RHEOLIADAU PENODOL I GWRS MEISTR A ADDYSGIR ÔL-RADDEDIG LLM YN Y GYFRAITH AC YMARFER CYFREITHIOL 240 CREDYD PRIFYSGOL ABERTAWE
LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol 240 Credyd
DYSGU ANNIBYNNOL DAN GYFARWYDDYD
Diffinnir dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fel darn unigol, neu sawl darn, o ddysgu hunangyfeiriedig (a wneir dan gyfarwyddyd goruchwyliwr) sy'n dod i gyfanswm o 30 credyd, sy'n cynnig cyfle i ymwneud ag ymchwil estynedig ar un neu fwy o agweddau ar faes llafur y rhaglen. Gall y dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fod ar sawl ffurf, a ddewisir i gydweddu orau â'r rhaglen a/neu i wella rhagolygon cyflogadwyedd y myfyrwyr. Gellir diffinio hyn wrth gymeradwyo'r rhaglen, a bydd yn gyfwerth â'r ymdrech angenrheidiol i baratoi traethawd hir o hyd at 6,000 o eiriau.
1. Cyflwyniad
Bydd y rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer rhaglen llawn amser y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol sy'n arwain at ddyfarnu gradd LLM Meistr.
Dylid darllen y rheoliadau hyn ar y cyd â'r Rheoliadau Ôl-raddedig Cyffredinol.
1.1
Caiff Graddau Meistr, Diplomâu Ôl-raddedig, neu Dystysgrifau Ôl-raddedig eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes arfer proffesiynol dan sylw neu'n cael eu goleuo gan waith sydd ar flaen y gad.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r technegau sy'n berthnasol i'w hymchwil eu hunain neu i ysgolheictod uwch.
- Gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.
- Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr:
- i werthuso ymchwil cyfredol ac ysgolheictod uwch yn feirniadol yn y ddisgyblaeth;
- gwerthuso methodolegau a datblygu beirniadaeth ohonynt, a lle bo'n briodol, gynnig damcaniaethau newydd
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
- Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a mynegi casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg.
- Dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys, a gweithio'n annibynnol i gynllunio a chynnal tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
- Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
A bydd gan y deiliaid:
- Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
- arfer menter a chyfrifoldeb personol;
- gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu darogan;
- y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Dyma strwythur y rhaglen:
Rhaglen astudio llawn amser neu ran-amser sy'n cynnwys modiwlau gwerth cyfanswm o 240 credyd, lle darperir dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (gwerth 30 credyd) ar y cyd â modiwlau a addysgir.
Ystyrir pob modiwl yn fodiwl 'craidd' ac mae'n rhaid i fyfyrwyr basio pob un i gael eu hystyried i fod yn gymwys ar gyfer y dyfarniad LLM Meistr.
2.2
Caiff y rhaglen ei chwblhau o fewn deunaw mis fel arfer.
2.3
Caiff deilliannau dysgu eu hamlinellu ar gyfer y rhaglen ac unrhyw raglen sydd â'r nod o ddyrannu cymhwyster ymadael.
3. Terfynau Amser
3.1
Bydd modiwlau a addysgir yn cael eu cwblhau yn ôl yr amserlen a nodir gan y Gyfadran/Ysgol berthnasol, a bydd asesiadau’n cael eu cwblhau erbyn y dyddiadau a bennir gan y Gyfadran/Ysgol. Caiff y rhaglen radd gyfan ei chwblhau o fewn y terfynau amser canlynol o'r dyddiad cofrestru:
Dull Astudio | |
---|---|
Ymgeiswyr amser llawn | Dim llai na 18 mis a dim mwy na 36 mis |
Darllenwch y Canllaw ar Derfynau Amser am ragor o wybodaeth.
