Rheoliadau ynghylch Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir
1.
Mae'n ddisgwyliedig y bydd y mwyafrif helaeth o ymgeiswyr yn cyflwyno eu traethodau hir o fewn terfyn amser y sesiwn berthnasol yn unol â'r rheoliadau. Gall Prifysgol Abertawe roi estyniad i derfyn amser/ hyd ymgeisyddiaeth ymgeisydd mewn achosion eithriadol yn unig.
2.
Y rheoliadau ynghylch cyfnodau byrraf/hiraf ymgeisyddiaeth yw:
Y cyfnod byrraf | Y cyfnod hiraf | |
---|---|---|
Astudiaethau amser llawn | 12 mis | 24 mis |
Astudiaethau rhan-amser | 24 mis | 60 mis |
Rhaglenni estynedig astudiaethau amser llawn | 16 mis | 36 mis |
Bydd myfyrwyr nad ydynt yn cyflwyno eu traethodau hir erbyn y dyddiad cyflwyno yn methu'r modiwl traethawd hir, a chofnodir marc o 0% oni bai y cymeradwyir y cais am estyniad i'r dyddiad cau.
3.
Gall myfyrwyr amser llawn ofyn am estyniad ar gyfer uchafswm o dri mis.
Gall myfyrwyr sy'n astudio'n rhan-amser ofyn am estyniad ar gyfer uchafswm o 12 mis.
Fel arfer ni chaiff ceisiadau am gyfnodau hwy na'r terfynau amser hyn eu hystyried.
4.
Mae'n rhaid i geisiadau am estyniad gael eu cyflwyno i'r Ysgol o fewn un mis calendr o'r dyddiad cau/dyddiad cyflwyno disgwyliedig er mwyn sicrhau bod amgylchiadau'r myfyrwyr a'u cynllun gwaith yn gyfredol.
5.
Ni chaiff ceisiadau am estyniad a gyflwynir i'r Ysgol fwy nag un mis calendr ar ôl y dyddiad cau/dyddiad cyflwyno arfaethedig eu hystyried, ac mae'n ddisgwyliedig y cofnodir marc o 0% ar gyfer traethodau hir na fyddant wedi cael eu cyflwyno.
6.
Mae'n rhaid i'r holl geisiadau a gyflwynir am ystyriaeth ar gyfer estyniad gynnwys y canlynol:
- Datganiad clir gan y myfyriwr sy’n nodi sut mae'r amgylchiadau wedi effeithio'n uniongyrchol ar ei berfformiad a’i allu i gyflwyno erbyn dyddiad cau ei gyfnod ymgeisyddiaeth hwyaf.
- Datganiad cefnogol cynhwysfawr gan oruchwyliwr/wyr y myfyriwr.
- Gwybodaeth/tystiolaeth annibynnol sy’n ategu'r rhesymau am y cais.
- Gwerthusiad o gynnydd hyd yn hyn gan gynnwys cynllun gwaith y cytunwyd arno gan y myfyriwr a'i oruchwyliwr, ar gyfer cwblhau'r traethawd hir o fewn amserlen yr estyniad.
Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir heb y dystiolaeth briodol a'r cynllun gwaith eu hystyried.
7.
Ystyrir y rhesymau canlynol fel rhesymau derbyniol ar gyfer estyniad:
- Tosturiol;
- Iechyd/Meddygol (ac eithrio afiechyd salwch mân megis peswch/annwyd);
- Anawsterau domestig difrifol;
- Ymrwymiadau proffesiynol eithriadol (ond yn berthnasol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'n rhan-amser).
8.
Mae'n rhaid cyflwyno tystiolaeth annibynnol sy'n ategu'r amgylchiadau esgusodol a nodir wrth gyflwyno cais am estyniad.
Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o enghreifftiau o dystiolaeth briodol:
- Llythyr/tystysgrif gan feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol sy'n cynnwys enw'r myfyriwr, sy'n cadarnhau'r salwch ac sy'n nodi'n glir fod y salwch wedi digwydd yn ystod cyfnod ysgrifennu'r traethawd hir. Mae'n ddisgwyliedig y bydd tystiolaeth feddygol yn dangos llofnod neu stamp swyddogol. Ni dderbynnir lluniau o bresgripsiynau neu feddyginiaethau.
- Llythyr cael eich derbyn a'ch rhyddhau o'r ysbyty, sy'n cynnwys enw'r myfyriwr ac sy'n cadarnhau'r amser a dreuliwyd yn yr ysbyty.
- Llythyr gan Wasanaeth Llesiant ac Anabledd y Brifysgol, Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO), Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC), Canolfan Gyngor Prifysgol Abertawe (SUAC), neu asiantaeth arall y gall myfyriwr dderbyn cymorth ganddi.
