Rheolau Asesu Cyffredinol
Rheolau Asesu Cyffredinol
G1
Y marc pasio ar gyfer modiwlau fydd 50%. Dyfernir credydau i ymgeiswyr sy'n pasio modiwl (mae'r rheoliadau digolledu’n berthnasol).
G2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 60 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad y radd. Rhaid i ymgeiswyr ddilyn y modiwl dulliau ymchwil a llwyddo ynddo hefyd. Caiff dosbarth cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail y modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy’n werth 60 credyd.
G3
Gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarniadau ar ddiwedd y rhaglen a chânt eu cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol.
G4
Dylid ystyried modiwl sy'n cynnwys darn(au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, yn ôl ei natur, yn fodiwl 'craidd,' a bydd marc llwyddo o 50% yn berthnasol. Nid yw'r rheoliad hwn yn berthnasol i'r modiwl dulliau ymchwil sy'n cynnwys dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, ond nid yw'n cynnwys credyd.
G5
Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i ymgeiswyr sy'n methu modiwl roi un cynnig arall arno i wneud iawn am eu methiant ym mhob modiwl o'r fath, ar yr amod bod hyn yn cael ei gyflawni o fewn y terfyn amser ar gyfer y radd.
G6
Os yw ymgeiswyr yn bodloni'r arholwyr mewn ymgais i wneud iawn am fethiant, ni fyddant yn gymwys am farc uwch na'r trothwy wedi'i gapio o 50% ym mhob modiwl, waeth beth yw lefel eu perfformiad. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio/marc gorau.
G7
Bydd angen i ymgeiswyr sydd ar ddiwedd eu rhaglen ac sy'n methu gwneud iawn am fodiwl a fethwyd ar yr ail ymgais dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Ni chaiff ymgeiswyr o'r fath gyfle arall i gwblhau eu rhaglen astudio. Ni chaiff ymgeiswyr y gofynnir iddynt adael y Brifysgol gyfle arall i wneud iawn am fodiwlau a fethwyd ac ni chaniateir iddynt drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd rhaid iddynt derfynu eu hastudiaethau. Fel arfer, ni chaiff ymgeiswyr o'r fath eu hail-dderbyn i'r un rhaglen astudio neu i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth gan y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
G8
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall ymgeiswyr sy'n methu gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod asesu ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Gyfadran/Ysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir caniatáu i ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
G9
Ni chaniateir i ymgeisydd sydd i'w ailarholi mewn prosiectau gosod neu fath arall o asesiad gwaith cwrs ailgyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'i waith gwreiddiol. Yn hytrach, bydd yn rhaid iddo gyflwyno gwaith newydd i'w asesu, ar bynciau gwahanol i'r rhai lle nad oedd yr arholwyr yn fodlon ar ei waith gwreiddiol.
G10
Ni fydd hawl gan ymgeiswyr ddewis ailadrodd modiwl a basiwyd.
G11
Tybir bod ymgeisydd sy'n absennol yn ystod rhan o’r rhaglen neu'r rhaglen gyfan ac sy'n methu cyflwyno prosiectau neu waith cwrs erbyn y dyddiad(au) a bennwyd wedi methu'r modiwl(au) dan sylw. Yn achos ymgeiswyr na allant gyflwyno gwaith cwrs oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu llofnodi gan y Gyfadran/Ysgol perthnasol a'u cyflwyno i’r Gwasanaethau Academaidd i'w cymeradwyo.
G12
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 60% neu fwy, a llai na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan, yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.
G13
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.
G14
Fel arfer, bydd y rheolau a amlinellir yn y Rheolau Penodol yn dylanwadu ar y Byrddau Semester wrth iddynt benderfynu ar ddilyniant ymgeiswyr. Gall y Bwrdd ystyried amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn dod i benderfyniad ynghylch dilyniant.
G15
Os yw ymgeiswyr yn cyflwyno eu darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau ond yn methu ennill marc pasio, gellir rhoi cyfle arall iddynt ailgyflwyno yn unol â'r terfyn amser priodol. Bydd marciau am ailgyflwyno’n cael eu capio ar 50%.
Dull Astudio | |
---|---|
LLAWN AMSER | fel arfer* 3 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol) |
RHAN-AMSER |
6 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol) |
*Gall Cyfadrannau/Ysgolion bennu cyfnodau ailgyflwyno byrrach os yw'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd wedi'i rannu'n fodiwlau gwerth llai na 60 o gredydau. Dylai llawlyfr y Gyfadran/Ysgol nodi hyn yn glir i fyfyrwyr.
G16
Os nad yw ymgeiswyr yn gallu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, gallant ofyn am estyniad i'r dyddiad cau yn unol â rheoliadau'r Brifysgol.
G17
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi ffi am ailarholi'r gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno.
Rheolau ar Gyfer Dyfarnu Graddau Meistr a Addysgir Hyblyg: Msc Mewn Cyfrifeg Broffesiynol
Rheolau Penodol ar Gyfer Dyfarnu Credyd ar Ddiwedd Y Rhaglen
S1
50% fydd y marc pasio.
S2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 60 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad y radd. Rhaid i ymgeiswyr ddilyn y modiwl dulliau ymchwil a llwyddo ynddo hefyd. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail y modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy’n werth 60 credyd.
S3
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60 a 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.
S5
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni gofynion S2 yn methu cymhwyso am y dyfarniad. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, efallai bydd rhaid i'r ymgeisydd ailgyflwyno am farc wedi'i gapio o 50%. Bydd myfyrwyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll modiwl a fethwyd yn cael marc o 0%.
S6
Cydnabyddir y gallai rhai ymgeiswyr fethu'r modiwlau dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a'r modiwlau a addysgir ar yr ymgais gyntaf. Caiff ymgeiswyr o'r fath un cyfle i ailgyflwyno'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (yn unol â'r rheoliadau uchod) ac un cyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir/lleoliad gwaith a fethwyd.
S7
Mae gan bob ymgeisydd a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol a/neu'r Weithdrefn Apelio.
Rheolau Dyfarniadau Penodol – Bwrdd Ailsefyll
S1
50% fydd y marc pasio.
S2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 60 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad y radd. Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddilyn y modiwl dulliau ymchwil a llwyddo ynddo. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail y modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy’n werth 60 credyd.
S3
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60 a 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.
S5
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu modiwl ar yr ail ymgais dynnu'n ôl o'r Brifysgol.
S6
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall ymgeiswyr sy'n methu gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. fel gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Cyfadrannau/Ysgolion i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir caniatáu i ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
S7
Mae gan bob ymgeisydd a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol a/neu'r Weithdrefn Apelio.