4. Estyniad i’r Dyddiad cau ar Gyfer Cyflwyno/Ymgeisyddiaeth
4.1
Gall y Gyfadran/Ysgol ystyried ceisiadau am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r darn o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, hyd at y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf (18 mis fel arfer i fyfyrwyr llawn amser). Rhaid i oruchwyliwr yr ymgeisydd gwblhau a chyflwyno ceisiadau am estyniad i'r cyfnod ymgeisyddiaeth i’r Gwasanaethau Academaidd, yn unol â’r terfynau amser a nodir. Caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.
5. Strwythur Addysgu ac Asesu
5.1
Darperir y patrwm addysgu ar gyfer y rhaglen dros 18 mis sy'n rhychwantu dwy flwyddyn academaidd. Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau 30 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn ystod hyd terfyn amser arferol y rhaglen fel y nodir yng Nghymal 2.2.
5.2
Bydd manylion y strwythur addysgu ac asesu ar gael yn llawlyfr y rhaglen.
6. Rheoliadau Asesu
6.1.
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r rhaglen astudio yn unol â'r rheoliadau asesu am ddyfarnu credyd ar gyfer LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol.
6.2
Y marc pasio ar gyfer modiwl fydd 50%.
6.3
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r rhaglen gyfan cyn iddynt fod yn gymwys i dderbyn gradd.
7. Cymwysterau Ymadael
7.1
Gall ymgeisydd a gaiff ei dderbyn i’r rhaglen hon, ond nad yw’n medru, neu nad yw’n cael, symud ymlaen i’w chwblhau, gymhwyso ar gyfer un o’r dyfarniadau a ganlyn gan y Brifysgol, yn dibynnu ar nifer y credydau a enillodd erbyn iddo ymadael*:
Tystysgrif Ôl-raddedig |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
Diploma Ôl-raddedig |
|
Diploma Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
Diploma Ôl-raddedig â Rhagoriaeth
|
|
* Pan roddir cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol, ni fyddai cymwysterau ymadael fel arfer yn cael eu rhoi.
7.2
Ni fydd Tystysgrif Ôl-raddedig mewn pwnc a enwir yn cael ei dyfarnu nes bod ymgeisydd yn cwblhau modiwlau sy’n cynnig o leiaf 60 o gredydau ar lefel 7 oni bai fod cyfanswm y modiwlau perthnasol yn gwneud rhaglen a gymeradwywyd. Bydd Bwrdd perthnasol y Brifysgol yn cymeradwyo tystysgrif ôl-raddedig dan y rheoliad hwn.
8. Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd 30 Credyd
8.1
Cwblheir pob ymgeisyddiaeth trwy gyflwyno darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, a chymeradwyo'r fath waith gan yr arholwyr.
Bydd y dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, neu'r dull asesu amgen a gymeradwywyd, yn ymgorffori dulliau a chanlyniadau prosiect ymchwil.
9. Goruchwylio'r Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd
9.1
Bydd y Gyfadran/Ysgol yn cymeradwyo un goruchwyliwr ar gyfer pob ymgeisyddiaeth.
9.2
Caiff ymgeiswyr eu goruchwylio'n unol â'r Polisi Goruchwylio ar gyfer Myfyrwyr Meistr Ôl-raddedig a Addysgir
9.3
Dylai cynigion fod yn ymarferol o ran amserlen ac o ran yr adnoddau sydd ar gael, a dylid penodi goruchwylwyr ag arbenigedd addas ar eu cyfer.
10. Cyfrifoldebau’r Brifysgol
10.1
Dylid dilyn arweiniad y Cyngor Ymchwil, pan fo hynny’n briodol, ynghylch y cyfleusterau a ddylai fod ar gael (man astudio, llyfrgell, amgylchedd ymchwil priodol, ac ati.)
10.2
Dylid cyhoeddi canllawiau ysgrifenedig ynghylch presenoldeb, fframweithiau ar gyfer cyfarfodydd a disgwyliadau cyffredinol, yn unol â’r Polisi Goruchwylio ar gyfer Myfyrwyr Meistr Ôl-raddedig a Addysgir.
10.3
Caiff y modd y gweithredir yr holl ganllawiau hynny ei fonitro'n rheolaidd.