- Tystysgrif marwolaeth, Trefn y Gwasanaeth neu lythyr gan Drefnydd Angladdau.
- Yn achos salwch difrifol a/neu farwolaeth perthynas agos (a ddiffinnir fel rhiant/prif ofalwr yr ymgeisydd, brawd neu chwaer, partner/priod, plant/dibynnydd yr ymgeisydd), bydd tystiolaeth o'r farwolaeth/salwch difrifol yn ddigon a rhagdybir bod y salwch/farwolaeth wedi cael effaith ar y myfyriwr.
- Adroddiad gan yr heddlu (ni fydd rhif cyfeirnod y drosedd ar ei ben ei hun yn ddigonol)
- Yn achos cyfrifoldebau gofalu tymor byr ac anawsterau domestig sy'n effeithio ar draethawd hir y myfyriwr, datganiad gan aelod o'r teulu/ffrind.
- Yn achos cyfrifoldebau gofal tymor hir, Pasbort Gofalwr.
- Cadarnhad a disgrifiad ysgrifenedig gan gyflogwr y myfyriwr o'r llwyth gwaith eithriadol sydd gan yr ymgeisydd (mae hyn ond yn berthnasol i fyfyrwyr rhan-amser sydd ag ymrwymiadau proffesiynol eithriadol).
9.
Wrth gyflwyno cais am estyniad, mae myfyrwyr yn derbyn gall eu tystiolaeth annibynnol fod yn ddarostyngedig i ddilysiadau neu wiriadau. Er enghraifft, mewn achosion lle mae pryderon ynghylch tystiolaeth feddygol, efallai y bydd angen cysylltu â'r sefydliad meddygol perthnasol er mwyn gwirio'r dystiolaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i fyfyrwyr os ydy'r cam hwn yn angenrheidiol oherwydd gall arwain at oedi o ran gwneud penderfyniad ar y cais am estyniad.
10.
Mae'n rhaid i geisiadau am estyniad gael eu gwneud drwy Ysgol yr ymgeisydd. Bydd hyn fel arfer drwy'r goruchwyliwr neu dîm gweinyddol perthnasol yr Ysgol. Unwaith y bydd y cais wedi'i ganiatáu gan yr Ysgol, dylai'r Ysgol gyflwyno'r ceisiadau i Wasanaethau Fyfyrwyr, y Gwasanaethau Addysg.
11.
Mae'n rhaid i geisiadau am estyniad gael eu cefnogi gan yr Ysgol a gan oruchwyliwr y myfyriwr. Ni chaiff ceisiadau nad ydynt wedi eu cefnogi eu hystyried.
12.
Caiff y cais ei archwilio ar bob lefel y caiff ei ystyried er mwyn sicrhau bod y meini prawf angenrheidiol ar gyfer estyniad wedi ei gyrraedd a bod y ddogfennaeth wedi'i chwblhau. Mewn achosion lle nad yw'r meini prawf angenrheidiol wedi'u cyrraedd, ni chaiff y cais ei ystyried ymhellach. Mewn achosion lle nad yw'r ddogfennaeth wedi'i chwblhau, bydd y myfyriwr a'r Ysgol yn cael gwybod am hyn, a gofynnir am yr wybodaeth sydd ar goll er mwyn sicrhau y caiff dogfennaeth wedi'i chwblhau ei darparu.
13.
Caiff ceisiadau eu hystyried yn unol â meini prawf sydd wedi'u diffinio'n glir, ac mae'r broses yn eglur. O ganlyniad, mae canlyniad yr estyniad yn derfynol ac ni ellir apelio'n ei erbyn.
14.
Fel arfer, ni dderbynnir ceisiadau ôl-weithredol, neu geisiadau am ail estyniad lle mae'r estyniad mwyaf posib i'r dyddiad cau eisoes wedi'i gyrraedd.
15.
Fel arfer, ni ystyrir estyniad ar gyfer myfyrwyr sy’n ailgyflwyno eu gwaith.
16.
Bydd y myfyriwr a'r aelod(au) staff perthnasol yn cael gwybod gan y Gwasanaethau Addysg am ganlyniad y cais am estyniad, fel arfer o fewn 7 niwrnod gwaith oni bai bod gofyn am wybodaeth/dystiolaeth ychwanegol.
17.
Mewn achosion lle nad yw'r cais wedi'i gymeradwyo, bydd y Gwasanaethau Addysg yn rhoi rheswm dros y penderfyniad hwn.
18.
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn sicrhau y caiff cofnodion y myfyriwr eu diweddaru'n ôl yr angen a bod yr holl bartïon perthnasol yn cael gwybod am y newid i ddyddiad cyfnod hiraf posibl yr ymgeisyddiaeth, os yw’n berthnasol.