14.1
Rhaid cynnal dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn unol â gofynion y Brifysgol. Gall Cyfadrannau/Ysgolion ddewis un o'r opsiynau canlynol:
- Derbyn copi electronig o'r gwaith.
- Derbyn dau gopi wedi’u rhwymo’n feddal a chopi electronig.
Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion roi gwybod i fyfyrwyr am y dull cyflwyno yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
Bydd pob copi yn cynnwys:
- Datganiad ei fod yn cael ei gyflwyno i gyflawni'r gofynion ar gyfer y radd yn rhannol.
- Crynodeb o'r gwaith heb fod yn fwy na 300 gair o hyd.
- Datganiad, a lofnodwyd gan yr ymgeisydd, sy'n dangos i ba raddau y mae'r gwaith a gyflwynir yn ganlyniad gwaith ymchwil yr ymgeisydd ei hun. Bydd troednodiadau'n cydnabod ffynonellau eraill gan roi geirdaon penodol. Dylid atodi llyfryddiaeth lawn i'r gwaith.
- Datganiad, a lofnodwyd gan yr ymgeisydd, i ardystio nad yw'r gwaith eisoes wedi'i dderbyn mewn sylwedd ar gyfer unrhyw radd, ac nad yw'n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth ar gyfer unrhyw radd.
- Datganiad wedi'i lofnodi ynghylch argaeledd y gwaith.
14.2
Bydd cyfarwyddiadau manwl ar gyflwyno gwaith ar gael i ymgeiswyr yn y Rheoliadau Academaidd.
14.3
Bydd cyflwyno dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn cael ei ddiffinio fel cyflwyno darn neu ddarnau o waith a gyflwynir yn unol â'r gofynion a bennir o dan gyflwyno dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (uchod) a dylent hefyd fodloni'r gofynion (fformat, terfynau geiriau, etc.) a bennir gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd gan Gyfadran/Ysgol y disgresiwn i benderfynu a yw cyflwyniad yn methu â bodloni'r gofynion hyn.
14.4
Fel arfer, y dyddiadau ar gyfer cyflwyno'r darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fydd:
Ymgeiswyr amser llawn: |
|
Rhaglen Un Flwyddyn |
Flwyddyn ar ôl cofrestru* |
Ymgeiswyr rhan-amser: |
|
Rhaglen dwy flynedd |
Dwy flynedd ar ôl cofrestru |
Rhaglen Tair Blynedd: |
Tair blynedd ar ôl cofrestru |
*bydd rhaglenni sydd â strwythur annodweddiadol yn nodi'r dyddiad ar gyfer cyflwyno'r darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
14.5
Gall Cyfadran/Ysgol bennu dyddiad cau cynharach ar gyfer cyflwyno, y mae'n rhaid ei argraffu yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
14.6
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr a ymunodd â'r Brifysgol sy'n methu â chyflwyno eu gwaith erbyn y dyddiad cau dynnu'n ôl o'r Brifysgol a dyfernir Diploma Ôl-raddedig iddynt fel dyfarniad ymadael.
Ni ddyferir Diploma Ôl-raddedig lle mae cyfran sylweddol o gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol wedi'i derbyn (gweler S10).
14.7
Mae cyfnod ymgeisyddiaeth hiraf posibl wedi’i bennu ar gyfer pob gradd (fel yr amlinellir uchod). Mae'r cyfnod hwyaf wedi'i gynllunio i alluogi ymgeiswyr y torrwyd ar draws eu hastudiaethau am ba reswm bynnag wrth gwblhau eu gradd. Rhaid i ymgeiswyr anelu at gwblhau eu rhaglen erbyn y terfynau amser fel y nodir yn Rheoliad 3 uchod. Bydd ymgeisyddiaeth yn dod i ben (a thrwy hynny ni chynhelir arholiad) os na chaiff y rhaglen ei chwblhau o fewn terfynau amser y Brifysgol a amlinellir yn Rheoliad 3.