10.4
Os bydd angen cymorth ychwanegol ar ymgeiswyr gyda’u sgiliau iaith, dylid darparu’r cymorth hwnnw fel gwasanaeth sydd ar wahân i ddyletswyddau’r goruchwylydd.
10.5
Dylai fod system ar waith sy’n galluogi ymgeisydd i ofyn am oruchwyliwr gwahanol, ac sy’n sicrhau bod aelod gwahanol o staff ar gael pe bai unrhyw oruchwyliwr yn absennol am gyfnod hir.
11.Cyfrifoldebau’r Goruchwyliwr
11.1
Dylid rhoi cyngor ac arweiniad i’r ymgeisydd gan geisio hwyluso’r broses o gynhyrchu darn o waith sydd o’r safon ofynnol ar gyfer gradd Meistr a Addysgir.
11.2
Dylai’r cynnig fod o fewn maes arbenigedd y goruchwyliwr, dylid diffinio’r testun a ddewisir mewn ymgynghoriad â’r ymgeisydd, a dylai’r testun gael ei gymeradwyo gan y Gyfadran/Ysgol.
11.3
Dylai fod modd cwblhau’r gwaith a gynigir o fewn y cyfnod a bennir.
11.4
Dylid cytuno ar amserlen ar gyfer cyflwyno gwaith gyda'r Gyfadran/Ysgol.
11.5
Dylid cynnal o leiaf dri chyfarfod yn unol â'r Polisi Goruchwylio ar gyfer Myfyrwyr Meistr Ôl-raddedig a Addysgir.
11.6
Dylid cytuno ar gofnod o bob cyfarfod o'r fath gyda'r myfyriwr, gan gynnwys dyddiadau, camau gweithredu a gytunwyd, a dyddiadau cau a bennwyd. Dylai'r myfyriwr gadw'r cofnod a'i gyflwyno i'r Gyfadran/Ysgol wrth gyflwyno'r gwaith.
11.7
Dylai gwaith gael ei ddychwelyd yn unol â’r dyddiadau cau a nodwyd, a dylid rhoi sylwadau adeiladol arno.
11.8
Rhoddir sesiwn adborth i unrhyw fyfyriwr sy’n methu ac sydd â chaniatâd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i ailgyflwyno’r gwaith.
12. Cyfrifoldebau’r Ymgeisydd
12.1
Yn anad dim, dylai’r gwaith a gynhyrchir fod yn waith yr ymgeisydd ei hun, er ei fod wedi’i gyflawni â chyngor ac arweiniad gan y goruchwyliwr.
12.2
Dylid cytuno ar amserlen ar gyfer cyflwyno gwaith yn unol â dyddiadau cau’r Brifysgol.
12.3
Disgwylir i fyfyrwyr amser llawn fod yn bresennol yn Abertawe yn ystod y rhaglen gyfan.
12.4
Dylid mynychu o leiaf dri chyfarfod yn unol â'r Polisi Goruchwylio ar gyfer Myfyrwyr Meistr Ôl-raddedig a Addysgir.
12.5
Bydd yr ymgeisydd yn cynnal cofnod manwl a gytunwyd gyda'r goruchwyliwr, o bob cyfarfod ffurfiol, gan gynnwys dyddiadau, camau gweithredu a gytunwyd a therfynau amser a osodwyd. Yn unol â’r Polisi Goruchwylio ar gyfer Myfyrwyr Meistr Ôl-raddedig a Addysgir, dylid cyflwyno copi o’r cofnod hwn i’r Gyfadran/Ysgol pan gaiff y gwaith ei gyflwyno.
12.6
Dylid cwblhau’r gwaith o fewn y fframwaith y cytunwyd arno, a dylid ysgrifennu cyn gynted ag y bo modd at y goruchwyliwr i’w hysbysu am unrhyw broblem sy’n ymwneud â chyflwyno gwaith yn hwyr (neu gyflwyno gwaith anfoddhaol).
13. Arholi'r Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd
13.1
Bydd gan bob Bwrdd Arholi ar gyfer graddau Meistr ôl-raddedig a addysgir Gadeirydd a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithdrefnau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r gwaith yn cael eu dilyn.
