croen, cenedligrwydd, tarddiadau ethnig a chenedlaethol, rhyw, statws priodasol, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, neu grefydd a chred. Caiff manylion yr holl drefniadau hyfforddiant eu harddangos a'u lledaenu'n eang. Caiff Bwletin sy'n rhoi manylion yr holl drefniadau hyfforddiant ei ledaenu drwy'r Brifysgol gyfan bob tymor gan y Swyddfa Datblygu Staff.

2.

Mae'r Brifysgol yn nodi bod Adran 47 Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 ac Adrannau 37 a 38 y Ddeddf Cysylltiadau Hil yn caniatáu i gyflogwr roi anogaeth arbennig a darparu hyfforddiant penodol i ryw neu grŵp hil penodol os gellir dangos nad oes llawer o aelodau neu unrhyw aelodau o'r rhyw neu'r grŵp hil hwnnw wedi gweithio yn ei gyflogaeth yn ystod y 12 mis blaenorol. Gallai mesurau cadarnhaol o'r fath gynnwys: (a) hyfforddi cyflogeion (gwryw neu fenyw) ar gyfer gwaith a wneir yn draddodiadol gan y rhyw arall; (b) rhoi anogaeth arbennig, er enghraifft drwy gyrsiau arbennig, er mwyn paratoi menywod neu ddynion neu bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig am swyddi mewn meysydd lle cânt eu tangynrychioli; (c) cyhoeddi hysbysebion sy'n annog ceisiadau gan y rhyw neu'r grŵp hil lleiafrifol, ond sy'n egluro y bydd y broses ddethol yn seiliedig ar y meini prawf perthnasol i'r swydd.

3.

Mae'r Brifysgol yn adolygu'n rheolaidd yr holl feini prawf a gweithdrefnau ar gyfer dyrchafu, arfarnu, datblygu gyrfa, ailraddio a thaliadau yn ôl disgresiwn er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Pholisi Cyfle Cyfartal y Brifysgol a'u bod yn cael eu gweithredu'n deg. Wrth ystyried dethol a dyrchafu academyddion, rhoddir gwerth priodol i gyflawniadau perthnasol heblaw am gyhoeddiadau o ran y bobl hynny sydd wedi treulio cyfnod allan o'r farchnad lafur am resymau teuluol, e.e. mewn meysydd sgiliau addysgu a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol.

Gweithdrefnau Cwyno

1.

Dylai aelodau staff sy'n honni eu bod wedi bod yn destun gwahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio gan y Brifysgol neu aelod o'i staff geisio cymorth drwy weithdrefnau anffurfiol neu ffurfiol y Brifysgol ar gyfer datrys materion o'r fath a gallant alw ar weithdrefnau cwyno sefydledig y Brifysgol.

Gweithdrefn y Brifysgol

1.

Mae'r Brifysgol yn ymdrechu i ddefnyddio iaith anwahaniaethol ym mhob dogfen fewnol ac allanol, gohebiaeth swyddogol, cyhoeddiadau a chyfathrebiadau eraill. Mae'r Brifysgol wedi llunio llyfryn (dogfen J2256) sy'n cynnig arweiniad ar gyfer arfer da mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau cyhoeddusrwydd.

2.

Mae'r Brifysgol yn adolygu aelodaeth holl bwyllgorau'r Brifysgol a chyrff swyddogol eraill yn barhaus er mwyn sicrhau bod grwpiau lleiafrifol a menywod yn cael eu cynrychioli'n briodol.

Gwybodaeth, Hyfforddiant a Gweinyddu Cyfleoedd Cyfartal

1.

Tynnir sylw at y Côd Ymarfer hwn mewn ffyrdd priodol yn y Brifysgol. Mae copi wedi cael ei gyflwyno i'r holl aelodau staff ac fe'i rhoddir i'r holl gyflogeion newydd wrth ddechrau eu cyflogaeth.

2.

Bydd gan Ddirprwy Is-ganghellor (Gweinyddu) y Brifysgol gyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod Polisi Cyfle Cyfartal y Brifysgol yn cael ei lunio, ei weithredu a'i fonitro.

3.

Mae'r Brifysgol yn nodi bod gan Gyfarwyddwr yr Adran Adnoddau Dynol gyfrifoldeb am gynghori uwch-reolwyr y Brifysgol, a staff a phwyllgorau priodol eraill y Brifysgol, ar faterion cyfle cyfartal mewn cyflogaeth.

4.

Mae'r Brifysgol wedi creu pwyllgor ag aelodaeth sy'n cynnwys rheolwyr a chynrychiolwyr undebau llafur ac sy'n ystyried materion cyfle cyfartal mewn cyflogaeth.

5.

Mae'r Brifysgol yn trefnu cyrsiau hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau bod staff presennol yn ogystal ag uwch-reolwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau wrth roi Polisi Cyfle Cyfartal y Brifysgol ar waith.

Monitro

Mae'r Brifysgol yn cadw cofnod ystadegol mor gynhwysfawr â phosib o gynrychiolaeth menywod, dynion, aelodau o leiafrifoedd hiliol neu ethnig a phobl ag anableddau ymhlith ymgeiswyr am swyddi, ymgeiswyr sy'n cael cyfweliad, penodiadau newydd, staff presennol sy'n cael dyrchafiad a deiliaid dyfarniadau yn ôl disgresiwn. Caiff ystadegau staff eu monitro bob blwyddyn drwy'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Caiff yr ystadegau hyn eu cyflwyno ar wefan y Brifysgol.

Mae'r wybodaeth ar gyfer y cofnod hwn yn deillio o hunanasesiad gwirfoddol. At y diben hwn, mae darpar staff a staff presennol yn llenwi Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal.

Adolygu

Drwy ei Phwyllgor Cyfle Cyfartal priodol, mae'r Brifysgol yn cyflwyno adroddiad blynyddol drwy strwythur pwyllgorau'r Brifysgol i'w Phwyllgor Adnoddau Dynol, ei Senedd a'i Chyngor ynghylch gweithrediadau ei Pholisi Cyfle Cyfartal. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am ganlyniad y gwaith monitro yn ystod y flwyddyn, mesurau penodol i hyrwyddo cyfle cyfartal ac argymhellion, yn ôl yr angen, ynghylch lle gellid gwneud gwelliannau.

SYLWER: Mae ‘y Brifysgol’ bob amser yn cyfeirio at Brifysgol Abertawe.

Mae'r dogfennau canlynol, sydd wrthi'n cael eu hadolygu, wedi cael eu llunio i helpu'r Brifysgol i ddatblygu arferion sy'n sicrhau y gellir rhoi ei Datblygiad Polisi ar Gyfle Cyfartal ar waith yn llawn. Gellir cael copïau gan yr adran ym Mhrifysgol Abertawe. L5915 Canllawiau Recriwtio, L5893 Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio, J2256 Deunyddiau Cyhoeddusrwydd Cyfle Cyfartal: Canllawiau Arfer Da, L4095 Datganiad Polisi ar Gydraddoldeb Hiliol.