Dylid darllen y rheoliadau hyn ar y cyd â’r rheoliadau ar gyfer MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol a’r rheoliadau ar gyfer Graddau Meistr a Addysgir Ôl-raddedig Estynedig.
1. Cyflwyniad
1.1
Mae’r rhaglen (Atodol) MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn cael ei darparu gan Brifysgol Abertawe i roi cyfle i ymgeiswyr sy’n meddu ar y dyfarniad PGDip Astudiaethau Cydymaith Meddygol gwblhau gweddill y credydau sy’n ofynnol i ennill dyfarniad MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol.
1.2
Dim ond i ymgeiswyr sy’n meddu ar ddyfarniad PGDip mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol a raddiodd o’r rhaglen PGDip mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol a ddechreuodd yn sesiwn academaidd 2016/17 y mae’r rhaglen ar gael ar hyn o bryd.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Mae’r rhaglen yn cynnwys 60 o gredydau; y mae 20 ohonynt yn gredydau a drosglwyddwyd o PGDip Prifysgol Abertawe mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol, gyda’r 40 o gredydau sy’n weddill yn cynnwys y 40 o gredydau o Ddysgu Annibynnol Cyfeiriedig (DIL).
3. Cofrestru
3.1
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gofrestru ar y rhaglen o fewn y cyfnod cofrestru a phwynt mynediad penodedig, sef ym mis Medi fel arfer.
4. Gofynion Mynediad
4.1
Dim ond i ymgeiswyr sydd wedi graddio â PGDip mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol o Brifysgol Abertawe y mae’r rhaglen ar gael.
5. Asesu
5.1
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno’r gwaith Dysgu Annibynnol Cyfeiriedig (DIL) ym mis Rhagfyr, fel arfer dri mis ar ôl cofrestru. Bydd y dyddiad yn cael ei gadarnhau gan y Gyfadran/Ysgol.
5.2
Dylid cyflwyno’r gwaith Dysgu Annibynnol Cyfeiriedig (DIL) yn unol â’r canllawiau a nodir yn y rheoliadau ar gyfer Graddau Meistr a Addysgir Ôl-raddedig Safonol.
5.3
Bydd myfyrwyr sy’n methu yn y gwaith Dysgu Annibynnol Cyfeiriedig yn gymwys i’w ailgyflwyno yn unol â’r rheoliadau ar gyfer Graddau Meistr a Addysgir Ôl-raddedig Estynedig.
6. Derbyn i Raddau
6.1
I fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarnu’r MSc (Atodol) mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol dan y rheoliadau hyn, dylai myfyrwyr:
- fod wedi dilyn y rhaglen astudio fodwlar gymeradwy am y cyfnod a ragnodir gan y Brifysgol;
- bod wedi ennill 60 o gredydau fel a bennwyd gan y Brifysgol;
- bod wedi bodloni’r arholwyr ym mhob maes gan gynnwys ymddygiad proffesiynol;
- bod wedi bodloni unrhyw amod(au) pellach a wneir yn ofynnol gan y Brifysgol.
6.2
Bydd myfyrwyr sy’n llwyddo yn y rhaglen MSc (Atodol) mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn gymwys i raddio yn y seremoni nesaf a fydd ar gael.