13.2
Caiff yr holl waith ei farcio gan ddau aelod mewnol o staff, a dylai goruchwyliwr yr ymgeisydd hwnnw fod yn un ohonynt, fel arfer.
13.3
Diffinnir rôl yr Arholwr Allanol yng Nghôd Ymarfer Arholi Allanol Prifysgol Abertawe.
13.4
Fodd bynnag, os yw’n amhosibl penodi dau farciwr mewnol, dylai’r Gyfadran/Ysgol dalu marciwr allanol i fod yn ail farciwr a dylid gofyn i’r Arholwr Allanol wirio bod safoni wedi digwydd.
13.5
Bydd yr Arholwr Allanol yn sicrhau y dilynir y gweithdrefnau asesu a'r safonau ar gyfer pob ymgeisydd sydd wedi cofrestru ar y rhaglen astudio. Lle bo angen, caiff arholwr ychwanegol penodol ei benodi i adolygu unrhyw waith ble mae angen gwybodaeth arbenigol.
13.6
Gall y Gyfadran/Ysgol ddewis defnyddio rheoliadau samplu os ceir mwy na 10 o ymgeiswyr mewn cohort. Mae’r rheoliadau samplu fel a ganlyn:
O leiaf 10% o gyfanswm y darnau o waith (lleiafswm o 5) gan gynnwys o leiaf un darn o bob dosbarth (Llwyddo, Teilyngdod, Rhagoriaeth, lle y bo’n briodol). Yn ogystal â hyn, rhaid anfon pob darn o waith a fethwyd at yr Arholwr Allanol.
13.7
Caiff y marciau eu cymeradwyo yn ystod y Byrddau Arholi (Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol a'r Gyfadran/Ysgol).
13.8
Gweler y Côd Ymarfer ar gyfer Arholi Allanol am fanylion y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag anghydfod neu anghytundeb.
14. Cyflwyno'r Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd
14.1
Rhaid i ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd gael ei gyflwyno'n unol â gofynion y Brifysgol. Gall y Gyfadran/Ysgol ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Derbyn copi electronig o'r gwaith.
- Derbyn dau gopi o’r gwaith, mewn rhwymiad meddal, yn ogystal â chopi electronig.
Rhaid i'r Gyfadran/Ysgol hysbysu myfyrwyr am y dull cyflwyno yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
Rhaid i bob copi gynnwys:
- datganiad sy’n nodi bod y gwaith yn cael ei gyflwyno er mwyn bodloni gofynion y radd yn rhannol.
- Crynodeb o’r gwaith, nad yw’n fwy na 300 gair o hyd.
- Datganiad, wedi’i lofnodi gan yr ymgeisydd, sy’n dangos i ba raddau y mae’r gwaith a gyflwynir yn ganlyniad gwaith ymchwil yr ymgeisydd ei hun. Dylid cydnabod ffynonellau eraill mewn troednodiadau sy’n cynnwys cyfeiriadau penodol. Dylid atodi llyfryddiaeth lawn i'r gwaith.
- Datganiad, wedi’i lofnodi gan yr ymgeisydd, sy’n cadarnhau nad yw’r gwaith yn gyffredinol wedi’i dderbyn eisoes ar gyfer unrhyw radd, ac nad yw’n cael ei gyflwyno mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd arall ar yr un pryd â’r radd dan sylw.
- Datganiad, wedi'i lofnodi, ynghylch mynediad at y gwaith gan bobl eraill.
14.2
Bydd cyfarwyddiadau manwl ynghylch cyflwyno gwaith ar gael i ymgeiswyr yn llawlyfr y rhaglen.
14.3
Diffinnir cyflwyno'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fel cyflwyno darn neu ddarnau o waith yn unol â'r gofynion ar gyfer cyflwyno dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (uchod) a dylai'r cyflwyniad hefyd fodloni'r gofynion (o ran fformat, uchafswm geiriau etc.) a nodwyd gan y Gyfadran/Ysgol. Mae gan Gyfadran/Ysgol ddisgresiwn i benderfynu a yw cyflwyniad yn bodloni'r gofynion hyn ai peidio.
14.4 Fel arfer, y dyddiadau cyflwyno ar gyfer y gwaith dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fydd:
Ymgeiswyr llawn amser: |
|
Rhaglen 18 Mis |
Tua 18 mis ar ôl cofrestru* |
14.5
Gall Cyfadran/Ysgol osod dyddiad cyflwyno cynharach, ond bydd rhaid nodi hyn yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
14.6
Bydd rhaid i ymgeisydd nad yw'n cyflwyno ei waith erbyn y dyddiad cau dynnu'n ôl o'r Brifysgol, a chaiff ei ystyried am gymhwysedd i dderbyn dyfarniad ymadael yn ôl ei broffil academaidd llawn.
14.7
Mae gan bob gradd ei chyfnod ymgeisiaeth hwyaf posibl (fel yr amlinellir uchod). Bwriad y cyfnod hwyaf posibl yw sicrhau bod ymgeiswyr y torrwyd ar draws eu hastudiaethau am ba reswm bynnag yn gallu cwblhau eu gradd. Rhaid i ymgeiswyr geisio cwblhau eu rhaglen erbyn y dyddiadau cau a nodir yn Rheoliad 3 uchod. Bydd ymgeisyddiaeth yn dirwyn i ben (gan felly gwahardd arholi) os na chwblheir y rhaglen o fewn yr amserlen a bennir gan y Brifysgol fel yr amlygwyd yn Rheoliad 3.
15. Ailgyflwyno
Os na fydd yr arholwyr wedi derbyn darn(au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau a bennwyd, caiff yr ymgeisydd ei ailgyflwyno unwaith yn unig o fewn y terfynau amser canlynol:
Dull Astudio |
|
AMSER LLAWN |
fel arfer* 5 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol) |
* Gall y Gyfadran/Ysgol osod cyfnodau cyflwyno byrrach. Fe wneir hyn yn glir i ymgeiswyr yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
15.2
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi ffi am ailarholi'r gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno.
15.3
Dylai ymgeiswyr sy’n ailgyflwyno gwaith dderbyn adborth ysgrifenedig ynghylch y rhesymau pam y gwnaethant fethu ar ôl i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol gadarnhau’r canlyniad. Dylai’r Gyfadran/Ysgol sicrhau bod yr adborth yn adlewyrchu holl sylwadau’r Arholwyr (Mewnol ac Allanol) a bod y myfyriwr yn cael gwybod am y newidiadau sy’n angenrheidiol.
15.4
Dim ond mân newidiadau i deitl eu gwaith y caiff ymgeiswyr sy’n ailgyflwyno eu gwaith eu gwneud, gyda chaniatâd eu Goruchwyliwr. Ni ddylai newidiadau o’r fath beri bod angen unrhyw ymchwil gwreiddiol pellach.
15.5
Bydd gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad i Fyfyrwyr Ymchwil dal yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n ailgyflwyno eu gwaith a disgwylir iddynt ymrwymo'n llwyr i'w hastudiaethau yn ystod y cyfnod ailgyflwyno. Caiff myfyrwyr eu monitro bob pedair wythnos (un sesiwn adborth ffurfiol ac wedyn gyswllt gwirio lles, nid oes hawl gan fyfyrwyr i gael goruchwyliaeth ychwanegol) hyd nes yr amser ailgyflwyno o fewn y terfyn amser ar gyfer myfyrwyr llawn amser a myfyrwyr rhan-amser a bydd y broses uwch gyfeirio am ddiffyg ymrwymiad dal yn berthnasol. Bydd Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr y Gyfadran/Ysgol yn gyfrifol am gofnodi presenoldeb ac ymrwymiad y myfyriwr yn ystod y cyfnod ailgyflwyno. ”
16. Cyhoeddi Gwaith
16.1
Caiff ymgeisydd gyhoeddi’r gwaith cyfan neu ran o’r gwaith a gynhyrchwyd yn ystod ei gyfnod cofrestru yn y Brifysgol. Gall ymgeisydd gyhoeddi’r gwaith cyn ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol, ar yr amod na nodir yn unrhyw le yn y gwaith a gyhoeddir ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer gradd uwch. Caiff y fath waith ei ymgorffori wedyn yn y darn o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a gyflwynir i'w arholi.
17. Gwahardd Mynediad
17.1
Er gwaethaf y darpariaethau yn y rheoliadau sy’n ymwneud ag argaeledd dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, gall y Brifysgol gael caniatâd, ar sail argymhelliad arbennig a gymeradwyir gan Ddeon Gweithredol yr ymgeisydd neu ei enwebai, i atal unrhyw un rhag llungopïo a/neu gael mynediad at waith ymgeisydd am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Cyfrifoldeb goruchwyliwr yr ymgeisydd fydd cyflwyno cais priodol i’r Deon Gweithredol neu ei enwebai cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Byddai’r gwaharddiad hwn hefyd yn berthnasol i aelodau’r Brifysgol.
17.2
Dylai’r crynodeb a’r teitl fod ar gael yn ddirwystr.
17.3
Mae'n rhaid i unrhyw argymhelliad am wahardd mynediad gael ei gyflwyno i’r Deon Gweithredol neu ei enwebai ar ôl i oruchwyliwr ymgeisydd roi ystyriaeth i'r mater. Cyfrifoldeb y goruchwyliwr fydd cyflwyno’r cais cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Rhaid i’r argymhelliad gynnwys datganiad ynghylch y rhesymau dros gyflwyno'r cais. Rheswm arferol fyddai sensitifrwydd masnachol yr ymchwil, fydd efallai wedi ei noddi'n rhannol gan sefydliad masnachol neu ddiwydiannol.”
17.4
Pan ganiateir gwahardd mynediad, dylid hysbysu goruchwyliwr yr ymgeisydd. Yn achos gwaith y tybir ei fod yn berthnasol i Gymru, bydd y Gyfadran/Ysgol yn hysbysu llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r ffaith y dylid atal mynediad at y gwaith am gyfnod penodedig.
17.5
Tybir y bydd y penderfyniad i atal mynediad yn dod i rym cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi’i gyflwyno, ond caiff y cyfnod a gymeradwywyd ei gyfrifo o’r dyddiad y caiff yr ymgeisydd ei hysbysu’n ffurfiol gan y Brifysgol am y ffaith ei fod yn gymwys i ennill gradd.
17.6
Pan gaiff gwaith ei gyflwyno, bydd yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys datganiad wedi’i lofnodi ynddo a fydd yn dangos:
- bod y gwaith, os yw’n llwyddiannus, yn gallu bod ar gael ar gyfer benthyciad rhwng llyfrgelloedd neu i’w lungopïo (yn unol â’r ddeddf hawlfraint), ac y gellir darparu’r teitl a’r crynodeb ar gyfer sefydliadau allanol; neu
- y daw’r gwaith, os yw’n llwyddiannus, ar gael felly ar ddiwedd cyfnod y gwaharddiad.
18. Byrddau Arholi
Ceir manylion pellach ynghylch cyfansoddiad, rôl a chyfrifoldebau Byrddau Arholi yn y Rheoliadau Asesu ar gyfer Dyfarniadau Ôl-raddedig a Addysgir.
19. Cael Gwared ar Ddysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd ar ôl ei Arholi
19.1
Dylai’r Gyfadran/Ysgol gadw un copi o’r gwaith am o leiaf ddwy flynedd. Pan fydd ymgeisydd wedi cyflwyno dau gopi â rhwymiad meddal, dylai'r copi arall fod ar gael i'r ymgeisydd ei gasglu, oni fernir bod y cynnwys yn berthnasol i Gymru, ac yn yr achos hwnnw dylid ei gadw yn Llyfrgell y Brifysgol.